‘Pamberi Zanu PF, Pamberi Mugabe!’ gwaeddai’r dorf yn unfrydol mewn rali wleidyddol ar gyrion Harare yn 1995. Gwyrodd y Tad Kennedy ataf a sibrwd yn fy nghlust, ‘Wyt ti ddim yn teimlo fel ’tasen ni ’nôl yn Almaen y 30’au?’
Affrican gwyn o dras Wyddelig oedd y diweddar Cyprian Kennedy, offeiriad Pabyddol a weinyddai i gymunedau gwledig Affricanaidd. Roedd o ymhlith yr uchaf ei barch yn y gymdeithas honno a gwr a lwyddodd i gymhwyso’r ffydd Babyddol at gredoau traddodiadol Affricanaidd. Wnes i ddim manteisio ar y gwahoddiad i ffilmio’r rali ond roedd y croeso’n gynnes wrth i ni eistedd i ginio efo’r penaethiaid wedyn. Gwlad efo un blaid wleidyddol yn unig o unrhyw arwyddocâd oedd Zimbabwe bryd hynny, cyn sefydlu’r MDC bedair blynedd yn ddiweddarach.
Fyddai yna ddim croeso i ddyn gwyn efo camera mewn rali Zanu PF ar ôl 1999 pan sefydlwyd y blaid sy’n bygwth disodli Robert Mugabe. Byddai Affrican du hyd yn oed yn peryglu ei einioes wrth fynd i’r fath rali oni bai fod ganddo gerdyn aelodaeth Zanu PF. Daeth yr MDC i fodolaeth ddwy flynedd ar ôl i Lafur Newydd ffurfio llywodraeth ym Mhrydain yn 1997. Tua’r un amser – yn anghyfleus – fe ddaeth hi’n bryd anrhydeddu cytundeb Lancaster House yn dilyn annibyniaeth Zimbabwe o ddwylo Prydain yn 1980.
Raison d’être y rhyfel annibyniaeth, heblaw am gadarnhau troedle’r Undeb Sofietaidd a Tsieina yn Affrica, oedd y tir. Pan ddaeth Cecil Rhodes a’i Pioneer Column i feddiannu Matabeleland a Mashonaland yn 1889 fe ddechreuon nhw ddosrannu’r tir ymhlith y Prydeinwyr. Nid unrhyw dir, ond y tir gorau a’r mwyaf ffrwythlon. Gyrrwyd yr Affricaniaid brodorol i fyw mewn cymunedau ar y tir salaf. Cyfeiria fy ngwraig, sy’n perthyn i genedl yr Ndbele, at gartref fy nheulu yng nghyfraith fel y ‘reserves’. Buan y deallais mai dyma oedd term y coloneiddwyr Prydeinig am y cymunedau yr oedden nhw wedi eu creu i’r brodorion, er mwyn cadw’r tiroedd gorau iddyn nhw eu hunain, sef ‘reservations’ fel yn hanes brodorion cynhenid America.
A rhag i ni feddwl fod moesau’r Cymry uwchlaw unrhyw reibio cyfoeth ym Mashonaland a Matabeleland, mae yna ddyddiaduron Cymraeg gan aelod o dîm Cecil Rhodes sy’n ymffrostio yn ei anturiaethau wrth chwilio am aur i’r Ymerodraeth Brydeinig. Meddai William Griffith o’r Felinheli wrth ysgrifennu at ei gyd-8Gymry o’r ‘Cyfandir Tywyll’ yn 1895: ‘Os dangosem mewn unrhyw fodd fod arnom ofn y dyn du byddai yn amhosibl byw gydag ef... Rhaid cael y llaw uchaf arno beth bynnag fo’r gost... Bu raid i mi roi curfa go sownd i ambell un.’
Ymhen ugain mlynedd ar ôl sefydlu Zimbabwe fel gwlad annibynnol, yn unol â chytundeb Lancaster House, daeth Robert Mugabe, â’i gap yn ei law, i Lundain i ofyn am arian i brynu’r tir yn ôl oddi wrth y ffermwyr gwyn, llawer ohonyn nhw’n ddisgynyddion y meddianwyr tir gwreiddiol, a llawer ohonyn nhw efo’r un agwedd â’u cyndeidiau tuag at yr Affricaniaid du. Rhyw £80 miliwn fyddai’r gôst o brynu tir y ffermwyr gwyn, llawer llai na chyllideb flynyddol S4C – os ydi hynna’n cynnig rhyw fath o bersbectif.
Chafodd yr Arlywydd fawr o groeso gan y Prif Weinidog. Gyrrwyd llythyr at Mugabe gan Claire Short yn dweud nad y nhw oedd yn gyfrifol am weithgareddau Cecil Rhodes. Plaid newydd oedd Llafur, meddai, gyda pholisi tramor egwyddorol. Honiad eironig iawn o ystyried beth oedd i ddilyn yn fuan wedyn yn Irac. Wrth gwrs, un o’r rhesymau pam na allai Llywodraeth Blair ddelio gyda Mugabe oedd bod dwylo’r unben yn diferu o waed. Ymosododd ar genedl yr Ndbele yn Matabeleland a lladd hyd at 20,000 o ddilynwyr ei wrthwynebwr gwleidyddol, Joshua Nkomo, yn ystod y 1980au. Gelwir y drosedd yma yn ‘Gukurahundi’ ar ôl enw ymgyrch filwrol Mugabe. Gair Shona ydi Gukurahundi a’i ystyr ydi ‘y gawod sy’n golchi ymaith y mân us cyn glawogydd y gwanwyn’.
Gyda chymorth parod Gogledd Corea ffurfiodd Mugabe gatrawd arbennig o’r enw ‘5 Brigade’. Roedden nhw’n wahanol i bob catrawd arall o’r fyddin gydag arfau arbennig a’u tonfedd radio ei hunain. Roedd y 5 Brigade yn uniongyrchol atebol i Mugabe ei hun. Yn ei gynorthwyo yn ei dasg o ‘olchi ymaith y mân us’ yn Matabeleland roedd ei gefnder Perence Shiri, pennaeth y Llu Awyr, ac Emmerson Mangagwa, pennaeth gwasanaeth cudd y CIO. Dau ffigwr amlwg yn Llywodraeth bresennol Zimbabwe yw y rhain, a dau sy’n gwaredu rhag cael eu hanfon i’r Hague. Cadw Zanu PF mewn grym ar unrhyw gost yw eu nod rhag colli eu hysbail a chael eu herlid am droseddau yn erbyn dynoliaeth.
Distaw iawn oedd llywodraeth Margaret Thatcher ynglyn â Gukurahundi a doedd yna ddim adroddiadau yn y wasg Brydeinig. Mae’r ffaith i Brydain anrhydeddu Robert Mugabe’n farchog yn 1994 am ‘ei gyfraniad pwysig i’r berthynas rhwng Zimbabwe a Phrydain’ yn awgrymu real politik ar ei waethaf. Camarweiniol iawn oedd yr argraff a roddai Mugabe i’r byd o lywodraeth gyfrifol. Roedden nhw i gyd â’u trwynau yn y cafn. (Ymddengys bellach nad oes gan wleidyddion Zanu PF fonopoli ar bluo eu nythod eu hunain!)
Mae gan Mugabe berthynas cas-a-chariad tuag at Brydain. Ar y naill law mae o’n edmygu’r diwylliant Seisnig gan wisgo siwtiau Saville Row a gwylio criced. Ar y llaw arall mae o’n ei gasáu: ‘Fedrwch chi byth argyhoeddi Sais eich bod chi cystal ag o, byth bythoedd,’ meddai. Ac, mewn gwirionedd, dyma sydd wrth wraidd problem Zimbabwe heddiw.
Ers dyddiau Cecil Rhodes mae’r coloneiddwyr wedi gwrthod parchu’r diwylliant a’r ieithoedd brodorol. Wrth deithio drwy Mashonaland a Matabeleland ar ran Cecil Rhodes i chwilio am aur mae’r anturiaethwr William Griffith yn rhyfeddu at ‘ofergoel’ y brodorion. Dyw’r agwedd yma ymhlith Gorllewinwyr wedi newid fawr ers hynny. Does yna ddim amgyffred fod y goruwchnaturiol yn fyw iawn yn y diwylliant Affricanaidd ac yn elfen gref o’r diwylliant.
Yn 2007 cafwyd enghraifft o gryfder y gred yma pan honnodd gwraig hysbys o’r enw Rotina Mavhunga fod ganddi’r gallu goruwchnaturiol i dynnu Diesel o graig trwy rym dewiniaeth. Roedd y wyrth yma i’w gweld yn nhref Chinhoyi, un o lefydd ysbrydol cryfaf Zimbabwe. Wrth i’r ddewines daro’r graig gyda’i ffon hud ffrydiai’r tanwydd allan ohoni. Edrychai fel petai problemau tanwydd Zimbabwe ar ben, a chymaint oedd ffydd y Llywodraeth yn y Diesel gwyrthiol nes iddyn nhw wobrwyo’r ddewines yn hael.
Anfonwyd timau o uchel swyddogion i ryfeddu at y ffrwd wyrthiol. Yn eu plith roedd y Gweinidog Diogelwch, Didymus Mutasa; y Gweinidog Amddiffyn, Sydney Sekeramayi; y Gweinidog Materion Cartref, Kembo Mohadi; y Gweinidog Ynni, Mike Nyambuya; y Gweinidog Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Olivia Muchena; a Gweinidog y Mwyngloddiau, Amos Midzi. Ond roedd Rotina wedi eu twyllo nhw i gyd. Cael hyd i hen danc o Ddiesel ar ôl y rhyfel annibyniaeth a wnaeth y ddewines, a rhedeg pibell ohono at y graig. Wrth iddi daro’r graig gyda’i hudlath roedd yna foi bach yn y llwyni yn agor tap i gyflawni’r ‘wyrth’. Gyda chred aelodau o’r Llywodraeth mewn pwerau o’r fath mae’n rhaid addasu’r meddwl yn sylweddol wrth eistedd wrth y bwrdd gwleidyddol.
Profiad diddorol y bore ’ma oedd cael sgwrs efo dwy wraig sy’n cynrychioli’r ddau begwn diwylliannol yn hanes Zimbabwe. Mae’r naill yn ddisgynnydd un o arweinwyr y Chimurenga (gwrthryfel) cyntaf yn erbyn y coloneiddwyr Prydeinig. Mae’r llall yn wraig a fu’n gweithio i wasanaeth diogelwch Ian Smith. Roedd y ddwy sgwrs o fewn ychydig oriau i’w gilydd ar Ynys Môn. Chwerw iawn oedd Julie (nid ei henw iawn) a’i mab John a fu’n filwr ym myddin Smith. Mynnai gyfeirio at Zimbabwe fel Rhodesia, a Salisbury ydi Harare iddi hi o hyd. Fe fu hi am gyfnod yn gweithio i’r Llywodraeth newydd o dan Robert Mugabe. Roedd ei dyletswyddau yn golygu mynychu State House, gorseddfa’r unben. Roedd hi bob amser yn cario dryll .38 Special. Mae hi’n meddwl o hyd beth petai hi wedi manteisio ar ei chyfle!
Ychydig oriau ynghynt, roeddwn yn ffilmio defod ysbrydol ar un o draethau Môn yng nghwmni un o ddisgynyddion uniongyrchol Ambuya Nehanda, arweinydd ysbrydol y Chimurenga cyntaf ac un a ddienyddwyd gan y Prydeinwyr yn 1898. Mae hi ymhlith y rhai a dderbyniodd dir yn sgil ymgyrch Mugabe ac mae ganddi gynlluniau positif ar gyfer ei ddatblygu. Wrth ofyn ei barn ynglyn â thranc y ffermwyr gwyn, ei hateb oedd: ‘Beth am yr hyn a wnaethpwyd i ni gan y coloneiddwyr?’ Gofynnais i Julie a oedd hi’n gweld unrhyw obaith i’r sefyllfa wella yn Zimbabwe o dan y llywodraeth unedig newydd. Atebodd hithau: ‘Jeez, it’ll take a hundred years!’
Mae’r awdur yn ymchwilio i hanes yr anturiaethwr William Griffith ac yn gweithio ar gyfres o ffilmiau efo’r gantores Zimbabweaidd Stella Chiweshe.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
