Thema dywyll Thema golau

Steddfod ar y Mall

Y National Mall, Washington, dan haul pell Tachwedd. Cofio’r miloedd yno, yn sefyll yn yr oerni, yn dystion i seremoni sefydlu Barack Obama?

Yr un rodfa eang eto, y tro hwn yng ngwres canol haf, a’r lle yn ymdebygu i Steddfod. Mae pebyll gwynion yno dros arwynebedd cymaint â phedwar cae rygbi, a phobl yn tyrru i weld arddangosfeydd, i wrando ar gerddoriaeth a pherfformwyr. Wrth graffu a nesu at y torfeydd, mae’r ymdeimlad yma yn cryfhau o fod ar dir a daear Cymru. Oes, wir, mae ’na Gymraeg i’w glywed, a – ddim Ifor ap Glyn ydi hwnna? A dacw Mary Lloyd Jones! A be mae Twm Morys yn da yma?

Na, tydi Prifwyl y Bala ddim wedi ei thrawsblannu i Washington DC, ond mae yma wyl serch hynny, ac un Gymreig iawn ydi hi hefyd. Neu fydd hi, oherwydd am ddeg diwrnod yn niwedd Mehefin hyd 5 Gorffennaf bydd Cymru yn llwyfannu ei bywyd diwylliannol i gynulleidfa o dros filiwn o ymwelwyr Americanaidd ar ‘ardd ffrynt’ eu prifddinas. Croeso i’r Wales Smithsonian Cymru 2009!

Yno ar wahoddiad y mae ein hartistiaid a’n crefftwyr a’n beirdd a’n cantorion, i arddangos eu doniau a’u cynnyrch Cymreig, yn serameg a thecstilau a bwydydd a blodau. Bob blwyddyn mae Canolfan y Smithsonian dros Fywyd Gwerin a Threftadaeth Ddiwylliannol, sef uned ymchwil ac addysgol Sefydliad Smithsonian, wedi trefnu Gwyl Bywyd Gwerin allan yn yr awyr agored ar y Mall. Y llynedd, tro Bhutan oedd hi. Eleni, Cymru.

Sut brofiad oedd paratoi ar gyfer y fath dasg anferth o geisio cyfleu diwylliant Cymru i wlad estron,  tybed? Holais Angharad Pearce-Jones, y gof a’r artist a gafodd y gwaith o’i chontractio i drefnu’r gwaith gweledol yr ochr yma i’r dwr.

      ‘Mae syniad yr Americanwyr o be maen nhw eisiau,’ meddai, ‘ yn dra gwahanol i be ydan ni eisiau ei wneud. Mae eu trefniadau nhw’n dda, ond mae eu hagwedd nhw wedi creu tensiynau ar brydiau.

       ‘O ran celfyddyd, mae ganddyn nhw ryw syniad o be ddylem ni ei arddangos, sef y pethau traddodiadol – llwyau caru ac yn y blaen, pethau olde worlde “cutesy”.

       ‘Wel, ’dan ni fel artistiaid o Gymry yn andros o falch o’n traddodiadau, ond be ’dan ni’n wneud ydi defnyddio’r “traddodiadol”, y deunyddiau traddodiadol fel llechi, ond rhoi twist arnyn nhw i greu celfyddyd gyfoes.’

Enghraifft o hyn ydi Christine Mills (gw. Barn Chwefror 2009) a Carwyn Evans (Barn Mawrth 2009), sy’n tynnu ar eu cefndir amaethyddol ond yn creu mewn diwyg cwbl gyfoes. Bydd Lowri Davies, gwraig Carwyn, yno gyda’i gwaith serameg, Howard Bowcott o Flaenau Ffestiniog gyda’i gerfluniau llechi (gyda Gai Toms yn chwarae seiloffon ar un ohonyn nhw) a Cefin Burgess gyda’i decstilau. Dwy fenter fasnachol sy’n rhoi tro cyfoes i’w cynnyrch ydi cwmni Melin Wlân Tregwynt a Chrochendy Ewenni , lle mae Eifion Griffiths ar y naill law a Caitlin Jenkins ar y llall yn dal i gynhyrchu ar hyd y llinellau traddodiadol ond eto yn creu eu celfyddydwaith eu hunain sy’n gyfoes a chyffrous.

Yr argraff a gaf i ydi fod curadur y Smithsonian, Betty Belanus, wedi bod yn brysur drybeilig ers dwy flynedd yn rhoi hyn i gyd ar waith, ynghyd â swyddogion o’r Cynulliad – Ifona Deeley, Ceri Jones a  Gwenno Jones. (Mae’r Cynulliad yn rhannol ariannu cyfraniad Cymru i’r wyl.) Ond mae’r egni creadigol sy’n tasgu o gwmpas Angharad yn mynd â ’ngwynt wrth iddi egluro ei threfniadau – dyma’r tro cyntaf i unrhyw un o’r gwledydd a wahoddwyd i gymryd rhan gael Cynllunydd Safle, ac Angharad ydi honno.

       ‘’Dan ni eisiau rhoi cymaint i mewn i’r wyl a fedrwn ni,’ meddai Angharad, ‘er mwyn creu cymaint o argraff â phosib.’

Ond sut wyt ti’n dod i ben â’r holl waith, Angharad? Mae o’n swnio fel cur pen i mi. Dim ond ers Mis Ionawr rwyt ti wrthi!

     ‘Dw i wedi rhannu’r gwaith allan,’ meddai’n llawen. ‘Mae gen i seiri a phaentwyr a walwyr –‘

Walwyr?

Ie, walwyr. Cyfraniad celfyddydol Angharad ei hun i’r sioe ydi gwaith gosod (installation) ar ffurf cyfres o ffensys 500 troedfedd o hyd, fydd yn creu ffin rhwng y Mall a’r coed, ac fydd fel codi darn o Gymru a’i osod ar dir America.

      ‘Mae’n fy nharo i,’ meddai, ‘fod Cymru’n wlad sydd wedi ei rhannu’n ddarnau bach gan gloddiau a ffensys – sy’n wahanol i America. Mae’n siwr mai ein dull ni o ffermio sy’n gyfrifol am hyn, y mân dyddynnod a’r angen i gadw defaid rhag crwydro. Felly mae gynnon ni gloddiau cerrig neu waliau sych, a chamfa a giât mochyn. Sgen yr Americanwyr ddim o’r rhain. Wedyn mae gynnon ni ffensys loop top – dydi‘r rhain ddim yn America o gwbwl ond maen nhw rownd iardiau ysgolion yma. Mae crawiau yn bethau cwbwl Gymreig ac i’w cael yn ardaloedd y chwareli llechi. Wedyn mae ffensys stâd lle roedd plasdy, ac mae stock fencing yn derfynau i anifeiliaid. Mae’r elfennau yma i gyd yn cael eu cynrychioli yn y gwaith fydd yn cael ei osod lawr ochr y Mall. A bydd giât, eto o ’ngwaith fy hun, ar agor i greu mynedfa o dan y pyst rygbi.’

Ond, fel popeth arall, bydd thema yn rhedeg trwy’r cyfan, a’r gair hud ydi ‘Cynaladwyedd’. Roedd y Cynulliad eisiau gwthio hyn, mae’n debyg, a brolia eu gwefan mai nhw yw  un o’r ychydig sefydliadau yn y byd lle yr ysgrifennwyd ‘datblygu cynaliadwy’ i mewn i’w cyfansoddiad. Felly dyna egluro presenoldeb Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth, yn yr wyl. Dyna pam y bydd ailgylchu ac ailddefnyddio yn cael rhan mor amlwg. Ydi codi ty unnos yn enghraifft o hyn, tybed? Dyna fydd Coed Cymru yn ei wneud yno. A bydd cwmni defnyddiau adeiladu cynaliadwy Calch Ty Mawr o Aberhonddu yn dangos dulliau adeiladu – ia, dyna chi – cynaliadwy. Ac os am arwain y ffordd tuag at ddodrefnu tai’r dyfodol, wel dresel blastig amdani. Bydd saith o’r rhain yno, yn y pebyll arddangos, wedi eu gwneud o blastig ailgylchiedig. Crefftwaith 18fed ganrif Sain Ffagan yn cyfarfod fflat-pacs IKEA.

Os oes awgrym o sawr PR ar y cyfan, mae Angharad yn benderfynol o wneud y peth yn hwyl.    

        ‘Ddim rhyw “ffair”, yn llawn pebyll gwyn yn unig fydd yma,’ meddai,’ond rhywbeth stylish, datganiad, sy’n edrych yn wirioneddol dda.  Ac wrth inni baratoi ar gyfer cynulleidfa o Americanwyr fydd eisiau cael eu diddanu a chymryd rhan yn yr hwyl, bydd rhaid i ninnau fod yn barod i ymateb iddyn nhw ac ateb eu cwestiynau!’

Yn ôl gwefan y Cynulliad, mae’r wyl ‘yn cynnig cyfle sylweddol i godi proffil ac ymwybyddiaeth am Gymru gyda chynulleidfa o’r Unol Daleithiau yn bennaf’, gan ‘ddarparu llwyfan… i sicrhau’r manteision mwyaf i Gymru’ ac yn ‘ysgogi cysylltiadau newydd’.  Ar wefan y Smithsonian ei hun gwelwn ogwydd ychydig yn wahanol ar y sioe, gyda ‘Wales is known as “The Land of Song”’ – ydyn, mae Parti Cut Lloi ac Only Men Aloud! yno, i ddangos pa mor eang yw ein chwaeth gerddorol, ynghyd â’r Cwmni Opera Cenedlaethol, Catrin Finch a Gareth Bonello. Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yno, ‘on hand to help you trace your Welsh roots’ . Yn ddiddorol iawn, ‘Coracle maker Karl Chattington will share with visitors the traditional craft of making these small walnut-shaped boats’, sy’n codi’r cwestiwn pryd welais i gyryglwyr yn gweithio ar Afon Tywi ddiwethaf. Ac yna, y gwahoddiad cynnes i’r ymwelwyr – ‘As you wander around the site,you’ll get a real feel for different aspects of life in Wales through meeting and talking to real Welsh people with real Welsh jobs’ (gwneud cyryglau, efallai?) ‘and you can ask them about their work’. Dyna fo, rhowch eich bys allan, cyffyrddwch nhw! Wna’n nhw ddim brathu – maen nhw’n hollol ddof.  

Wrth fynd o gwmpas ein gwaith bob dydd, wrth greu ein hamgylchfyd a chanu ein caneuon, rydan ni’n gallu bod yn ni ein hunain. Ond mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd pan gamwn ni allan o gynefin ein gwlad ein hunain i drio gwerthu ein diwylliant i’r gwledydd mawr. Mae fel petasem yn gwneud sioe ohonom ein hunain, fel y jwg ar y seld, ac yn bychanu yr union werthoedd rydan ni’n trio eu trysori.

Dim rhyfedd fod Angharad mor benderfynol o ddangos bod ’na wreichionyn o fywyd ynom o hyd, a bod ein hegni creadigol yn dal yn medru bod yn dân ysol.

Wales Smithsonian Cymru 2009, Washington DC, 24-28 Mehefin a 1-5 Gorffennaf.

Gwybodaeth pellach ar wefannau wales.com/smithsonian a walesworldnation.com

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dylanwad y Brawd Hwdini

Ymlaen >

Cofiwch Dryweryn – Oes Angen?