Bill Shankly a Tom Parry
Wrth annerch glasfyfyrwyr ar ddechrau blwyddyn academaidd gynt, codais fy nhestun fwy nag unwaith o’r bennod honno yn Rhys Lewis, ‘Thomas Bartley ar Addysg Athrofâol’, lle mae Thomas yn gofyn cwestiynau lletchwith am natur a diben y ddysg a geid yng Ngholeg y Bala. Codais fy nhestun fwy nag unwaith hefyd o’r efengyl yn ôl Bill Shankly, rheolwr gwreiddiolaf tîm pêl-droed Lerpwl, – nid yr adnod enwog honno a fynn fod pêl-droed yn bwysicach na bywyd a marwolaeth, eithr honno lle dywed na fu ef erioed mewn coleg, a chan hynny fod yn rhaid iddo ddefnyddio’i ymennydd. Wrth reswm, yn fy areithiau Shanklïaidd, wfftio’r ensyniad fod coleg prifysgol yn anwreiddioli pobl a wnawn, a phwysleisio pa mor bwysig oedd hi i bob myfyriwr feddwl a dadansoddi drosto’i hun.
10 Ionawr 2012
Americanwr Anferth
Mae America yn fawr! Yn anferthol, a dweud y gwir. A’r gwahaniaethau mewn diwylliant ac agweddau yn syfrdanol. Mae’r dinasoedd mawrion, er yn wahanol i’w gilydd o ran naws ac edrychiad, yn hynod debyg o ran bwrlwm a ffasiwn ac agwedd hefyd. Ond nid felly mae hi yng nghefn gwlad.
10 Ionawr 2012
Michael D.
Perthyn i’r Blaid Lafur mae o. Roedd o’n aelod o Fianna Fáil am gyfnod byr cyn troi at Lafur.
10 Ionawr 2012
Gwleidyddiaeth 2011: Carwyn ddi-ffrwt a Chymru swrth
Ynghanol y cynnwrf yma i gyd, mae’n dweud rhywbeth am Gymru fod gwleidyddion y Cynulliad wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn trafod materion hollbwysig yr oes megis ai John Dixon ynteu Eluned Parrott a ddylai lenwi sedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar restr Canol De Cymru; neu a fu’r dreth bum ceiniog ar fagiau plastig yn llwyddiant digamsyniol (neu a fuasai saith ceiniog yn well?).
9 Rhagfyr 2011
ganSimon Brooks
Gogoniant y Gaeaf
Ond hyd yn oed pan nad ydi’r hinsawdd yn dwyn i gof Dr Zhivago (sef y rhan fwyaf o’r amser), dwi’n dal i lecio’r gaeaf.
9 Rhagfyr 2011
Lloegr yn deffro
Wrth i ddraig wen Lloegr ymysgwyd o’r trwmgwsg a gydiodd ynddi am ganrifoedd wrth iddi swatio dan gwrlid cysurus Prydeindod, y perygl mawr fyddai mai ni, bobl fychan yr ymylon, fyddai’n dioddef. Os deuai datganoli buan byddai’r Saeson yn dechrau ffromi yn wyneb yr anghysondebau a’r anghyfiawnderau amlwg sy’n codi yn sgil datganoli anwastad – yr anghysondebau a’r anghyfiawnderau rheini a grisialir yng Nghwestiwn Gorllewin Lothian.
9 Rhagfyr 2011
O Fwynder Maldwyn i Stiwdio Freud: Taith David Dawson
Roedd Lucian Freud yn artist o fri rhyngwladol, yn enwog am ei bortreadau o bobl o bob cefndir. Peintiodd sêr o fyd y cyfryngau a’r theatr gan gynnwys llun o Kate Moss yn feichiog ac yn noethlymun.
9 Rhagfyr 2011
ganMenna Baines
Rhodri Talfan Davies – Bos Newydd Y Bîb
Nid pawb fyddai eisiau bod yn gyfarwyddwr BBC Cymru yn y dyddiau helyntus yma. Ond mae Rhodri Talfan Davies yn barod am yr her. Bu’n sôn wrth Barn am ei gynlluniau, am y toriadau diweddar, am y bartneriaeth newydd gydag S4C, am ei benderfyniad i barhau i fyw yn Lloegr ac am y profiad o fod yn aelod o deulu mwyaf dylanwadol y byd cyfryngol Cymreig.
9 Rhagfyr 2011
Croesawu Meri’n Gomisiynydd Ond Aneglurder o Hyd
Yn wir, pe bai Ms Huws yn dymuno efelychu rhywun yn ei misoedd cyntaf, gallai wneud yn llawer iawn gwaeth na dilyn patrwm rhagflaenydd Mr Fraser, Dr Dyana Adam, a fu’n drwm ei beirniadaeth o ddihidrwydd llywodraeth Canada tuag at gydraddoldeb ieithyddol.
29 Hydref 2011
ganGwion Lewis
Pwy sy’n ‘delifro dros Gymru’?
Beth oedd ym mhen Keith Davies, Aelod newydd Llanelli, pan ymddangosodd ar rifyn diweddar o CF99 i nodi ei siom na fydd y Comisiwn newydd ar ddatganoli
29 Hydref 2011
Cwrs Y Byd – Airbus a’r Ysgol Fomio
Yno y cynhyrchir adenydd ffeibr-garbon, ysgafn ryfeddol, cenhedlaeth newydd o awyrennau a fydd angen 25% yn llai o danwydd na’r rhai presennol.
29 Hydref 2011
Gadael Erin
Am ganrif a hanner, o ddyddiau’r Newyn Mawr hyd at ddyfodiad y Teigr Celtaidd, bu’n rhaid i’r Gwyddelod adael eu gwlad wrth eu miloedd. Er bod yr allfudo wedi ailddechrau nid yw’r gadael mor chwerw – na therfynol, gobeithio – ag y bu.
29 Hydref 2011
Hogia go iawn
Boys Are Stupid, Throw Rocks At Them’ – dyna’r enw ar grwp Facebook sydd yn brolio dros 5,000 o aelodau; ac mae crys-T gyda’r geiriau canlynol yn gwerthu fel slecs yn America: ‘The Stupid Factory – Where Boys Are Made’. Mi fedrwch chi greu grwp Facebook am unrhyw fath o lol, neu brintio crys-T efo’r nonsens rhyfedda arno fo, ond fedra’ i ddim peidio â sylwi bod sbeitio hogia wedi mynd yn dipyn o ffasiwn bellach – jôc neu beidio. Rydan ni mor awyddus i unioni’r cam a wnaed â merched dros y cenedlaethau nes bod hogia un ai’n cael eu hanghofio neu’n mynd yn gocynnau hitio derbyniol ac yn gyff gawd. Y syniad ydi bod hogia yn tyff, ac yn gallu cymryd y math yma o watwar.
29 Hydref 2011
ganBeca Brown
Cymru, Lloegr a ….Phontypridd
Disgrifiwyd AS Pontypridd fel y praffaf o’r to newydd o Aelodau Llafur Cymreig yn San Steffan. Ond – yn anghredadwy – mae o’n cynnig yr un atebion cyfansoddiadol yn union â llywodraeth Cameron a Clegg.
3 Hydref 2011
Siglad i’r Drefn
Ynghyd ag adeg troi’r clociau ymlaen, yr adeg o’r flwyddyn y bydda i’n edrych ymlaen ati leia’ ydi dechrau Medi pan fydd Joel yn dychwelyd i’r ysgol a minnau’n dychwelyd i’r swyddfa ar ôl gwyliau’r haf.
3 Hydref 2011
Trychineb Gleision
Siân James, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, oedd y person cyntaf i mi ei glywed yn ei ddweud o. Pan ddaeth y newydd fod pedwar o lowyr yn gaeth dan ddaear ym mhwll glo Gleision fe gyfaddefodd Siân fod hynny’n sioc enbyd iddi. Roedd hi wedi ei hen gysuro ei hun mai perthyn i orffennol Cymru yr oedd digwyddiadau o’r fath. Nid i’r dyddiau hyn. Nid i’r unfed ganrif ar hugain. Ac fe glywais i sawl un arall yn dweud yr un peth, cyn – ac yn sicr, ar ôl – y cyhoeddiad torcalonnus terfynol bod pedwar yn rhagor o Gymry wedi’n hatgoffa o’r newydd beth yw gwir bris y glo.
3 Hydref 2011
Hanes Rhyw Athro
Yn sgil aduniad ysgol ym Môn yn ddiweddar, bu’r awdur yn hel atgofion am ei orffennol pell fel athro. Rhoddais yr argraff, yn fy llith ddiwethaf yn Barn (Gorffennaf/Awst), na wnes i ddechrau byw tan imi gyrraedd Wrecsam yn 1964 ond yn gynharach eleni bu achlysur a’m hatgoffodd o brofiadau diddorol a phobol ddifyr a berthynai i gyfnod blaenorol. Aduniad disgyblion ac athrawon a fynychai Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, ddechrau’r chwedegau oedd hwnnw. Dro ar ôl tro, ymddangosai rhith bochgoch, direidus y tu ôl i wyneb yr oedolyn a wenai arnaf. ‘Ydach chi’n cofio lluchio sialc ata’i?’ holodd gwraig ganol-oed-ifanc. ‘A finna’n ’i luchio fo’n ôl atach chi?’ ‘Mi ’naethoch chi’n iawn, Greta!’
3 Hydref 2011
ganGareth Miles
Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin
Ers sawl canrif mae Saeson wedi dod i Gymru er lles yr enaid a’r awen, o Joseph Turner i Led Zeppelin. Ac fe apeliodd y Gymru wledig anhygyrch at un o gerflunwyr mawr yr ugeinfed ganrif. Bu o gymorth iddo hefyd guddio rhai o’i arferion ffieiddiaf rhag y cyhoedd.
3 Hydref 2011
Dan Ddylanwad
Mae'r Cyfansoddiadau gyda'r gwerthwr gorau ym myd llyfrau Cymraeg bob blwyddyn. VAUGHAN HUGHES sy'n pwyso a mesur y gyfrol ddiweddaraf.
2 Medi 2011
Steddfod y Sbort a’r Salsa
Sut Eisteddfod oedd hi o ran drama eleni? Un ddifyr ac adloniannol ond braidd yn brin o sylwedd, yn ôl adolygydd Barn
2 Medi 2011
Anfadwaith Utøya
Ar yr ail ar bymtheg o Fai – y syttende Mai chwedl y brodorion (mae’r ynganiad Cymraegyn ddigon agos ati) – bydd Norwy’n dathlu eidiwrnod cenedlaethol. Ers degawd a mwybellach rwyf wedi cael dathlu yn eu cwmni ac nid yw’rwefr yn pylu dim.
2 Medi 2011
America ar ôl 9/11
Ddeng mlynedd wedi’r ymosodiadau a arswydodd y byd, Americanwr sy’n gofyn beth sydd wedi newid yn yr Unol Daleithiau yn sgil gweithredoedd y terfysgwyr.
2 Medi 2011
ganChris Cope
Gwarth y Golchdai
Sgandal golchdai’r Magdaleniaid: staen hyll arall ar hanes Iwerddon Ymhlith yr holl achosion erchyll sydd wedi siglo Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hanes gwarthus y Magdaleniaid. Cafodd cenedlaethau o ferched honedig ddrwg eu gorfodi i weithio fel caethweision mewn cadwyn o olchdai dan oruchwyliaeth lleianod. Roedd llawer o’r merched hyn yn gwbl ddieuog o unrhyw gamymddwyn rhywiol.Ym mharc St Stephen’s Green, yng nghanol Dulyn, ger coeden fagnolia, mae mainc bren. Arni mae plac gyda’r geiriau: ‘I’r merched a weithiai yng Ngolchdai Magdalen, a’r plant a anwyd i rai ohonynt. Oedwch yma ac ystyriwch eu bywydau’.
2 Medi 2011
At ddant a phoced pawb – bwyta yn Wrecsam a’r cyffiniau
Arolwg cynhwysfawr o lefydd bwyta bro’r brifwyl. Awgrymiadau ar gyfer y rhai sy’n byw i fwyta a’r rhai sy’n bwyta i fyw.
11 Gorffennaf 2011
Cwis i’n Darllenwyr
Dyma ugain cwestiwn i brofi a lwyddoch chi i ddarllen y rhifyn hwn o Barn o glawr i glawr.
11 Gorffennaf 2011
For Wales See Scotland
Dyrchafwn ein llygaid tua’r Alban. Ai oddi yno y daw cymorth i’r rhai yng Nghymru sydd am weld proses datganoli’n parhau? Oddi yno yn sicr y daw anghysur ac amhendantrwydd presennol Carwyn Jones.
11 Gorffennaf 2011
Cofio Alan: Y Chwarae’n Troi’n Chwerw
Mae marwolaeth cyfaill yn peri i’r Dyn Mynd a Dwad agor ei galon yn ogystal â thudalennau ei ddyddiadur. Yma am y tro cyntaf mae o’n trafod ei frwydr ag alcoholiaeth.
11 Gorffennaf 2011
Cwrs Y Byd – Cymdeithas ‘Cenhadon Casineb’
Yn lle casau’r cestyll Seisnig, erbyn hyn daethom i sylweddoli mai symbolau o fethiant Lloegr i’n darostwng ydyn nhw. A’r methiant godidocaf un yw castell ysblennydd Caernarfon.
11 Gorffennaf 2011
Les Morrison (1956–2011)
Cefais alwad ffôn annisgwyl ar fore Gwener, 29 Ebrill, yn rhoi gwybod imi fod Les Morrison wedi marw yn gynharach y bore hwnnw. Roedd yn 55 oed.
3 Mehefin 2011
ganSteve Eaves
Gair Yng Nglust y Blaid
Dywedodd Benjamin Disraeli unwaith: ‘Mae eithriad i bob rheol ond anaml y deuir o hyd i ateb drwy ddilyn cyngor un o’n gwrthwynebwyr.’ Os ydych chithau o’r un farn â Disraeli, does dim diben imi ysgrifennu’r geiriau hyn. Ofer fydd y cyfan.
3 Mehefin 2011
Canmoler Carwyn – Ond Mae Pum Mlynedd Hynod Anodd O’i Flaen
Fe ddychwelodd Nick Bourne at yr un ansoddair gryn hanner dwsin o weithiau yn ystod y talwrn arweinyddol olaf a ddarlledwyd yn hwyr y nos tua diwedd ein hymgyrch etholiadol ddiweddar. Yr oedd cyn-arweinydd y Torïaid Cymreig am i ni ddeall fod Carwyn Jones yn complacent.
3 Mehefin 2011
Caffis Cymru : Y Caban, Aberystwyth
Lyn Lewis Dafis <br /> <p>Mae’n anoddach dychmygu sut le fyddai Aberystwyth heb gaffis na cheisio meddwl amdani heb ei Phrifysgol na’r Llyfrgell Genedlaethol hyd yn oed. Bu’r caffi yn rhan annatod o wead y dref i mi dros y 30 mlynedd a mwy ers dod i’w hadnabod. Bu’n lloches i genedlaethau o efrydwyr yn dianc o’u llety llaith a diflas, ond yn rhannu’r lloches honno gyda ledis y dref a ffermwyr y wlad o gwmpas.</p>
3 Mehefin 2011
Dan Ganu: Holi Arwel Gruffydd
Mae’n bosib mai Bryn Terfel, heb yn wybod iddo, a yrrodd Arwel Gruffydd ar hyd y llwybr sydd wedi ei arwain erbyn heddiw i barchus arswydus swydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
3 Mehefin 2011
ganMenna Baines
Argyfwng y Diwydiant Cerddoriaeth
Cyfle i’r Gymraeg neu ergyd farwol? Dadansoddiad Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr cwmni recordiau Sain o’r chwyldro sy’n bygwth dyfodol y diwydiant recordio rhyngwladol. Ond yng Nghymru nid y We yw’r unig fygythiad…
30 Mawrth 2011
Mochyn Pinc Sydd Wedi Marw
Dadleuir yma bod y bleidlais ‘Ie’ ddigamsyniol a gafwyd yn refferendwm y mis diwethaf yn gam gwirioneddol arwyddocaol ar daith gyfansoddiadol y genedl Gymreig. Nid yr un bellach yw natur y berthynas rhwng Cymru a’r Wladwriaeth Brydeinig.
30 Mawrth 2011
Cwrs Y Byd – Môn
Mae rhai problemau’n haws i’w datrys nag eraill. Yng Ngorffennaf 2006 fe ofynnodd BBC 1 i wylwyr ynysoedd Prydain ddod o hyd i gantores i chwarae rhan Maria von Trapp yng nghynhyrchiad newydd Andrew Lloyd Webber o <em>The Sound of Music </em>ar lwyfan Palladium Llundain. Erbyn mis Medi 2006 cafwyd ateb cwbl foddhaol i’r cwestiwn <em>How Do You Solve a Problem Like</em> <em>Maria</em>? Dewisiwyd Connie Fisher, Cymraes Gymraeg o Sir Benfro.
30 Mawrth 2011
Ysbryd Tre’r Ceiri yn LA
Yn 1995 gofynnwyd i mi feirniadu cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan.
30 Mawrth 2011
Caffis Cymru – Gwdihw
Mae’r caffi hwn ynghanol y brifddinas wedi dod yn dipyn o ffefryn gan y nofelydd sy’n byw yn Rhiwbeina. Bar a chaffi cwl yw Gwdihw. Cwl, ond eto ddim yn ymhongar mewn unrhyw ffordd. Mae’r sefydliad gweddol newydd hwn, sydd wedi’i leoli ar Gilgant Guildford, dafliad carreg o fwrlwm Heol y Frenhines, yn estyn croeso cynnes i bawb – o hipsters ifanc gyda’u jîns tynn a’u sbectolau NHS i rai hen fel fi, sydd bellach yn mynd i bobman gyda gwraig flinedig a dwy ferch o dan bump oed yn gwmni.
30 Mawrth 2011
ganLlwyd Owen
Steve a’i Fand a’r Felan
Ychydig wythnosau’n ôl roedd Steve Eaves yn cynnal gig acwstig yng nghaffi’r Caban ym Mrynrefail, yng nghalon Eryri, ac roedd hi’n noson i’w chofio.
27 Chwefror 2011
ganMenna Baines
Cer i Graffu
Dros Gymru’n gwlad dyrchafwn gri... Er mwyn y Tad gawn ni gytuno na fyddwn ni byth, byth eto’n cynnal refferendwm diangen?
27 Chwefror 2011
Anghyfiawnder Olympaidd
Beth yw’r diffiniad o wlad? Ardal ddaearyddol? Cenedl gyda’i llywodraeth ei hun? Pobl sy’n rhannu’r un darn o dir? Beth bynnag fo’r ateb pendant (petai ateb pendant), mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn fodlon dadlau bod Cymru’n wlad ar wahân i weddill gwledydd Prydain, ac y dylai gael ei thrin felly.
27 Chwefror 2011
Teimlo Fel Brenin
Profiad annifyr a dweud y lleia’ oedd gwrando ar Lyn Ebenezer ar Radio Cymru yn ddiweddar yn ceisio bod yn ddigri trwy fod yn ddi-chwaeth ynglyn â chyflwr atal dweud.
27 Chwefror 2011
De Affrica: Dagrau Rhyddid
Y llynedd treuliodd yr awdur hanner blwyddyn yn Ne Affrica, yn gweithio ar ran Cymorth Cristnogol yn Cape Town gyda phlant sy’n gorfod byw gydag effeithiau HIV. Bu’n brofiad dirdynnol ond calonogol yr un pryd.
27 Chwefror 2011
ganAled Pickard
Ta Ta Meic?
Ym mis Rhagfyr, yn sgil ei gyhoeddiad ei fod yn ymadael am Ganada, bu nifer o gyngherddau ffarwel gan Meic Stevens. Y cyngerdd a fu ym Maenclochog sydd dan sylw yma. Ni wn a yw Meic Stevens wedi mynd i ffwrdd ar y Tarpan i Ganada eto. Ond mae’n fwriad ganddo fynd i British Columbia pan ddaw’r holl gyngherddau ffarwel i ben. A ddaw yn ôl? Pwy a wyr? Mae ganddo rai cyhoeddiadau a phrosiectau tymor hir i’w cwblhau yng Nghymru. Bu i ffwrdd o’r blaen, wrth gwrs, yn Llydaw yn benodol, ond fe ddaeth yn ôl i adrodd yr hanes a chyhoeddi clamp o record hir, sef Gôg, yn 1976.
31 Ionawr 2011
ganHefin Wyn
S4C – ‘Calon Cenedl’
Yn sgil y dadlau a’r dadansoddi, cafwyd cyfle i feddwl o’r newydd hefyd ynglyn â swyddogaeth a nod S4C.
31 Ionawr 2011
Obama ac Israel: Persbectif Pesimistaidd
Mae’r awdur yn Gymrawd Coleg Sant Antony yn Rhydychen ac yn awdur Israel and Palestine: Reappraisals, Revisions, Refutations. Roedd Syr Goronwy Daniel yn dad yng nghyfraith iddo.
31 Ionawr 2011
ganAvi Shlaim
Cwrs y Byd – Cestyll ein Balchder
Ddeugain mlynedd a rhagor yn ddiweddarach mae’r cerddi y cynhyrfwyd Gerallt Lloyd Owen i’w canu ym mlwyddyn yr Arwisgiad yn cael eu cydnabod fel rhai o gerddi gorau’r ugeinfed ganrif. Ac nid yw’r blynyddoedd wedi pylu dim ar rym y cerddi hynny. Maen nhw’n dal i roi mynegiant ingol i deimladau fy nghenhedlaeth i o genedlaetholwyr wrth i gynifer o’n cydwladwyr ymgreinio gerbron y Frenhiniaeth gan roi eu Prydeindod o flaen eu Cymreictod. Fel ‘Cerddi’r Cywilydd’ yr adnabyddir y cerddi gwefreiddiol hynny. Gan mai yng nghastell Caernarfon y cynhaliwyd syrcas 1969 roedd hi felly yn ddigon naturiol inni feddwl hefyd am yr adeilad hwnnw fel Castell ein Cywilydd.
31 Ionawr 2011
Beth yw Buddugoliaeth?
Wfft i’r holl dywydd garw ’ma! I ni’r anoraciaid gwleidyddol mae’r rhagolygon ar gyfer 2011 yn fendigedig.
31 Ionawr 2011