Thema dywyll Thema golau

Y chwerthin sydd mor drist

Benthycais linell o gerdd gan T. Glynne Davies i’w gosod yn bennawd ar y sylwadau hyn. Seriodd y llinell honno ei hun ar fy meddwl wrth imi wylio’r ffilm bwerus hon am ddau ddyn a fu farw’n gynamserol, y naill o achosion naturiol a’r llall o hunanladdiad. Ystrydeb yr ystrydebau, fe wn i’n dda, yw dweud mai ffin denau sydd rhwng comedi a thrasiedi. Does dim modd osgoi hynny, fodd bynnag, wrth gofio beth fu tynged Ryan a Ronnie. Bu farw’r naill yn America o asthma. Difa ei hun yn afon Teifi wnaeth y llall. Dyma ddau ddyn a ffurfiodd bartneriaeth gomedi yn saithdegau’r ganrif ddiwethaf na fu ei thebyg erioed yng Nghymru. Ac nid yng Nghymru yn unig. Mewn adolygiadau o Summer Seasons Ryan a Ronnie yn Blackpool, fe gawson nhw eu cymharu’n ffafriol iawn â Morecambe and Wise gan rai o hen ohebyddion showbiz Gogledd Lloegr. A doedd y rheini, frîd diflanedig bellach, yn eu hetiau trilbi a’u sigarets Capstan Full Strength, ddim yn bobol hawdd i’w plesio. Ddim o gwbl! Yn enwedig os nad oeddech chi’n dod o Rochdale neu Oldham neu Blackburn. Cofiwch, roedden nhw’n barod i gefnogi perfformwyr talentog eraill – ar un amod! Sef bod y rheini’n dod yn ddigon pell o ochrau Llundain! Ar yr un pryd, roedd yr hen hacs theatrig hynny’n ddidugaredd eu condemniad o’r didalent, dim ots o b’le roedd y rheini’n dod.

Ar ddechrau’r ffilm hon, er eu bod nhw yn anterth eu poblogrwydd, mae partneriaeth Ryan a Ronnie ar fin chwalu.Ymunwn â nhw ar noson dyngedfennol yn eu hanes. Noson eu gig olaf efo’i gilydd – nid eu bod nhw wedi cyhoeddi hynny i’r byd. Yn wir, nid yw Ryan, hyd yn oed, yn sylweddoli hynny nes eu bod nhw’n barod, bron, i fynd ar y llwyfan. Ronnie sydd wedi penderfynu dod â’r bartneriaeth i ben, ar gyngor ei feddyg, medda fo.

Mae’r ffaith fy mod i’n cyfeirio atyn nhw fel Ryan a Ronnie yn deyrnged i’r ddau actor sy’n eu portreadau, Aled Puw a Rhys ap Hywel. Mae’r ddau yn argyhoeddi’n llwyr. Eithr mae gan Aled y fantais ychwanegol o fod yn edrych yn rhyfeddol o debyg i Ryan. Trwy gydol 70 munud y ffilm chefais i ddim lle o gwbl i amau dilysrwydd y sgwennu, yr actio na’r cyfarwyddo. Gan fy mod i’n adnabod Ryan a Ronnie yn eithaf da yn y cyfnod a ddarlunnir, dwi’n credu y byddwn i wedi sylwi ar unrhyw frychau difrifol. A dwi’n sicr nad myfi yw’r unig un o’m cenhedlaeth a fydd yn cael pwl o hiraeth wrth weld eto ar y sgrîn y ddau yn cyrraedd neuadd lle roedden nhw’n ymddangos, ar wahân, mewn dau Jaguar gwyn. Jags a oedd yn union yr un fath a’i gilydd. Mae gen i gof hefyd, y tro diwethaf imi holi Ryan, mai sleifar o Fercedes anferth roedd o yn ei yrru, un a wnâi i Jag gwyn dyddiau’r ddeuawd ymddangos yn eithaf cyffredin. Nid ceir o’r fath y byddai Ronnie’n eu gyrru ar ôl i Ryan ac yntau wahanu.

Does gen i ddim manylion o gwbl am y gyllideb a gafwyd i saethu’r ffilm hon. Ond rydw i’n eithaf sicr iddi gyrraedd y sgrîn am y nesaf peth i ddim o’i chymharu â’r cyllidebau a gafodd dwy ffilm arall am bobol go iawn – biopics – oedd yn y sinemâu tua’r un adeg â Ryan a Ronnie, sef Frost/Nixon a The Damned United. Mae’r ffaith bod modd trafod y ffilm Gymraeg ar yr un gwynt â’r ddwy ffilm arall yn deyrnged i griw cynhyrchu Ryan a Ronnie. Bu’r sgwennwr, Meic Povey, a’r cyfarwyddwr, Rhys Powys, yn ddigon hirben i gadw’r cyfan yn dynn. Mae llawer o’r saethu yn eithaf clawstroffobaidd. Ac nid beirniadaeth mo hynny. Perthynas felly oedd gan Ryan a Ronnie. Mae’r arddull sinematig yn gweddu i’r stori i’r dim. Mae hefyd yn cuddio yn ddeheuig a chreadigol y cyfyngiadau ariannol sy’n cael eu gosod ar ffilmiau o Gymru. Llunio’r wadn fel bo’r troed yw’r gyfrinach.

Syniad arall a dalodd ar ei ganfed oedd gofyn i Arwyn Davies, mab Ryan, fod yn gyfrifol am y gerddoriaeth. Roedd cerddoriaeth yn elfen ganolog ym mherfformiadau llwyfan a sioeau teledu Ryan a Ronnie. Rydw i’n gwaredu wrth feddwl sut fath o stomp y gallasai’r ffilm fod wedi ei gwneud wrth geisio cyfleu elfennau cerddorol eu hact. Gallasai fod yn erchyll. Yn lle hynny, synnu a rhyfeddu oeddwn i fod camp mor anodd wedi ei chyflawni mor llwyddiannus.

Dywed Boom Films yn eu broliant fod y ffilm wedi ei ‘haddasu’ o ddrama lwyfan wreiddiol Meic Povey, The Life of Ryan... and Ronnie. Mewn un ystyr mae hynny’n wir.

Ond, er clod i bawb a fu’n gyfrifol am y ffilm, mae angen dweud nad oedd hi’n edrych nac yn teimlo fel addasiad o ddrama lwyfan.

Yn Oriel Môn yn Llangefni y gwelais i’r ffilm, yn un o gynulleidfa o ryw ddeugain a oedd, yn ôl yr ymateb ar y diwedd, wedi mwynhau’r profiad. A hynny er gwaetha’r ffaith mai mewn cadeiriau cyffredin ar lawr gwastad yr eisteddem. Trwy drugaredd doedd neb cawraidd, neb yn gwisgo het, a neb efo gwallt Affro ar ein cyfyl. Ar yr hyn y bydd athrawon a disgyblion ysgol yn cyfeirio ato fel Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol y cafodd y ffilm ei dangos. Er fod gan lawer o bobol bellach sgriniau teledu mwy na honno yn eu cartrefi, doedd hynny ddim yn broblem.

Diau mai yn Theatr Gwynedd y byddai’r ffilm hon wedi cael ei dangos – pe byddai yna Theatr Gwynedd o hyd. Ond does yna ’run. A fydd yna ’run am o leiaf bedair blynedd arall. Rhagor lawer na hynny, mae’n debyg, ag ystyried rhagolygon economaidd y blynyddoedd nesaf. Mae Cyngor Sir Ynys Môn i’w longyfarch, felly, am fod mor ddyfeisgar â darparu llefydd newydd a chyfleoedd amgen ar gyfer dangos ffilmiau a dramâu. Negyddol a dinistriol fyddai gwneud dim oll ond wylofain a rhincian dannedd a gofidio bod Theatr Gwynedd wedi cau. Er mwyn cadw’r gynulleidfa bresennol, heb sôn am feithrin cynulleidfa newydd, mae’r rhaid parhau i ddarparu ar ei chyfer. Heb hynny mae peryg gwirioneddol y byddai’r gynulleidfa yn y Gogledd Orllewin wedi diflannu ymhell cyn i’r Theatr Gwynedd newydd agor. Pryd bynnag y bydd hynny. Sinigaidd iawn ydw i ar hyn o bryd..

Ar nodyn llai daearyddol blwyfol, yn ystod tymor ei dangosiad roedd y ffilm i’w gweld mewn llefydd mor amrywiol â’r Coed Duon, Aberdâr, Llanfair-ym-Muallt, Llandysul, Bae Colwyn, Llanuwchllyn a Chaergybi. (Roedd fersiwn efo isdeitlau ar gael.) Mae’r lleoliadau amrywiol hyn yn tanlinellu eto pa mor eang oedd apêl Ryan a Ronnie. Nhw yn anad neb arall ym maes adloniant ysgafn a ddaeth yn agos at gyfannu’r genedl. Roedden nhw’r un mor boblogaidd bob tamaid efo cynulleidfaoedd Cymraeg Cymru ag yr oedden nhw efo cynulleidfaoedd Saesneg Cymru. (Cychwyn diddanu yn y Gymraeg ddaru Max Boyce, dealler, cyn canolbwyntio’n llwyr ar berfformio yn Saesneg. Ond wnaeth Ryan a Ronnie, ar y llaw arall, erioed roi’r gorau i weithio yn y ddwy iaith.)

Mae tymor dangosiadau’r ffilm yn dod i ben yn Theatr Mwldan Aberteifi ar 2,4,5,7 a 9 Mai. Dim ond un dangosiad neu ddau oedd i’w gweld fel rheol yn y lleoliadau eraill. Os gwn i pam? Mae hi ychydig yn macabre fod ffilm Ryan a Ronnie i’w gweld am bum noson yn nhref Aberteifi.

Yn Aberteifi, yn nyfroedd oer ei hafon, y daeth bywyd anhapus Ronnie i ben mewn modd torcalonnus. Hwnnw ydi’r ‘chwerthin sydd mor drist’. Damia fo.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Emyr Price (1944–2009) 

Ymlaen >

Ar ôl Rhodri