Nid dyma’r tro cyntaf i ffigyrau blaenllaw yn y Blaid ddefnyddio colofnau Golwg i bregethu efengyl undod a disgyblaeth. Dyna’n union fyrdwn llith gan Adam Price ychydig fisoedd ynghynt. Mae’r pryder sydd wrth wraidd datganiadau o’r fath yn gwbl ddealladwy a rhesymol. Paradocs neu beidio, dro ar ôl tro gwelwyd mai’r awr fawr yn hanes plaid wleidyddol, y foment honno y mae’n cipio grym am y tro cyntaf, yw un o’r cyfnodau mwyaf peryglus hefyd. Mae hynny’n wir boed y blaid honno’n cipio grym mewn gwladwriaeth sofran neu’n dyfod yn bartner llai mewn llywodraeth glymblaid sy’n rheoli deddfwrfa prin-ei-phwerau.
Mae’n amlwg pam, wrth gwrs. Mae llywodraethu’n cynnig her cwbl newydd ac unigryw. Nid yw’r profiadau a gafwyd a’r sgiliau a feithrinwyd tra’n rhan o’r wrthblaid yn paratoi plaid ar gyfer llywodraethu. Cyn rhoi cynnig arni does wybod pa wleidyddion fydd yn abl i orfodi gwasanaeth sifil anhydrin i ufuddhau, fydd yn gallu troi dyheadau maniffesto yn bolisïau diriaethol, a bydd yn gallu cadw’r wasg, y gwahanol fuddiannau a’r cyhoedd yn hapus ar yr un pryd. Allwch chi ddim mynd i goleg i ddysgu peth felly. Nid yw cwmnïau preifat, sefydliadau cyhoeddus na chynghorau, hyd yn oed, yn baratoad cyflawn chwaith. Yn wir, mae’r gwahanol drafodaethau o flynyddoedd cyntaf llywodraeth Blair yn cadarnhau ei bod wedi cymryd dwy flynedd i’r gweinidogion newydd gael eu traed-dan-bwrdd go-iawn. A ‘dim ond’ am 18 mlynedd y bu Llafur yn eistedd ar feiciau’r gwrthbleidiau yn San Steffan. Treuliodd Plaid Cymru 82 o flynyddoedd lawer iawn ym mhellach o gael ei bachau ar yr awenau na hynny! Wrth enwebu aelodau o’i blaid i’w dyrchafu’n Weinidogion yr haf diwethaf, nid oedd modd i Ieuan Wyn Jones wybod pwy (gan gynnwys ef ei hun) fyddai’n meddu’r cymwysterau angenrheidiol i wneud llwyddiant ohoni.
Mae siomi’n anorfod hefyd. Ydi, mae bod yn wrthblaid yn gallu bod yn uffernol o rwystredig – darllenwch hanes Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas yn ystod y 1980au os am gadarnhad o hynny. Ond mae ganddo ei gysuron hefyd. Nid oes yn rhaid cymryd cyfrifoldeb; gellir beio popeth ar lywodraeth y dydd. Mae’n fater gwahanol iawn pan yn rhan o’r llywodraeth honno, wrth reswm. Fel gwrthblaid gellir osgoi’r blaenoriaethu, y penderfyniadau llai-na-delfrydol a’r cyfaddawdu sy’n rhan anorfod o lywodraethu mewn cymdeithas gymhleth, gyfoes. Nid felly wrth lywodraethu, a dyna pryd y bwrir goleuni newydd ar y gwead o wahanol ddiddordebau a blaenoriaethu – rhai ohonynt yn ddigon anghymarus – sy’n rhan o ffurfiant unrhyw blaid wleidyddol. Pan ddigwydd hynny, ac am y tro cyntaf yn enwedig, gall y sioc, a’r siom, arwain yn rhwydd at ddadrithiad a rhaniadau.
O gofio hyn oll, mae rhybuddion Alun Ffred Jones ac Adam Price yn amserol ac yn gwbl briodol. Ond mae’n gweithio’r ddwy ffordd. Ydi, mae’n bwysig fod arweinyddiaeth y Blaid yn gallu disgwyl dipyn o ddealltwriaeth a theyrngarwch wrth iddynt ymgymryd ag antur fawr llywodraethu. Nid dyma’r amser i ymdrybaeddu mewn ystumiau hunan faldodus, diffrwyth a diystyr. Ar y llaw arall, mae’n bwysig fod yr arweinyddiaeth honno’n sylweddoli ei bod yn hollbwysig defnyddio’r grym a gyrchwyd cyhyd i sicrhau enillion diriaethol mewn meysydd sydd o bwys arbennig i’w chefnogwyr craidd. Nid digon yw mynnu undod a theyrngarwch, rhaid ei feithrin hefyd.
Yn bersonol, rwy’n amheus iawn o’r dadansoddiadau hynny sy’n awgrymu bod rhwyg neu raniad sylfaenol ym Mhlaid Cymru rhwng traddodiadwyr diwylliannol, ar y naill law, a modernwyr adain chwith, ar y llaw arall: neu rhwng cenedlaetholwyr diwylliannol a chenedlaetholwyr gwleidyddol, a defnyddio’r llaw-fer gyfarwydd. Y gwir amdani yw bod hunanlywodraeth yn flaenoriaeth holl bwysig i’r traddodiadwyr, tra bod y modernwyr drosodd a thro (trwy eu dewisiadau addysgiadol ar gyfer eu plant eu hunain, trwy eu hymdrechion i gefnogi agor a chynnal ysgolion Cymraeg, ac ati) wedi dangos eu hymrwymiad ymarferol i ddiwylliant Cymraeg. Ers degawdau bellach bu etholwyr Gwynedd yn gyfarwydd â gweld arwyddion etholiadol Plaid Cymru yn datgan ‘Dros Waith a Dros Iaith’. O ychwanegu ‘Dros Hunanlywodraeth’ at y rhestr ceir crisialiad gweddol deg o’r drindod syniadaethol sydd yn ganolog i gyffes ffydd trwch helaeth cenedlaetholwyr Cymreig: Datblygiad Economaidd Cymdeithasol; Adferiad Diwylliant; ac Ymreolaeth Gyfansoddiadol.
Ond na waeth sut yn union yr ydym yn dewis pwyso a mesur y gwahanol bethau sy’n cyfrif i gefnogaeth graidd Plaid Cymru, mae’n amlwg fod adferiad diwylliannol yn flaenoriaeth canolog-bwysig i lawer iawn ohonynt. Ar ben hynny, gyda llawer o’r gefnogaeth graidd honno’n synhwyro o’u profiadau beunyddiol yn yr hyn a arferwyd eu hystyried yn fröydd Cymraeg fod yr iaith yn parhau ar drai beth bynnag y rhethreg swyddogol, maent yn disgwyl i’r llywodraeth glymblaid bresennol fynd i’r afael â sefyllfa’r Gymraeg fel mater o frys a blaenoriaeth. O’r herwydd, heb enillion sylweddol a dichonadwy ar fater adferiad diwylliannol, piso yn y gwynt fydd yr arweinyddiaeth wrth alw am undod a theyrngarwch. A phroblem yr arweinyddiaeth honno yw hyn: o’r tri peth mawr a addawyd i gefnogwyr Plaid Cymru ar fater y Gymraeg, dim ond un ohonynt oedd ym meddiant Plaid Cymru i’w chynnig – a’r papur dyddiol oedd hwnnw. Mae 'na lawer o resymau i resynu at benderfyniad Rhodri Glyn Thomas i droi cefn ar ymrwymiad maniffesto – ac ymrwymiad cytundeb clymblaid – i bapur dyddiol. Fe’u dinoethwyd orau, efallai, gan Heini Gruffudd mewn ysgrif wenfflam yn rhifyn Mai o’r cylchgrawn hwn: erthygl na feiddiodd yr un Pleidiwr amlwg ymateb iddi. Afraid gwneud mwy na chyfeirio darllenwyr yn ôl. Ond mae rheswm arall pam y bydd yr arweinyddiaeth honno yn edifarhau eu bod wedi mor barod i gytuno â phenderfyniad Rhodri Glyn ar fater papur dyddiol, a rheswm realpolitik pur ydi honno. Byddai papur dyddiol wedi cynnig amddiffyniad iddynt yn wyneb y siom sydd yn rhwym o ddyfod o gyfeiriad y ddau ymrwymiad mawr arall.
Gadewch i mi egluro. Hyd y gwelaf roedd 'na dri peth gwirioneddol sylweddol yn cael eu cynnig ar fater y Gymraeg yng nghytundeb Cymru’n Un: papur dyddiol, Coleg Ffederal a Gorchymyn Trosglwyddo Grymoedd yn rhoi’r hawl i’r Cynulliad basio Mesur yn cryfhau statws yr iaith. O ran yr olaf o’r rhain, mae’r broses ddeddfu newydd (a drafodwyd hyd at syrffed bellach, mae’n debyg, yn y golofn hon) yn golygu y bydd yn rhaid i Weinidogion Plaid Cymru sicrhau cytundeb Swyddfa Cymru a dau dy San Steffan, yn ogystal â chydsyniad ei phartner llywodraethol yng Nghaerdydd, cyn y ceir Gorchymyn Trosglwyddo. Oes 'na unrhyw un ag unrhyw grebwyll gwleidyddol o gwbl sy’n credu na fydd y broses honno’n rhwym o arwain at lastwreiddio sylfaenol ar ddyheadau Plaid Cymru? Eisoes clywyd sibrydion fod dadlau brwd y tu ôl i ddrysau caeedig yng Nghaerdydd. Gallwch fentro fod pethau saith gwaeth yn Llundain lle nad oes yna unrhyw awydd am ddeddfwriaeth iaith newydd a lle mae ewyllys da tuag at y glymblaid yn parhau’n beth prin. Bydd, fe fydd yna Orchymyn a Mesur Iaith, ond gallwch fentro mai Mesur y gorau-oedd-yn-bosib-dan-yr-amgylchiadau fydd hon, yn hytrach na’r trawsnewidiad radical y mae caredigion y Gymraeg yn ei chwennych. Mewn byr o eiriau, bydd yn rhwym o siomi.
Mae mater y Coleg Ffederal yn fwy cymhleth – ac yn destun anesmwythyd personol i’ch colofnydd. Rwy’n un o’r rheini a fu’n galw am Goleg Ffederal ac rwy’n ymfalchïo yn y modd y mae’r alwad honno wedi llwyddo i roi addysg uwch cyfrwng Cymraeg ar yr agenda gwleidyddol am y tro cyntaf ers cenhedlaeth. Mae Dafydd Glyn Jones a’i fintai ffyddlon, ynghyd â myfyrwyr Aberystwyth, yn haeddu clod aruthrol am hynny. Rwy’n llawer iawn llai balch o orfod cydnabod – a sylweddolaf fod hyn yn ddadleuol – nad oes yna ar hyn o bryd gynllun credadwy a dichonadwy ar gyfer Coleg Ffederal o’r fath y gellir ei rhoi ar waith.
Gan Gymdeithas William Salesbury y ceir y cynllun manylaf o ddigon (gellir ei ddarllen ar wefan y Gymdeithas), sef diweddariad ar gynllun cynharach a luniwyd gan Einir Young a Delyth Morris. Mae’r rheswm am y diweddaru’n arwyddocaol. Digwyddodd yn sgil diflaniad Prifysgol Cymru fel sefydliad ffederal ystyrlon. Bellach, dim ond cysgod o’r hyn a fu yw’r Brifysgol. Gyda Bangor, Aberystwyth, Abertawe, Llanbed ac eraill eraill wedi dilyn yn ôl traed Caerdydd a dyfod yn brifysgolion yn ei hawl eu hunain – gan draddodi graddau eu hunain – prif waith Prifysgol Cymru yw traddodi graddau i fyfyrwyr rhai o sefydliadau addysg uwch gwannaf yr ynysoedd hyn. Tra bod y Ganolfan Uwchefrydiadau Cymraeg a Cheltaidd a Gwasg y Brifysgol yn parhau i swatio dan ei fantell, fe welodd Prifysgol Cymru yn dda i dorri’r cysylltiad ymarferol olaf â’r ‘sefydliadau hyn’ eraill (Bangor, Aberystwyth, ac ati) trwy gymryd y fwyell i’r Bwrdd Gwybodaeth Celtaidd. Gweithred o fandaliaeth ddeallusol sy’n dal i greithio’r rhai ohonom fu’n dystion iddo.
Mae goblygiadau pellgyrhaeddol iawn i’r syniad o Goleg Ffederal yn codi o ddiraddiad Prifysgol Cymru. Wedi’r cwbl, fel Coleg o’r Brifysgol honno, yn traddodi graddau’r Brifysgol, y bwriadwyd y Coleg Ffederal. Gyda diflaniad y Brifysgol ffederal a fu, daeth y dasg o greu’r math o drefniant a arfaethwyd gan gefnogwyr Coleg Ffederal lawer iawn yn anos. Os nad wyf yn camgymryd yn fawr, ymateb Cymdeithas William Salesbury yw galw am ddefnyddio sefydlu Coleg Ffederal fel modd o geisio ail-godi rhywfaint ar y gaer a chwalwyd. Ond peth peryglus iawn yn fy marn i yw ceisio ieuo ffawd addysg uwch cyfrwng Cymraeg at ffawd sefydliad – sef Prifysgol Cymru – sydd wedi chwythu ei phlwc i’r fath raddau. Bydd eraill yn anghytuno, wrth reswm. Ond mae’n ymddangos i mi fod Cymdeithas yr Iaith, o leiaf, wedi gweld y ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Nid ydynt hwy’n ceisio hybu model benodol yn seiliedig ar Brifysgol Cymru. Yn hytrach, dan arweiniad egniol yr ardderchog Rhys Llwyd, maent yn ceisio hoelio sylw ar bedwar egwyddor gyffredinol y tybiant y dylid eu corffori mewn unrhyw Goleg Ffederal yn hytrach [gw. tt. 48]. Y drwg ydi nad yw’r egwyddorion hyn yn cyffwrdd o gwbl ag un o’r cwestiynau mwyaf sylfaenol oll – y cwestiwn mwyaf sylfaenol oll o’m profiad i – sef patrymau cyflogaeth a rheolaeth aelodau staff y corff arfaethedig.
Y broblem i Blaid Cymru a’r llywodraeth glymblaid yw eu bod serch y diffyg cynlluniau credadwy wedi ymrwymo eu hunain i Goleg Ffederal. Beth yn y byd y maent am ei wneud, felly? O safbwynt y rhai ohonom sy’n argyhoeddedig fod angen newidiadau strwythurol sylfaenol cyn y rhoddir lle priodol i’r Gymraeg yn ein cyfundrefn addysg uwch, tybiaf mai’r gorau y gellir gobeithio amdano yw sefydlu rhyw fath o ymchwiliad awdurdodol i ddod a chynigion gerbron. A bwrw fod yr ymchwiliad hwnnw yn gallu pwyso ar adnoddau digonol ac yn cynnwys aelodau sydd ag ymrwymiad go-iawn i addysg uwch cyfrwng Cymraeg – adar prin ar y naw – yna byddwn yn croesawu datblygiad o’r fath yn fawr. Mae pob math o gwestiynau angen eu hateb, yn rhai deallusol, cyfansoddiadol ac ariannol, ynghyd ac enghreifftiau rhyngwladol i’w hastudio. Ond wrth reswm, fe fyddai cyhoeddi sefydlu ymchwiliad o’r fath (‘siop siarad’ fydd y gri) yn destun siom aruthrol a chwbl ddealladwy i’r rheini gymerodd Plaid Cymru a’r Cytundeb Clymblaid ar ei gair – yn enwedig felly ar ôl siom y papur dyddiol.
Tri peth mawr o ran y Gymraeg felly: un ohonynt, Mesur Iaith, yn dibynnu ar ewyllys da prin San Steffan a Whitehall; un arall, Coleg Ffederal, yn ‘gynllun’ sydd, ar y gorau, angen gwaith sylweddol iawn arno cyn y gellir bod yn ffyddiog fod ganddo unrhyw obaith o brofi’n ymarferol; yr olaf yn ymrwymiad i sefydlu papur dyddiol. Yn wahanol i’r ddau arall roedd hwn yn syniad y gellid ei roi ar waith yn gymharol syml. Nid oedd angen ymladd brwydrau yng Nghaerdydd a Llundain na ymdaflu i ddyfroedd dyfnion iawn addysg uwch (maes lle nad oes gan unrhyw un o’r pedwar plaid fawr yng Nghymru bolisïau sy’n haeddu’r enw). Byddai hyd yn oed yn gymharol rad. Ac yn wir, roedd 'na gynllun parod ar y bwrdd yn ffurf Y Byd. Hyd yn oed os nad oedd cynllun Y Byd yn tycio – ac er fy mod ymysg y cyfranddalwyr rwy’n cydnabod fod hynny’n bosibl, hyd yn oed os nad oedd y Gweinidog Diwylliant mewn sefyllfa i farnu’r naill ffordd neu’r llall – fe ellid yn hawdd fod wedi hudo cynlluniau newydd i’r fei. Ond na, fe ddewisodd Rhodri Glyn Thomas dorri ymrwymiad clir i bapur dyddiol a chefnogi cynllun gwahanol i sefydlu gwefan.
Ydi, mae undod a disgyblaeth yn bwysig, ac mae’n ddealladwy fod arweinyddiaeth Plaid Cymru yn atgoffa eu cefnogwyr craidd o hynny. Ond nid yw ysgrifennu llythyrau neu erthyglau’n galw amdano’n ddigon. Fel y dywedais eisoes, rhaid ei feithrin. Pan mae’r posibiliad yno i sicrhau enillion y bu’r gefnogaeth graidd yn dyheu amdanynt yna mae plaid ddoeth yn achub ar y cyfle i’w gwireddu. Os methir a gwneud hynny, nid oes gan yr arweinyddiaeth neb ond eu hunain i’w feio pan mae undod yn breuo a disgyblaeth yn brin. Wrth i Ieuan Wyn Jones, Adam Price ac Alun Ffred Jones wynebu’r cwyno a’r hwtian sy’n siwr o ddilyn ar fater Mesur Iaith a Choleg Ffederal, dylent gofio y byddai pobl lawer iawn yn fwy parod i faddau petai’r addewid i sefydlu papur dyddiol wedi cael ei gwireddu, fel y gellid – ac y dylid – yn hawdd fod wedi ei wneud.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
