Ymddengys fod buddugoliaeth Geidwadol yn yr etholiad Prydeinig nesaf bellach yn gwbl anorfod. Yn ôl y sylwebwyr a’r bwcis fel ei gilydd, yr unig gwestiwn o bwys sy’n aros i’w ateb yw maint y mwyafrif Torïaidd: mawr, mawr iawn neu anferthol? Mae hyd yn oed yr awgrym a wnaed yn y golofn hon rai misoedd yn ôl y gallai’r Ceidwadwyr sicrhau eu perfformiad gorau erioed mewn etholiad democrataidd yng Nghymru – awgrym a oedd yn ymddangos yn fyrbwyll o garlamus ar y pryd – bellach fel petai’n cael ei gymryd yn gwbl ganiataol. Oni bai fod ’na rymoedd goruwchnaturiol yn ymyrryd, Cameron a’i ysweiniaid fydd yn ffurfio’r llywodraeth Brydeinig nesaf. Sy’n chwerw-eironig o ystyried hyn: go brin fod ’na unrhyw ddarpar lywodraeth yn hanes gwleidyddol diweddar Prydain sy’n llai cymwys i gymryd yr awenau na’r rhain.
Nid eu diffyg profiad ydi’r broblem fwyaf o bell ffordd chwaith. Nac ychwaith y gwagle o ran polisïau – er fod hyn yn gonsyrn difrifol, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig lle nad oes gennym unrhyw syniad am bethau mor sylfaenol â pharhad swydd yr Ysgrifennydd Gwladol ac agwedd y Torïaid tuag at gynnal y refferendwm arfaethedig. Problem fwy na hynny, hyd yn oed, yw’r ffaith fod y Ceidwadwyr ar fin cipio’r awenau ar yr union foment y mae eu greddfau a’u rhagfarnau mwyaf sylfaenol wedi cael eu profi’n gyfeiliornus o anghywir.
Y tu hwnt i’r rhethreg gynhwysol – sy’n ddiffuant yn achos Cameron ei hun, o leiaf, ond hyd y gwelaf yn ddisylwedd – tair elfen sy’n ganolog i gyffes ffydd y Torïaid newydd. Y cyntaf ohonynt yw cred ddiysgog yng ngrym daionus y farchnad. Mae’r farchnad, fe dybiant, yn gwobrwyo yn ôl haeddiant. Mae’r farchnad, fe haerant, yn tueddu at gydbwysedd naturiol. Mae ymdrechion i herio’r farchnad nid yn unig yn rhwym o fethu, ond fe awgrymant drachefn, mae i’w anghymeradwyo ar seiliau moesol. ‘There is no way one can buck the market’, chwedl eu harwres fawr Margaret Thatcher; a ddylech chi ddim ceisio gwneud hynny chwaith.
Mae ail elfen y gredo Geidwadol gyfoes yn dilyn yn naturiol o’r gyntaf: drwgdybiaeth reddfol tuag at y wladwriaeth a’i gweithredoedd. Mae’r wladwriaeth o’i hanfod yn aneffeithiol ac yn wastraffus. Yn wir, mae’r Ceidwadwyr uniongred rheini sydd wedi eu trwytho yn yr efengylau – gwaith Mises, Hayek, Friedman a’u cymrodyr – yn ystyried unrhyw weithgaredd gwladwriaethol (y tu hwnt i nifer cyfyngedig iawn o swyddogaethau) fel ymyrraeth heb unrhyw gyfiawnhad â rhyddid yr unigolyn.
Yn drydedd, os yw pob gwladwriaeth i’w drwgdybio, yna mae ’na un yn arbennig sydd i’w hystyried fel grym cwbl ysgeler – yr Undeb Ewropeaidd. Dyna drydedd elfen cyffes ffydd y Ceidwadwyr newydd rheini a fydd yn ein llywodraethu gyda hyn: gochelwch rhag Ewrop a’i gweithredoedd.
Mae’r ieithwedd pseudo-grefyddol yn briodol. Oblegid yn yr un modd ag y mae Cristnogion ffwndamentalaidd yn parhau i fynnu bod y Beibl yn llythrennol gywir er gwaethaf pob datblygiad a chynnydd yn ein dealltwriaeth o’r byd a’r bydysawd, nid yw pethau mor ddibwys â ffeithiau yn ddigon i sigo’r ffydd Geidwadol hon. Naw wfft i ysgol brofiad! Fel yn achos Marxaeth amrwd cenhedlaeth o’r blaen – pseudo-grefydd arall, wrth gwrs – gellir canfod ffyrdd o ddiystyru ffeithiau anghyfleus. (‘Doedd dim o’i le ar gomiwnyddiaeth ac eithrio’r ffordd y ceisiwyd ei roddi ar waith.’) A dyna’n union sut y mae Ceidwadwyr wedi ymateb i ddatblygiadau’r misoedd diwethaf; misoedd sydd wedi darparu mwy na digon o dystiolaeth i ddangos bod seiliau’r ffydd wedi eu hadeiladu ar dywod.
Er gwaethaf cryfderau diymwâd y farchnad, mae wedi profi (unwaith yn rhagor) ei bod yn offeryn amherffaith ar y naw. Pan roddwyd penrhyddid i’w grymoedd gan bleidiau Chwith di-glem yn ogystal â’r Dde, fe’n harweiniodd i ddyfroedd dyfnion iawn. A’r unig beth a’n hachubodd rhagddynt – rhag ffawd debyg i’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd byd – oedd y wladwriaeth. Yn wir, go brin y gwelwyd tysteb fwy gloyw i werth y wladwriaeth ers cyfnod Cynllun Marshall ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd na llwyddiant ymyrraeth ddiweddar y gwladwriaethau datblygedig i’n hamddiffyn rhag sgil effeithiau methiant y marchnadoedd ariannol. Hyd yn oed os yw’r rhagolygon presennol yn llwm, byddent yn saith gwaeth oni bai am yr ymyrraeth honno.
Nid yn unig y wladwriaeth per se a brofodd ei gwerth chwaith; mae ambell sefydliad yn haeddu clod arbennig, yn eu plith yr Undeb Ewropeaidd. Fe gofiwch, mae’n siwr gen i, yr holl sylwebwyr Prydeinig adain dde hynny oedd yn darogan gwae pan sefydlwyd yr Ewro. Oni fyddai’n rhwym o arwain at ansefydlogrwydd? Yn sicr ddigon, cyhoeddwyd yn dalog, y byddai’r cyfan yn dadfeilio yn wyneb yr arwydd cyntaf o helbul economaidd. Fel y gwyddom bellach, wrth gwrs, nid felly y bu. Yn hytrach, bu sefydlogrwydd yr Ewro yn un o’r ffactorau a sadiodd beth ar y sefyllfa –a hynny nid yn unig er budd trigolion tiroedd yr Ewro eu hunain, ond i’r gweddill ohonom hefyd.
Serch hyn oll, nid oes unrhyw arwydd fod y Ceidwadwyr newydd yn fodlon ailystyried eu credoau mewn modd hunanymholgar a hunanfeirniadol. I’r gwrthwyneb, yn llwyr. Maent yn eu hailddatgan yn fwy croch ac ymddangosiadol hyderus nag erioed. Peidiwch da chi â chyflwyno rheoliadau newydd a fyddai’n cyfyngu ar farchnadoedd ariannol Llundain yw cri (anghredadwy, bron) Boris Johnson. Tociwch y wladwriaeth yn ôl mor llym ac mor fuan fyth â bod modd yw neges George Osborne. Nid oes angen dweud dim am Ewrop, wrth gwrs. Mae’r agwedd Ewro-sgeptig bellach wedi trechu pob safbwynt amgen yn llwyr, hynny diolch i gyfuniad o lwfrdra Llafur ac effeithiolrwydd melltigedig y wasg felen.
Wrth i Cameron baratoi i etifeddu ei deyrnas – genedigaeth fraint cyn-ddisgyblion Eton –mae’n debyg y dylid diolch na ddigwyddodd hynny ddeunaw mis ynghynt. Er gwaethaf eu methiannau trychinebus, tra bod Llafur yn rhannu marchnad- addoliaeth y Torïaid, o leiaf nid ydynt yn rhannu’r un gwrthwynebiad ideolegol i’r wladwriaeth. Bu hynny’n achubiaeth o fath. Dyn a fiyr lle fydden ni arni rwan petai George Osborne wedi cael y gwaith o geisio achub y banciau. Ond tra bydd y problemau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu’r llywodraeth newydd yn llai dramatig na hynny, fe fyddent serch hynny yn sylweddol iawn, iawn. Mae’r coffrau’n wag, yr economi’n fregus a diweithdra ar gerdded. Ar ben hynny, mae’r boblogaeth yn heneiddio’n gyflym gan godi pob math o gwestiynau sylfaenol ynglan â gofal, pensiynau ac yn y blaen. Mae’r sefyllfa amgylcheddol hefyd yn fwyfwy argyfyngus.
Afraid dweud bod y rhain i gyd yn mynd i gynnig her anferthol o fawr i unrhyw lywodraeth, beth bynnag fyddai ei lliwiau gwleidyddol. Ysywaeth, mae greddfau a rhagfarnau mwyaf sylfaenol Cameron a’i gyfeillion yn golygu eu bod yn mynd i’w chael hi’n anos na’r rhelyw i gynnig atebion credadwy a chynaliadwy. Mewn byr eiriau, maent yn gwbl anghymwys ar gyfer y gwaith sydd o’u blaenau.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
