Ar gyrraedd, y peth cyntaf sy’n mynnu eich sylw yw’r bric-a-brac sydd ym mhob man. Tylluan seicedelig gyda chyrn carw uwchben y lle tân, darluniau amaethyddol fel y rhai oedd yn hongian yng nghartref Mam-gu a Dadcu gynt, hen gloc serennog, pen carw’n gwylio pawb â’i lygaid gwydrog, silffoedd llawn ffigurynnau. Mae fel petai’r perchnogion wedi ymweld â’r sêl-cist-car mwyaf retro ar wyneb y ddaear... ac wedi prynu popeth oedd ar werth!
Gyda’r plant yn achosi anhrefn llwyr fel arfer, mae’n ffodus nad oes llawer o bobl eraill yma heddiw, gan nad yw Gwdihw yn lle mawr. Ry’n ni’n eistedd ar y llwyfan ac ymhen eiliad neu ddwy mae Elian wedi ffeindio rhino pren ac yn brysur wrthi’n pigo’i thrwyn â’i gorn miniog. Dw i a Lisa’n ei hanwybyddu ac yn troi’n sylw at y fwydlen. ‘Less is more’ yw moto Gwdihw (o ran y bwyd, o leiaf) ond trwy gynnig detholiad cyfyngedig o fwyd, mae’r ansawdd yn uchel tu hwnt, y prisiau’n weddol gystadleuol (yn enwedig o ystyried lleoliad y bwyty ynghanol ardal fusnes y ddinas) a phob pryd yn cael ei goginio’n ffres a’i weini gyda gwên garedig gan y staff cyfeillgar.
Mae ’na dri dewis o baninis blasus; hwmws a bara pita (sy’n stopio Elian rhag siarad am bum munud – record byd newydd); cnau, creision ac olewydd; ond dw i a Lisa’n archebu ac yn rhannu’r dahl, sef pryd Indiaidd gweddol boeth wedi’i weini gyda cre`me fraîche a bara pita wedi’i dostio, a’r stiw ffacbys sbeislyd, sy’n cael ei weini gyda bara trwchus a chaws cheddar.
I bwdin, mae Lisa ac Els yn archebu brownie siocled cartref a hufen iâ bob un, dw i’n cael quadruple espresso er mwyn ceisio aros ar ddi-hun, tra mae Syfi’n ddigon hapus i sugno’i banana stwnshlyd.
Mae’r cinio cyfan yn costio oddeutu £20, a’r teulu Owen yn ei heglu hi o’na gyda boliau llawn tra mae Gwdihw yn gorfod galw ar lanhawyr diwydiannol i glirio ar ein holau, diolch i ddiffyg maners llwyr Syfi Nona.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
