Cwestiwn arall, ac un llawer anos i’w ateb, ysywaeth, yw Sut mae Datrys Problem Fel Cyngor Môn? Ac eto, ar ôl dweud hynny, y gwir plaen ydi bod peth wmbredd ohonom yn gwybod yn iawn beth sy’n bod ar y Cyngor. Ond rydan ni i gyd yn rhy lwfr i ddweud hynny’n blwmp ac yn blaen. Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, o ran edrychiad ac ymarweddiad, wrth ei fodd yn meithrin delwedd ohono ei hun fel Dyn Caled Cei Connah. Ef, yn ei driniaeth o Gyngor Môn, yw’r gweinidog cyntaf ym Mhrydain i anfon comisiynwyr i ofalu am awdurdod lleol. Macho iawn ynte. Ond dyw’r Sargeant, hyd yn oed, ddim wedi meiddio enwi’r dyrnaid o gynghorwyr sydd wrth wraidd trafferthion blin y cyngor. Bu gan y gweinidog, a phawb arall a fu wrthi’n ofer yn arolygu’r cyngor ar gost anferthol, ormod o ofn gwneud hynny. Dydw innau, felly, ddim yn mynd i chwarae rhan yr arwr ffôl a chael fy erlyn am ddifenwi pileri cymdeithas. Oherwydd dyna sut y byddai bargyfreithwyr drudfawr yn portreadu’r cynghorwyr hyn. Fyddai golchi’r Ethiop du yn wyn, ys dywed yr emyn gwleidyddol anghywir, ddim ynddi!
Newyddiaduraeth sâl yw peidio enwi’r cynghorwyr dinistriol, cyfaddefaf. Ond dydi Barn ddim gwahanol i’r BBC a’r wasg a’r cyfryngau Cymreig a Chymraeg yn eu cyfanrwydd. Rydan ni i gyd yn euog.
Cawn weld beth ddaw o benderfyniad y Sargeant i amddifadu’r cynghorwyr o’r hawl i wneud penderfyniadau. Does dim lle i fod yn or-obeithiol. Go brin fod ymyrraeth Llywodraeth Cymru yng Nghyngor Môn wedi bod yn llwyddiant hyd yma. Prawf o hynny yw’r chwalfa bresennol. Dieneiniad fu’r Bwrdd Adfer, a bod yn garedig. (Onid oedd hi’n boenus o amlwg i bawb ond y Sargeant a’i ymgynghorwyr y byddai Elan Closs Stephens allan o’i dyfnder yng ngherrynt twyllodrus afon Cefni?) Ac rydw i’n argyhoeddedig fod David Bowles, yr MD a barasiwtiwyd i’r ynys ar gost o £1,000 y dydd (!), wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les. Llwyddodd i elyniaethu cynghorwyr cymodlon heb wneud dim i
lyffetheirio’r anghymodlon. O ran tegwch ag ef, deallaf ei fod wedi bod yn gefnogol i’r staff. Ac fel y dywedwyd droeon – yn gwbl gywir – mae’r gwasanaethau y mae Cyngor Môn yn eu darparu o safon uchel. (Fel ag yr oedden nhw cyn i Bowles gyrraedd.) Ond fe’i penodwyd am grocbris i setlo cynnen y cynghorwyr. Ac fe fethodd.
Pum comisiynydd fydd yn rhedeg yr ynys o hyn ymlaen. Cafodd tri eu henwi eisoes. Prin y gwnaeth Byron Davies yn ystod ei deyrnasiad fel MD Cyngor Sir Caerdydd ymddangos ar radar y genedl. Wyddwn i ddim ei fod o’n siarad Cymraeg tan i’r Sargeant ei wthio o flaen meic Radio Cymru yn Llangefni. Er gwell neu er gwaeth, nid Brunstrom o Brif Gwnstabl fu prif gopyn Heddlu Gwent, Mick Giannasi. Dwi’n si?r ei fod o’n ddyn dilychwin ond mae ei enw’n anffodus o Faffia-aidd.
Gan fy mod eisoes wedi datgan fy amharodrwydd i fynd i garchar, lleiaf yn y byd a ddywedaf am Alex Aldridge, arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn ystod penodau amhersawrus iawn yn hanes y Cyngor hwnnw. A’r rhain fydd yn penderfynu sut i dorri £10 miliwn oddi ar gyllideb yr ynys. Rhain fydd yn cael gwared ar 20 o athrawon a 70 o staff y Cyngor. Rhain hefyd, fel Bowles, fydd yn erydu’r defnydd naturiol o’r Gymraeg o fewn Siambr Cyngor Sir Ynys Môn.
Beth wnaethom ni i haeddu hyn?
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
