Thema dywyll Thema golau

Gwerin Gwlad

 

 

Saith ysgrif sydd yn y gyfrol gyntaf, a chwe ysgrifwr yn gyfrifol amdanynt. Cawn ddwy ysgrif o waith y Dr Brynley F. Roberts, Cyn-Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un ar Edward Llwyd, Arloeswr Casglu Llên Gwerin a’r llall ar Cadrawd, sef Thomas Christopher Evans (1846-1918), gwr a elwir yn Ddyn y Filltir Sgwâr.

Astudiaeth Juliette Wood o Brifysgolion Caerdydd a Reading ar Ddatblygiad Astudiaethau Gwerin yng Nghymru, 1700-1900 sydd yn agor y gyfrol. Rhydd hi le i bron pob un o’r unigolion a gaiff sylw yng ngweddill y gyfrol; y rhai a lafuriodd trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag eraill, megis Thomas Pennant (1726-98), awdur y cyfrolau diddan Tours in WalesThe British Folklorists (1968) gan Richard Dorson, cyfrol y cefais flas mawr arni. Cyfeirir at eraill a fu yn croniclo traddodiadau a hanesion y Cymry ac fel y rhoddwyd hwb i’r cyfan gan olygyddion cylchgronau fel Cymru Coch, papurau wythnosol fel Y Brython a’r papurau bro heddiw, heb anghofio’r Eisteddfod Genedlaethol a gynigiodd wobrau am gasgliadau o lên gwerin. Nid anghofiodd Juliett Wood nemor neb a gyfrannodd at y maes arbennig hwn. Yr unig un a aeth yn angof, hyd y gwelaf, oedd Jonathan Ceredig Davies (1859-1932) awdur y gyfrol Folk-lore of West and Mid-Wales (Aberystwyth, 1911). a gyhoeddwyd yn 1778 a 1781. Daeth ei gyfrolau ef, fel y sonia Wood, yn batrwm ‘i gynifer o weithiau diweddarach ar lên gwerin Gymreig’. Cytunaf â hi yn ei molawd i gyfrol swmpus

Y mae Davies yn wr sydd yn perthyn i’r un traddodiad â Lewis Morris. A. Morris yw gwrthrych ysgrif arall yn y gyfrol, sef Cofnodwr Coelion, gwaith Tegwyn Jones. Caiff un arall o’u cyfoedion, William Thomas (‘Glanffrwd’, 1843-90), awdur y clasur Plwyf Llanwyno (1888), ei gofio mewn ysgrif a luniwyd gan Trefor M. Owen.

Y Cymro hynotaf a gysylltir â’r mudiad llên gwerin yw Edward Williams, neu Iolo Morganwg, (1747-1826), gwr a aeth â bryd rhai o’n hysgolheigion pennaf. Gwelir cysgod Iolo ar bob tudalen o’r gyfrol hon; ni ellir dianc oddi wrtho. Dyma’r gwerinwr a roddodd dasg enfawr i ysgolheigion megis Griffith John Williams, Geraint H. Jenkins a llu o rai eraill. Y tro hwn Mary-Ann Constantine o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, sy’n gyfrifol am ei gyflwyno. Sonia Constantine gyda pheth syndod am yr holl emynau a luniodd Iolo ar gyfer y Mudiad Undodaidd, ond a fethodd ag ennill eu plwyf ymhlith y werin. Nid oes raid iddi ryfeddu o gwbl. Rhaid wrth wr o brofiad crefyddol dwys i lunio emynau cofiadwy, ac nid oedd Iolo Morganwg yn meddu ar y profiad hwnnw. Yn wir af mor bell â chytuno gyda S. O. Tudor fod yn rhaid cael profiad dwfn a dealltwriaeth o ddiwinyddiaeth Galfinaidd fel Ann Griffiths, William Williams, Pantycelyn, Pedr Fardd, Dyfed a Moelwyn i lunio emynau sy’n cydio yn ein cof.

Llwyddodd dwy ysgrif yn y llyfr hwn i’m swyno yn llwyr. Y gyntaf oedd cyfraniad y wraig hynaws a hynaf sy’n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, sef Mrs Mari Ellis, Aberystwyth – gweddw’r polymath T. I. Ellis. Haedda’r D Litt er Anrhydedd a ddyfarnodd Prifysgol Cymru iddi yn 2006. Teitl yr ysgrif ydyw Y Personiaid Llengar a Llên y Werin, a dyma em o ysgrif. Pe bae gofod gennyf hoffwn ddyfynnu paragraffau ohoni, yn arbennig y cyfeiriadau at y personiaid llengar fel Thomas Richards, Darowen (bro mebyd Mari Ellis), Ifor Ceri, W. J. Rees, Casgob a Charnhuanawc. Gwych hefyd yw’r drafodaeth o’r personiaid llengar fel awduron llythyron. Mae’n amlwg fod Mari Ellis wedi darllen y llythyrau hyn i gyd yn fanwl, ac ar dudalen 96 mae ganddi grynodeb gwych o’u nodweddion – dychan chwareus Gwallter Mechain; dychan deifiol Rowland Williams; graslonrwydd Ifor Ceri; rhefru parhaus Thomas Beynon yn erbyn y gynghanedd; sylwadau buddiol Carnhuanawc am y cannoedd o englynion y bu yn eu beirniadu, ac, yn ei dyb ef, ‘sad trash and precious nonsense’ ydynt bron i gyd. Y mae’r cameos o bob un o’r personiaid yn werthfawr, ac yn tanlinellu eu cyfraniad – cyfraniad a achubwyd rhag cael ei esgeuluso yn llwyr, diolch i waith rhai megis R. T. Jenkins, Bedwyr Lewis Jones a Mari Ellis ei hun. Nid dynion yn unig a gaiff sylw, ac mae sôn am ferched megis Angharad Llwyd a Mair Darowen, dwy a dderbyniwyd i’r Orsedd yng Ngheri yn 1821. Trist fodd bynnag yw’r frawddeg ar ddiwedd yr ymdriniaeth: ‘Golygai eu hymroddiad i’r Gymraeg a’i diwylliant eu bod yn ffarwelio â phob gobaith am ddyrchafiad eglwysig.’ Ofnaf nad yw’r sefyllfa wedi newid llawer yn ein hoes ni!

Ysgrif nodedig arall ydyw ymdriniaeth hynod o werthfawr Trefor M. Owen, Tre-garth, o Llanwyno, William Thomas ‘Glanffrwd’, ysgrif a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1983, wedi iddi gael ei thraddodi gan yr awdur fel Darlith Goffa Henry Lewis. Gwyddom am ddawn Trefor M. Owen ers hanner can mlynedd. Fe’i prentisiwyd fel cymdeithasegwr a berthynai i’r to hynny a gyfrannodd yn ei blynyddoedd cynnar i gymdeithaseg yng Nghymru; criw a oedd yn cynnwys Emrys Jones (Llundain yn ddiweddarach), Alwyn D. Rees, David Jenkins (Aber-porth) i enwi ond y rhai a ddaw i’r cof. Cefais bleser arbennig o ddarllen, yn yr ysgrif hon, ei ymdriniaeth o le’r hunangofiant a’r llyfr atgofion, gan drafod y ffin amhendant sydd rhwng y ddau. Byddai’n dda o beth i’r rhai hynny sy’n ysgrifennu hunangofiannau’r dyddiau hyn ddarllen a chnoi cil uwchben tudalen 127. Dywed, ‘Yn wir, troi’r mewnblyg yn allblyg ydyw hanes yr hunan gofiannydd.’ Bu Trefor M. Owen yn gyfrifol am roi Cwm Eithin, cyfrol Hugh Evans, Lerpwl (1854 – 1934) yn ei chyd-destun priodol, gan ddangos i ni ei gwir werth. Mae’n llwyddo i ailadrodd y gamp yn ei ymdriniaeth o glasur Glanffrwd, mewn ysgrif ardderchog sydd yn goron ar gyfrol ragorol.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

A Warrior's Tale - Dai Smith

Ymlaen >

Straeon Gwerin Ardal Eryri - J.O. Huws