Thema dywyll Thema golau

Ysbryd Tre’r Ceiri yn LA

Yn 1995 gofynnwyd i mi feirniadu cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd, Llanbedr Pont Steffan. Ynghanol y bwndel o gyfansoddiadau a ddaeth i law yr oedd un darn ar gyfer pedwarawd llinynnol o’r enw ‘Yr Eifl’. Roedd y darn hwn ben ac ysgwydd uwchben y gweddill – yn llawn creadigrwydd a dychymyg ac yn arddangos techneg gerddorol gadarn. A phan gyhoeddwyd yr enillydd yn Seremoni Tlws y Cerddor, dyma glywed enw’r cyfansoddwr ifanc am y tro cyntaf: Ceiri Torjussen.

Fel yn achos ei gerddoriaeth, mae’r enw Torjussen yn glynu yn y cof. Mae ei wreiddiau teuluol ar y naill law yn Llyn (oddi yno y daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Yr Eifl’) ac ar y llaw arall yn Norwy. Ychwanegwch fagwraeth ddinesig Torjussen yng Nghaerdydd at y pair o brofiadau cynnar a daw’n amlwg fod yna gymysgedd go unigryw o elfennau cefndir wedi bod yn rhan o ffurfiant a datblygiad y cyfansoddwr. Yn wir, mae’r cyfuniad yma o berspectif dinesig, rhyngwladol, ôl-fodern ynghyd â ddiddordeb yn ei wreiddiau a’i hunaniaeth Gymraeg a Chymreig yn nodwedd bwysig o arddull gerddorol Torjussen. Fe’i ganed yng Nghaerdydd yn 1976. Ei fam oedd y dylanwad cerddorol cyntaf arno. Roedd hi’n hoff o fyrfyfyrio wrth y piano, a dyma a’i symbylodd i ddechrau cyfansoddi. Bu’n fodd iddo fagu diddordeb mewn jas hefyd, ac yn ddiweddarach fe ddaeth Ceiri yn aelod o’r grwp jas Giant Steps, a berfformiodd nifer o weithiau yng Nhwyl Jas Aberhonddu. Ar ôl cael ei addysgu yn Ysgol Melin Gruffydd, Ysgol Uwchradd Glantaf a Choleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, lle cafodd ei annog i ddatblygu ei ddawn gan y cyfansoddwr John Metcalf, treuliodd rai misoedd yn dysgu mewn ysgol yn Shimla ym mynyddoedd Himalaya ac yna weddill y flwyddyn yn teithio India.

Bu dysgu am draddodiadau cerddorol India yn rhagflas o’r hyn yr oedd i’w dderbyn ym Mhrifysgol Efrog. Roedd Adran Gerdd y brifysgol yn enwog am ei hagwedd flaengar tuag at gerddoriaeth, ac yno cafodd Torjussen gyfle i astudio’r pwnc o bob ongl bosibl – o’r hen i’r newydd, o’r clasurol i’r poblogaidd, ac o gerddoriaeth orllewinol i gerddoriaeth fyd-eang. Fodd bynnag, cerddoriaeth avant-garde y 1960au a aeth â’i fryd yn bennaf, gwaith cyfansoddwyr megis Boulez a Berio, ac fe astudiodd am gyfnod yn Ffrainc gydag un o ddisgyblion Olivier Messiaen.

Ar ôl graddio gyda dosbarth cyntaf o Brifysgol Efrog, aeth Torjussen ymlaen i wneud gradd bellach ym Mhrifysgol De California yn Los Angeles, gan ymgartrefu yn LA yn 1998. Parhaodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth yr avant-garde, ac mae ei ddylanwad i’w glywed yn yr agorawd cyffrous ac egnïol Momentum , gwaith ar gyfer cerddorfa lawn a gwblhawyd yn 1999. Yn yr un flwyddyn fe gipiodd gystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn am ei Sinfonia i gerddorfa. Cafodd Momentum ei berfformio am y tro cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch, a hynny gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Grant Llewelyn. Sicrhaodd llwyddiant Momentum gomisiwn gan Gerddorfa’r BBC a’r canlyniad oedd gwaith mwy sylweddol o’r enw Blodeuwedd. Dangosai’r gwaith comisiwn hwn ddiddordeb Torjussen yn yr hen chwedlau Cymreig, ac fe’i clywyd am y tro cyntaf yng Ngwyl Gerdd Bro Morgannwg yn 2001.

Nodwedd amlwg o’r gweithiau hyn oedd dawn Torjussen wrth ymdrin â’r gerddorfa, a buan iawn y daeth i sylw cyfarwyddwyr ffilm Los Angeles. Yn aml fe ddefnyddir tîm o gyfansoddwyr i drefnu cerddoriaeth y cyfansoddwr mewn unrhyw gynhyrchiad Hollywood, am fod cyfansoddi ar gyfer cerddorfa symffonig yn cymryd amser mewn amserlen sy’n dynn iawn; y gerddoriaeth yw’r elfen olaf i’w gosod ar unrhyw ffilm fel arfer. Trefnodd Torjussen draciau sain rhai o brif gyfansoddwyr ffilm y degawd diwethaf, megis Marco Beltrami a Harald Kloser ar gyfer ffilmiau fel Terminator 3: Rise of the Machines (2003), I, Robot (2004) a The Day After Tomorrow (2004). Ers hynny mae Torjussen wedi cyfrannu cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer rhai ffilmiau, fel Live Free or Die Hard (2007) a Repo Men (2010), ynghyd â thraciau sain cyfan i Mentor (2006), sy’n gyfuniad o themâu telynegol, cyfeiliant rhythmig, a thrac sain tecno tywyll, ac Undoing (2006) sydd hefyd yn benthyg oddi wrth elfennau o electronica.

Mae gwaith Torjussen yn y byd ffilm yn brawf o’i ddawn a’i hyblygrwydd fel cyfansoddwr, ac mae ei ddealltwriaeth o’r mathau o gerddoriaeth sy’n addas ar gyfer genres gwahanol – megis Action, Thriller, Horror, Spoof ac yn y blaen – eisoes wedi sicrhau mesur o lwyddiant iddo mewn maes cystadleuol iawn, ac yntau’n dal yn gymharol ifanc. Wrth ddatblygu gyrfa ddisglair fel cyfansoddwr ffilm, mae Torjussen wedi parhau i gyfansoddi darnau ar gyfer y neuadd gyngerdd, ac er ei fod gryn bellter o’i famwlad, mae’n amlwg fod Cymru yn parhau i ddylanwadu ar ei weledigaeth gerddorol.

Mae traddodiad gwerin Cymru yn ffynhonell gyson o ysbrydoliaeth iddo. Nid trefniannau syml ac amlwg o’r alawon a geir gan Torjussen, fodd bynnag, ac yn sicr nid rhai diog ac ystrydebol, ond cyfansoddiadau gwreiddiol a lliwgar sy’n defnyddio’r alaw fel man cychwyn yn unig. Clywir hyn yn rhai o’r gweithiau cynnar, megis Tair Alaw Werin Gymreig ar gyfer piano (1999). Mae un o’r tair alaw, trefniant o ‘Oes Gafr Eto?’, i’w chlywed ar grynoddisg Iwan Llewelyn-Jones, Portreadau Cymreig (Sain, 2001), ac yn chwarae ar y syniad o ailadrodd wrth enwi lliwiau’r Afr gan efelychu brefiadau’r anifail yr un pryd. Mae’r gwaith yn ymdrin ag alawon cyfarwydd mewn modd anghyfarwydd, annisgwyl a dyfeisgar iawn. ‘Eclectig’, efallai, fyddai’r gair mwyaf addas i ddisgrifio arddull Torjussen, ond nid yw hynny’n adlewyrchu’r cynildeb sy’n perthyn i’w gerddoriaeth. Mae cymeriad creadigol cryf yn treiddio trwy’r ystod eang o arddulliau a ddefnyddir ganddo ac mae’r gwahanol ddylanwadau’n asio’n rhyfeddol. Gwelir hyn yn un o’i ddarnau diweddar, sef Ar Lan y Môr. Darn comisiwn gan Huw Tregelles Williams a Gwyl Gerdd Abertawe 2010 ar gyfer Catrin Finch oedd hwn, ac mae’n cael ei berfformio yng Ngwyl Gerdd Newydd Bangor eleni. Dim ond yn adran ganol y gwaith y clywir yr alaw adnabyddus mewn unrhyw ffordd echblyg, a hynny mewn gwead sy’n dwyn i gof gyfansoddwyr argraffiadol megis Debussy a Ravel. Cyn hynny defnyddir nifer o dechnegau estynedig (megis harmonics) i greu morlun cerddorol hynod effeithiol, ac fe ddiweddir y gwaith yn yr un modd. Mae’r darn yn arddangos meistrolaeth Torjussen ar y delyn ac yn enghraifft effeithiol iawn o’r modd y mae’r cyfansoddwr wedi llwyddo i gyfuno ei ddylanwadau sy’n deillio o’i wreiddiau Cymreig gyda thechnegau, arddulliau a dylanwadau rhyngwladol. Gallwn fod yn sicr y bydd ysbryd Tre’r Ceiri yn parhau i ddylanwadu ar y cyfansoddwr o LA.

Bydd Ar Lan y Môr yn cael ei berfformio gan Catrin Finch yng Nghapel Penrallt, Bangor, ar 1 Ebrill, am 7.30pm fel rhan o Wyl Gerdd Newydd Bangor (29 Mawrth–1 Ebrill).


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Caffis Cymru - Gwdihw

Ymlaen >

Cwrs Y Byd - Môn