Thema dywyll Thema golau

Anghyfiawnder Olympaidd

Byddai llawer ohonom yn hoffi gweld athletwyr Cymru’n chwifio’r Ddraig Goch yn hytrach na Jac yr Undeb wrth gystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Wedi’r cwbl, mae gennym gynrychiolaeth Gymreig mewn sawl camp: tîm rygbi cenedlaethol, tîm pêl-droed cenedlaethol a hyd yn oed tîm ‘korfball’ cenedlaethol (gêm debyg i bêl-rwyd i dimau cymysg o ferched a dynion). Pam felly nad oes gennym dîm Olympaidd cenedlaethol?

Mae’r rheolau ynglyn â chreu tîm Olympaidd cenedlaethol newydd yn astrus tu hwnt. Dywedir nad yw’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn eu deall yn iawn. Ac os nad yw’r bobl sy’n creu’r rheolau yn eu deall, mae rhywbeth mawr yn bod.

Codwyd y mater hwn ym mis Chwefror gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, enwad sy’n amlwg yn ymorol am y corff yn ogystal â’r enaid. Datgelodd Dr Geraint Tudur fod cadeirydd Pwyllgor Deisebau Llywodraeth y Cynulliad wedi anfon llythyr at y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol yn Nhachwedd 2008. Roedd y llythyr yn gofyn am ddiffiniad diamwys o briodoleddau gwlad a allai gystadlu’n annibynnol yn y Gemau Olympaidd. Gofynnwyd a oedd Cymru’n gymwys yn unol â’r diffiniad hwnnw. Ni chafwyd unrhyw ymateb o gwbl i’r llythyr. Penderfynodd Pwyllgor Deisebau Llywodraeth y Cynulliad anfon dau lythyr arall at y Pwyllgor Olympaidd. O’r diwedd ym mis Medi 2010 cafwyd ymateb. Ond daeth hwnnw gan y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig yn hytrach na’r Pwyllgor Rhyngwladol.

Er siom i bawb a hoffai glywed ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn hytrach na ‘God Save the Queen’ wrth i athletwyr Cymru dderbyn eu medalau, ni fydd Cymru’n cael cystadlu fel tîm Olympaidd cenedlaethol oherwydd nad yw’n wlad sydd wedi’i chydnabod gan y gymuned ryngwladol. Mae hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth y Pwyllgor Rhyngwladol o’r sefyllfa ym Mhrydain. Wedi’r cwbl gallwn gymryd, os nad yw Cymru’n wlad, nad yw’r Alban na Gogledd Iwerddon ychwaith yn wledydd. A yw hyn yn golygu bod aelodau’r Pwyllgor yn credu bod Prydain yn cyfateb i Loegr? A ydynt yn parhau i fyw ym Mhrydain y gorffennol, Prydain cyn datganoli, cyn y Cynulliad a chyn pwerau cynyddol Bae Caerdydd, Holyrood a Stormont?

Yn ddiamheuaeth mae gwadu bodolaeth Cymru fel gwlad annibynnol yn warthus, ond beth sy’n waeth na hynny hyd yn oed yw ymddygiad y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Gwrthododd y Pwyllgor ymateb i dri llythyr gan un o bwyllgorau llywodraeth Cymru. A fyddai’r Pwyllgor Rhyngwladol wedi meiddio ymddwyn mewn modd mor haerllug a digywilydd tuag at lywodraeth San Steffan? A yw pawb yn cael eu trin mor wael â hyn?

Os yw pawb yn cael eu trin mor sarhaus pam nad oes unrhyw beth wedi’i wneud i newid ymddygiad y Pwyllgor? Ond, os mai Llywodraeth y Cynulliad yn unig a ddioddefodd y fath sen, mae’n rhaid darganfod pam. A yw’r Pwyllgor Rhyngwladol yn ymwybodol o rôl y Cynulliad? A yw’n ymwybodol bod llaweroedd o bwerau wedi eu datganoli ym Mhrydain? A oedd y Pwyllgor yn credu ei fod yn rhy bwysig i ymateb i ymholiadau corff sy’n llywodraethu cenedl nad yw’n ‘wlad’?

Beth bynnag fo’r ateb, efallai y byddai’n syniad da i rywun brynu map o Gymru i’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol cyn Gemau Olympaidd Llundain 2012 er mwyn sicrhau bod yr aelodau’n cyrraedd y gemau pêldroed a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm. Wedi’r cwbl, os nad ydym yn wlad, prin eu bod yn mynd i ddod o hyd inni.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Teimlo Fel Brenin

Ymlaen >

Cer i Graffu