Thema dywyll Thema golau

Strategaeth Addysg Gymraeg

O’r holl ymrwymiadau a geir yn y cytundeb clymbleidiol Cymru’n Un, diau fod nod creu Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg genedlaethol ymhlith y rhai mwyaf hirddisgwyliedig. Ers diwedd y 1990au mae’r angen am fframwaith polisi a gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod yn destun trafodaeth mewn pwyllgorau a gweithgorau niferus, ar lefel sirol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bellach, gyda’r nod wedi ei osod o fewn polisi’r Llywodraeth, rhaid gofyn beth yn union yw’r goblygiadau a’r disgwyliadau sydd ynghlwm yn yr ymrwymiad polisi hwn.

I’r rhai hynny sydd wedi dilyn hynt a helynt ymdrechion blaenorol i weld strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg Gymraeg yn cael ei llunio a’i gweithredu, bydd rhai cerrig milltir yn gyfarwydd: blaengaredd Pwyllgor Addysg ôl-16 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain at ymrwymiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes i gynnal adolygiad o’r Gymraeg mewn addysg yn 2001, a’r gwaith hwnnw yn ei dro yn esgor ar yr adroddiad ar y cyd â Phwyllgor Diwylliant y Cynulliad Ein hiaith, ei dyfodol (2002). Mae’r datblygiadau a ddaeth yn sgil y ddogfen honno yn gyfarwydd i gynulleidfa ehangach, ac yn wir gellid dadlau bod Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2003) wedi cynnig, am y tro cyntaf, ddatganiadau polisi am y Gymraeg sydd wedi dod yn rhan o ddisgwrs asiantaethau a chyrff nad oeddynt, cyn hynny, wedi meddu ar unrhyw fath o bwynt cyfeirio cyn belled ag yr oedd y Gymraeg yn y cwestiwn. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, camargraff fyddai honni am eiliad bod Iaith Pawb, ac yn benodol felly Pennod 4 (Yr Unigolyn a Hawliau Iaith), lle rhoddir sylw i feysydd addysg a hyfforddiant, wedi cyflawni’r nod o sefydlu Strategaeth yng ngwir ystyr y gair.

Ar ddechrau Adolygiadau Polisi’r Pwyllgor Diwylliant a’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, teg awgrymu bod y disgwyliadau yn rhai uchel. Roedd dogfen Bwrdd yr Iaith Gymraeg Yr Iaith Gymraeg: Cenhadaeth a Gweledigaeth (Tachwedd 1999) wedi cynnig awgrym o’r math o weledigaeth hirdymor a ddylai fod yn sail i gynllunio. Roedd bwriad y Pwyllgor Addysg ôl-16 wedi cynnwys y penderfyniad y byddai’n rhaid i dasg ‘mor uchelgeisiol â chreu Cymru wirioneddol ddwyieithog olygu strategaeth gydlynol, gyda thargedau, o’r math a ddisgrifir yn nogfen y Bwrdd [Yr Iaith Gymraeg: Cenhadaeth a Gweledigaeth]’ (Chwefror 2000). Gwelwyd nifer o arwyddion cadarnhaol wrth i gyrff, asiantaethau ac unigolion gyfrannu at drafodaethau adeiladol a dadlennol yn ystod yr adolygiad polisi yn 2001-02. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, fodd bynnag, gwelwyd yr angen am strategaeth genedlaethol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg yn cael ei herio.Ymhlith y materion dyrys a frigodd i’r wyneb dro ar ôl tro yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor, un cwestiwn allweddol oedd rôl y Llywodraeth ganolog yn y broses o bennu a llywio gweithrediad polisi cenedlaethol.

Teg nodi fod Iaith Pawb, i raddau helaeth iawn, yn adlewyrchu’r amwysedd hwn. Yn swyddogol o leiaf, ac at ddibenion y Llywodraeth bresennol fel yr un a’i rhagflaenodd, y ddogfen hon sydd yn cynnig y fframwaith strategol ar gyfer sicrhau ffyniant y Gymraeg, o fewn y gyfundrefn addysg ac mewn meysydd eraill. Ers dydd ei chyhoeddi, fodd bynnag, bu’r derbyniad a roddwyd iddi yn gymysgedd o groeso gofalus a beirniadaeth, ac nid gormodiaith fyddai nodi bod siom a theimlad o golli cyfle yn elfen o’r feirniadaeth honno (gweler, er enghraifft, Cynog Dafis, Barn Gorffennaf/Awst 2002, a Heini Gruffudd, Barn Gorffennaf/Awst 2002, a Rhagfyr/Ionawr 2002/03).

Rhaid bod yn barod i gydnabod bod Iaith Pawb wedi cyflawni ambell i swyddogaeth werthfawr yn y maes addysg a hyfforddiant yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r egwyddor ‘creu Cymru ddwyieithog’ (a rhown o’r naill ochr am y tro yr amwysedd sylweddol iawn sydd ymhlyg yn y cysyniad) bellach wedi ei gyfreithloni fel testun trafodaeth gydag asiantaethau a chyrff a fyddai, rai blynyddoedd yn ôl, wedi ymwrthod â’r fath ystyriaeth. I raddau, gellid dweud bod trafod dwyieithrwydd a chydnabod pwysigrwydd cynllunio ar gyfer y Gymraeg wedi ei ‘normaleiddio’: cam allweddol ynddo ei hun, ond nid diwedd y daith ar unrhyw gyfrif. Yn yr un modd, annheg fyddai awgrymu bod y camau gweithredu a geir yn y ddogfen yn gwbl ddiwerth. Buont yn ffordd ddigon derbyniol o dynnu sylw at themâu neu ffactorau sydd wedi rhwystro twf o fewn y gyfundrefn addysg Gymraeg dros y blynyddoedd, ac maent wedi rhoi sêl bendith i rai datblygiadau a allai, gydag amser, arwain at gynnydd yn y ddarpariaeth addysgol (er enghraifft yr ymgais i gynyddu dilyniant ieithyddol rhwng camau addysgol, neu’r cyrsiau sabothol sydd wedi eu sefydlu i gynorthwyo athrawon ac ymarferwyr i wella eu meistrolaeth o’r Gymraeg).

Erys yr anhawster sylfaenol, fodd bynnag: nid Strategaeth yn ngwir ystyr y gair yw Iaith Pawb. Yn hytrach, ceir rhestr thematig o feysydd sy’n gysylltiedig â thwf, neu ddiffyg twf, o ran y Gymraeg mewn addysg, a chadarnhad y bydd y rhain yn feysydd blaenoriaeth i’r Llywodraeth. Nid afresymol fyddai awgrymu bod yr ymrwymiad a geir yn Cymru’n Un yn gydnabyddiaeth ynddo’i hunan nad yw’r fframwaith polisi presennol yn cynnig y cyfeiriad a’r cadernid strategol angenrheidiol.

Ni fyddai unrhyw un yn gallu honni bod y ddarpariaeth bresennol yn bodoli mewn gwacter polisi llwyr. Mae rhai offerynnau cynllunio, a weithredir ar lefel sirol, yn dilyn canllawiau a bennir yn genedlaethol. O ran polisïau strategol addysg yn gyffredinol, bwriedir i’r Cynlluniau Addysg Sengl, a’r Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc a ddaw i’w disodli, nodi ymrwymiad siroedd i gyfres o dargedau, a nodir y Gymraeg fel elfen o’r cynllunio hwn. Fodd bynnag, mae monitro cynnwys a gweithrediad y Cynlluniau yn codi cwestiwn ynghylch eu heffeithiolrwydd fel offeryn i sicrhau cydymffurfiaeth.

O ran addysg Gymraeg yn benodol, mae’r Cynlluniau Addysg Gymraeg, sydd yn cael eu cymeradwyo a’u monitro gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn cynnig fframwaith cynllunio strategol. Fodd bynnag, cyfran yn unig o bolisi addysg (cynllunio lleoedd ysgol yn bennaf) sydd yn cael ei gwmpasu gan y Cynlluniau hyn. Yn yr un modd, byddai awgrymu bod addysg Gymraeg a dwyieithog wedi datblygu heb unrhyw fath o gynllunio bwriadus yn gamddehongliad sylweddol o esblygiad y byd addysg yng Nghymru dros yr hanner canrif a mwy diwethaf. Trwy arweiniad a gweledigaeth ambell i awdurdod addysg, unigolion goleuedig a dycnwch rhieni a charedigion eraill, llwyddwyd i sefydlu polisïau cadarn er lles y Gymraeg mewn addysg, a cheir enghreifftiau mewn sawl cwr o Gymru lle bu parodrwydd i ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth yn bwyllog a doeth yn fodd i wthio’r maes yn ei flaen heb golli ymddiriedaeth. Fodd bynnag, ceir enghreifftiau yr un mor niferus o golli cyfle, ac yn wir o gyndynrwydd i weld unrhyw gynnydd yn y maes. Mae sefyllfa o’r fath yn fregus, ac yn dueddol o amlygu nifer o anghysonderau.

Yn absenoldeb arweiniad cadarn ar lefel genedlaethol, prin fu’r ymdeimlad o gyrchu tuag at yr un nod, ac mewn sawl achos ni chafwyd unrhyw ymgais wirioneddol i herio agweddau negyddol tuag at ddatblygu’r ddarpariaeth. Yn wir, byddai rhai yn mynd mor bell â datgan bod agweddau llugoer ymhlith llunwyr polisi addysg ar lefel genedlaethol wedi cyfrannu’n sylweddol at y llusgo traed.

Wrth groesawu’r hyn a nodir yn Cymru’n Un, felly, ac wrth gydnabod yr ymdrechion sylweddol sydd wedi arwain at dwf mewn sawl rhan o Gymru yn y gorffennol, rhaid derbyn bod yr ymrwymiad yn gofyn am barodrwydd i gofleidio newid ac i dreiddio y tu hwnt i brosiectau unigol a themâu cadarnhaol.

Mae cyfle newydd felly i argyhoeddi darparwyr a llunwyr polisi bod hyrwyddo addysg Gymraeg yn elfen annatod o hyrwyddo addysg yng Nghymru. Ceir cydnabyddiaeth barod i’r ffaith fod gennym ddwy iaith genedlaethol, ond eto i gyd nid oes gennym strategaeth addysg i adlewyrchu’r realiti hwnnw: mae tuedd o hyd i addysg Gymraeg gael ei hystyried fel rhywbeth sy’n berthnasol i gyfran yn unig o’r boblogaeth. Mae’n rhaid i strategaeth gynhwysfawr ar gyfer y Gymraeg mewn addysg ddarparu cyfleoedd ar gyfer pob dysgwr, waeth beth fo lefel ei sgiliau neu ei gefndir ieithyddol. Yn hynny o beth, gellid dadlau nad ‘strategaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg’ sydd ei hangen mewn gwirionedd, ond yn hytrach ‘strategaeth ar gyfer y Gymraeg mewn addysg’. Rhaid derbyn hefyd bod sefydlu fframwaith polisi goleuedig, blaengar ar gyfer addysg a hyfforddiant yn hanfodol i’r broses atgyfnerthu fframwaith strategol y Llywodraeth ar draws rhychwant o feysydd polisi, yn cynnwys y gwasanaethau cyhoeddus, datblygiad economaidd, a’r celfyddydau. Yn wir, dyma rag-amodau llwyddiant Cymru’n Un: ‘rhaglen sy’n adeiladu cenedl gref a hyderus ac a fydd yn creu dyfodol iach, ffyniant a swyddi mewn cymunedau byw, gan gynnwys mesurau i gefnogi’r Gymraeg’.

Ar draws gwladwriaethau a chenhedloedd, ac ar hyd y canrifoedd, mae cyfundrefnau addysg wedi crisialu gwerthoedd a dyheadau eu dinasyddion. Wrth i wladwriaethau a chymunedau newydd ymsefydlu, daw polisïau addysg yn rhan annatod o’r broses o rymuso egwyddorion a chyfleu dyheadau. Her Llywodraeth y Cynulliad yw sicrhau bod ein cyfundrefn addysg yng Nghymru yn diffinio gweledigaeth hyderus ar gyfer y dyfodol. Beth felly yw’r elfennau craidd a ddylai fod yn sail i’r gwaith o lunio Strategaeth? Cynigiaf fod yr egwyddorion canlynol yn hanfodol:

  1. Datganiad diamwys yn cadarnhau mai’r Llywodraeth yn ganolog sydd yn gyfrifol am bennu a gweithredu polisi ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a’r Gymraeg mewn addysg.

    Rhaid derbyn bod yr amrywiaeth sylweddol iawn o sefyllfaoedd ieithyddol yng Nghymru yn gofyn am amrywiaeth o bolisïau a dulliau gweithredu. Byddai mabwysiadu cynlluniau gweithredu unffurf ar draws Cymru yn annoeth ac amhriodol. Yn ogystal, bydd yn rhaid sicrhau bod cynghorau lleol, a sefydliadau unigol, yn perchnogi’r Strategaeth ac yn cydnabod eu cyfrifoldeb o ran ei gweithredu. Fodd bynnag, mae’n gwbl hanfodol fod egwyddorion y Strategaeth, a’r cyfrifoldeb am sicrhau eu bod yn cael eu harddel, yn gorwedd gyda’r Llywodraeth yn ganolog.

  2. Parodrwydd i edrych ar y ddarpariaeth Gymraeg fel rhan annatod o’r ddarpariaeth addysg yng Nghymru. Yn Adran Addysg y Llywodraeth, y duedd yn aml yw anwybyddu gofynion y sector, ac i eithrio’r Gymraeg o’r broses gynllunio. Ystyriaeth ‘ychwanegol’ (os o gwbl) yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn amlach na pheidio.
  3. Gweledigaeth hirdymor o ran rôl y Gymraeg mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae hyn yn gofyn am werthusiad treiddgar o’r sefyllfa bresennol, a chyfres o nodau tymor byr, canolig a hirdymor (i’w datblygu ymhellach mewn Cynllun Gweithredu). Hyd yma, mae addysg Gymraeg, a’r Gymraeg mewn addysg, wedi esblygu gydag ychydig iawn o gynllunio bwriadus ar lefel genedlaethol. Mae’r maes ar hyn o bryd yn dameidiog; ceir bylchau sylweddol, ond mae dyblygu ymdrechion hefyd yn gallu bod yn wastraffus. Oherwydd hyn, mae perygl gwirioneddol nad yw’r hyn sy’n cael ei fuddsoddi, o ran adnoddau amser, cyllid ac ymdrech, bob amser yn sicrhau’r enillion posibl. Mae’r cynllunio yn elfen allweddol o bob agwedd ar y ddarpariaeth, ond mae un maes lle mae’r angen yn ddirfawr, sef recriwtio a hyfforddi athrawon ac ymarferwyr.

Hyd yma, mae addysg Gymraeg a dwyieithog wedi tyfu a datblygu yng Nghymru heb unrhyw gynllun strategol cenedlaethol i hyfforddi staff. Mae bylchau a phrinder wedi eu hadnabod, mae anawsterau eraill wrth ddod o hyd i swyddi wedi eu cydnabod. Nid oes gennym, fodd bynnag, raglen recriwtio a hyfforddi hirdymor. Mae’n wir fod ymgais wedi bod yn ystod y deunaw mis diwethaf i sefydlu modelau posibl ar gyfer y blaengynllunio hwn. Araf yw’r cynnydd, fodd bynnag, a’r brys yn dwysáu, yn arbennig o ystyried datblygiadau newydd y byd addysg, megis y Cyfnod Sylfaen a’r Llwybrau Dysgu 14-19.

Mewn modd tebyg, mae siroedd wedi ymateb yn adweithiol yn aml i’r cynnydd mewn galw am addysg Gymraeg. Er fod rhai awdurdodau wedi mabwysiadu, yn llwyddiannus, ddulliau mwy systematig o fesur galw yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae lle sylweddol i fireinio’r fethodoleg hon, ar sail cyfarwyddyd a chynhaliaeth gref ar lefel genedlaethol o ran dulliau casglu a dadansoddi data.

Cyfeiriais yn gynharach at yr amwysedd sydd ynghlwm yn y cysyniad ‘creu Cymru ddwyieithog’. Yn Rhagymadrodd Iaith Pawb ceir esboniad o ddehongliad y Llywodraeth o Gymru ‘gwbl ddwyieithog’: ‘gwlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg neu’r ddwy iaith a lle mae bodolaeth y ddwy iaith yn fater o falchder a chryfder i ni i gyd’. Gellid dadlau fod y ‘nod o greu Cymru ddwyieithog’ yn ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio bellach heb fawr ddim ymgais i ystyried arwyddocâd a goblygiadau’r amcan. Bydd llunio a gweithredu Strategaeth yn arwydd pendant o allu’r Llywodraeth i gamu y tu hwnt i’r ystrydebau. Un maes sydd yn haeddu sylw penodol a gofalus yn y cyswllt hwn yw’r gydberthynas rhwng darpariaethau addysg ‘dwyieithog’ a’r broses o alluogi dysgwyr i ddod yn siaradwyr dwyieithog. Gyda rhychwant eang o fodelau ieithyddol yn cael eu cynnig yn ein hysgolion a’n sefydliadau addysgol, a chyda datblygiadau newydd yn rhoi pwyslais cynyddol ar sgiliau ‘dwyieithog’ ein plant a’n pobl ifanc, mae perygl gwirioneddol i’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng natur ieithyddol y ddarpariaeth, ar y naill law, a deilliannau’r ddarpariaeth honno o safbwynt yr unigolyn ar y llaw arall, gael ei esgeuluso. Un o heriau’r Strategaeth fydd mynd i’r afael â’r maes dyrys hwn. Mae’r pwyslais newydd ar ddatblygu’r Gymraeg ymhlith ein dysgwyr ieuengaf, o fewn fframwaith y Cyfnod Sylfaen, yn amlygu’r angen am drafodaeth ddeallus ynghylch arwyddocâd y term ‘dwyieithrwydd’. O fewn yr un drafodaeth, dylid rhoi lle amlwg hefyd i’r Gymraeg fel ail iaith, maes sydd wedi sbarduno safbwyntiau cryf a dadleuon brwd dros y blynyddoedd. Yn wyneb y pryder parhaus ynghylch safonau cyflawniad, a’r pwyslais cynyddol a roddir mewn rhai lleoliadau ar y defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng yn hytrach nag fel pwnc yn unig, mae’n amserol bellach i ni fod yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy creadigol wrth fireinio dulliau addysgu effeithiol a datblygu sgiliau ieithyddol cadarn ymhlith ein dysgwyr. Rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn elfen ystyrlon o brofiadau holl ddysgwyr Cymru, ac ar yr un pryd mae’n rhaid wrth ddealltwriaeth eglur o’r hyn a olygwn wrth ‘Gymru ddwyieithog’.

Dwy nodwedd wrthgyferbyniol o’r gyfundrefn bresennol yw’r twf sylweddol sydd wedi bod yn y sectorau addysg gorfodol, a’r diffyg dilyniant ieithyddol rhwng y gwahanol gyfnodau addysg. Mae’r golled ieithyddol a amlygir wrth i ddisgyblion leihau (neu hepgor yn llwyr) eu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng yn y sector uwchradd yn gyfarwydd. Wrth i fyfyrwyr symud ymlaen i Addysg Bellach ac Addysg Uwch mae’r cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn prinhau, a’r gydberthynas gymhleth rhwng cynnig darpariaeth a mesur y galw am y ddarpariaeth yn gosod her o sawl cyfeiriad. Rhaid cydnabod hefyd bod diffyg dilyniant yn gallu rhwystro twf ym mhegwn arall y continwwm oedran, wrth i blant ifanc sydd yn derbyn profiadau cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg drosglwyddo i addysg orfodol cyfrwng Saesneg. Yma eto ceir cyfuniad cymhleth o ffactorau, ond mae mynediad hygyrch i ddarpariaeth addysgol o fewn y gymuned leol yn hanfodol os ydym am weld addysg Gymraeg yn datblygu ar sail cyfle cyfartal. Bydd gofyn i Strategaeth gydlynus osod isadeiledd i gynnal llwybrau di-dor drwy’r gyfundrefn addysg. Mae hyn yn angenrheidiol o safbwynt y broses gronnol o gaffael a datblygu sgiliau ieithyddol, ond hefyd o safbwynt yr egwyddorion ehangach o annog cynnydd addysgol parhaus, a sicrhau’r elw gorau posibl o fuddsoddiad blaenorol. Wrth i ddatblygiadau newydd o fewn y gyfundrefn addysg, megis y Llwybrau Dysgu 14-19, ddylanwadu ar gyfleoedd a dewisiadau ein pobl ifanc, daw’r angen am strategaeth ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg yn gynyddol amlwg.

Mae’r drafodaeth am addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru wedi cael y cyfle angenrheidiol i aeddfedu erbyn hyn, a byddai caniatáu i’r un pryderon a’r un rhwystredigaethau gael eu lleisio yn arwydd clir o ddiffyg gweledigaeth ac arweiniad creadigol. Gyda chyhoeddi Cymru’n Un, mae’r Llywodraeth glymbleidiol wedi gosod y naws gwleidyddol ar gyfer newid: mae’r awydd i gyflwyno gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Gymraeg wedi ei ddatgan. Yr her i’r Llywodraeth bellach yw dangos bod ganddi’r ymrwymiad a’r egni creadigol i gyflawni’r nod.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Hanner Groeges yng Nghaerdydd

Ymlaen >

Gwres yr haf