Thema dywyll Thema golau

Camu ’Mlaen: Adfywio Plaid Cymru. Go brin!

Wedi iddo ennill ei fuddugoliaeth dila yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, fe aeth Ed Miliband gam ymhellach. Nid digon iddo ef oedd ‘adfywio’. Rhaid ‘ailsefydlu’ ei blaid. Trosglwyddodd y cyfrifoldeb am y gwaith i ddwylo ein darpar ysgrifennydd gwladol, Peter Hain. Ond yr un llifeiriant o ystrydebau cyfarwydd a gynigiodd Mr Hain wrth afael yn ei barchus arswydus swydd (yn ailsefydlu Llafur nid yn cysgodi Cheryl Gillan, wrth reswm): ‘It is imperative we use this period of Opposition to leapfrog the other parties by re-founding our own, so that Labour emerges refreshed and reinvigorated.’

Ni thâl bod yn gwbl sinigaidd am brosesau o’r fath chwaith. Hyd yn oed os y gellir bod yn weddol sicr na fydd ymdrechion Aelod Seneddol Castell-nedd yn arwain at unrhyw newidiadau sylfaenol yn nhrefniadaeth neu syniadaeth y Blaid Lafur, gellir meddwl am ddwy enghraifft yn hanes gwleidyddol diweddar Cymru lle bu adolygiad mewnol yn fodd o gyflwyno newidiadau go sylfaenol.

Adolygiad mewnol Plaid Cymru wedi trychineb refferendwm 1979 oedd un ohonynt. Ymysg pethau eraill, fe esgorodd y Comisiwn mewnol hwnnw ar newid hanesyddol yn osgo ideolegol y Blaid. Ar ôl degawdau o wadu bod labeli (a chysyniadau) megis ‘De’ a ‘Chwith’ yn berthnasol iddi, a hynny ar sail yr honiad rhyfedd fod ‘Cenedlaetholdeb’ yn ideoleg drosgynnol a holl-gynhwysol ynddi’i hun, dyma’r foment pan y penderfynodd Plaid Cymru ymuno â’r brif ffrwd. Bu hyn yn ei dro yn allweddol wrth geisio codi pontydd tuag at unigolion a charfanau eraill ym mywyd gwleidyddol a sifig Cymru weddill y 1980au a gydol y 1990au.

Wedi’r siom enfawr a ddaeth i’w rhan yn yr etholiad cyntaf ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, cafodd y Blaid Lafur Gymreig hithau ei chyfnod o fogail-syllu. Un o ganlyniadau’r ymarferiad hwnnw oedd penderfyniad Llafur i ymateb i lwyddiant etholiadol Plaid Cymru trwy goleddu hunaniaeth fwy Cymreig ac i wahaniaethu ‘brand’ Llafur Cymreig yn fwy eglur oddi wrth ‘Lafuriaeth Newydd’ Llundain. Go brin bod rhaid tanlinellu pa mor allweddol y bu hynny i wleidyddiaeth y degawd diwethaf.

Nid oedd disgwyl i’r adolygiad diweddar o Blaid Cymru a gomisiynwyd ar ôl etholiad mis Mai dan gadeiryddiaeth Eurfyl ap Gwilym esgor ar argymhellion mor bellgyrhaeddol nac mor sylweddol a’r rheini. Yn un peth, nid oedd y siom a ddaeth i ran y Blaid yn 2011 yn agos at yr hyn a brofodd yn 1979 – neu’n wir y siom a’r sioc a brofodd Llafur yn 1999 wrth golli’r Rhondda, Islwyn a Llanelli. Heb sgeg allanol hegar, mae’n anodd i unrhyw blaid newid cyfeiriad. Yn enwedig felly pan fod y rheini sy’n gyfrifol am adolygiadau o’r fath gan amlaf yn bobl sy’n uchel yn rhengoedd y blaid dan sylw. Os caf faddeuant gan fy nghyfeillion ym Mhlaid Cymru am y gymhariaeth, yn yr un modd ag y mae’n afresymol disgwyl i unrhyw broses a arweinir gan Peter Hain fod yn feirniadol iawn o’r Blaid Lafur yn ystod cyfnod Blair a Brown – cyfnod pan y bu yntau’n chwarae rhan ganolog yng ngwleidyddiaeth ei blaid – prin y gellid disgwyl i bwyllgor oedd yn cynnwys Jocelyn Davies AC, Jill Evans ASE, Llyr Huws Gruffydd AC, Elfyn Llwyd AS a chyn-Brif Weithredwr y Blaid, Dafydd Trystan, ei dweud hi am gyflwr Plaid Cymru.

O’i darllen, teg yw nodi nad gwyngalchu a wna Camu ’Mlaen: Adfywio’r Blaid i Gymru. Ceir ambell fflach o hunanfeirniadaeth ddigon deifiol rhwng ei chloriau. Ceir cydnabyddiaeth o wendidau cymaint o Lefarwyr Polisi’r Blaid. Ni fydd Jill Evans (na Dafydd Iwan) wedi mwynhau’r feirniadaeth sydd ymhlyg yn y drafodaeth o rôl Llywydd Plaid Cymru. Fel y gellid ei disgwyl mewn dogfen y bu Dafydd Trystan a rhan yn ei pharatoi, mae’r drafodaeth ar gefnogaeth etholiadol y Blaid yn drwyadl ac yn awdurdodol. Wedi’r cyfan, dyma wr a fyddai bellach, rwy’n gwbl sicr, yn un o ddadansoddwyr etholiadol mwyaf blaenllaw Ewrop pe na byddai wedi cefnu ar academia er mwyn gweithio dros ei blaid. O’i gweithredu, bydd yr argymhellion ynglyn â thargedu a gynhwysir yn yr Adroddiad yn bwysig. A dichon bod llawer pwynt yn y myrdd awgrymiadau trefniadaethol eraill a gaiff effaith gadarnhaol ar fywyd Plaid Cymru.

Ond nid yw’n hanner digon pellgyrhaeddol. Mae naws gor-gyffyrddus i’r cyfan. Caiff llawer o gwestiynau amlwg eu hosgoi’n gyfan gwbl. Yn y gofod sydd ar gael imi, cynigiaf hyn o Adroddiad Lleiafrifol.

  1. Y Cyd-destun Ehangach. Un o gryfderau mawr Plaid Cymru’r gorffennol oedd gallu ei harweinwyr, boed Saunders Lewis neu Gwynfor Evans neu’r ddau Ddafydd, Wigley ac Elis-Thomas, i egluro cenhadaeth y blaid oddi mewn i fframwaith ehangach; ehangach mewn ystyr foesol yn ogystal ag ystyr ddaearyddol. Ystyriai Plaid Cymru ei hun yn rhan o grwsâd moesol yn erbyn imperialaeth ac o blaid heddwch a brawdgarwch rhyngwladol. Ystyriai ryddid cenedlaethol yn rhagamod rhyddid ac urddas unigol. O’i gosod yn y llinach honno mae’r drafodaeth am weledigaeth y Blaid yn nhudalennau cyntaf yr Adroddiad newydd yn denau ar y naw.

    Wrth gwrs, fe ellid dadlau mai problem Plaid Cymru’r gorffennol oedd mai’r cyfan oedd ganddi i’w gynnig i bobl Cymru oedd rhethreg flodeuog ar y gwastad egwyddorol. Yr hyn oedd ei angen, yn hytrach, oedd polisïau diriaethol ynglyn â materion sy’n cyfrif i fywydau beunyddiol. Y gwir amdani, fodd bynnag, yw fod angen y ddau – y ddelfryd a’r ymarferol.


    Yn hyn o beth, mae’r SNP yn cynnig gwers i Blaid Cymru. Wrth lywodraethu’n effeithlon mae’r SNP hefyd wedi llwyddo i gipio’r tir uchel moesol trwy gyplysu achos annibyniaeth i’r Alban efo’r frwydr yn erbyn arfau niwclear ac o blaid trefn ryngwladol amgen. Hyn ar yr un pryd ag yr oedd y Blaid – yn enw pragmatiaeth a gwleidyddiaeth ‘aeddfed’ – wrthi’n glastwreiddio ei gwrthwynebiad i’r cynllun gwallgof (ac chwbl anymarferol) i droi Sain Tathan yn goleg i addysgu lluoedd arfog cynghreiriaid y Gorllewin ledled y byd. Mae eironi chwerw yn hyn o beth. Yn ôl un cyfaill o Albanwr sy’n cefnogi’r SNP, uchafbwynt cynadleddau blynyddol ei ieuenctid oedd ymweliadau Gwynfor Evans. Araith y Cymro, meddai fy nghyfaill, oedd yn llwyddo i ddyrchafu’r holl ddigwyddiad trwy godi golygon y cynadleddwyr. Os yw adroddiad Camu ’Mlaen yn gynrychioliadol, ymddengys fod golygon Plaid Cymru’r unfed ganrif ar hugain wedi crebachu. Anghofiwyd pwysigrwydd delfryd ac egwyddor wrth danio’r dychymyg a chreu’r genhedlaeth nesaf o genedlaetholwyr.

  2. Y Cyd-destun Gwleidyddol Cymreig. Mewn uwch-gynhadledd yn Nulyn ychydig ddyddiau cyn cyhoeddi Camu ’Mlaen clywyd Prif Weinidog Cymru yn datgan, ar goedd, petai’r Alban yn dod yn wlad annibynnol, y byddai ef yn ffafrio creu cyfundrefn ffederal ar gyfer y tair tiriogaeth a fyddai’n weddill yn y wladwriaeth, gan roi pwysau cyfartal i’r tair yn ail siambr y ffederasiwn newydd. Meddyliwch am y peth mewn difrif. Hyn o enau prif ffigwr y brif blaid unoliaethol yng Nghymru. Os oedd un foment yn crisialu maint y newid a gafwyd yng ngwleidyddiaeth Cymru ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dyma hi! Ond, wrth gwrs, mae gan Carwyn Jones hen hanes o roi cythraul o sioc i unoliaethwyr mwyaf tynn-eu-staes ei blaid ei hun. Fo yw’r gwleidydd Cymreig a fu fwyaf cyson a llafar ei gefnogaeth i’r syniad o greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Er gwaethaf hynny, cafodd Jones fuddugoliaeth rwydd pan safodd am arweinyddiaeth (de facto ond nid eto de jure) y Blaid Lafur Gymreig.

    Ni olyga hynny fod Carwyn Jones yn genedlaetholwr Cymreig, na’i blaid ychwaith yn blaid genedlaethol Gymreig (eto, beth bynnag). Ond mae unrhyw un sy’n analluog i gydnabod maint y newid a fu yn agwedd ac osgo’r ‘pleidiau Llundeinig’ – chwedl Camu ’Mlaen – yn mynd i fod yn ddall i bosibiliadau a her y cyfnod sydd ohoni. Yn wir, oni ellid mynegi’r her sy’n wynebu Plaid Cymru fel hyn: mae gwleidyddion y lefel Gymreig, o leiaf, i gyd bellach yn genedlaetholwyr Cymreig o ryw fath. O gymharu maniffestoau Mai 2011 gellid dadlau bod y Rhyddfrydwyr (yn bendant) a’r Ceidwadwyr (efallai) yn deisyf newidiadau cyfansoddiadol mwy pellgyrhaeddol na Phlaid Cymru. Mewn amgylchiadau o’r fath, beth sy’n gwneud cenhadaeth Plaid Cymru’n wahanol ac unigryw? Ysywaeth, ni cheir nemor ddim ystyriaeth o’r cyd-destun nac o’r cwestiwn sylfaenol hwn yn yr Adroddiad.

  3. Annibyniaeth. Wrth ymateb i’r adroddiad canolbwyntiodd y wasg ar annibyniaeth. Ac, yn wir, mae gan Eurfyl ap Gwilym a’i gymrodyr bethau diddorol a doeth i’w dweud ynglyn? nod cyfansoddiadol hir-dymor Plaid Cymru. Ond nid dyna’r rheswm pam fod gwyr a gwragedd y wasg yn ymddiddori yn y blaid, wrth gwrs. Maent, yn hytrach, yn gwybod yn iawn mai dyma ei man gwan. Mae hyn yn rhannol adlewyrchu’r ffaith mai nonsens deallusol fu polisi cyfansoddiadol Plaid Cymru cyn iddi goleddu annibyniaeth fel nod yn 2003. Ceir crachen yma y gellir yn hawdd ei phigo. Nid dyma’r stori i gyd, fodd bynnag. Oblegid er i’r polisi newydd gael ei fabwysiadu trwy bleidlais unfrydol, mae’n hysbys i bawb sy’n adnabod Plaid Cymru fod rhai o’r enwau mwyaf blaenllaw yn ei rhengoedd wedi bod yn amharod iawn i dderbyn y disgrifiad yma o’i hamcan. Yn anad dim arall, hyn sydd wedi golygu bod annibyniaeth yn parhau’n faen tramgwydd. Wrth gwrs, ni ddywedir hyn yn Camu ’Mlaen gan y byddai’n sicr o greu embaras.

    Y newyddion da i Blaid Cymru, fodd bynnag, yw ei bod yn ymddangos fod y ras arweinyddol bresennol wrthi’n tynnu colyn annibyniaeth unwaith ac am byth o wleidyddiaeth fewnol y blaid. Gyda Dafydd Elis-Thomas, hyd yn oed, yn coleddu annibyniaeth fel rhan o’i ymgyrch – gan ddychwelyd i rai o’i hen safbwyntiau o ddechrau’r 1980au – mae’n amlwg bellach na all unrhyw un obeithio chwarae rôl flaenllaw ym mywyd y blaid oni bai ei fod ef neu hi yn cefnogi’r polisi. Gellir disgwyl felly y bydd amwysedd ac ansicrwydd y cyfnod ers 2003 yn cilio. Mae hyn yn ei dro’n rhagamod angenrheidiol ar gyfer unrhyw ymdrech i werthu’r polisi gerbron cynulleidfa ehangach.

  4. Egluro canlyniad etholiad 2011. Er mai canlyniad siomedig mis Mai oedd symbyliad comisiynu’r Adroddiad, yn rhyfedd ddigon, chwilio’n ofer a wnawn rhwng ei gloriau am eglurhad cynhwysfawr o’r hyn a ddigwyddodd. Pam fod plaid a oedd, yn ôl pob darn o dystiolaeth a feddwn, yn ennyn ewyllys da cyfran uchel o’r etholaeth wedi perfformio mor symol? Gellid gofyn yr un cwestiwn o ongl wahanol: ar ôl ffurfio’r llywodraeth glymblaid yn Llundain ym mis Mai 2010, dengys y polau piniwn a gynhaliwyd yng Nghymru a’r Alban fod y cenedlaetholwyr wedi colli tir wrth i Lafur lamu ’mlaen. Yn yr Alban, fodd bynnag, yn ystod mis Ebrill 2011, llwyddodd yr SNP i adfer y tir a gollwyd ac yna i oddiweddyd Llafur. Pam na lwyddodd Plaid Cymru i wneud yr un fath?

    Ceir rhai awgrymiadau yn yr Adroddiad, yn eu plith yr ansicrwydd ynglyn â’r ffordd ymlaen ar ôl refferendwm Mawrth 2011. Ond go brin fod hynny’n ddadl ddigonol. Wedi’r cyfan, y disgwyl oedd y byddai buddugoliaeth ysgubol mis Mawrth wedi rhoi hwb i hyder cenedlaetholwyr yn hytrach na chreu rhyw fath o argyfwng gwacter ystyr yn eu plith! Y gwir amdani yw fod yr awduron wedi osgoi tyrchu’n rhy ddwfn i’r methiannau mewnol a gyfrannodd at ganlyniad mis Mai. Pam, er enghraifft, fod y ddogfen a ddylai fod wedi cynnig gweledigaeth eglur o’r ffordd ymlaen, sef Maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad 2011, wedi ei thaflu at ei gilydd ar y funud olaf ac yn ddogfen mor uffernol o ddi-fflach? Os ceir atebion o gwbl yn yr Adroddiad, maen nhw’n ymwneud â strwythur a phroses. Ond onid oedd gan unigolion eu cyfran yn hyn hefyd? Os na ellir adnabod y broblem yn iawn, pa obaith osgoi ei hailadrodd y tro nesaf?

  5. Y Blaid mewn llywodraeth. Gwendid mwyaf trawiadol yr Adroddiad, fodd bynnag, yw’r diffyg ystyriaeth o gyfnod cyntaf y Blaid fel plaid lywodraethol. Dyma garreg filltir gwbl allweddol yn hanes unrhyw blaid wleidyddol ac eto fe ymddengys nad oedd gan awduron yr adroddiad unrhyw ddiddordeb mewn pwyso a mesur yr holl brofiad. A bod yn deg â hwy, ni chafwyd unrhyw gyfarwyddyd penodol i wneud hynny yn y cylch gorchwyl a osodwyd ar eu cyfer. Eto, petai’r awydd wedi bodoli, byddai wedi bod yn ddigon hawdd estyn cwmpawd pennawd megis ‘Gweledigaeth, Strategaeth a Pholisi’ i gynnwys ymarferiad o’r fath.

    Beth a ddysgodd y blaid am beirianwaith cynnal clymblaid? Pa mor effeithiol a fu’r blaid yn estyn cefnogaeth arbenigol i’w gweinidogion? A wnaeth y blaid ei gorau o’i chynghorwyr arbennig? Beth a ddysgodd y blaid o’r profiad o weithio efo gweision sifil? Sut y gweithiodd y berthynas rhwng y tim gweinidogaethol a phrif swyddfa’r blaid? A lwyddwyd i gynnal dialog gyson rhwng gweinidogion y blaid ac Aelodau meinciau cefn yn y Senedd? Yn bennaf oll, efallai, a oedd y strwythurau i gynnal breichau Ieuan Wyn Jones yn ddigonol ac yntau nid yn unig yn Ddirprwy Brif Weinidog, yn Weinidog? phortffolio eang i’w rheoli, yn Aelod lleol, ond yn arweinydd plaid yn ogystal?


    Mae’r cwestiwn olaf yn allweddol. O ddarllen y myrdd dyddiaduron a chofiannau gwleidyddol gwelir fod arweinwyr gwleidyddol megis Blair, Wilson a Thatcher wedi treulio cyfran helaeth o’u hamser yn ’morol am faterion mewnol eu pleidiau eu hunain. Gellir bod yn gwbl sicr mai felly y mae yn achos Cameron a Clegg hefyd. Roedd, ac mae, peirianwaith sylweddol iawn i’w cynorthwyo yn y gwaith – llawer iawn ohono’n cael ei ddarparu gan eu pleidiau. Tybed a oedd hyn yn wir am Ieuan Wyn Jones rhwng 2007 a 2011? O gofio bod awduron Camu ’Mlaen yn pwysleisio eu bod am weld Plaid Cymru’n ei hystyried ei hun fel plaid lywodraethol, mae’n syn nad oes ganddynt fwy o ddiddordeb yng ngoblygiadau ymarferol hyn.

Yn sgil canlyniad mis Mai roeddwn i’n un o’r rheini a dybiodd fod Plaid Cymru wedi bod yn ddoeth yn peidio cythru i gynnal etholiad arweinyddol. Onid gwell rhoi cyfle i bwyso a mesur ac ystyried y ffordd ymlaen heb y math o begynu a gwrthdaro personol sy’n rhan annatod o unrhyw etholiad? I’r graddau mai Camu ’Mlaen yw ffrwyth y cyfnod yma o ystyriaeth, ofnaf fy mod wedi cyfeiliorni. Er bod rhai rhinweddau’n perthyn iddo, mae’r Adroddiad yn cynrychioli cyfle a gollwyd. Cawn weld dros yr wythnosau nesaf a fydd etholiad yr arweinyddiaeth yn cynnig mwy o arweiniad ar gyfer y gwaith o ‘Adfywrio’r Blaid i Gymru’.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd – Milwr, gweinidog a Dr Kate

Ymlaen >

O Ewrop – Ms Jonesova, Merch Mrs Jones