Ar y pegwn arall mae gennych y llyfrau sy’n hynod ddifyr, ond heb fawr o ddylanwad na dyfodol. Y rhain yw’r llyfrau sydd wedi eu hanelu at y darllenydd lleyg, llyfrau sydd yn rhoi rhwydd hynt i’r awdur ffeithiol droi at ffuglen i lenwi unrhyw fylchau. Fel rheol, maent yn gwerthu’n dda, ond heb sylfaeni ysgolheigaidd cadarn, cânt eu cario i ffwrdd gyda lli’r blynyddoedd.
Y mae hyn yn arbennig o wir mewn maes megis straeon gwerin. Wrth fynd ati i gofnodi hanesion pob dydd trigolion cyffredin, mae yna demtasiwn barhaus i’r casglwr droi’n storïwr ei hun, gan ddiddanu ond heb addysgu. A thrwy fod yn rhy wyliadwrus rhag syrthio i’r fagl arbennig hon, yn hawdd y gall awdur fynd ormod i’r cyfeiriad arall, a thynnu’r hwyl a’r bywyd o’r straeon, a’u troi yn flodau sychion.
Diolch byth, mae John Owen Huws yn osgoi’r ddwy fagl fel ei gilydd yn y tri llyfr o’i eiddo sydd newydd gael eu hargraffu gan Wasg Carreg Gwalch. Neu newydd gael eu hailargraffu, ia bod yn fanwl gywir, gan i destun gwreiddiol y tri llyfr gael ei argraffu – ond nid ei gyhoeddi’n fasnachol – ’nôl ym 1976, fel rhan o waith MA yr awdur. Fel y nodai’r Athro Gwyn Thomas yn y rhagair, roedd MA yng nghanol y 1970au yn golygu tipyn mwy o waith na MA cyfoes, ac mae’r cyfrolau hyn yn dyst i hynny.
Rhagymadrodd i gorff y gwaith MA yw’r gyntaf o’r dair, sef Casglu Straeon Gwerin yn Eryri. Yn y gyfrol hon, mae Huws yn gosod y cyd-destun academaidd ar gyfer y gwaith. Cawn rywfaint o gefndir esblygiad maes astudiaethau diwylliant gwerin, yn ogystal ag esboniad o sut yr aeth ati i gasglu hanesion gwerin 17 o fröydd Eryri, o lannau Afon Conwy yn y dwyrain hyd at ardal yr Eifl yn y Gorllewin. Wedi gosod rhywfaint o gyd-destun, yn y penodau dilynol cawn ddarlun cyffredinol o’r math o straeon a gasglwyd, gyda dadansoddiad o natur y stori werin, ynghyd â chefndir y storïwyr Mae’r gyfrol fer, gyntaf, hon yn gosod cefndir yr hyn sydd i’w ganfod yn y cyfrolau dilynol, Straeon Gwerin Ardal Eryri, 1 a 2.
Yn y ddwy gyfrol yma y ceir gwir gyfoeth gwaith John Owen Huws. Dros 700 tudalen, mae’r awdur wedi llwyddo i gasglu trysorfa o hanesion am fywyd bob dydd yr ardal dan sylw. Ond yr hyn sy’n gwneud y gwaith yn arbennig yw ei fod wedi gwneud hynny mewn modd ystyrlon, cynhwysfawr a threfnus. Mae’r deunydd – sydd wedi ei gasglu o ffynonellau cyhoeddedig a sgyrsiau llafar – wedi ei rannu yn ddwy brif adran, chwedlau a straeon, sydd ag is-adrannau yn didoli’r hanesion yn ôl thema ac ardal. Y mae’r deunydd craidd yn hynod ddifyr ynddo ei hun, a gall rhywun dreulio oriau lawer yn pori drwy’r gwahanol gyfraniadau. Ond gan fod sylfaen academaidd gadarn i’r gwaith, y mae’n ei godi uwchlaw diddanwch. Y mae’r tri llyfr yma yn rhai hynod bwysig, ac yn ddefnyddiol yn ogystal â darllenadwy.
I unrhyw un sydd â diddordeb ym mywyd pobl gyffredin yr ardal Gymreiciaf hon o Gymru, y mae’n gyfeirlyfr amhrisiadwy, ac yn gofnod tra gwerthfawr o ffordd o fyw. Ar un cyfnod, byddai nifer fawr o’r straeon hyn wedi eu pasio i lawr o un genhedlaeth i’r llall, ac wedi eu defnyddio i gryfhau gwead cymuned a bro. Erbyn hyn, fel cymaint o’n diwylliant traddodiadol, mae perygl y cânt eu hanghofio yn llwyr. Ond diolch i waith caled yr awdur, maent wedi eu cofnodi rhwng cloriau llyfr, hyd yn oes ydynt wedi diflannu o’r tir.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
