Dros yr hanner canrif a rhagor diwethaf gweithredwyd yn ddiogel mewn cannoedd ar gannoedd o bwerdai niwclear ar draws y byd, gan gynnwys Trawsfynydd a’r Wylfa. Cyfrannodd atomfeydd Meirionnydd a Môn yn sylweddol at ffyniant economaidd ac at Gymreigrwydd eu hardaloedd.
Er mor ddifrifol yw’r trychinebau a enwyd, mae’r dechnoleg niwclear wedi profi’n ddiogelach ac yn llai niweidiol na’r diwydiannau glo, cemegol, olew a thrafnidiaeth. Ar yr un pryd rhaid cydnabod y bu gwendidau ac y gwnaed camgymeriadau. Ein tasg yn awr yw dysgu oddi wrth y rheini a sicrhau bod gwyliadwriaeth barhaus ar gynlluniau’r dyfodol. Dyna a symbylodd y sylwadau hyn.
Cwmnïau o’r Almaen (E.ON a RWE) oedd yn berchen ar Horizon, y cwmni a oedd wedi bwriadu adeiladu’r genhedlaeth nesaf o bwerdai niwclear yn yr Wylfa. Ond pan benderfynodd llywodraeth yr Almaen roi’r gorau i bwer niwclear rhaid oedd gwerthu’r fenter. Fe dalodd Hitachi bron i £700 miliwn am Horizon. Roedd hynny tua £150 miliwn yn fwy nag y disgwyliai’r Almaenwyr ei gael.
Pan oeddwn yn Japan ym mis Rhagfyr 2012 holais hynt a helynt cwmni Hitachi er mwyn cael deall mwy amdano. Pam oedd Hitachi mor awyddus i fuddsoddi hyd at £20 biliwn mewn adeiladu rhwng pedwar a chwe adweithydd ym Mhrydain dros y blynyddoedd nesaf, gan ddechrau gyda’r Wylfa?
Cwmni NC-Lavalin, y grwp peirianyddol profiadol o Ganada, fydd y partner adeiladu yn achos offer confensiynol y pwerdai. Mae NC-Lavalin yn cynnal, yn llwyddiannus, o leiaf 30 o adweithyddion yng Nghanada ar hyn o bryd. Fe fydd cwmniau Rolls Royce a Babcock yn cydweithio â’r consortiwm i ofalu am yr elfennau rheolaeth leol. Fe all gymryd hyd at bedair blynedd i archwilio a thrwyddedu cynlluniad adweithyddion arfaethedig Hitachi. Dim ond pan fydd hynny wedi ei gwblhau yn llwyddiannus y caiff penderfyniad ei wneud am y buddsoddiad mawr.
Wrth gwrs, ar ôl trychineb Fukushima, nid yw’r hinsawdd yn Japan yn ffafriol tuag at adeiladu pwerdai niwclear newydd. Mae hynny, wrth gwrs, wedi dylanwadu ar bolisi Hitachi i chwilio am gyfleoedd newydd i’w technoleg.
Y cawr rhyngwladol arall yn y maes yw EDF Energy. Gan hwnnw y mae’r drwydded i adeiladu pwerdai niwclear newydd eraill Prydain. Cymerwyd cam mawr ymlaen yn ddiweddar pan drwyddedwyd dyluniad eu EPR (European Pressurised Reactor). Mae Asiantaeth Rheolaeth Niwclear ac Amgylchedd Prydain wedi cyhoeddi bod yr adweithydd hwnnw’n ateb eu holl ddisgwyliadau o safbwynt diogelwch a’r amgylchedd.
EDF Energy, felly, fydd yn dal y drwydded, a chwmni peirianyddol Areva o Ffrainc fydd yn eu cynorthwyo i adeiladu’r pwerdai. Rhaid oedd ateb y gofynion diogelwch llymaf. Mae’r gofynion hynny bellach yn ddigon i wrthsefyll hyd yn oed yr amgylchiadau eithafol a fodolai yn Fukushima. Mae disgwyl gwybod yn fuan a fydd EDF yn bendant am symud ymlaen i adeiladu pwerdy niwclear cyntaf y genhedlaeth newydd ar safle Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf. Mae’r sustemau diogelwch yn ychwanegu’n sylweddol at y gost. Maint yr incwm y gellir ei gytuno gyda’r llywodraeth fydd yn penderfynu beth fydd y cam nesaf.
Er mor fawr a phwerus yw Hitachi, nid oes rhagolygon y bydd digon o waith newydd i alluogi’r cwmni i wynebu’r dyfodol yn ffyddiog heb ymglymu, cyn 2014, â chwmni enfawr arall yn yr un maes, sef MHI (Mitsubishi Heavy Industries). Pan oeddwn yn Japan clywais Lywydd MHI, Hideoki Omiya, yn cyhoeddi bod cytundeb yn awr i integreiddio busnes niwclear MHI gydag un Hitachi. Trwy hynny fe fydd cystadleuwyr yn dod yn bartneriaid. Bydd hynny, felly, yn diddymu’r gystadleuaeth ym myd adeiladau pwerdai niwclear Prydain.
Doedd dim pall ar yr ymgynghreirio a ddigwyddodd. Mae Hitachi hefyd mewn partneriaeth â GE o’r Unol Daleithiau. Felly hefyd MHI efo Arena SA o Ffrainc. Mae’r cwmnïau hyn eisoes wedi ffurfio partneriaeth gyda Siemens AG o’r Almaen a Toshiba o Japan.
Dyma sefyllfa gwbl anfoddhaol gan nad oes gan yr un consortiwm arall na’r adnoddau na’r dechnoleg i gystadlu ar y lefel yma. Yn wir, mae dyfodol cyflenwad niwclear Prydain bellach yn gyfan gwbl yn eu dwylo. Y consortiwm o Ffrainc sydd â’r hawl i adeiladu pwerdai niwclear eraill Lloegr a hefyd i ymestyn, hyd at 2023, einioes dau o’r pwerdai hynaf, yn Hinkley Point B a Hunterston B yng Ngorllewin yr Alban. Yr uniad enfawr hwn fydd yn cynllunio, yn penderfynu’r gost, yn adeiladu, rhedeg a gofalu am ddiogelwch y pwerdai niwclear.
Ar un olwg gellir teimlo’n ffyddiog bod adnoddau technegol cryf iawn wedi eu creu drwy’r uniad a fu rhwng y cewri. Ar hyn o bryd mae Prydain yn adolygu cost yr hyn y gellir ei godi am drydan yn y dyfodol fel bod costau adeiladu pwerdai newydd yn weddol economaidd. Ond a ellir taro bargen gyda’r consortia newydd os nad oes cystadleuaeth?
Mae’n hen bryd i David Cameron ddeffro. Bu’n llusgo’i draed yn rhy hir o lawer. Methodd â dod i benderfyniad ynglyn â buddsoddi yn y byd niwclear pan oedd y rhagolygon a’r costau’n ffafriol. Yn yr un modd, dros y pymtheng mlynedd a rhagor diwethaf, osgoi gwneud penderfyniad wnaeth Tony Blair a Gordon Brown hefyd.
Mae bellach yn argyfwng. Sut mae cadw’r lampau ynghyn ar gyfer y genhedlaeth nesaf? Mae gofyn am fwy o asgwrn cefn a gwell gweledigaeth i drin y consortia newydd estron sy’n debyg o reoli pwer niwclear yn y dyfodol.
Mae bygythiad arall ar y gorwel o gyfeiriad Japan hefyd. Eleni, o’r diwedd, agorir ffatri Rokkashi yno i gynhyrchu 8 tunnell o blwtoniwm o raddfa addas i gynhyrchu bomiau niwclear. Mae hynny’n ychwanegol at y 44 tunnell sydd mewn stôr yno eisoes. Byddai’n ddigon i greu 10,000 o fomiau niwclear o faint bomiau Hiroshima a Nagasaki. Mae perygl y bydd y plwtoniwm o’r Wylfa a phwerdai eraill Prydain yn ychwanegu at y storfa frawychus honno.
Wrth gwrs, mae Japan yn gwadu bod unrhyw fwriad bygythiol ganddi. Diau mai dyna’r gwir ar hyn o bryd ac nid oes rheswm dros amau hyn. Ar y llaw arall mae ei storfa blwtoniwm yn darged heb ei ail i derfysgwyr. Pwy a wyr i ble’r aiff yr helynt presennol rhwng Japan a China? Y bwriad swyddogol yw fod y storfa blwtoniwm ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bwerdai ‘bridio’. Ond tra bydd wraniwm yn parhau yn rhad a digonol nid oes defnydd heddychlon credadwy i’r storfa farwol hon. Efallai y bydd angen hynny yn y dyfodol, wrth gwrs. A rhaid cofio i India ddefnyddio plwtoniwm ‘heddychlon’ i greu ffrwydrad niwclear ‘heddychlon’ yn 1974.
Japan yw’r unig wlad heb arfau niwclear sy’n cynhyrchu a storio plwtoniwm. Mae De Korea yn dadlau ar hyn o bryd y dylai hithau gael yr un hawl â Japan i brosesu a chrynhoi plwtoniwm. Ys gwn i a yw Japan yn ystyried y stôr beryglus honno yn fath o yswiriant yn erbyn y bygythiad cynyddol o China ?
Yn bendifaddau mae’n rhaid i Brydain gadw rheolaeth gyfreithiol haearnaidd ar unrhyw blwtoniwm a gynhyrchir. Rhaid hefyd sicrhau cytundebau cadarn ynglyn â pherchnogaeth hawliau a thrwyddedau tymor hir yr atomfeydd newydd.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
