Thema dywyll Thema golau

Teimlo Fel Brenin

Profiad annifyr a dweud y lleia’ oedd gwrando ar Lyn Ebenezer ar Radio Cymru yn ddiweddar yn ceisio bod yn ddigri trwy fod yn ddi-chwaeth ynglyn â chyflwr atal dweud. Roedd ei hiwmor yn dangos diffyg cydymdeimlad â dioddefwyr, yn enwedig plant a phobl ifanc sy’n ceisio ymdopi gyda’r aflwydd. Mae nam ar y lleferydd yn gallu chwalu hyder ac yn aml yn arwain at unigrwydd affwysol.

Ar y llaw arall, profiad eithriadol o ddyrchafol oedd cael gwylio The King’s Speech, ffilm sydd wedi’i seilio ar hanes gwir y Brenin Siôr VI a oedd yn dioddef o atal dweud. Roedd rhywun yn gallu uniaethu ag ef, a rhannu ei rwystredigaeth, wrth iddo gael ei fwrw gan amgylchiadau annisgwyl i’r orsedd a cheisio ymdopi â swydd oedd yn golygu bod rhaid siarad yn gyhoeddus a hynny wrth gynulleidfa fyd-eang mewn darllediad radio byw, ar ddechrau oes gyfryngol newydd. A’r wlad ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, roedd disgwyl arweiniad cryf gan y brenin ac roedd hynny’n rhoi pwysau ychwanegol ar ysgwyddau un nad oedd erioed wedi chwenychu’r swydd. Sylfaen y plot yw brwydr y gwr hwn yn erbyn ei gyflwr, cyn ac wedi iddo ddod yn frenin, a’r modd y mae’n wynebu her siarad cyhoeddus – ac un araith allweddol yn 1939 – gyda chymorth therapydd lleferydd anarferol ei ddulliau.

Llwyddodd y ffilm yn rhyfeddol i gyfleu holl artaith a thensiwn y sefyllfa, diolch i sgriptio cywrain David Seidler a’r actio penigamp. Yn sicr, i rywun ac arno atal dweud, roedd yna bethau oedd yn taro tant ac yn ennyn cydymdeimlad dwfn. Mae’r munudau a’r eiliadau cyn ceisio torri gair yn gyhoeddus yn boendod na all neb sydd heb gael y profiad ei ddirnad, ac mae gan bawb ei ffordd bersonol o geisio ymdopi. Er enghraifft, fe all taro bysedd er ceisio cadw rhythm brawddeg fod o help, fel y gall cydio mewn meicroffon neu ddarn o ddodrefnyn, ac fe gafwyd cyffyrddiadau o’r fath yn y ffilm heb i lawer un sylwi mae’n siwr. Manylion bach fel yna, a’r ffaith fod tensiwn annioddefol y sefyllfaoedd yn cael ei gyfleu mor fyw, a roddodd y wefr i mi, a rhaid cyfaddef i mi golli deigryn neu ddau.

Fe lwyddwyd hefyd i ail-greu mewn modd argyhoeddiadol y tensiwn sy’n aml yn datblygu rhwng y siaradwr a gwrandawyr pan mae’r atal dweud yn digwydd. Pan fo gair yn peri trafferth, tuedd pawb bron yw ceisio dweud y gair gyda’r siaradwr, ac mae hynny ynddo’i hun yn cynyddu’r pwysau arno ac yn gwaethygu’r sefyllfa bob tro. Mae’r rhwystredigaeth wedyn yn effeithio ar y rheolaeth ar yr anadl a’r canlyniad yw fod y siaradwr yn colli amynedd nid yn unig gyda’r rhai sy’n ceisio bod o help, ond hefyd gydag ef ei hunan. Os cewch gyfle i weld y ffilm, sylwch ar yr wynebau o gwmpas y brenin wrth iddo geisio torri gair, ac fe welwch yr anniddigrwydd sy’n gallu codi’n aml. Mae’r sylw a roddir i’r manylion pwysig yma yn un o gryfderau amlycaf y ffilm i mi, ac yn profi mor drylwyr fu’r gwaith ymchwil a aeth iddi.

Mae Colin Firth yn y brif ran yn haeddu pob clod am ei bortread hynod sensitif o’r brenin, ac mae’r actor wedi cydnabod yr effaith a gafodd y profiad ar ei ddealltwriaeth o’r broblem. Gwych hefyd yw perfformiad Geoffrey Rush fel y tiwtor ffyddiog – gorffyddiog ar adegau. Yn wir, gellid dadlau mai ef yw’r gwir brif gymeriad, cymaint yw cryfder y portread o Lionel Logue, yr Awstraliad ecsentrig a bohemaidd nad oes ganddo gymwysterau o gwbl ar gyfer y gwaith, dim ond ffydd diymwad yn ei allu i lwyddo. Roedd y ddau yn llwyr haeddu eu gwobrau BAFTA. Cryfder arall yr actio a’r sgriptio yw dangos nad yw gormodedd o gydymdeimlad gyda’r dioddefwr yn gweithio bob amser gan y gall arwain at hunandosturi, problem sy’n hynod gyffredin ymysg dioddefwyr ifanc yn enwedig. Gwelir sawl golygfa gref lle cawn Logue yn ymateb i agweddau rhwysgfawr a ffurfiol y frenhiniaeth, ac o fewn sefyllfa felly mae’r brenin yn datgelu ei blentyndod anhapus. Mae’r ddadl sy’n datblygu rhwng y brenin a’i diwtor wrth iddynt gerdded yn y parc yn sicr yn un o uchafbwyntiau’r ffilm ac yn crisialu’r berthynas anodd a chwithig sydd rhwng y ddau oherwydd eu cefndiroedd gwahanol. Diddorol hefyd yw sylwi fel y mae’r frenhines, er mwyn cefnogi ei gwr, yn gorfod llacio ei hagweddau ffurfiol a dod yn nes at agwedd y tiwtor.

Amlygir agwedd ddidostur a chaled Edward at gyflwr ei frawd wrth iddo ei ddirmygu’n aml, ac mae’n rhaid cofio mai’r agweddau yma o fewn y frenhinaeth a fu’n gyfrifol am achosi’r nam yn wreiddiol. Efallai bod rhai yn gweld y pwyslais ar agweddau fel hyn yn sarhad ar y frenhiniaeth fel sefydliad, tra bydd eraill, i’r gwrthwyneb, yn siwr o weld y cyfan yn rhy frenhingar ei naws. O gofio amgylchiadau’r cyfnod a her fawr Hitler ar y gorwel, prin eithriadol yw ymddangosiad Neville Chamberlain, ac os oes gwendid yn y cyfanwaith, yna’r naid sydyn o gyfnod Stanley Baldwin i ddyddiau Winston Churchill yw hynny, ac ni chefais fy argyhoeddi gan bortread Timothy Spall o’r gwr hwnnw chwaith.

Ffaith ddiddorol yw bod llawer o’r rhai hynny sy’n dioddef o atal dweud yn gallu canu’n gyhoeddus heb drafferth o gwbl, ac mae’n debygol fod hynny’n wir am dafleisio hefyd. Mae ailadrodd ambell air sy’n eitha’ hawdd i’w ddweud yn dacteg er meithrin hyder, fel y dangoswyd yn y ffilm – er efallai i’r modd y gwnaed hynny fod braidd yn aflednais a merwino ambell glust! Mae’r ffilm yn sicr o ddwyn mwy o gydymdeimlad ymhlith y cyhoedd â dioddefwyr a phwy a wyr na fydd llwyddiant arwrol y brenin wrth gyflawni tasg mor anodd yn eu calonogi a magu hyder ynddynt. Mae’r balchder o allu goresgyn yr aflwydd yn foddhad na all hyd yn oed geiriau ei ddisgrifio. Mi wn i mi adael y sinema yn teimlo fel brenin.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

De Affrica: Dagrau Rhyddid

Ymlaen >

Anghyfiawnder Olympaidd