Thema dywyll Thema golau

Merched Lloyd George a Ffion

Mae’n anodd peidio cymharu Ffion Jenkins, fel ag yr oedd, â Maggie Owen, a ddaeth yn Dame Margaret Lloyd George. Dwy Gymraes ifanc wedi eu codi, yn ddigon cysurus eu byd, ar aelwydydd gyda’r un cefndir enwadol. Y ddwy wedi priodi dynion a ddeuai’n amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth San Steffan. A’r ddwy, er cael eu hunain drwy eu priodasau yn troi yng nghanol cylchoedd movers and shakers amlycaf Llundain, eto yn llwyddo i dorri eu cwys eu hunain, a hynny gyda chryn dipyn o fedrusrwydd.

Ar y llaw arall, go brin y byddai’n deg tynnu gormod o gyffelybiaethau rhyngddynt. Gyda chan mlynedd yn eu gwahanu mae’n anorfod bod golygon y ddwy tuag at eu dyfodol yn gwbl wahanol. 

Deuai un o dref fechan Gymreig yng ngogledd Cymru lle roedd pawb yn nabod ei gilydd, a’r llall o ddinas gosmopolitaidd lle mae’r Gymraeg wedi ei thaenellu fel siwgwr yma a thraw. Cricieth hamddenol oedd byd Maggie Owen, a phan ddaeth yn bryd codi gwreiddiau fe’i cafodd yn anodd onid yn amhosib gwneud hynny yn llwyr. Cymaint haws oedd hi i Ffion Jenkins, yng Nghaerdydd ddiwedd yr 20g., i gael golwg ar y byd mawr oddi allan a chamu iddo’n hyderus pan ddeuai’r cyfle. Tra y gofalodd rhieni Maggie am rywfaint o addysg i’w merch mewn ysgol breswyl, ni chymharai hynny â’r llu manteision a oedd ar gael ganrif yn ddiweddarach i ferch fel Ffion. Yn dilyn addysg Gymraeg yn y brifddinas graddiodd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen ac ar ôl cwblhau MPhil mewn Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru roedd y llwybr yn agored iddi ganlyn gyrfa. A’r yrfa honno, un gwas sifil ‘trac cyflym’ yn y Swyddfa Gymreig fel Ysgrifennydd Preifat i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a arweiniodd, yn 1997, at ei phriodas â William Hague, AS Richmond, Swydd Efrog, arweinydd newydd yr wrthblaid yn Nhy’r Cyffredin. 

Ers hynny symudodd Ffion Hague i fyd busnes a ‘phen-fachu’ – bathiad ei chyfaill Stifyn Parri, meddai, am head-hunting. Mae ei CV yn frith o swyddi cyfarwyddo ar y lefel uchaf ac ar hyn o bryd mae hi’n dal swyddi asesiadau bwrdd ac ar baneli mentora ac ymgynghoriaeth megis un Barclays Wealth. Ar ben hyn derbyniodd, dros y blynyddoedd, gyfrifoldebau ym myd elusennau fel y Cyngor Prydeinig ac Action on Addiction; yn awr mae hi’n un o ymddiriedolwyr yr ‘Outward Bound’ ac yn aelod ar fwrdd ymgynghorol yr LSO a Chwmni Opera Cymru.

Mae hyn i gyd yn awgrymu bywyd llawn iawn, felly sut yn y byd y llwyddodd i ysgrifennu llyfr 600 tudalen yng nghanol ei phrysurdeb? 

‘Dw i’n gorfod bod yn ddisgybledig hyd eitha fy ngallu,’ meddai awdur The Pain and the Privilege, sydd newydd ymddangos mewn clawr meddal. ‘Mae pob wythnos a phob diwrnod yn wahanol – sy’n sialens!’

Mae Ffion Hague yn amlwg yn gweld yr amldasgio yma sy’n nodweddu ei bywyd fel rhywbeth Cymreig iawn: 

‘Dw i wedi tyfu mewn teulu, mewn cymdeithas, lle ’dan ni i gyd yn gwneud pedwar neu bump o bethau – Mam a Dad yn mynd allan i weithio, a gweithio yn y capel a chodi arian at y Steddfod. Ar hyd fy oes dw i wedi bod yn ymwneud ag elusennau a gwneud pethau yn ogystal â gweithio, a nawr mae ffitio’r sgwennu i mewn i fywyd busnes yn llawer haws gan ’mod i’n gallu dewis fy asesiadau a ffitio f’amserlen o ’nghwmpas i.’ 

Mam a Dad yw Myra ac Emyr Jenkins. Tiwtor Cymraeg oedd Myra Jenkins YH hyd ei hymddeoliad, ac Emyr Jenkins oedd Cyfarwyddwr proffesiynol cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol (1978–1993), ac yna Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru hyd ei ymddeoliad yntau yn 1998. Cefndir dinesig proffesiynol, felly (er bod gwreiddiau ei theulu yn y Canolbarth, lle y treuliai hafau ei phlentyndod), a ddim cymaint â hynny o naid pan briododd Ffion â William Hague. Yn rhinwedd ei amlygrwydd ef fel arweinydd y Blaid Geidwadol, daeth Ffion yn seren newydd yn ffurfafen ddi-fflach y Torïaid.

Ni chaf yr argraff fod pethau wedi bod yn hawdd iddi ar y dechrau. Cafodd priflythyren ei henw ei luosogi hyd syrffed, yn y dull blinderus Seisnig arferol o ddifrïo’r Gymraeg (a’r Cymry), a does dim dwywaith ei bod wedi dioddef gan ymyrraeth y math o newyddiaduraeth ymwthiol sy’n datguddio manylion bywyd pobl sydd yn y llifoleuadau. Gwgliwch enw Ffion Hague ac fe welwch bob math o erthyglau o gyfnod cynnar ei phriodas, rhai ohonynt yn cofnodi ei hanghysur wrth orfod ateb cwestiynau oedd yn tresmasu ar ei bywyd preifat. 

Mae’n dra thebygol iddi gau’r bylchau yn y muriau erbyn hyn, ac mae’n siwr fod gwersi wedi eu dysgu. Caiff ei phersona cyhoeddus ei reoli’n dynn iawn, a phan ofynnodd Barn iddi am gyfweliad roedd amodau: dim gwleidyddiaeth; dim cwestiynau personol, dim ond am ei gwaith. Efallai iddi dderbyn cyngor gan ei gwr, gwleidydd i’r carn – mewn cyfweliad i’r Guardian ym mis Mawrth eleni chafodd Decca Aitkenhead fawr o wybodaeth newydd allan o William Hague, dim sgwps newyddiadurol. Mae ef, wrth gwrs, wedi cael ail wynt ac ar y fainc flaen unwaith eto, a sôn y bydd swydd amlwg yn ei aros os/pan ddaw’r Torïaid yn ôl i rym.

Rydym ein dwy yn cyfarfod mewn gwesty eang yn y de, yn sgwrsio uwch coffi, te mint a Ty Nant. Mae gennyf awr i’w holi a gormod o gwestiynau. Mae blys arnaf ofyn iddi sut y teimlai pan orfu i’w gwr ymddiswyddo o fod yn arweinydd yr wrthblaid ’nôl yn 2001 – a hwythau siwr o fod â’u golygon ar Stryd Downing. Ymataliaf, a gofyn y cwestiwn amlwg nesaf: tybed, wrth i chi feddwl o ddifrif am wynebu byw yn Rhif 10, a sylweddoli bod ’na Gymraes arall wedi byw yno, na wnaethoch, bryd hynny, ddechrau ystyried bywyd Margaret Lloyd George?

‘Mi fedra i ddweud yn sicr nad oeddwn i’n meddwl felly,’ meddai, gyda gofal rhywun sy’n ymwybodol fod y recordydd llais ar y bwrdd o’i blaen, er mor fychan, yn mynd i serio pob un o’i geiriau ar ei gof. ‘Nid dyna oedd y cymhelliad i sgwennu’r llyfr. Fydda i ddim yn byw yn Rhif 10,  nac yn Downing Street, dw i ddim yn disgwyl. Ond,’– efallai mai dyma’r peth agosaf at gyfaddefiad a gaf – ‘roedd bod yn rhan fach o fywyd cyhoeddus felly yn gwneud i mi deimlo’n chwilfrydig iawn am sut wnaeth Dame Margaret y siwrnai o Fynydd Ednyfed i Rif 10, a’i wneud gyda chymaint o urddas, fel petai wedi ei geni i’r swydd. Ac mae gen i ryw ymwybyddiaeth pa mor anodd yw hi i fod yn y math yna o swydd, a dw i’n meddwl mai Dame Margaret oedd un o’r gwragedd mwyaf llwyddiannus yn Rhif 10 erioed. 

‘Mae a wnelo hynna lot â’i chefndir hi, mewn ffordd sydd ddim yn amlwg, achos mae pobl yn edrych ar gymdeithas fel haenau economaidd, ond dydyn nhw ddim yn meddwl felly yng Nghymru.’

Mae Ffion Hague yn adnabod ei phobl ei hun a phriodola lawer o’i hymdeimlad greddfol o sut yr oedd pethau yn oes Lloyd George i’w chefndir capel (mae hi’n parhau yn aelod yng Nghapel y Crwys, Caerdydd). Wrth ddarllen ei llyfr – ac fe’i cefais yn un anodd ei roi i lawr gan ei fod yn darllen fel nofel – roeddwn yn ymwybodol iawn mai Cymraes oedd yr awdur. Yn rhy aml o lawer caiff rhywun o’r tu allan i fywyd Cymru gamargraff o haenau cymdeithas Gymreig, gan dybio ei fod yr un fath ag un Lloegr. Ond mae’r gyfrol hon yn gosod teulu Maggie Owen yn eu cyd-destun i’r dim, fel amaethwyr a Methodistiaid uchel eu parch, arweinwyr ar Sul, gwyl a gwaith. Hanai’r teulu o linach Owain Gwynedd a gwyddent, wrth ffermio Mynydd Ednyfed Fawr uwchlaw’r dref, fod eu safle cymdeithasol hefyd uwchlaw teulu’r Georgeiaid, y Bedyddwyr Albanaidd rheini lawr yn Rhes Tynygrisiau! 

‘Mi roedd gan Dame Margaret,’ meddai Ffion Hague, ‘urddas a statws naturiol sy’n fwy o ran o’i diwylliant hi na statws o ran cyfoeth materol. Roedden nhw’n gymharol gefnog, ond tenantiaid oedden nhw. Mae dal y gwerthoedd gwahanol yma yn bwysig i mi.’ 

Mae ganddi hefyd ddealltwriaeth o’r berthynas oedd rhwng Dame Margaret a’i gwr, Lloyd George, un a sylfaenwyd ar yr un cefndir Cymreig. Ac meddai, dan chwerthin, ‘Mae’n dal yn sioc i rai pobl – doedd ganddyn nhw ddim syniad fod Lloyd George yn siarad Cymraeg!’

Doedd gan lawer o bobl, ar un adeg, ddim syniad fod gan ‘LlG’ feistres ychwaith, yr athrawes Frances Stevenson a ddaeth yn Ysgrifennydd Preifat iddo pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys – ar yr amod ei bod hefyd yn dod yn rhan annatod o’i fywyd personol. 

‘Fy mwriad i oedd sgwennu cofiant i Dame Margaret,’ meddai Ffion Hague, ‘ailafael ynddi hi, ei chyfraniad hi i stori Lloyd George – stori sydd ddim wedi cael ei dweud. A dangos hefyd pa mor greiddiol i fywyd Lloyd George oedd Margaret a Frances, yn eu ffyrdd gwahanol, a pha mor gryf oedden nhw fel merched. Roedden nhw’n gwneud rhai pethau oedd mor anodd, i ferched yn eu hoes: Margaret yn mynd allan i ymgyrchu’n wleidyddol; Frances wedyn yn mynd trwy’r holl affair mawr yma gyda Lloyd George, ond hefyd yn torri cwys newydd yn y gwasanaeth sifil. Mi oeddwn i’n Ysgrifennydd Preifat i aelod yn y Cabinet ac yn cymryd yn ganiataol y medrwn fod wedi cymryd y swydd yma. Ond, heb Frances – hi oedd y gyntaf i agor y drws yma i ferched. 

‘Mi welais fod y stori ddim yn gyflawn heb wneud Frances hefyd; wedi’r cyfan, hi oedd trydedd ochr y triongl am ddeng mlynedd ar hugain. Felly, y cam pellach oedd gwneud y merched i gyd. Mi oedd W.R.P. George [nai Lloyd George] yn gymaint o help – yn gysylltiad byw â’r gorffennol, ac yn fy annog i ddweud y stori lawn, a gan mai dyna oeddwn i wirioneddol eisiau ei wneud mi roedd o’n hwb mawr i mi i wybod bod rhywun oedd yn nabod y teulu mor dda, ac yn rhan o’r teulu, hefyd eisiau i’r stori ddod allan yn llawn.’      

Felly cawn hanes nain Lloyd George, a’i fam a’i chwaer, ei wraig a’i ferched, ei gariadon a’i feistres hirdymor. A llond dwrn o rai eraill yn rhan o’r fargen. Ond trwy eu hanes hwy daw Lloyd George ei hun yn fyw inni, nid y gwleidydd y tro hwn yn gymaint â’r dyn ei hun. Nid ei gryfderau ond ei wendidau.

Yn wahanol i Frances, a gadwai ddyddiadur manwl ac a gyhoeddodd ei hatgofion, dim ond llythyrau mewn casgliad llyfrgell sydd yna i gofnodi teimladau Margaret, a dyma un rheswm pam na chlywyd ei hochr hi o’r stori hyd yn hyn. Ac yma, rhaid i minnau ddatgan fy niddordeb. Fel ‘hogan o Griciath’ mae gen i gydymdeimlad mawr â Dame Margaret; roedd fy nheulu yn meddwl y byd ohoni. Pan godais y pwynt fod yna deimlad fod Dame Margaret wedi bod ar fai, i ryw raddau, am broblemau ei phriodas trwy fynnu aros yng Nghricieth, cefais ar ddeall nad oedd Ffion Hague am ei chollfarnu: 

‘Roedd hi’n anodd iddi. Roedd ganddi bedwar o blant dan ddeg oed, a dim ond stafell neu ddwy oedd ganddyn nhw yn Llundain tra yng Nghricieth roedd ganddyn nhw dy hyfryd, gweision a theulu ac awyr iach. Byddai unrhyw un wedi dymuno codi ei phlant yng Nghricieth yn hytrach na Llundain. A doedd gan Margaret ddim ffrindiau agos yno – roedden nhw’n mynd i Clapham Junction i’r capel ond roedd hwnna bellter o’r ty, a doedd hi ddim yn gyfarwydd â’r bywyd dinesig lle mae rhaid i chi deithio i bobman. Doedd dim arian ganddyn nhw, roedd hi’n unig iawn yno. Doeddwn i ddim yn synnu o gwbl ei bod yn aros yng Nghricieth. Wedyn roedd ganddi gariad at ei chynefin – roedd hi wedi ymserchu yn Eifionydd yn fwy nag oeddwn i wedi ei feddwl. 

‘Nawr, wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod sut gymeriad oedd Lloyd George, a doedd hi ddim yn saff i’w adael yn Llundain ar ei ben ei hun, ond doedd hi ddim yn gwybod hynny. Ond os oedd hi’n amau ei fod yn fflyrtio, wel fe ddaeth pwynt pan ddaeth hynny â hi i Lundain.’ 

Rhyw gymysgedd o edmygedd a pharch fu agwedd pobl Cricieth at Lloyd George am ddegawdau, gyda dogn go lew o’r halen hwnnw sy’n dod o wybod ei fod hefyd yn ‘un ohonon ni’. Ond dros y blynyddoedd, dadleua Ffion Hague, presenoldeb Dame Margaret yng Nghricieth a gadwodd enw da Lloyd George yn ddiogel, a’i sedd yn San Steffan. A phan gyhoeddwyd y cofiannau fesul un gan ei deulu roedd teimladau cymysg iawn yn yr ardal. Ond er yr holl dystiolaeth a ddarganfu Ffion Hague am luosowgrwydd gwyriadau Lloyd George oddi wrth ei addunedau priodasol, nid yw am ei gollfarnu yntau ychwaith: 

‘Mi oeddwn i’n gyfarwydd ag amlinelliad stori Lloyd George, felly doedd e ddim yn sioc ei fod wedi ymddwyn fel y gwnaeth e, ac a dweud y gwir fe gododd e yn fy marn i fel gwleidydd wrth i mi ymchwilio i’w hanes, achos dw i’n meddwl ein bod ni wedi colli gafael ar yr hyn gyflawnodd e. Ar y llaw arall, wrth gwrs, doeddwn i ddim yn edmygu y ffordd oedd e’n trin ei wragedd. Ond, heb wneud esgusodion drosto – roedd e’n ddisgwyliedig yn y cyfnod i ddynion o tier uchaf cymdeithas ymddwyn fel hyn, ac roedd y rhan fwyaf o gyd-aelodau Cabinet Lloyd George yn ymddwyn felly. Ond mi ddweda’i un peth – mi roedd e’n straight gyda’i ferched. Doedd e ddim yn un o’r dynion yma oedd yn dweud y byddai’n gadael ei wraig ac yna’n gwrthod – roedd y fargen yn glir, gyda phob meistres. Doedd e ddim yn mynd i gael ysgariad, roedd ei waith e’n dod gyntaf. A dwi’n meddwl bod hynna yn rhywbeth – roedd o’i blaid e, ond wrth gwrs roedd ei ymddygiad ar adegau yn ddigywilydd hollol.’

Na, nid yw Ffion Hague am fod rhy llawdrwm ar neb. Beth nesaf, felly – oes llyfr arall mewn golwg? Oes, mae’n debyg, ond nid yw’n rhydd i ddatgelu dim ar hyn o byd. Cafodd wahoddiadau lu i ddarlithio ar ferched Lloyd George, er, yn rhyfedd iawn, ddim unwaith yn Gymraeg. Yr hyn sy’n ei dwyn yn ôl i Gymru fwyaf y dyddiau hyn ydi paratoi rhaglen ar S4C, Dwy Wraig Lloyd George, fydd yn cynnwys cyfweliad â merch Frances, Jennifer Longford – y tro cyntaf iddi gael ei chyfweld ar deledu.

Yn y cyfamser, mae hi’n cymudo o Lundain i’w chartref yn Swydd Efrog, ardal y mae hi’n amlwg iawn wedi ymserchu ynddi: ‘Dw i wrth fy modd lan yna, ac mae pobol yn gofyn i mi, p’run sydd well gen i, Cymru neu Swydd Efrog, a dw i wastad yn dweud mai Swydd Efrog fyddai’r unig le yn Lloegr faswn i eisiau byw ynddo, ac maen nhw’n derbyn hynny!’ 

Daw’r sgwrs i ben ond nid heb un cyfeiriad gogleisiol ganddi at brif destun ein sgwrs: 

‘Mae’n anodd credu weithiau ’mod i ddim wedi cyfarfod Dame Margaret – mi roedd hi’n dipyn o ddynes. Ydych chi ddim yn meddwl ei bod yn bryd cael cerflun ohoni yng Nghricieth?’

Cyhoeddwyd The Pain and the Privilege: The Women who Loved Lloyd George, Ffion Hague, gan Harper.

Darlledir y rhaglen Dwy Wraig Lloyd George, cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C, yn yr hydref.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cofiwch Dryweryn – Oes Angen?

Ymlaen >

Dyfodol Llafur: plaid ranbarthol, nid cenedlaethol?