‘Steddfod yn y ddinas.’ Dyna ddisgrifiad yr egin artist rhyngwladol Geraint Jarman o gyffro Eisteddfod Caerdydd 1978. Roedd yr wyl yn ymweld â’i gynefin concrit yn Llanedeyrn, safle a oedd yn dipyn gwahanol i fangre gwledig arferol yr Eisteddfod Genedlaethol. A cheisio adlewyrchu’r ddelwedd honno a ymddangosodd ar glawr Tacsi i’r Tywyllwch – ail record hir Jarman, a oedd yn cyfleu rhywfaint o baranoia dinesig – a wnâi llun Peter Murphy ar glawr rhifyn cyntaf y cylchgrawn Curiad yr haf hwnnw. ‘I lawr yn y ddinas’ meddai’r pennawd dros lun o gerbydau’n diflannu o dan bont i ddüwch y nos i gyfeiriad y dociau a dirgelwch y fagddu.
Roedd Jarman wrthi’n darganfod ei lais fel lladmerydd y profiad dinesig gan ddefnyddio cerddorion a oeddent, fel yntau, yn fwy cyfarwydd â chlwb y New Moon, ym mhen ucha’r dociau, a Theatr y Capital, yn Stryd y Frenhines, na’r un Moriah neu Gerazim yng nghefn gwlad. Cynigiai ei hun fel gwrthbwynt i’r syniad o ffoi tua’r Gorllewin ac adfer urddas neu, hwyrach, wynebu difodiant yn urddasol, fel y Navaho a chenhedloedd eraill o blith y Brodorion Cyntaf. Cynrychiolid y safbwynt hwnnw gan Tecwyn Ifan. A thanlinellwyd y safbwynt hwnnw gan ymddangosiad y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn pop, Sgrech, yr haf hwnnw. Cylchgrawn i Wynedd oedd Sgrech ar y cychwyn cyntaf, cylchgrawn a fynnai anwybyddu digwyddiadau’r Steddfod ddinesig.
Trefnodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr yn perfformio yng Nghlwb Nos Tito’s, yng nghanol y ddinas, ar y nos Fawrth, a Tecwyn Ifan ar y nos Iau. Roedd yna le i’r ddau. Ceisio cyfannu’r ddau safbwynt a wnâi Curiad hefyd, trwy roi sylw i Bahia Johnson, un o drigolion ‘Tiger Bay’ o dras gymysg, a Desmond James, adroddwr digri o Gapel Iwan, o waed coch Cymreig. Gwyddai’r naill am holl ddrygioni’r ardal golau coch ar ôl oes o ‘ddarogan ffortiwn’ morwyr, a gwyddai’r llall am holl gyfrinachau’r ddawn o wneud i bobl chwerthin yn aflywodraethus, am ben hiwmor iach Cymreig, wedi iddo ennill yn y Genedlaethol ar ddau achlysur.
Ymbalfalu a wnâi’r cyw-newyddiadurwyr a gyfrannai at y rhifyn 24 tudalen hwnnw o Curiad a gyhoeddwyd heb nawdd. Ni wnaed ymchwil i’r farchnad a doedd dim cynllun busnes tymor hir wedi’i lunio. Doedd dim strategaeth marchnata yn ei le na sicrwydd y byddai yna rifynnau dilynol. Mae’n rhaid fod yna rwystredigaeth yn ogystal â hyder y tu ôl i’r fenter. Rhwystredigaeth fod angen torri cwys newydd o ran newyddiaduraeth Gymraeg a hyder fod yna rywbeth ar fin digwydd. Wedi’r cyfan, byddai refferendwm ar sefydlu mesur o hunanreolaeth i Gymru ymhen y flwyddyn, a pha genedl wnâi wrthod cynnig o’r fath?
Nôl yn steddfod y ddinas roedd y strydoedd yn llawn Cymraeg a’r dyrfa draw yn Tito’s yn solid fel y graig. Canodd Y Trwynau Coch am ‘Fynd i’r Capel mewn Levis’, na fyddai’n gwneud synnwyr fel cân pync Saesneg, nes bod pawb yn chwys drabed domen yng nghanol y rocecrwch yn Tito’s, y Top Rank a’r T. A’s.
Llwyddodd Dafydd Iwan i dawelu criw meddw yn y Top Rank gyda chaneuon digyfeiliant llawn didwylledd, gan brofi unwaith eto nad oes raid wrth wmbreth o amps trydanol os oes gennych neges i’w chyfleu a chynulleidfa o’r un anian. Roedd rhai o ganeuon yr opera roc Dic Penderyn, a berfformiwyd yn y Theatr Newydd, gyda’r hyfrytaf a gyfansoddwyd gan Meic Stevens.
Manteisiodd Hefin Elis ar dudalennau Curiad i osod ei fys ar niwrosis y Cymry wrth esbonio pam yr ailsefydlwyd y grwp roc, Edward H. Dafis, ar ôl i’r siwpyrgrwp, Injaroc – yr oedd nifer o aelodau EHD yn aelodau ohono – chwalu. Wrth gydnabod diffygion y grwp credai fod agwedd llawer o bobl tuag at lwyddiant grwpiau Cymraeg yn anaeddfed:
‘Mae ’na afiechyd newydd ymhlith Cymry twymgalon; yr afiechyd ydi cyplysu llwyddiant menter Gymraeg â brad neu annidwylledd, e.e. mae Cwmni Sain yn llwyddiannus, ond dydi’r cigfrain ddim yn fodlon – monopoli, cyfalafwyr, wedi cefnu ar y delfrydau gwreiddiol, yw’r crawcian a glywir (nid yn agored wrth gwrs, ond mewn tywyll-fannau’r clybiau yng Nghaerdydd ac yng nghaerau’r elusen honno ym Mangor a Llandaf).
‘A’r Edward H. yna! “Rhy hen”, “Codi gormod o bres”, “Dim neges”, “Caneuon sâl”, “Methu chwarae gitâr”, “Methu canu mewn tiwn”. Mae’n demtasiwn gref ateb pob un o’r cyhuddiadau gwir yna, ond ymatal piau hi. Fel dywedodd un o gyn-olygyddion wythnosolyn Cymraeg “mae anwybyddu’n brifo mwy”.’
Chwenychai eraill ddôs o roc trwm di-ffws Shwn, a dyfeisgarwch yr actor, Dyfed Thomas yn rhith y Dr Hywel Ffiaidd a’i Gleifion, yn dinoethi pob gwendid Cymreig yn ei sioe gabaret. Ac roedd y ‘Dyn Dwad’ ei hun, Goronwy Jones, yn goglais eraill, wrth iddo ‘blanio ei wsnos o ddiwylliant’ yn ei ddyddiadur ar dudalen gefn Curiad.
‘Roedd hon i mi heb amheuaeth yn steddfod roc a rôl,’ canai Geraint Jarman. Bydd Steddfod Caerdydd 2008 i lawer hefyd yn steddfod roc a rôl ac mae Jarman yn dal yno, heb symud o’r ddinas, ac yn dal i gyfrannu.
O ran y cylchgronau herciodd Curiad arni yn gyhoeddiad deufisol tan cyhoeddi rhifyn 37 yn haf 1985 a chan fanteisio ar nawdd cyhoeddus y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Yn yr un flwyddyn y daeth Sgrech i ben hefyd ond wedi ymestyn ei adenydd, ar ôl y rhifyn cyntaf hwnnw, i gwmpasu Cymru gyfan – a hynny heb nawdd cyhoeddus.
Daeth y Nosweithiau Gwobrwyo blynyddol yn ogystal â Sesiynau Sgrech yn yr Eisteddfod yn rhan annatod o’r bwrlwm roc. Roedd y cyfan yn rhan o’r ymdaith i’r ‘Ethiopia Newydd’ y canai Jarman amdani i gyfeiliant reggae Jamaica, gan ein hatgoffa nad oedd rhaid dynwared yr Eingl-Americân bob cynnig.
Troes y ddinas fawr ddrwg yn ddinas fawr dyhead a disodlwyd tlodi’r dociau gan gyfoeth y bae ar ôl i’r Cymry – er nid trigolion Caerdydd – gytuno, o drwch blewyn, a hynny ar yr ail gynnig, i dderbyn mesur o ymreolaeth yn 1997. Ond ymddengys nad oes yna’r un artist/bardd roc o’r un maintioli â Geraint Rhys Maldwyn Jarman wedi codi o goncrid y ddinas yn y cyfamser. Pam?
A beth yw hynt Wyn Owen, cyhoeddwr Curiad erbyn hyn? Mae’n rhaid ei fod wedi hen symud o Rodfa’r Gwaywffyn Hirion yn ardal Cathays. Lle bynnag y bo – ac roedd y rhifyn olaf yn awgrymu’n gryf mai Ffrainc oedd ei gartref erbyn canol yr 80au – mae’n rhaid ei fod yn ymfalchïo iddo fraenaru rhywfaint o’r tir ar gyfer sefydlu Golwg yn 1988.
Sefydlwyd y cylchgrawn wythnosol cenedlaethol, sydd â’i bencadlys yn Llanbed, ar sail ymchwil busnes trwyadl a gweledigaeth newyddiadurol aeddfed. Hynny sydd i gyfrif ei fod yn dal i gyhoeddi ac yn dal i ddatblygu yn gytbwys ei gynnwys gyda chymorth nawdd cyhoeddus.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
