Brodor o’r Pandy yn Sir Fynwy oedd Williams, a’i deulu o’r Gororau, a chafodd ei fagu ar ffin hanesyddol gyda Lloegr. Saif ei bentre genedigol ar ffin arall, sef y dyffryn rhwng Mynydd Du amaethyddol a blaenau diwydiannol maes glo de Cymru. Ac yn nes ymlaen yn ei oes daeth yn ymwybodol ei fod yn bersonol yn sefyll ar y ffin rhwng dosbarth ei fagwraeth a’r dosbarth newydd y daeth yn rhan ohono trwy ei addysg a’i alwedigaeth. Wrth ddisgrifio’r olygfa o gopaon Mynydd Du mae Williams yn tanlinellu peth o’r persbectif arbennig yma,
“I could stand on the mountains and look north to the farms and the cathedral, or south to the smoke and fire of the blast furnace making a second sunset.”
Roedd Williams yn ddyn oedd yn troi yn barhaol at brofiadau ei gynefin a’i dylwyth er mwyn dadansoddi’r byd ehangach. Roedd gan ei deulu safle gweddol unigryw yn eu cymdeithas, yn deulu proletaraidd yng nghanol cymuned cefn gwlad, gan mai gweithiwr rheilffordd oedd ei dad. Ac felly dyma ffin arall a oedd yn helpu Raymond i ddiffinio ei fyd.
Mae Streic Fawr 1926 yn cael cryn sylw yn llyfr yr Athro Dai Smith. Er mai dim ond pum mlwydd oed oedd Williams ar y pryd, byddai’r digwyddiad yn chwarae rôl allweddol yn ei ysgrifau. Ac mae Smith yn rhoi i ni ddisgrifiad manwl o’r Fenni yn ystod y mis Mai tyngedfennol hwnnw.
“There were rallies and demonstrations in Abergavenny – even the Borough Band played the Red Flag as the NUR and Trades Council celebrated May Day in the Castle grounds – and speeches were made under lofted banners.”
Fel canlyniad i’r gweithredu diwydiannol collodd tad Raymond Williams ei swydd am sbel.
Alltudiaeth o’i gynefin a’i ddosbarth oedd ffawd y Raymond ifanc – fel sawl plentyn arall o’r cyfnod wrth gwrs. Profodd cryn lwyddiant oddi fewn i system addysg a oedd – yn nhermau’r sefydliad – am wahanu’r hufen oddi wrth y llaeth. Ymlaen ag e, felly, i ysgol ramadeg yn y Fenni ac wedyn i Gaer-grawnt. Campwaith Williams yn ei nofelau a’i lyfrau cymdeithasegol yw croniclo’r broses yma o gael ei alltudio. Wedi gwrando ar frolio un o’i gydfyfyrwyr crachaidd am y ffaith fod ei deulu wedi dod draw i Loegr gyda’r Normaniaid, gofynnodd Williams, ‘And are you liking it here?’ Dyma oedd naws Caer-grawnt.
Hyd yn oed yn awyrgylch cymdeithasau Marcsaidd y Brifysgol roedd Raymond ar wahân. Ond mae Dai Smith yn nodi bod yr ymwybyddieth yma o arwahanrwydd yn tyfu dros gyfnod maith. Roedd ansicrwydd am ei hunaniaeth yn rhan o’r darlun hefyd – ffaith sy’n cael ei datgelu gan un o ffrindiau a chydweithwyr Williams wrth ddatgan: ‘he concealed his Welshness and working class origins for fifteen years.’
Fel llawer o bobl ei genhedlaeth teimlodd effaith yr Ail Ryfel Byd i’r byw. Ac mae ysgrifennu Dai Smith yn dod â’r profiadau yma yn wirioneddol fyw i’r darllenydd. Fel swyddog mewn uned artileri symudol, job Williams oedd distrywio tanciau Almeinig – heb anghofio taw tasg yr Almaenwyr oedd i’w ddifa yntau. Cafodd amser caled iawn ym mrwydrau gwaedlyd y ‘Bocage’ yn Normandi ac ar yr heol hunllefus i Arnhem. Diwedd ei ryfel ef oedd delio ag uffern Sanbostel Concentration Camp. Yn amlwg roedd e’n filwr a swyddog galluog iawn, ond er gwaetha hynny roedd ’na greithiau. ‘You do function on a fighting animal level. I do not think that you ever sort it out afterwards.’
Yng ngeiriau ei wraig Joy – a aberthodd lawer er mwyn ei yrfa ef fel awdur – ‘after the war all he wanted to do was write.’ Cafodd waith fel darlithydd efrydiau allanol ac am flynyddoedd bu’n ysgrifennu nofelau, dramau, llyfrau beirniadaeth,
sgriptiau radio… ond heb fawr o lwyddiant na sylw. Mae Dai Smith yn rhoi’r cyfle i ni ddarllen darnau sylweddol o ysgrifau Williams yng nghwrs y cofiant – llawer ohonynt heb eu cyhoeddi o’r blaen. Fel canlyniad mae cyfle ardderchog i weld datblygiad meddyliol ac artistig Raymond. Braint annisgwyl yw hon.
Gyda chyhoeddi ei waith am hanes diwylliant, Culture and Society, daeth llwyddiant ac enwogrwydd i’w ran. Dywed Dai Smith am y clasur hwn, a ddaeth fel taranfollt i dorri ar draws meddwl cenhedlaeth, ‘he wrote with the incandescence of molten metal cooling into hard certainty.’ Ac mae’n ymadrodd y gellid ei ddefnyddio i ddisgrifio Dai, pan mae ar ei orau fel bywgraffydd.
Ond yn y nofelau – rhai hynod o hunangofiannol – mae deall Williams y dyn.
Awgrym Smith yw mai dim ond gyda marwolaeth tad Raymond ym 1958 y mae’r awdur yn gallu esgor o’r diwedd ar y gwaith diffiniol Border Country. Dyma nofel a welodd sawl drafft a sawl teitl dros y blynyddoedd – ‘Brynllwyd’, ‘Between Two Worlds’ a ‘Border Village’ cyn troi’n ‘Border Country’ ar gyfer ei ffurf derfynol.
Yn anffodus, mae’r gyfrol gyntaf hon yn dod i ben yn 1961. Felly mae ’na fwy o hanes bywyd Williams i ddod – gan gynnwys ymdriniaeth o’i agwedd tuag at y cwestiwn cenedlaethol, mater o ddiddordeb enfawr i lawer. Mae yna ambell damaid i aros pryd yn y llyfr hwn. ‘What history we were taught in the elementary school was a poisonous brand of romantic and medieval Welsh chauvinism,’ meddai am Ysgol y Pandy. Ond dyma ddyn a aeth yn ei flaen i ymaelodi â Phlaid Cymru, ar ôl cyfnodau yn y Blaid Gomiwnyddol a’r Blaid Lafur ar hyd y ffordd. Do. Fe groesodd, ac fe bontiodd, sawl ffin gwleidyddol.
Ac mae sawl llyfr i’w gael rhwng y cloriau hyn. Cawn ddarnau o hanes rhyfel, daearyddiaeth, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a llawer mwy – diolch i ehangder bywyd a gyrfa Williams. A chyfleu hyn i gyd yw camp Dai Smith. Os oes yna feirniadaeth, wel, mae’n rhaid darllen y llyfr gyda Geiriadur Saesneg Sylweddol wrth law oherwydd tuedd Dai i ddefnyddio geiriau tywyll a gor-academaidd ar adegau. Ac mae’n rhaid cyfaddef bod rhai o enwau mawrion meddyliol Caer-grawnt yn ddieithr i mi. Ond mae bywgraffiad Dai Smith o Raymond Williams yn deyrnged haeddiannol i feddyliwr ac awdur hynod o ddylanwadol. Llafur cariad yw hwn gan academydd â diddordeb angerddol yn ei destun. A chwarae teg iddo am hynny. Edrychaf ymlaen at y gyfrol nesaf!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
