Erbyn i’r rhifyn hwn o Barn ymddangos byddwn yn gwybod a lwyddodd UKIP i droi’r drol wleidyddol Brydeinig yn etholiadau Ewrop. Byddwn yn gwybod hefyd a oes sail i’r darogan y gall UKIP ennill cymaint â phum sedd yn yr etholiadau nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond beth yw gwir farn eu harweinydd Nigel Farage am Gymru, ei phobl a’i hiaith? Bu Andrew Misell yn ei holi yn ystod ymweliad ag Abertawe.
Doedd pethau ddim yn mynd yn arbennig o dda i Nigel Farage pan gwrddais i ag e. Roedd e newydd roi’r gorau i’w fwriad i ymgyrchu yng nghanol Abertawe oherwydd fod llond dwrn o brotestwyr yn barod i’w ‘groesawu’. Ond roedd rhai o’r hen filwyr a ddaeth draw i gefnogi Farage – mae digon o’r rheini yn UKIP – i’w gweld yn bur anfodlon bod eu harweinydd wedi ei heglu hi yn hytrach na wynebu bygythiad mor bitw. Nid bod hynny i’w weld yn menu dim ar y Nigel fythol siriol a adleolodd ( hynny yw, a ddihangodd ar frys) i Stadiwm bêl-droed Liberty. Yno, gyda gwydraid o ddwr yn ei law (nid cwrw – daeth hwnnw’n nes ymlaen) cafodd ei holi gan yr haid o newyddiadurwyr a fu’n ei ddilyn yn ddi-baid drwy gydol yr ymgyrch.
Fel mae llawer o gyfwelwyr wedi sylwi, mae Farage ar delerau anghyffredin o dda ag ef ei hun. Wrth ymweld â Chymru nid yw’r Sais o dde-ddwyrain Lloegr ddim yn ymhyfrydu nac yn ymddiheuro am fod yr hyn ydyw. ‘Mae hunaniaeth yn bwysig,’ meddai Farage, yn hyderus fod ei hunaniaeth e cyn bwysiced bob tamaid â’n hunaniaeth ninnau...
... Beth, gofynnais iddo, am y cymunedau lle y bu’r Gymraeg yn brif iaith am ganrifoedd, cyn graddol foddi dan donnau o Saesneg? A yw yntau’n cydymdeimlo â Chymry Cymraeg yn y fath sefyllfa? ‘Dwi’n deall hynny’n llwyr. Wrth gwrs ’mod i. Mae gwlad ddwyieithog gyda chi yma. Dwi’n gwybod bod y mwyafrif yn siarad Saesneg ond mae’r lleiafrif Cymraeg yn bwysig iawn.’ ...
... Ac os oes bygythiad i Gymreictod nid o du Lloegr y daw ond o Frwsel: ‘Un o’r rhesymau mae’r Prosiect Ewropeaidd mor wrthun yw ei fod e’n cymryd pobloedd gwahanol iawn ac yn ceisio eu gwthio at ei gilydd mewn hunaniaeth newydd nad oes neb ei heisiau’.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
