Thema dywyll Thema golau

Y Gêm Brydferth

A thasa’r Bonwr Ferguson wedi bod yn ddigon anffodus i weld yr ‘handball’ echrydus wnes i o flaen y gôl mewn gêm ddiweddar yn erbyn genod Pwllheli, mi fyddwn i wedi diodda’ dos go hegar o’r enwog ‘hairdryer treatment’ yn y fan a’r lle, a hynny’n gwbl haeddiannol. C’wilydd…

Da waeth am hynny. Yn ddisymwth o gefn y car y daeth y gymhariaeth, tra oedd fy mab chwe mlwydd oed yn ymdrechu ymdrech deg i ysgogi trafodaeth efo’i chwaer fawr am ymgyrch ddiweddar tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Ewrop. Piso yn erbyn y gwynt oedd y cr’adur wrth reswm, gan fod diddordeb ei chwaer yn y gêm brydferth wedi ei gyfyngu’n llwyr i hacio fferau ar fore Sadwrn.

Hynny yw, mae chwarae ffwtbol yn iawn, ond pwy ddiawl sy isio siarad amdano fo? I’r mab, fodd bynnag, mae’r siarad cyn bwysiced â’r chwarae.

Ryan Giggs – yr arwr mawr – oedd testun y sgwrs unochrog yma, a’r bychan yn tafoli tshansus tîm Cymru o  fedru cynnwys Giggs yn y garfan eleni. Roedd ei chwaer ddigon o gwmpas ei phetha i wybod bod hynny’n annhebygol os nad yn amhosib, ac fe ddywedodd hi rwbath i’r perwyl na châi o ddim chwara inni  a hynny ar gownt ei fos. Bu’r bychan yn dwys-gysidro hyn am blwc, cyn dod allan efo’r canlynol: ‘Ond wt ti’n meddwl bod Ryan Giggs yn goro gwrando ar Alex Ferguson, fel ’dan ni’n goro gwrando ar Mam?’

Jôc, wrth gwrs, yw haeriad y plant eu bod nhw’n gwrando ar eu Mam hyd yn oed weithiau, ond roedd cwestiwn y mab yn un digon teg. Petai’r pêldroedwyr Cymreig sy’n chwarae i glybiau eraill ar gael i’r tîm cenedlaethol, does bosib y byddai ’na well siâp ar chwarae Cymru erbyn hyn?

Gellir achub cam chwaraewyr fel Giggs, Davies a Gabbidon pan maen nhw’n ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, a chydymdeimlo â’u hanafiadau a’u hawydd i ymestyn eu gyrfaoedd o fewn eu clybiau ac ati, ond mae eu habsenoldeb yn anodd i’w stumogi – i’r cefnogwyr bach a mawr.

A beth am Bellamy? Mae’r dirgelwch ynghylch ei yrfa ryngwladol yn parhau, er imi gael y cyfle i ofyn iddo fo’n bersonol am ei blania yn ddiweddar, pan fues i a’r plant a chriw  joli iawn o Felinheli yn Barnsley i wylio Caerdydd, a chael deg munud o amser yr hen Bellers ar y ffordd o’r cae. Mi ddoth o draw at y plant i lofnodi rhaglenni a chrysau ac ati, a holi faint ohonyn nhw oedd yn siarad Cymraeg. Dyn annisgwyl o glên, ac mi sgwrsiodd am sbelan efo rhai o’r criw, er na ddatgelodd fawr ddim am ei ddyfodol fel un o sgwad tîm Cymru chwaith.

Yn y cyfamser, mae’r bychan yn crafu pen wrth drio dewis pa enw a rhif i’w rhoi ar gefn y crys Cymru newydd sydd am ddod acw drwy law Siôn Corn, gobeithio.

Nid mater bach yw hyn, a rhaid pwyllo a dwys-ystyried rhag i’r dewisedig un droi’i ffêr ac ymddeol ar frys… a siomi cenhedlaeth newydd o gyw-cefnogwyr Cymru.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Llafur - plaid Kinnock unwaith eto?

Ymlaen >

Nid Carwriaeth Ond Partneriaeth Gadarn