Thema dywyll Thema golau

Dylanwad y Brawd Hwdini

Yn 2003 rhyddhawyd yr albwm amlgyfrannog Y Brawd Hwdini. Casgliad o draciau Meic Stevens oedd ar yr albwm a’r rheini wedi’u recordio gan rai o artistiaid Cymraeg amlycaf y cyfnod diweddar, yn eu plith Melys, Mim Twm Llai, Llwybr Llaethog a Neil Rosser. Dathliad o gyfraniad unigolyn i ddiwylliant cerddorol Cymru oedd yr albwm yn bennaf. Ond roedd hefyd yn gydnabyddiaeth o rywbeth dyfnach. Mae pob ffan yn gwybod y byddai hanes cerddoriaeth bop Gymraeg wedi bod yn llawer tlotach heb Meic Stevens. Yn wir, ei gerddoriaeth ef sydd wedi siapio’r sîn o’r cychwyn cyntaf.

Does dim amheuaeth nad yw agwedd Stevens tuag at berfformio wedi dylanwadu ar sawl artist Cymraeg. Er enghraifft, gall rhywun weld fflachiadau o naws emosiynol Stevens ym mherfformiadau Alun Tan Lan, artist arall i gynnig fersiwn newydd o un o’i ganeuon yn ddiweddar, ‘Cwm y Pren Helyg’. Ac mae’r Gentle Good, sef Gareth Bonello, y canwr a’r cyfansoddwr o Gaerdydd, yn anelu at greu’r un math o agosatrwydd gyda’r gynulleidfa yn ystod ei berfformiadau.

Ond efallai mai agwedd Stevens tuag at ddwyieithrwydd fu ei ddylanwad pennaf ar yr artistiaid hynny a’i dilynodd.

Mae lle i ddadlau mai mater a ddaeth i’r amlwg yn bennaf ystod y pymtheg mlynedd diwethaf yw dwyieithrwydd. Hynny yw fe ddaeth yn fater o bwys yn sgil llwyddiant y ‘pump mawr’ ar y llwyfan Eingl-Americanaidd. Ac yn sicr, roedd ymateb Catatonia, y Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci – a’u cyfoeswyr Saesneg eu hiaith, y Stereophonics a’r Manic Street Preachers – i’w statws fel sêr pop y tu hwnt i Gymru yn ganolog i ymagweddu artistiaid Cymraeg eu hiaith tuag at fater iaith eu caneuon.

Ond, a defnyddio ymadrodd Saesneg, bu dwyieithrwydd yn ‘eliffant yn yr ystafell’ erioed. Mewn byd perffaith dylai talent gerddorol esgor ar lwyddiant, ac o ran egwyddor ni ddylai cydnabyddiaeth o dalent rhywun ddibynnu ar ddelwedd, pryd a gwedd, neu iaith. Boed hynny fel ag y bo, mae achos Susan Boyle ar Britain’s Got Talent yn profi nad yn y goleuni gwâr hwnnw y mae pobl yn ymagweddu tuag at berfformwyr. Dyw hi ddim yn syndod, felly, fod Stevens wedi mynd trwy’r un broses o jyglo dwy iaith trwy gydol ei yrfa gynnar. Rhyddhawyd cwpwl o senglau ac EPau yn Saesneg ganddo, yn ogystal â’r LP chwedlonol Outlander yn 1970, cyn i’w gytundeb recordio gyda Warner ddod i ben gyda chaniatâd Stevens ei hun. Bu sôn ar sawl adeg yn y 1970au a’r 1980au cynnar am record Saesneg newydd, er nad ymddangosodd unrhyw beth. Ond, o ystyried, mae golwg dros hanes Stevens fel perfformiwr yn dangos dyfnder ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth Geltaidd erbyn hynny – amgylchedd cerddorol lle nad oedd unrhyw angen na rheswm dros droi i’r Saesneg. Treuliodd gyfnodau hirion yn y 1970au cynnar yn chwarae i gynulleidfaoedd gwerthfawrogol yn Llydaw a thu hwnt.

Mae bandiau megis y Super Furries, Gorky’s a Catatonia wedi dilyn sawl trywydd yn wyneb yr un dewis anodd ag a wynebodd Stevens – sef hwnnw rhwng llwyddiant mawr ar lwyfan bach neu lwyddiant cyfyngedig ar lwyfan mwy. Roedd Catatonia yn hapus i newid i’r Saesneg yn gyfan gwbl, fwy neu lai; darganfu Gorky’s ffyrdd o gyfuno’r ddwy iaith; ac wrth ryddhau Mwng (2001) ceisiodd y Super Furries neidio o un iaith i’r llall, a hynny, yn wir, gyda pheth llwyddiant. Mae natur y ddadl wedi newid ers hynny, gyda mwy a mwy o artistiaid yn canu yn y ddwy iaith am resymau creadigol. Ond, serch hynny, nid yw difrifoldeb y penderfyniad, na’r pwysau ar i artistiaid ei wneud, wedi newid. Dyma benbleth a fydd yn parhau i ddrysu artistiaid am flynyddoedd i ddod. Ond, ar droad y 1970au, dangosodd Stevens ei bod hi’n bosibl penderfynu o blaid yr iaith Gymraeg heb golli dim.

Ac, wrth gwrs, dylem ystyried pa fath o gymeriad oedd Stevens yn ystod y cyfnod hynod o gynhyrchiol hwn. Aeth ati i greu’r gerddoriaeth arloesol sydd i’w chlywed ar Gog (1977) yn erbyn cefndir o sesiynau meddw a phartïon gwyllt. Gair sydd yn codi yn nhudalennau ei ail gyfrol o hunangofiant yw ‘bohemaidd’, gair sydd yn disgrifio bywyd ar y ffin, yn cael ei fyw yn ôl rheolau gwahanol. Wel, da o beth felly fyddai mwy o fyw o’r fath: ni fyddai cerddoriaeth bop yn yr iaith Gymraeg wedi cyrraedd ein clustiau heblaw am weledigaeth pobl fel Stevens.

Wrth gwrs, Stevens fyddai’r cyntaf i gyfaddef na fu’r ffordd fohemaidd o fyw yn hawdd bob amser. Efallai ei bod hi’n gymhariaeth or-rwydd, ond gellir dadlau bod hanes Stevens yn efelychu hanes y sgrîn gerddorol yn ei chyflawnder. Fel drylliwr delwau’r byd pop, y mae’n sefyll ar ei ben ei hun. A beth arall yr ydym ni’n ei wneud wrth geisio creu sîn gerddorol annibynnol, heblaw am ddilyn yn ôl ei droed?

Fodd bynnag, nid yw hynny o angenrheidrwydd yn golygu bod angen i’r sîn fod yn ynysol neu blwyfol. Os yw gyrfa Meic Stevens – ei enwogrwydd yng nghylchoedd cerddorion y tu allan i Gymru, a’i statws y tu fewn – yn dweud unrhyw beth, y mae’n datgan ei bod hi’n bosibl i gerddoriaeth Gymraeg sefyll ar ei phen ei hun, ond mewn cysylltiad â gweddill y byd ar yr un pryd. Dyma wers Meic Stevens i fyd cerddoriaeth bop Gymraeg: nid ei ffordd ef yw’r unig ffordd i’w chymryd er mwyn sicrhau bod y sîn yn goroesi, ond dyma’r unig ffordd i sicrhau bod y sîn yn cynyddu, yn datblygu a thyfu.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Golwg ar wefan Golwg

Ymlaen >

Steddfod ar y Mall