Erbyn y diwedd, roedd yr ymgyrch nacaol yn erbyn ymestyn cymhwysedd deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi syrthio i’r fath iselfannau o ynfydrwydd fel ei bod yn anodd credu y gwelwyd ei debyg erioed yn hanes modern yr ynysoedd hyn. Ar y pryd roedd dyn yn teimlo bod math o nadir wedi ei gyrraedd pan ymatebodd Syr Eric Howells i gyhoeddi’r canlyniad lleol cyntaf trwy sicrhau gwylwyr S4C ei fod am ysgrifennu’n bersonol at David Cameron i ofyn iddo ddiystyru canlyniadau’r bleidlais. Safbwynt a oedd yn dangos cyn lleied o grebwyll gwleidyddol a chyfansoddiadol fel ei bod bron yn greulon caniatáu i’w lladmerydd ymddangos ar y sgrin o gwbl: onid dyma fersiwn teledu materion cyfoes o osod person hefo Cyflwr Tourette yn nhy’r Big Brother?
Ond na, wir i chi, roedd yna ddyfnderoedd eto i’w plymio. Yn dilyn cyhoeddi’r canlyniad cenedlaethol terfynol o lwyfan yn y Senedd, fe achubodd Dr Mark Beech (un o’r ymgyrchwyr ‘Na’) ar y cyfle unigryw a gynigwyd iddo i ymateb i ddyfarniad etholwyr Cymru trwy ddechrau ei anerchiad trwy gyfrwng Klingon. Honno yw’r iaith a ddyfeisiwyd gan rai o ddilynwyr mwyaf obsesiynol y gyfres Star Trek ar gyfer hil ddychmygol sydd, yn ôl a ddeallaf, yn hanu’n wreiddiol o’r blaned Qo’noS. Dadleuon disynnwyr ynglyn â threfn lywodraethol Cymru yn cael eu gwyntyllu yn senedd pobl Cymru mewn iaith artiffisial, caled-ei-chytseiniaid a grëwyd ar gyfer poblach grychlyd eu talcenni sy’n byw mewn teyrnas ffiwdal a rhyfelgar rywle ymhell, bell yn y gofod. A’n gwaredo...
Diolch yn bennaf i boblach fel Dr Beech a chanlynwyr mochyn pinc, plastig True Wales, roedd yr ymgyrch a ragflaenodd y refferendwm yn waradwyddus o wael; yn ddiddeall a chwbl ddiddim. Serch hynny, er mor boenus oedd yr wythnosau cyn y trydydd o Fawrth, roedd y canlyniad a gyhoeddwyd drannoeth y bleidlais yn hynod arwyddocaol. Dyma ganlyniad sydd nid unig yn cadarnhau i’r byd a’r betws – ond yn bwysicach fyth, i ni’n hunain – bod cenedl wleidyddol bellach wedi ymffurfio yng Nghymru. Dyma ganlyniad sydd hefyd yn creu momentwm a rhesymeg wleidyddol a fydd yn arwain mewn dim o dro at ddatblygiadau cyfansoddiadol pellach.
Datblygiadau fydd yn fwy pellgyrhaeddol o lawer na’r cam o Ran 3 i Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r canlyniad yn arwyddocaol ar sawl gwastad. Yn fwyaf amlwg, mae wedi rhoi clamp o chwistrelliad o hygrededd i’n sefydliadau datganoledig. Crintachlyd iawn oedd dyfarniad pobl Cymru yn ôl yn 1997, wrth gwrs. Trwch asgell gwybedyn o fantais yn yr amgylchiadau gwleidyddol gorau posibl. Ac oherwydd hynny, bu modd edliw; bu modd dadlau bod datganoli mewn rhyw fodd neu’i gilydd yn annilys. Wrth gwrs, cynhaliwyd llu o arolygon barn dros y degawd a mwy ers hynny sydd wedi dangos yn eglur bod y rhod wedi troi a phobl Cymru wedi coleddu egwyddor datganoli a hyd yn oed yn deisyfu mwy. Ond cystal cyfaddef na fu’r arolygon hynny yn ddigon i argyhoeddi pawb, ac yn arbennig felly’r bobl a fu’n byw dan gysgod profiad (a phrofedigaeth) 1979. Fel y dywedodd un o’r rheini wrthyf ychydig ddyddiau wedi’r bleidlais ddiweddaraf, ‘Doeddwn i byth yn siwr os y dyliwn i gredu dy ffigyrau di, Richard’. Bellach mae’r peth yn amlwg i bawb: megis yn yr Alban yn 1997 felly yng Nghymru yn 2011, datganoli yw’r ‘ewyllys sefydledig’.
Nid yw’r ganran gymharol isel a ddewisodd fwrwpleidlais yn mennu dim ar hynny chwaith. A cheisio bodmor wrthrychol â phosibl, y gwir amdani yw nad oeddunrhyw reswm i ddisgwyl pleidleisio trwm. Nid yn unigroedd y mater dan sylw yn dechnegol (a geiriad ycwestiwn ar y papur pleidleisio yn fwy maith na Gweddi’r Arglwydd), ond cafodd yr ymgyrchu ei sbaddu gan benderfyniad True Wales i beidio â cheisio am ddynodiad prif ymgyrch swyddogol. Mewn sefyllfa o’r fath, mae’r ffaith fod dros draean yr etholwyr wedi trafferthu pleidleisio o gwbl yn dipyn o gamp. Yn sicr roedd yn fwy na digon i olygu mai maint y mwyafrif o blaid, nid yganran a fu’n bwrw pleidlais, yw stori fawr y refferendwm.
Oherwydd hyn oll, mae refferendwm 2011 wedi cadarnhau mai’r Cynulliad Cenedlaethol ac nid San Steffan bellach yw prif fforwm trafodaeth ddemocrataidd Gymreig. Yn wir, wrth i’r llywodraeth Brydeinig baratoi i leihau cynrychiolaeth Cymru yn Nhy’r Cyffredin i 30 aelod, dichon mai ymylol iawn eu pwysigrwydd i wleidyddiaeth Cymru fydd ein Haelodau Seneddol wedi 2015. A gan nad oes yna bellach unrhyw bosibiliad y bydd Aelod Seneddol o Gymru fyth eto’n dal un o’r prif swyddi domestig (h.y. Seisnig) mewn llywodraeth Brydeinig – Iechyd, Addysg, y Swyddfa Gartref, Trafnidiaeth, ac yn y blaen – go brin y gellir disgwyl i unrhyw wleidydd o Gymru fyth eto wneud argraff ar wleidyddiaeth y wladwriaeth honno chwaith. Perthynas rynglywodraethol fydd perthynas Cymru â’r wladwriaeth Brydeinig o hyn ymlaen. Ni fyddwn yn rhan ohoni yn yr un modd ag y buom ers yr unfed ganrif ar bymtheg.
Nid y symudiad at Ran 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a ganiateir gan bleidlais gadarnhaol fydd diwedd y datblygiadau cyfansoddiadol chwaith. Yn ôl telerau’r cytundeb clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd, bydd y bleidlais gadarnhaol a gafwyd hefyd yn arwain at ‘a process similar to the Calman Commission’ (rwy’n dyfynnu o’r gwreiddiol) ar gyfer Cymru. Yn wir, mae’n bosibl y bydd y cyhoeddiad wedi ei wneud ynglyn â’r Comisiwn arfaethedig erbyn i’r rhifyn presennol o Barn ymddangos o’r wasg. Hyd yma tueddwyd i fod yn ddigon dilornus o’r ymrwymiad ond mae hynny, rwy’n tybio, yn adlewyrchu anwybodaeth ynglyn â Chomisiwn Calman. Gan fod y sylw cyhoeddus a roddwyd i argymhellion Calman, a’r ddeddfwriaeth a esgorodd ohono, yn canolbwyntio ar faterion trethiannol, tueddir i anghofio bod maes llafur y Comisiwn yn ehangach o lawer. Eto gan ddyfynnu’r gwreiddiol, dyma’r dasg a roddwyd i’r Comisiynwyr : To review the provisions of the Scotland Act 1998 in the light of experience and to recommend any changes to the present constitutional arrangements that would enable the Scottish Parliament to serve the people of Scotland better, improve the financial accountability of the Scottish Parliament, and continue to secure the position of Scotland within the United Kingdom. Hynny yw, roedd yn adolygiad o’r setliad datganoli yn ei gyfanrwydd.
Gan fod Comisiwn Holtham eisoes wedi ystyried atebolrwydd ariannol y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynhyrchu gwaith a gydnabyddir gan bawb (gan gynnwys y Trysorlys) fel y drafodaeth fwyaf awdurdodol o ddigon ar y mater, y cymal cyntaf o’r cylch gorchwyl sydd fwyaf perthnasol i Gymru.
Rwy’n rhagweld y bydd y Comisiwn Cymreigarfaethedig yn ystyried yr holl faterion cyfansoddiadol hynny sy’n codi wrth sefydlu senedd ddeddfwriaethol o’r iawn ryw yng Nghaerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys materion morsylfaenol â sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, y modd y sefydlir cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gan Ddeddf 2006, a gallu Cynulliad trigain aelod i ddal Llywodraeth Cymru yn atebol mewn modd effeithiol. Petai unrhyw amheuon ynglyn â bwriadau o leiaf un o’r pleidiau sy’n ffurfio llywodraeth Llundain, cofier geiriau diweddar Nick Clegg i’r perwyl fod y setliad datganoli Cymreig wedi ei llunio gan ac er budd Llafur a’i bod yn bryd i hyn newid.
Mae eisoes yn amlwg fod potensial yn hyn oll i greu annifyrrwch mawr yn rhengoedd y Blaid Lafur Gymreig. Fydd Hain ddim yn hapus! Dichon hefyd y bydd llawer o Geidwadwyr yn anesmwytho hefyd. Ond mae’r rhesymeg a’r cyfeiriad a grëwyd gan bleidlais mis Mawrth yn eglur. O sefydlu deddfwrfa Gymreig rymus ni ellir yn y pen draw osgoi cwestiynau o’r fath. A boed hynny’n fwriadol ai peidio, mae geiriad y cytundeb clymblaid yn Llundain yn golygu y byddant yn cael eu gofyn a’u hateb yn fuan iawn.
Roedd Peter Hain yn arfer brolio bod Deddf 2006 wedi setlo mater datganoli am genhedlaeth. Yn sgil canlyniad refferendwm 2011 rwyf bellach yn dawel hyderus y bydd Deddf arall wedi cyrraedd y llyfrau statud erbyn 2015. Ymlaen mae Canaan!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
