Thema dywyll Thema golau

Hanner Groeges yng Nghaerdydd

Beth amser yn ôl, bûm mewn cynhadledd lle cwrddais â menyw a oedd â chyfenw Groegaidd. Dyma fi’n mynd ati a’i chyfarch mewn iaith a fyddai, yn fy nhyb i, yn gyffredin rhyngom ond, er mawr siom imi, yn y Saesneg yr atebodd hi fi, gan ymddiheuro nad oedd yn siarad dim Groeg (iaith ei thad) nac Eidaleg (iaith ei Mam). Roedd hi’n flin iawn am hynny, am ei bod yn teimlo fel pe bai’n amddifad o ffenestri eraill i weld y byd trwyddynt. Ond roedd ei rhieni, meddai, dan yr argraff mai siarad Saesneg yn unig fyddai’r peth gorau i’w wneud, fel y byddai’r genhedlaeth nesaf yn magu gwreiddiau yn ei gwlad newydd. Cymru oedd y wlad newydd honno, am iddi hithau, yr un fath â fi, gael ei geni a’i magu yng Nghaerdydd. Ond mor wahanol ei phrofiad hi i’m profiad i, a’m gwreiddiau innau, ar ochr fy mam, yng Ngwlad Groeg.

Yn Athen y cyfarfu fy rhieni, tua diwedd yr Ail Ryfel Byd. Digwydd bod mewn caffi awyr agored oedd Dad, yn filwr ifanc o Gymro, pan gwrddodd â dyn o’r enw Basil Anthracopoulos, a oedd wedi dysgu Saesneg yn dda iawn. Buan iawn y cafodd Dad wahoddiad i gwrdd â gweddill y teulu, sef Socrates Anthracopoulos, a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth ym Macedonia, gogledd Groeg; ei wraig, Kalliope; a gweddill y plant, a oedd yn cynnwys merch o’r enw Eleutheria, a oedd ar y pryd yn astudio Meddygaeth yn Athen. Mae’r gweddill yn hanes … priododd fy nhad a Eleutheria ddiwedd 1945, a daeth Dad â Mam i Gymru i fyw, gan ymgartrefu yn Resolfen cyn symud i dy newydd sbon yng Nghaerdydd.

Dysgodd Mam Saesneg, do. Llwyddodd i gael gafael hefyd ar rywfaint o Gymraeg, fel nad oedd yn ddiogel trafod cyfrinachau yn y Gymraeg o’i blaen. Ond nid anghofiodd ei gwreiddiau, gan gadw cysylltiad cyson â’i theulu, o flwyddyn i flwyddyn, ac o ddegawd i ddegawd. Ac oeddwn, roeddwn innau’n gallu siarad ag aelodau ei theulu, a hyd yn oed ysgrifennu pytiau bach atynt yn yr iaith Roeg, heb feddwl bod hynny’n anarferol o gwbl. Gofalodd Mam ei bod yn trosglwyddo ei hiaith i mi, a mwynheais sawl cyfnod yn aros gyda’r teulu yn Athen yn ystod fy ieuenctid, gan gyfathrebu’n rhwydd â phawb.

Mae’n wir imi ddatblygu rhyw fath o ‘broblem agwedd’ yn ystod fy arddegau, gan fynnu ateb Mam druan yn Saesneg pan siaradai Roeg â fi, ond dyfalbarhau wnaeth hi i siarad ei hiaith â fi, a deuthum yn ôl at fy nghoed yn y diwedd, wedi imi gael gweledigaeth ar adeg lwyr annisgwyl.

Ar drip ysgol yn y 70au yr oeddwn, a llond bws mini ohonom wedi cychwyn o Ysgol Gyfun Rhydfelen ar gylchdaith o gwmpas Cymru, i ymweld â lleoedd oedd yn berthnasol i’n llyfrau gosod ar gyfer Cymraeg lefel-A. Ar ôl ymweld â Rhyd Ddu T. H. Parry-Williams a Bethesda Caradog Prichard, dyma ni’n dilyn yr hen A55 droellog ar hyd yr arfordir tua’r dwyrain, gan weld y môr ar y naill ochr, y mynydd ar y llall, ac yn sydyn, twnnel eithaf hir! A dyma fi’n teimlo mellten yn mynd ar ei hunion trwy fy nghorff, wrth gofio ffordd gyffelyb yng Ngwlad Groeg, o Athen hyd at Lagonisi, hoff draeth y teulu – siwrnai a wneuthum droeon yn fy mhlentyndod. Yn wir, gymaint fy nghynnwrf nes imi deimlo rhyw rym yn fy ngwthio i lunio soned, a gyhoeddwyd wedyn yn y Genhinen, cylchgrawn llenyddol sydd, yn anffodus, wedi hen fynd â’i ben iddo:

TWNNEL

Er bod dwy genedl ynof, teimlaf raid

Ac awydd i fynegi mewn ffyrdd lu

Fy nghariad anorchfygol a di-baid

At Gymru annwyl a’i nodweddion cu.

Tueddaf i anghofio am yr hil

Ar ochr Mam a’i serchus wlad ynghyd,

Oherwydd pellter tebyg i ddwy fil

O faith filltiroedd sydd cyd-rhwng dau fyd.

Wrth grwydro Aberconwy yn y bws

A sylwi ar y môr a’r glasfrown dwyn,

Mi welais dwnnel; heb ryw fawr o ffws,

Fe deithiwyd trwyddo, ac am ennyd fwyn,

Mi gofiais am Wlad Groeg a thaith a wnaed –

Ni allaf wadu’r hanner hwn o’m gwaed!

Dyna, am wn i, a fu’n gyfrifol am imi newid agwedd dros nos, ac ailgydio yn iaith fy mam. Yn ddi-os, rhoddodd y penderfyniad hwnnw foddhad anferth iddi hi, a hithau, yn ôl pob tebyg, wedi dechrau anobeithio ynglyn â fy ymwybyddiaeth o’i theulu a’i hunaniaeth hi!

Erbyn hyn, mae Dad wedi marw ers blynyddoedd, a minnau’n dragwyddol ddiolchgar iddo am fod yn ddigon goleuedig i adael i Mam siarad Groeg â fi yn ddilyffethair – nid pawb fyddai wedi gwneud hynny. Mae Mam wedi heneiddio i’r fath raddau fel ei bod yn aml yn troi’n ôl at iaith ei hieuenctid, fel pe na bai mwyach yn ymwybodol o’r angen i ddewis pa iaith i’w siarad yn ôl y sefyllfa y byddo ynddi. Mae hi’n deall Saesneg, ond weithiau, bydd hi’n siarad Groeg â’r union rai sydd newydd siarad Saesneg â hi, hyd nes y bydd rhywun yn ei hatgoffa’n garedig i siarad iaith y mae yn ei deall! O leiaf, mae’r sianeli cyfathrebu rhyngddi hi a fi yn gwbl agored, a minnau bellach yn siarad Groeg yn unig â hi, er hwyluso’r sgwrs.

Yn achos mewnfudwyr i Wledydd Prydain, credaf ei bod yn hanfodol bwysig iddynt siarad eu hieithoedd brodorol, boed yn Bwyleg, yn Bersieg neu unrhyw iaith arall, â’u plant – nonsens llwyr yw honni y câi hynny effaith andwyol ar eu datblygiad yn yr ysgol. Mae meddyliau ifainc fel sbwng, yn amsugno pob dim yn sydyn iawn. Os rhywbeth, hwyluso’r ffordd iddynt ddysgu mwy o ieithoedd yn nes ymlaen y mae amlieithedd pan fydd plant yn ifanc, fel y gallant ddod yn ddinasyddion gwirioneddol ryngwladol. Yn bersonol, rwy’n hynod o falch imi barhau i siarad Groeg ar hyd y blynyddoedd, fel y gallaf ddweud, yn gwbl ddiffuant, ‘????, ?’?????’ – Mam, rwy’n dy garu.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Eisteddfodau bychain

Ymlaen >

Strategaeth Addysg Gymraeg