Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod pobl Cernyw i dderbyn statws lleiafrif swyddogol oddi mewn i’r Deyrnas Unedig, o dan reolau Ewropeaidd. Ymunant felly â’r Cymry, yr Albanwyr a’r Gwyddelod yn hyn o beth.

Gwell hwyr na hwyrach. Er na lifai ffynhonnau Porth Bud a Bosvenegh, Truru, Pensans ac Aber Fala â gwin, roedd trigolion Cernyw wrth eu bodd i glywed fod y Llywodraeth Brydeinig wedi cydnabod ffeithiau o’r diwedd. Ni fu Deddf Uno erioed, mae cyfreithiau Cernyw yn dal mewn grym, mae’r iaith Gernyweg yn dechrau ymlwybro oddi ar yr arwyddion ffyrdd ac yn mynnu gael ei chlywed eto, ac Afon Tamer yw’r ffin fwyaf sefydlog rhwng dwy wlad yn Ewrop ers dros fil o flynyddoedd.
Fel yn aml pan ddaw hi’n ddydd o brysur bwyso, mae’r amseru yn ddiddorol. Cyhoeddwyd y Confensiwn Fframwaith ar Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol yn 1998. Er bod bwriad Cyngor Ewrop i’w ganmol, erys un diffyg eithaf elfennol yn y Confensiwn: nid yw’n cynnwys diffiniad o leiafrif cenedlaethol. Bu’r Wladwriaeth Ffrengig a Gweriniaeth Twrci yn ddigon onest i beidio â chadarnau’r Confensiwn o gwbl. Ond bu’r Deyrnas Unedig yn dipyn fwy cyfrwys, a datgan mai grwpiau a amddiffynnir drwy orfodi Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 yw unig leiafrifoedd cenedlaethol y ddywededig Deyrnas. Gan fod y cyrff swyddogol wedi gwrthod a priori ymdrin â chwynion gan Gernywiaid, nid oes corff o gyfraith achosion a fyddai’n eu gwneud yn destun amddiffyn o dan y Confensiwn. Dyna fu agwedd Whitehall a San Steffan o’r cychwyn – hyd yn awr.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
