Rhaid cyfaddef, bûm yn un o’r amheuwyr; un o’r bobl hynny nad oedd yn credu y byddai Rhodri Morgan yn bwrw ymaith feichiau’r Brif Weinidogaeth yn ddiweddarach eleni. Er gwaetha’r ffaith ei fod wedi datgan ei fwriad i ildio’r swydd, fy nhybiaeth oedd y byddai – ryw sut, ryw fodd – yn ei ddarbwyllo’i hun i ddal ati am gyfnod hirach nag a fwriadwyd ganddo’n wreiddiol. Wedi’r cwbl, fel y paffwyr rheini y mae’r Prif Weinidog yn edmygydd mor llafar ohonynt, mae ’na hen, hen hanes o arweinwyr gwleidyddol yn dal ati am gyfnod hwy nag sy’n ddoeth. Yn wir, gan fod doniau’r gwleidydd yn edwino’n fwy graddol na doniau’r paffiwr, efallai bod gwleidydd yn fwy tueddol fyth o syrthio i’r fagl honno.Ystyriwch Lloyd George, Tony Blair, Gwynfor Evans hyd yn oed – mae’r rhestr bron yn ddiddiwedd. Ac o ystyried bod Rhodri Morgan wedi bod yn ffigwr mor ganolog yng ngwleidyddiaeth y Gymru ddatganoledig, byddai’n hawdd iawn deall unrhyw duedd ar ei ran i geisio dal ei afael. Y fo fu ffigwr anhepgorol y degawd diwethaf, a go brin y bydd hi’n hawdd iddo ildio’r awenau.
Ond na, ymddengys nad oedd sail i f’amheuon wedi’r cwbl. Hyd yn oed petai Rhodri Morgan yn simsanu – ac nid oes gennyf unrhyw reswm i gredu ei fod yn gwneud hynny – mae’n anodd gweld sut y gallai newid ei gân bellach. Ryw dro yn ystod y misoedd nesaf (ai yn y cyfarfod llawn olaf cyn yr haf, tybed?) fe fydd Morgan yn hysbysu ei gyd-aelodau o’r Cynulliad ei fod am ildio’r Brif Weinidogaeth, gan wahodd ei gyd-aelodau o’r Blaid Lafur i ddewis olynydd. A gyda hynny, dyna gau pennod gwbl ffurfiannol yn hanes gwleidyddol Cymru.
Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd Rhodri Morgan, a hynny nid yn unig oherwydd ei ddoniau diamheuol fel unigolyn ond, lawn cymaint â hynny, oherwydd yr hyn y daeth i’w gynrychioli yn sgil y driniaeth a ddioddefodd dan law Tony Blair. Pan benderfynodd hwnnw ymateb i ymddiswyddiad Ron Davies trwy orseddu Alun Michael yn ei le, gan ddefnyddio pob tric dan-din o eiddo Hen Lafur a Llafur Newydd fel ei gilydd i sicrhau’r canlyniad awdurdodedig, fe wnaeth ferthyr poblogaidd o Rhodri Morgan. Y fo yn ddi-os oedd dewis trwch aelodau Llafur – yn fudiad a phlaid – a phobl Cymru. Ond gyda Peter Hain yn arwain y gad, sicrhawyd nad y nhw, ond yn hytrach Downing St, a gafodd y gair olaf. Oherwydd hynny daethpwyd i synio am ‘Rhodri’ – doedd o ddim angen cyfenw bellach – fel un o’n Hogiau Ni a gafodd gam. Roedd mwy na synnwyr o chwarae teg a chyfiawnder naturiol ar waith yma, rwy’n tybio. Ai gormod yw awgrymu bod Rhodri Morgan wedi dod i ymgorffori i lawer o’n cydwladwyr y teimladau hynny o rwystredigaeth a dicter y mae Cymry – unoliaethwyr lawn cymaint â chenedlaetholwyr – yn ei deimlo wyneb yn wyneb â thraha anystyriol y Sais?
Fe dalodd y Blaid Lafur yn ddrud am ei thriniaeth o Morgan. Wrth reswm, roedd sawl ffactor yn gyfrifol am berfformiad rhyfeddol Plaid Cymru yn etholiad 1999. Ond roedd anfodlonrwydd cefnogwyr Llafur yn wyneb y cam a wnaed â Morgan yn un o’r pwysicaf ohonynt. Pan ddiorseddwyd Alun Michael yn ddisymwth ym mis bach 2000, roedd teimlad cyffredinol ar lawr gwlad fod wedi cael ei haeddiant – ac felly hefyd Rhodri Morgan wrth ei olynu. Ac er bod y farn gyhoeddus wedi dechrau symud fwyfwy i gyfeiriad datganoli yn fuan wedi’r refferendwm (a tybed os nad oedd triniaeth Blair o Morgan yn un o achosion y symudiad hwnnw?), rwy’n dawel fy meddwl fod presenoldeb ‘Rhodri’ fel Prif Weinidog wedi hwyluso a phrysuro’r broses honno wedi hynny. Dyma wleidydd y mae pobl yn ei adnabod; gwleidydd sy’n meddu’r gallu cyfrin hwnnw i greu’r argraff ei fod yn rhannu teimladau a phrofiadau’r werin-bobl. Naw wfft i’r holltwyr-blew sy’n mynnu tynnu sylw at ei gefndir anweirinol. Yn y cyd-destun yma (os nad eraill), mae’r ffaith fod ei dad yn Athro Cymraeg a’i fam yn un o fyfyrwyr ymchwil Saunders Lewis, a’i fod yntau’n un o efrydwyr Harvard a Rhydychen, oll yn amherthnasol. Un o hanfodion arweinyddiaeth garismataidd – chwedl y cymdeithasegwr Max Weber – yw ei fod yn gallu trosgynnu manylion bywgraffyddol o’r fath. Daeth Rhodri, efo’i arabedd agos-atoch, yn fath o eicon cenedlaethol; yn arweinydd gwleidyddol sydd rhywsut yn mwynhau statws sydd y tu draw i wleidyddiaeth. Pa ryfedd felly nad Rhodri a ddioddefodd pan geisiodd gwleidyddion eraill ei gymryd yn ysgafn neu ei fychanu, ond yn hytrach yr ymosodwyr eu hunain? (Fu Nick Bourne byth yr un fath!)
Wrth gwrs, nid rhith a grëwyd gan Tony Blair yn unig yw poblogrwydd Rhodri Morgan. Mae ganddo gyffyrddiad poblogaidd diamheuol. Gall gyfathrebu’n naturiol â phobl o bob lliw a llun. Gwn o brofiad personol fod ganddo’r ddawn brin honno – y mae Dafydd Wigley’n un arall – i greu awyrgylch wahanol mewn ystafell pan mae’n bresennol ynddi. Ac fel Wigley, mae pobl yn croesi’r ffordd i’w gyfarch os yw’n cerdded lawr y stryd, yn hytrach na’i chroesi i’w osgoi, fel yn achos cymaint o wleidyddion eraill! Mae’r doniau hyn yn real hyd yn oes os mai effaith ymyrraeth Blair oedd gwneud pobl yn fwy parod i’w gweld a’u gwerthfawrogi.
Nid doniau o’r fath yn unig a gyfrannodd i’w rôl fel Prif Weinidog. Profodd yn weinyddydd abl. Am greadur mor ‘bleidiol’, fe brofodd yn ddeheuig wrth gynnal perthnasau oddi mewn i glymblaid, rhywbeth a synnodd lawer o sylwebwyr, minnau yn eu plith. Profodd ei fod yn gallu blaenoriaethu – dawn hanfodol i unrhyw arweinydd llwyddiannus. Yn bwysicaf oll, efallai, ac yn wahanol iawn i’w ragflaenydd Alun Michael, bu’n barod i ymddiried yn eraill yn hytrach na cheisio gwneud popeth ei hun. Rhoddwyd rhyddid sylweddol i weinidogion megis Edwina Hart a Jane Davidson i dorri eu cwysi ei hunain. Yn fwy na hynny, fe lwyddodd i gasglu ynghyd garfan fechan o gynghorwyr arbennig a chwaraeodd rôl allweddol yn natblygiad y Gymru ddatganoledig.
Mewn cyfnod pan fo giamocs ynfyd ac anfad Damian McBride a’i debyg yn ennyn sylw beunyddiol, mae cynghorwyr arbennig Rhodri Morgan yn enghreifftiau tra gwahanol – ac anrhydeddus – o werth cynghorwyr o’r fath. Yn wir, rwy’n tybio eu bod yn un o’r agweddau o gyfnod Morgan nad yw wedi ei werthfawrogi’n ddigonol hyd yma, ac yn un o’r agweddau y gwelir ei golli fwyaf pan ddaw ei deyrnasiad i ben.
Pan gymrodd ei le fel Prif Ysgrifennydd – ei deitl gwreiddiol, fe gofir – buan y casglodd Morgan griw o gynghorwyr o’i gwmpas. Buont yn drawiadol o deyrngar iddo, ac er mai ychydig y tu hwnt i gyffiniau’r Senedd a Pharc Cathays sy’n adnabod eu henwau, bu eu dylanwad yn sylweddol. Mark Drakeford fu’r pwysicaf ohonynt, ond odid. Ef, fe dybir, oedd awdur yr araith enwog honno yn Rhagfyr 2002 a hawliodd fod ‘d?r coch croyw’ yn gwahanu Llafur Cymru oddi wrth Lafur Llundain. Ef sydd wedi ymlafnio galetaf wrth geisio rhoi sylwedd deallusol a pholisi i’r slogan honno. Ef bellach yw’r cynghorydd arbennig sydd wedi gwasanaethu hiraf o blith holl gynghorwyr arbennig llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol. Ond wrth i Morgan gamu o’r neilltu, y disgwyl yw y bydd Drakeford yn dychwelyd i’w swydd fel Athro Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac y bydd cynghorydd abl arall, Mike Sullivan, yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe. Amser a ddengys, wrth gwrs, ond ta waeth pwy fydd yn olynu Rhodri, go brin y bydd ef neu hi yn gallu pwyso ar gynghorwyr sy’n meddu profiad ac arbenigedd cynghorwyr fel y rhain.
Un arall o briodoleddau allweddol Morgan fel arweinydd, a rhywbeth a fydd hefyd yn amhosib i’w ail-greu, yw ei brofiad seneddol. Bu hyn yn bwysig mewn dwy ffordd o leiaf. Yn gyntaf bu’n gymorth mawr wrth iddo ef a Dafydd Elis Thomas geisio diosg rhai o elfennau mwyaf annerbyniol y ‘setliad’ cyfansoddiadol gwreiddiol a gorfforwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998. Pan aethpwyd ati i wahaniaethu’n fwy ffurfiol rhwng y llywodraeth a’r Cynulliad, ailenwi swyddi (troi ysgrifenyddion yn weinidogion), a gweddill y pethau a wnaed er mwyn rhoi gwedd fwy seneddol ar ein cyfundrefn ddatganoledig, San Steffan a ddarparodd y model. Nid llyfrau gosod cyfansoddiadol â’u pwyslais ar wahanu grymoedd oedd yn ysbrydoli’r ddau ond yn hytrach blynyddoedd o brofiad personol.
Ar ben hynny, o safbwynt gwleidyddiaeth fewnol y Blaid Lafur hefyd, bu profiad Morgan fel aelod o’r Blaid Lafur Seneddol Gymreig yn bwysig dros ben. Gydag ambell i eithriad nodedig, megis ei wraig Julie, nid yw’n ymddangos fod ’na lawer o gynhesrwydd personol na gwleidyddol ym mherthynas Morgan â’r Aelodau Seneddol Llafur Cymreig. Serch hynny, roedd dwy ochr y berthynas yn adnabod ei gilydd ac yn deall ei gilydd, a’r Aelodau Seneddol yn gorfod cydnabod cyfraniad Morgan, yn enwedig ar ôl i hwnnw achub eu plaid yn etholiad 2003. Mae hyn yn ei dro wedi bod o gymorth i osgoi neu liniaru’r tensiynau yn y berthynas rhwng Llundain a Chaerdydd. Ond wrth i Morgan ymadael â’r Brif Weinidogaeth, ac wedyn y Cynulliad ei hun, dyma dorri’r unig ddolen gyswllt uniongyrchol rhwng rhengoedd Llafur yn y ddau senedd-dy. Er y cafwyd ambell ymdrech i godi pontydd, prin iawn yw’r cysylltiadau eraill rhyngddynt. Bydd, fe fydd y Blaid Lafur Cymreig yn gweld colled ar ôl Morgan am lawer iawn o resymau.
Heb ei fai heb ei eni, meddai’r hen air. Er bod angen cydnabod ei rôl fel dyn anhepgorol y degawd diwethaf, nid yw Rhodri Morgan yn berffaith, wrth reswm. Byddwn yn nodi dwy brif feirniadaeth. Yn gyntaf, gellir dadlau nad yw wedi manteisio’n ddigonol ar ei statws dihafal i yrru pethau yn eu blaenau. Fe fydd, er enghraifft, yn gadael y Brif Weinidogaeth a Chymru’n parhau’n gaeth i ‘setliad’ cyfansoddiadol sydd yn ansefydlog ac yn amlwg yn annigonol. Pwy mewn difrif sy’n disgwyl i’r drefn Orchmynion bresennol oroesi cyfnod o lywodraeth Geidwadol yn Llundain? Os cynigir y ddadl na ellid fod wedi sicrhau mwy na Deddf Llywodraeth Cymru 2006, anghytunaf. Rydw i’n ystyried bod ymateb Rhodri Morgan ar ddiwrnod cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Richard yn un o isafbwyntiau ei Brif Weinidogaeth. Oni ddylai hefyd fod wedi gwneud rhagor i sicrhau bod ei blaid yn dewis ymgeiswyr o safon uwch ar gyfer y Cynulliad, yn enwedig ar gyfer y seddi diogel? Mae ’na bobl o dalent wirioneddol wedi deisyfu sefyll yn lliwiau Llafur ond heb gael y cyfle i wneud. Dichon y byddai arweinyddiaeth gadarnach gan Morgan wedi gallu sicrhau hynny – a chael gwared ar sawl pren marw ar yr un pryd. Os yw Llafur yn dymuno cael ei hystyried yn blaid lywodraethol naturiol, a thra bydd y Cynulliad yn gorff mor brin ei aelodau, mae cymryd camau o’r fath yn hanfodol.
Pam na wnaeth fwy o ddefnydd o’i rym? Un rheswm, heb os, yw teyrngarwch Morgan i’w blaid. Gwnaeth bopeth yn ei allu i osgoi rhwygiadau. Dichon mai dyna pam roedd ei ymateb cyhoeddus i Adroddiad Richard mor ddienaid o lipa. Dichon hefyd mai dyma sy’n rhannol egluro pam na fu’n fwy parod i geisio cael gwell trefn ar y Blaid Lafur Gymreig. Nid peth i’w ddiystyru na’i ddifrïo’n ddi-feind yw teyrngarwch o’r fath. Mae’r broses ddemocrataidd yn dibynnu arno. Fodd bynnag, rwy’n ei chael hi’n anos maddau tuedd achlysurol Rhodri Morgan i ganiatáu i’w gyffyrddiad poblogaidd droi’n boblyddiaeth.Yn lle arwain y farn gyhoeddus, gan arddel rôl arweinydd gwirioneddol fawr fel addysgydd yn ogystal ag adlewyrchydd barn a rhagfarn, bu’r Prif Weinidog yn rhy barod ar adegau i gofleidio’r opsiwn rhwydd a bas. Dyna, mae’n debyg, oedd wrth wraidd ei wrthwynebiad i adeiladu’r Senedd bresennol, ond nid dyma’r unig enghraifft chwaith. Gresyn na fyddai Rhodri Morgan wedi defnyddio ei statws i egluro i bobl Cymru fod llywodraeth ddatganoledig effeithiol yn golygu bod rhaid wrth ddigon o gapasiti yn y gwasanaeth sifil, bod angen arbenigedd allanol i ddarparu cyngor pleidiol i’n harweinwyr gwleidyddol, ac yn y blaen. Gresyn na fu’n fwy parod i fynd benben â Nick Bourne pan fu hwnnw’n ymollwng i’w dueddiadau poblyddol yntau, gan ddweud wrtho yn ddi-flewyn-ar-dafod bod Cymru’n haeddu adeiladu cyhoeddus o safon. Ac, yn wir, bod Cymru’n cael ei llywodraethu mewn modd sydd (er gwaethaf ambell iPod ynde, Mr Bourne?) yn drawiadol o ddarbodus. Mewn gair, gresyn na fu’n fwy parod i arwain!
Ond thâl hi ddim bod yn rhy feirniadol chwaith. O osod y gwendidau hyn yn y glorian yn erbyn ei gryfderau, ni ellir ond casglu fod ei rinweddau’n gorbwyso’r gwendidau, a hynny o gryn dipyn. O safbwynt gwleidyddiaeth Cymru, rhaid diolch i’r drefn ei fod yno’n barod i olynu Alun Michael – a diolch i Blaid Cymru a’r gwrthbleidiau eraill eu bod nhw, yn wahanol i arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn Llundain, yn barod i roi’r cyfle iddo wneud hynny.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
