Ty Bernarda Alba (Federico García Lorca; addasiad Mererid Hopwood)
Theatr Genedlaethol Cymru
Sherman Cymru, Caerdydd
Yn rhifyn Mai o Barn, dyfynnodd Lowri W. Williams farn sylwebydd mai ‘[c]yfleu gwir angerdd a theimladau oesol y ddynol ryw’ oedd swyddogaeth y theatr i’r dramodydd Federico García Lorca. Yn gynharach eleni, gwelwyd dau gwmni theatr yng Nghymru o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd yn cynnig dehongliad o La Casa de Bernarda Alba, o bosib drama enwoca’r Sbaenwr, am deyrn o fam sy’n gormesu ei phum merch. Ymgartrefodd Theatr Peña – cwmni newydd sbon danlli o ferched sy’n ennill bywoliaeth ym myd y ddrama a’r theatr – yng Nghasnewydd am wythnos ddechrau mis Chwefror, gan lwyfannu cyfieithiad Saesneg yr Athro Gwynne Edwards (awdur y sylw uchod am waith Lorca fel mae’n digwydd) a gwelwyd y Theatr Genedlaethol yn mentro cynhyrchu addasiad Cymraeg y Prifardd Mererid Hopwood o’r ddrama.
Yn ddiddorol, roedd Christine Pritchard a Betsan Llwyd yn actio yn y ddau gynhyrchiad, y gyntaf yn portreadu Poncia yn y cynhyrchiad Saesneg, a’r ail wedi ymgymryd â’r dasg honno yn y cynhyrchiad Cymraeg. Roedd perfformiadau’r ddwy’n feistrolgar, ac yn wir gellid dweud yr un modd am y ddau gast fel ei gilydd, yn arbennig felly Carys Eleri yn y cynhyrchiad Cymraeg, ond roedd perfformiad cynnil Eiry Thomas yn y fersiwn Saesneg yn un i ryfeddu ato. Portread Olwen Rees o Maria Josefa yng nghynyrchiad Theatr Peña oedd prif ffynhonnell ysgafnder y cynhyrchiad hwnnw, ond roedd cynnyrch y Theatr Genedlaethol yn llawer mwy ffraeth. Yn wir un o brif nodweddion y perfformiad hwnnw oedd y ffaith fod y gynulleidfa’n g’lanna chwerthin yn gyson drwyddo.
Gwahaniaeth arall rhwng y ddau gynhyrchiad dan sylw oedd y ffaith fod Theatr Peña wedi cadw’n driw iawn i naws Sbaenaidd y gwaith gwreiddiol, a chynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn llawer mwy Cymreig ei ddimensiwn. Amlygwyd hynny yn natur y gerddoriaeth a glywyd drwy gydol y cynyrchiadau. Roedd cyfraniad Buddug Verona a’r gitarydd Paula Gardiner yn cyfleu’r awyrgylch Sbaenaidd i’r dim yng Nghasnewydd, ond roedd gwaith Conor Linehan yng Nghaerdydd yn llawer mwy Cymreig. Ond tanlinella hyn wahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau lwyfaniad. Cyfieithiad o waith Lorca a gafwyd gan Theatr Peña, ond addasiad oedd yr hyn a gynigiwyd gan y Theatr Genedlaethol, ac mae hyn yn ystyriaeth gwbl allweddol wrth ddadansoddi’r ddau gynhyrchiad. Er gwaetha’r ffaith fod rhywun yn teimlo weithiau nad oedd y naws hwyliog yn fersiwn y Theatr Genedlaethol yn taro deuddeg bob tro, ac nad oedd y pwyslais hwnnw efallai’n gwbl gyson â deunydd gwreiddiol Lorca, roedd yn sicr yn cynnal y diddordeb, ac roedd y cymeriadau’n rhai yr oeddem yn medru uniaethu a chydymdeimlo â hwy.
Cyfeiriodd Lowri Williams at y ffaith nad oedd y diweddar Athro Gareth Alban Davies yn rhy obeithiol ynglyn â rhagolygon Lorca i barhau fel dramodydd adnabyddus a pherthnasol i’r gynulleidfa fodern a chyfoes. Fodd bynnag, awgyma’r ddau gynhyrchiad diweddaraf hyn mai di-sail oedd pryderon yr Athro Davies. Am resymau pur wahanol, diddanwyd cynulleidfaoedd yng Nghasnewydd a Chaerdydd fel ei gilydd. Teg yw dweud bod arlwy Theatr Peña efallai wedi apelio mwy at y gynulleidfa fwy traddodiadol a cheidwadol byd y ddrama. Ond roedd arlwy’r Theatr Genedlaethol yr un mor ddeniadol a safonol yn ei ffordd ei hun, a rhaid derbyn hawl a rhyddid yr awdur a’r gyfarwyddwraig i gynnig amrywiad ar y deunydd gwreiddiol. Roedd y ddau gynhyrchiad fel ei gilydd yn tystio i ddawn ddiamheuol Lorca fel dramodydd, a’i allu i gyfleu rhai o deimladau a dyheadau dyfnaf dynoliaeth yn gyffredinol, ac i fynd i’r afael â chwestiynau sy’n berthnasol i bob oes, mewn modd adloniadol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
