Ychydig wythnosau’n ôl roedd Steve Eaves yn cynnal gig acwstig yng nghaffi’r Caban ym Mrynrefail, yng nghalon Eryri, ac roedd hi’n noson i’w chofio. Wedi gwledda ar ddau gwrs o fwyd blasus a oedd yn rhan o bris y tocyn, arhosodd pawb o gwmpas y byrddau i sipian gwin neu goffi a chael eu hudo’n llwyr gan set a oedd yn cynnwys ffefrynnau fel ‘Traws Cambria’, ‘Pendramwnwgl’, ‘Hydref Eto’, ‘Sigla dy dîn’, ‘Ymlaen mae Canaan’ a ‘Maddeuant mor felys’. Gyda’r canwr yr oedd y gitarydd meistrolgar Elwyn Williams, a fu’n chwarae gydag ef bron o’r dechrau, a Pete Walton – Funky Pete fel y’i gelwir – ar y bas dwbl. Pan ganwyd yr hyfryd ‘Nos Da, Mam’ i gloi, roedd y gynulleidfa’n amharod i droi am adref. Roedd arnynt eisiau mwy o’r llais graeanllyd unigryw, yr alawon diddorol, y geiriau garw a thyner, plaen a chyfriniol bob yn ail, y cyd-chwarae esmwyth heb sôn am yr ambell raeadr iasol o nodau ar yr organ geg. Yn y diwedd fe gawsant eu dymuniad – dwy neu dair cân arall cyn troi allan i’r nos.
Gwta dair wythnos yn ddiweddarach, ar drothwy rhyddhau’r casgliad cynhwysfawr o ganeuon o’rgorffennol, cefais sgwrs efo’r canwr. Nid yw Steve Eaves yn rhoi cyfweliadau’n aml. Gwell ganddo greu apherfformio’i gerddoriaeth na siarad amdani. ‘Sgen i ddim cymaint â hynny i’w ddeud heblaw be sy yn y caneuon,’ meddai. Ac yn wir, mae ei atebion i’m cwestiynau yn cadarnhau’r argraff gyffredinol fod yma ddyn sy’n gwbl ymroddedig i’w gerddoriaeth, purydd o berfformiwr sy’n meddwl yn ddwfn ynglyn â phob agwedd ar ei grefft. Dyn swil, efallai, ond un sy’n credu yn yr hyn y mae’n ei wneud. Mae’n siarad yn yr un dull digynnwrf a phwyllog ag y bydd wrth gyflwyno’i ganeuon, yn ddwys gan mwyaf ond nid heb hiwmor chwaith.
Mae cyhoeddi Ffoaduriaid yn garreg filltir. Dyma gasgliad bron-yn-gyflawn o holl ganeuon Steve Eaves hyd yma. Bydd y pecyn yn cynnwys saith albwm a ryddhawyd ar feinyl, tapiau a chrynoddisgiau dros gyfnod o bymtheng mlynedd, o Viva la Revolución Galesa! (1984) i Iawn (1999), ynghyd â phedwar trac oddi ar grynoddisgiau amlgyfrannog, y cwbl wedi’u hel ynghyd ar 5 CD. (Nid yw’r albwm diweddaraf, sef Moelyci [2007], yn rhan o’r pecyn gan ei fod yn dal mewn cylchrediad.) Yn ôl y canwr, ymateb yw’r fenter i geisiadau pobl fu’n gofyn dros y blynyddoedd am gasgliad o’r fath. Mae ef ei hun yn falch o weld corlannu’r ‘ffoaduriaid’ ynghyd ac yn ddiolchgar i Sain am ymgymryd â thasg ddigon cymhleth.
Mae’r casgliad yn tystio i yrfa gynhyrchiol. Cychwynnodd yn ôl yn niwedd y 1960au a’r 1970au cynnar, trwy ganu a chyfeilio (ar y gitâr, yr organ geg ac ambell dro y mandolin) mewn clybiau o gwmpas gogledd Cymru a Chaer. ‘Gwaith caib a rhaw’ oedd yn ei gynnal ar y pryd, a’r perfformio yn rhywbeth oedd yn digwydd rhwng swyddi ac ar benwythnosau, a chafodd ambell gyfnod byr o fyw ar y miwsig hefyd. Yn dilyn cyfnod yn y coleg yn Llanbed ganol y saithdegau, dychwelodd i Fangor, ac ar ddechrau’r wythdegau ymunodd Iwan Llwyd, gyda’i gitâr fas, ag ef a dyna gychwyn partneriaeth ffrwythlon rhwng dau o gyffelyb fryd. Yn fuan wedyn daeth Elwyn Williams a’i gitâr atynt, a maes o law Hefin Huws y drymiwr, a’i olynydd Richard Wyn Jones i ffurfio Steve Eaves a’i Driawd. Elwyn sydd wedi cynhyrchu neu gyd-gynhyrchu pob un o’r recordiadau, a hynny mewn stiwdios a oedd yn amrywio, chwedl yntau yn nodiadau llyfryn y pecyn, o ‘gwt yn y Felinheli’ [Stiwdio’r Felin] i ‘foethruswydd pum seren Llandwrog’ a Stiwdio Les, Bethesda. Dros y blynyddoedd mae nifer fawr o gerddorion eraill wedi bod yn rhan o’r band, yn eu plith y gantores Jackie Williams; drymiwr presennol y band, Gwyn ‘Maffia’ Jones; Les Morrison; Dafydd Dafis a Pwyll ap Siôn ac yn fwy diweddar Owen Hughes ar offerynnau taro a’i faswr presennol, Pete Walton. Ac mae’r profiadau perfformio hwythau wedi amrywio’n fawr hefyd, o Eisteddfodau a gwyliau mawr, ac o deithiau barddol i nosweithiau bach acwstig fel yr un yn y Caban.
Ond er yr holl newid a mynd a dod, mae rhai pethau wedi aros yr un fath. A’r peth pennaf sydd wedi aros yn ddigyfnewid yw’r cariad at y blws – y dylanwad pwysicaf ar ei ganu, o bosib.
‘Dwi wastad wedi licio blws. Pan o’n i’n dechrau chwarae mewn bandiau o’n i’n gwrando ar blws trydanol – Muddy Waters, Jimmy Reed ac Elmore James, ond wedyn, yn y saithdegau, wnes i ddechrau gwrando ar blws hyn na hynny, stwff o gefn gwlad taleithiau deheuol America – Son House, Robert Johnson, Skip James, Mississippi John Hurt a llu o rai eraill. Yr hyna yn y byd dwi’n mynd mwya byd dwi’n meddwl mai’r hen stwff ’di’r gora.’
Beth ydi ei apêl, felly?
‘Does ’na ddim byd tebyg i’r blws. Fedra i ddim wir ei egluro fo ond dwi’n gwybod pan dwi yn ’i ganol o, mae o’n rym ysbrydol bron, yn mynd â chdi i le gwahanol. Ddim y blws dawnsio ond y stwff mwy myfyriol. Mae’r strwythur mor syml – tri chord fel arfer, deuddeg bar, system odli syml iawn, AABA, a’r ddwy linell gyntaf yn ailadrodd. Ond mae sgwennu cân blws go iawn yn her – yn fwy o her na’r stwff barddonol dwi wedi’i sgwennu, achos yn wreiddiol roedd o’n gyfrwng i bobl oedd yn anllythrennog a oedd yn trio mynegi pethau cymhleth efo’r ychydig o adnoddau iaith oedd gynnyn nhw. Ond i ni yn yr oes fodern sy’n trio gwneud rhywbeth tebyg, y gamp ydi diosg yr holl adnoddau geiriol a mynd at graidd pethau.
‘Mae clywad geiria cân blws fel gweld creigiau rhyw gyfandir anferthol wrth sbio o’r môr. Dim ond y creigia ti’n weld, ond y tu ôl iddyn nhw mae yna gyfandir cyfa o hanes a phrofiad – ’lasa fod yn unigrwydd, dioddefaint, colli perthynas neu beth bynnag, profiadau dirdynnol yn cael eu mynegi mewn iaith eitha’ syml.
‘John Lee Hooker ddywedodd “the blues is a healer” a dwi’n credu hynny. Mae o’n iachau, yn porthi rhywbeth dwfn ynddon ni.’
Mae ceisio defnyddio cyfrwng y blas i greu rhywbeth tebyg yn Gymraeg yn her, meddai. Ond er nad yw’n ‘ddu nac o linach caethweision’, chwedl yntau, mae’n ymgyrraedd yn barhaus at y nod honno. Prin yw’r cerddorion Cymraeg sydd wedi canu blws, meddai, gyda Meic Stevens yn eithriad nodedig. Er mai dim ond dwy neu dair cân blws sydd ar bob casgliad o eiddo Steve Eaves, mae’n credu bod yr arddull yn sylfaen i’r cyfan.
Mae’n cofio trafod â Iwan Llwyd, carwr blws arall, ar ddiwedd rhyw noson yn ôl yn y 1980au, ei fwriad i ganolbwyntio ar gerddoriaeth fel ei brif gyfrwng o hynny ymlaen. Er ei fod bryd hynny wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, roedd y dynfa at ganu a pherfformio yn gryfach na’r awydd i fod yn rhan o’r byd barddol a llenyddol. Wrth gyfansoddi caneuon, yr alaw sy’n dod gyntaf bob tro, meddai. Ond mae’n amlwg ei fod hefyd yn gwirioni ar roi geiriau wrth ei gilydd, boed mewn cân serch neu’r caneuon mwy gwleidyddol y canodd gynifer ohonynt.
A’r cyfan yn Gymraeg. Yr unig Saesneg ar Ffoaduriaid, am wn i, yw rhai o linellau ‘We Used to Sing in Welsh’, oddi ar y CD Iawn, sy’n cyfeirio’n ddychanol at y duedd a gychwynnodd yn y 1990au i fandiau Cymraeg ganu yn Saesneg.
Mae un peth yn sicr. Mae’n dal i fwynhau perfformio cymaint ag erioed, ac yn ei elfen yn y nosweithiau acwstig.
‘Dwi’n meddwl erbyn hyn fod ’na lai o ddisgwyliad imi wneud coblyn o dwrw! Mae pobol sy’n dod i’r gigs y dyddiau yma yn gwybod y bydda i’n canu’r stwff mwy myfyriol, ac mae hynna’n rhoi rhyw ryddid, a pherthynas dda efo’r gynulleidfa. Dwi hefyd yn mwynhau’r ffaith ’mod i a’r cerddorion eraill yn gallu clywed ein gilydd, pob cyffyrddiad â phob tant. Mae pobol fel Elwyn a Pete yn gerddorion mor dda, dwi’n gallu ymgolli wrth wrando arnyn nhw a’r pethau diddorol maen nhw’n wneud pan dwi ddim yn canu.’
Mae’n canmol ei gyd-gerddorion, a’i gyd-gynhyrchwyr, am rywbeth arall hefyd, sef eu hamynedd. Mae’n weithiwr diarhebol o araf – bydd yn gweithio ar ganeuon am flynyddoedd cyn eu recordio a chymerodd y CD ddiwethaf, Moelyci, chwe blynedd iddo. Dywed fod ganddo bellach ddigon o ganeuon i lenwi dwy neu dair CD arall ond fod yn rhaid iddo rywsut gyflymu’r broses recordio er mwyn eu dwyn i olau dydd.
Tan hynny, mae’n debyg y bydd edmygwyr Steve Eaves yn ddigon hapus i wrando eto ar rai o glasuron y gorffennol ar Ffoaduriaid.
Bydd Ffoaduriaid (Sain, £16.99) yn y siopau erbyn 1 Mawrth.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
