Dau o enwau mawr y fasnach recordiau yw EMI ac HMV, ac y mae’r ddau o’r un gwraidd. Yn y dechreuad yr oedd y ‘Gramophone Company’, a gyhoeddodd record 78 c.y.f. yn 1907 gyda llun ar y label o gi bach gwyn yn edrych i mewn i gorn peiriant chwarae recordiau. Dyma gychwyn ‘His Master’s Voice’. Yn 1921, agorodd y Gramophone Company ei siop gyntaf yn Oxford Street Llundain dan yr enw, ‘His Master’s Voice’, a ddatblygodd i fod yn gadwyn helaeth o siopau ledled gwledydd Prydain, ac ‘HMV’ erbyn hynny yn gwmni annibynnol. Esblygodd y Gramophone Company yntau i fod yn EMI, un o gewri’r diwydiant cerddorol rhyngwladol.
Ond daeth tro ar fyd. O’r 285 o siopau sydd gan HMV ar brif strydoedd trefi a dinasoedd Prydain, cyhoeddwyd bod 60 yn mynd i gau, a hynny er fod eu prif gystadleuwyr – Tower, Virgin, Our Price, Woolworth a Zavvi – eisoes wedi cau eu drysau. Mae hynny er gwaetha’r ffaith fod HMV yn berchen ar rai o neuaddau perfformio mwyaf Lloegr, yn trefnu rhai o Wyliau Roc mwyaf llwyddiannus y gwledydd hyn, ac yn chwarae rhan flaenllaw mewn hyrwyddo rhai o enwau mawr y byd pop Saesneg. Yn y cyfamser, mae EMI mewn cors o ddyledion ac achosion llys wedi i Guy Hands a’i gwmni Terra Firma dalu’r swm gwallgo o £4.2 biliwn i’r banc Americanaidd Citigroup amdano yn 2007, cyn y cwymp mawr. (Y diweddaraf wrth sgrifennu hwn yw fod Citigroup yn ystyried prynu EMI yn ôl i arbed Hands rhag diflannu i’r gors yn llwyr.)
Pa fodd y cwympodd y cedyrn? Mae’n gyfuniad rhyfeddol o ffactorau, ac y mae pawb ohonom sy’n gweithio yn y diwydiant bellach yn teimlo effeithiau’r storm sy’n bygwth y cwmnïau mawr.
- Mae’r dechnoleg ddigidol wedi creu chwyldro sy’n graddol ddileu’r CD a’r DVD, a edrychent ar un adeg fel pe byddent yma am byth.
- Mae bron bopeth sydd ar gael ar CD a DVD erbyn hyn i’w gael ar y We fyd-eang, ac y mae’n bosib, os mai dyna yw eich dileit, cael gafael arno yn rhad ac am ddim.
- Mae’r genhedlaeth ifanc bellach yn derbyn eu hadloniant a’u cerddoriaeth drwy amryfal gyfryngau – y We, ffonau symudol, iPod, teledu lloeren, ac ati. Mae Sky+ ac YouTube a’u tebyg bellach wedi gwneud gwylio teledu cyfredol a phrynu CD mewn siop yn afraid.
- Ar ben hyn i gyd mae effaith parhaol y dirwasgiad a thoriadau llywodraeth San Steffan yn arafu pob masnach nad yw’n gwbl angenrheidiol – gan arwain at ddirywiad cynyddol mynd allan i siopa yn y stryd fawr.
Ond i ni yng Nghymru, nid yw hyn ond hanner y stori. Un o brif ffynonellau incwm cerddorion, cyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth yw’r cyrff breindal Prydeinig, y PRS, MCPS a’r PPL, sydd rhyngddynt yn dosbarthu cyfanswm o tua £750 miliwn yn flynyddol. Daw’r arian yma i’w coffrau nhw oddi wrth y darlledwyr – y BBC, teledu a radio annibynnol, cwmnïau recordio, siopau a thafarndai, neuaddau ac unrhyw fangre lle y mae miwsig yn cael ei berfformio a’i glywed. Ond am nad yw’r systemau a ddefnyddir i ddosbarthu’r arian sylweddol hwn yn addas ar gyfer diwylliannau lleiafrifol, fel yn achos Cymru, amcangyfrifir mai llai na 0.5% o’r cyfanswm sy’n dod i Gymru’n flynyddol. A chofier bod hynny ar gyfer yr holl gyfansoddwyr a cherddorion unigol, sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’r holl gwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth. I gyfansoddwyr unigol a chwmnïau, y PRS oedd prif ffynhonell eu cynhaliaeth. Ond, dair blynedd yn ôl, ffrwydrodd bom yn y byd cerddorol Cymreig pan gyhoeddodd PRS y byddai’r drefn yn newid parthed eu dosbarthiad i Gymru. Canlyniad y newid hwnnw yw fod 85% o’u taliadau i gyfansoddwyr Cymraeg wedi diflannu.
Does dim gofod yma i fynd i fanylion, ond hanfod y rheswm dros y lleihad yw’r ffaith nad yw recordiau Cymraeg yn cyfateb i gynnwys y siartiau Seisnig-Americanaidd. Hynny yw, nid yw eu systemau wedi eu creu i ystyried ieithoedd, diwylliannau a chynulleidfaoedd ‘lleiafrifol’.
Un o ganlyniadau mwyaf cadarnhaol y cwymp yn arian y PRS hyd yn hyn oedd sefydlu Cynghrair Cerddorion a Chyhoeddwyr Cymru (y cyfeiriwn ati fel Y Gynghrair), sy’n cynrychioli rhai cannoedd o unigolion a chwmnïau. Os ydych am wybod mwy am hyn, mae dau adroddiad y gellwch eu darllen, y naill gan Brifysgol Bangor yn 2009 a’r llall gan Cambrensis yn 2010. Mae’r ddau ar gael ar wefan www.ygynghrair.com . Mae adroddiad yr Athro Ian Hargreaves ar y Diwydiannau Creadigol hefyd yn gefndir perthnasol, a theg yw dweud bod yr adroddiadau hyn i gyd yn cydnabod bod yna ddadl dros greu yr hyn y bu’r Gynghrair yn galw amdano, sef corff hawlfraint i Gymru, fel y corff IMRO sydd gan Iwerddon, ac fel sydd gan nifer o wledydd llai Ewrop eisoes. Byddai corff o’r fath nid yn unig yn gofalu bod yna ddosbarthiad teg o freindaliadau i gyfansoddwyr a cherddorion Cymru, ond byddai hefyd yn hyrwyddo cynnyrch cerddorol Cymru – yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn offerynnol – ar lwyfan byd-eang. Ar yr un pryd byddai’n sicrhau mai aros yng Nghymru fyddai unrhyw incwm a ddeilliai o ymelwa ar eiddo deallusol Cymreig. O ddilyn esiampl cyrff tebyg – mewn gwledydd fel Croasia er enghraifft – byddai corff o’r fath nid yn unig yn ei gynnal ei hun yn ariannol o fewn dim o dro, ac yn sicrhau gwell incwm i gerddorion Cymru, ond hefyd yn cynnal nifer o swyddi parhaol.
Yr hyn a benderfynwyd gan aelodau’r Gynghrair hyd yn hyn, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiadau uchod, yw gofyn i Sefydliad Cerddoriaeth Cymru (y WMF) i arwain ar fater sefydlu corff hawlfraint i Gymru. Ar 4 Mawrth bu cynrychiolwyr y Gynghrair a’r PRS ill dau yn cyflwyno’u dadleuon i Fwrdd y WMF ac i aelodau Bwrdd Diwydiannau Creadigol y Cynulliad. Roedd hwn yn gyfarfod pur hanesyddol, a’n gobaith yw y bydd yn dwyn ffrwyth yn fuan, gan weld budd mawr nid yn unig i fyd cerddorol Cymru ond hefyd i’n diwylliant a’n heconomi fel cenedl. Os yw’r diwydiant cerddorol yn gwegian yn Lloegr ac America, hawdd y gellir deall natur yr argyfwng sy’n ein bygwth ni yma yng Nghymru. Mae’r cwtogi enbyd a fu yn incwm y breindaliadau wedi digwydd ar yr un pryd â bygythiad y diwylliant ‘lawrlwytho’ oddi ar y We, dirywiad gwerthiant y CD a’r dirwasgiad economaidd. Ychwaneger y bygythiad i ddyfodol y ddau brif blatfform cyhoeddus i gerddoriaeth Gymraeg – Radio Cymru ac S4C – ac fe welir gwir faint yr argyfwng, argyfwng sy’n bygwth pob rhan o’r diwydiant cerddorol Cymreig. Mae hyn yn bygwth bywoliaeth, neu ran bwysig o fywoliaeth, rhai cannoedd o gerddorion, cyfansoddwyr, cantorion a chyhoeddwyr. Yng nghyd-destun yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, mae’n bwysig sylweddoli mai cerddoriaeth yw’r cyfrwng sy’n caniatáu i’r rhan fwyaf o Gymry ifanc ymwneud â’r iaith Gymraeg. Er pwysiced yw cylchgronau a phapurau bro, llyfrau a gwefannau newyddion – ac yn sicr nid bwriad y diwydiant cerdd yw tanseilio’r rhain – does dim dwywaith mai cerddoriaeth yw prif ddewis gyfrwng y genhedlaeth iau. Ar yr un egwyddor felly ag y dyrennir £3.8m yn flynyddol i’r diwydiant argraffu a chyhoeddi llenyddol drwy’r Cyngor Llyfrau, ein dadl ni – yn wir, ein ple ni bellach yn wyneb yr argyfwng sy’n bygwth ein traflyncu – yw y dylid ystyried yr un math o gefnogaeth i’r diwydiant cerdd.
Mae dwy agwedd bellach ar hyn, sef bod y gwasanaeth, a’r telerau, y mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu eu cynnig i’r siopau, a’r amrywiaeth a’r nifer cynyddol o lyfrau sy’n cael eu cyhoeddi, yn golygu bod siopau yn troi fwyfwy at y farchnad honno. Mae hynny’n digwydd ar draul y farchnad gerdd. Ni ellir beio’r siop am hyn, ond mae’n bwysig sylweddoli beth sy’n digwydd, a pham. Yr agwedd arall yw fod cyfrifoldeb ar yr ychydig gwmnïau recordio Cymreig i geisio gwneud cyfiawnder â holl rychwant y byd cerddorol – o’r poblogaidd (sydd ddim efallai bob amser y gerddoriaeth ‘orau’) i’r arloesol, yr arbrofol a’r gweithiau mwy sylweddol sy’n apelio at leiafrif, ond sy’n gyfraniad pwysig i gorff cerddoriaeth Cymru. Gall y Cyngor Llyfrau a Chyngor y Celfyddydau rhyngddynt ofalu bod holl amrywiaeth llenyddol Cymru yn cael chwarae teg, heb boeni’n ormodol am faint y farchnad. Mae cwmnïau recordio’n ceisio gwneud hynny heb gymorth arian cyhoeddus, gan sefyll y golled yn amlach na pheidio. Mae’n wir fod Cyngor y Celfyddydau wedi noddi rhyw gymaint o recordio clasurol yn y gorffennol, ac yn noddi rhai cyfansoddwyr clasurol dethol. Ond bychan iawn yw’r symiau hyn ochr yn ochr â’r nawdd a gaiff y Cwmni Opera Cenedlaethol, dyweder.
Mae miloedd o bobol ifanc Cymru yn ymwneud â cherddoriaeth yn gyson, a channoedd ohonyn nhw’n ymwneud mewn modd creadigol iawn – yn cyfansoddi, yn ymarfer, yn sgrifennu geiriau, yn perfformio, yn recordio ac yn darlledu. Mae llawer o’r gweithgarwch creadigol yma yn digwydd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ac eto does yna fawr o gefnogaeth gyhoeddus i sicrhau amodau teg i’r diwylliant yma ffynnu. I fod yn deg, mae Radio Cymru ac S4C wedi llenwi peth o’r bwlch, ac oni bai amdanyn nhw byddai’r sefyllfa yn llawer gwaeth. Ond i’r mwyafrif o ieuenctid, mae’r gefnogaeth o safbwynt hyrwyddo lleoliadau a chyfleoedd perfformio, o safbwynt cynhaliaeth i gerddorion sydd am ddatblygu eu crefft, ac o safbwynt cymorth tuag at gostau recordio, hyrwyddo a dosbarthu, yn brin iawn iawn. Ac, ar yr un pryd, mae dylanwad y diwylliant cerddorol masnachol Eingl-Americanaidd holl bresennol bellach, oherwydd y chwyldro digidol, yn bygwth traflyncu diwylliannau lleiafrifol ym mhobman.
Fel y dywedwyd, nid tanseilio’r gefnogaeth i lyfrau ac awduron a gweisg yw ein bwriad, ond y mae’r gymhariaeth yn tanlinellu’r diffyg. Yn ogystal â’r cymorth a gaiff awduron unigol, gall cyhoeddwyr llyfrau gael cymorth ariannol tuag at gyflogi golygyddion, tuag at baratoi ac argraffu cyfrol, tuag at ddylunio’r clawr, tuag at hyrwyddo a dosbarthu, a mwy neu lai tuag at bob agwedd arall o’r broses o ddarparu llyfrau a chylchgronau ar gyfer y darllenydd Cymraeg (a di-Gymraeg hefyd erbyn hyn). Ni all cyhoeddwyr recordiau ddisgwyl dim oll. Ac eto, mae costau recordio, golygu, dosbarthu a hyrwyddo yr un fath i gwmni Cymraeg ag ydyw i gwmni Saesneg. Os mai egwyddor sylfaenol y cymorth i’r gair printiedig yw gwneud iawn am brinder cynulleidfa er lles yr iaith Gymraeg, onid yw’r egwyddor honno yr un mor berthnasol yn achos y gân Gymraeg? Os gofynnir i’r bobl ifanc eu hunain pa gyfrwng sy’n dod gyntaf, mae’r ateb yn amlwg.
Nid dweud yr ydym y dylid creu ‘Cyngor Llyfrau’ ar gyfer y byd recordio, oherwydd byddem am i’r cymorth i gael ei weinyddu a’i rannu mewn ffordd wahanol. Yn wir, mae nifer o gerddorion ifanc yn bendant o’r farn nad ydyn nhw am fyw ar nawdd y llywodraeth, ond yn hytrach am weld arian cyhoeddus yn cael ei ddefnydio’n greadigol i gynyddu’r cyfleoedd i’w gwaith gael ei glywed, ac i helpu’r diwydiant i hyrwyddo’u cynnyrch. Ac yn sicr mae yna le i rai elfennau o waith y Cyngor Llyfrau – megis yr hyrwyddo a’r dosbarthu – i gael eu ehangu i gynnwys disgiau clywadwy a gweledol, a hynny ar fyrder. Beth amser yn ôl, pan oedd yna ddiffyg mawr yn narpariaeth S4C parthed cyhoeddi eu rhaglenni plant ar DVD, galwodd un o siopwyr Cymraeg mwyaf profiadol Cymru, Gwilym Tudur, am sefydlu corff i arolygu cyhoeddi pob math o gynnyrch digidol. O ystyried y defnydd posib o’r cyfryngau hyn, nid yn unig o safbwynt adloniant a masnach, ond hefyd o safbwynt addysgiadol, mae’n alwad y byddem yn ei hategu ar bob cyfri. Byddai maes cyfrifoldeb corff o’r fath yn gallu cynnwys y defnydd posib, yn enwedig i bwrpas addysgiadol, o’r archif anferth a gasglwyd dros y blynyddoedd gan y BBC, ITV, S4C a’r cwmnïau annibynnol.
Byrdwn hyn o lith felly yw fod y cyfuniad o ffactorau sy’n bygwth dyfodol y diwydiant cerddorol a’r cyfryngau torfol yng Nghymru hefyd yn gyfle i edrych o’r newydd ar y modd yr ydym yn cefnogi’r gweithgareddau hyn. Yn wir, credwn ei fod yn gyfle gwych i sicrhau bod yr iaith Gymraeg, a’r holl fyd creadigol yn y ddwy iaith yng Nghymru, yn camu i mewn i fyd newydd aml-gyfryngol, aml-blatfform y chwyldro digidol gyda hyder a gweledigaeth newydd. Ond rhaid gweithredu ar fyrder, neu bydd sawl hwch wedi mynd drwy sawl siop, bywoliaeth rhai cannoedd wedi ei danseilio, a miloedd o Gymry ifanc wedi eu dadrithio yn llwyr. A gwaeth na dim, bydd gweithgarwch creadigol carfan helaeth o’r ieuenctid hyn yn cael ei fygu, o bosib am byth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
