Aeth rhagor na thair canrif heibio ers dyddiau Ellis Wynne. Ac aeth tua’r un faint o amser heibio hefyd ers i San Steffan fynd ati ddiwethaf i gael gwared â Llefarydd Ty’r Cyffredin. Dyn o Sir Ddinbych oedd yr anffodusyn hwnnw, Syr John Trefor, yn 1696. Fo oedd y diwethaf, hynny yw, tan fis Mai 2009. Gorfodwyd Michael Martin naill ai i ymddiswyddo neu wynebu’r gwaradwydd o gael ei gicio allan o’i swydd. Hyll iawn yw’r modd y cafodd o ei lysenwi’n Gorbals Mick gan rai o Saeson snobyddlyd Llafur yn ogystal â’r gwrthbleidiau. Rhaid cydnabod, fodd bynnag, bod Martin, ar gychwyn yr helynt, wedi camddarllen y farn gyhoeddus yn llwyr.
Ond peidied neb â meddwl bod cael gwared â Llefarydd symol fel Michael Martin yn gyfystyr am eiliad â chael gwared hefyd â diwylliant pwdr a llwgr San Steffan. Pan fo rhywbeth mawr yn mynd o’i le, y duedd bob amser yw chwilio am fwch dihangol.
A dwi’n digwydd credu bod bwch dihangol gwirioneddol i’w gael y tro hwn. Ac nad Martin mo hwnnw. Er saled ydoedd. Does dim osgoi’r ffaith bod y diwylliant afiach o hawlio lwfansiau a threuliau afresymol wedi cychwyn yn nyddiau cynnar Margaret Thatcher wrth y llyw. A hithau wrthi’n chwys diferol yn dinistrio’r hen Brydain ddiwydiannol, sylweddolai nad peth doeth ar y pryd fyddai caniatáu’r codiad cyflog i aelodau seneddol yr oedd panel annibynnol wedi ei argymell. Ffordd dan din o wella byd yr aelodau heb i’r cyhoedd sylweddoli oedd y drefn lwfansau hael a ddyfeisiwyd.
Dydw i’n amau dim na wnaeth Thatcher erioed freuddwydio y byddai cymaint o aelodau yn godro’r system gyda’r fath arddeliad. Ond dyna fo, hi oedd yn mynnu nad oedd y fath beth â chymdeithas yn bod. Hi hyrwyddodd y gred mai ‘pawb drosto’i hun’ oedd yr unig egwyddor ddiegwyddor gwerth ei dilyn. Hi hefyd ddywedodd wrthan ni am roi ein ffydd yn y farchnad rydd. Ac fe wyddom ni i gyd bellach beth fu canlyniad hynny.
Wrth gwrs, fedrwn ni ddim beio Thatcher am haerllugrwydd llawer o’r treuliau a hawliwyd gan aelodau seneddol. Yn wir mae’n ymddangos y gellir cyhuddo rhai aelodau o fod wedi twyllo yn ystyr troseddol y gair. I’r mwyafrif llethol ohonom ni mae clirio ein morgais yn un o uchelfannau ein bywydau bach. Dydi meidrolion ddim yn anghofio’r rhyddhad o daflu ymaith y fath faich. Ydi’r aelodau hynny a barhaodd i hawlio lwfans ar forgais a gliriwyd flynyddoedd ynghynt yn disgwyl inni gredu eu bod nhw wedi anghofio?
Troseddau o’r fath sy’n anfaddeuol nid y £4.47 a hawliodd llefarydd Cymreig y Ceidwadwyr, Cheryl Gillan, am fwyd ci. Mae ci Ms.Gillan eisiau bwyd bob dydd o’r flwyddyn. Pe byddai’n arferiad ganddi ei fwydo ar draul y trethdalwyr, nid un bil am fwyd ci fyddai hi wedi ei gyflwyno. Llithriad oedd peth felly. Ond un a gipiai benawdau.
Profiad Elfyn Llwyd, dwi’n credu, sy’n cyfleu orau’r diwylliant twyllodrus a wreiddiodd yn San Steffan. Yn fuan ar ôl ei ethol yn 1992 cafodd ei alw i Swyddfa’r Ffioedd. Dywedwyd wrtho y dylai gofrestru ei gartref yn Llanuwchllyn fel ei ail gartref er mwyn iddo gael ymelwa’n llawn ar hynny. Pan wrthododd Elfyn, edrychodd y swyddog arno’n ddirmygus. Doedd yr Elffyn Clwyd dwl ’ma ddim wedi ei deall hi!
Beth sy’n hynod os nad unigryw ynglyn â’r bennod warthus hon yw bod y Llywodraeth a’r Wrthblaid cynddrwg â’i gilydd bob tamaid. Ofn llawer ohonom yw y gall dadrithiad dwfn yr etholwyr fod o fantais i’r BNP yn Lloegr. Mae pethau’n llai sinistr yng Nghymru.Yma, fel gwobr am beidio ymelwa’n ariannol, gallai Plaid Cymru elwa’n etholiadol.
Gorffennaf ar nodyn ysgafnach. Y Telegraph, wrth reswm, sydd wedi bod yn datgelu’r holl hanesion hyn am farusdra San Steffan. Mae gweld darllenwyr ffyddlon y Guardian yn ceisio cuddio eu copïau o’r Telegraph wedi gwneud imi wenu droeon yn ddiweddar.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
