Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd – Milwr, gweinidog a Dr Kate

Roedd fy nhaid yn fwy huawdl wrth sôn am y waled ledr – wag – a gafodd yn anrheg gan drigolion plwyf Llanfair Mathafarn Eithaf pan ddaeth o adra i’r Benllech yn 1918. Ar y lledr, o dan enw’r plwyf, stampiwyd mewn llythrennau aur y geiriau, ‘Cyflwynedig i’w meib glew’. Roedd ‘meib’ yn chwerthinllyd o hen ffasiwn hyd yn oed yr adeg honno, bron i gan mlynedd yn ôl. A chwerthin fyddai John Owen Hughes yn ei wneud bob tro y cyfeiriai at yr arysgrif ar y waled. Fydda fo ddim yn ymhelaethu ond gwn fod chwerwder yn ei chwerthin. Yn ddirwestwr selog, wnaeth o erioed dywyllu ty tafarn. Ac er ei fod o wedi gadael am Ffrainc yn hogyn yr ysgol Sul, efo rhyw hanner awydd bod yn weinidog yr efengyl, daeth o erioed ar gyfyl lle addoliad ar ôl dod adre.

Rydw i wedi pendroni droeon tybed oedd o’n un o ‘fechgyn glandeg Mon’, fel y cyfeiriai JohnWilliams Brynsiencyn atyn nhw, y trueiniaid diniwed a hudwyd gan huotledd hwnnw i ymrestru? Dwn i ddim. Ond rydw i wedi meddwl llawer am fy nhaid a’r Rhyfel Mawr ar ôl bod yn darllen Farmer, Soldier and Politician: the life of Brigadier-General Sir Owen Thomas, MP, Father of the Welsh Army Corps. Y teitl yw’r unig beth sâl ynglyn ag astudiaeth orchestol David Pretty o’r Brigadydd-Gadfridog. Y cyhoeddwyr yw’r ardderchog Bridge Books, Wrecsam. Owen Thomas yw’r gwr a geisiodd, ymhlith pethau eraill, sefydlu gwladfa o ‘Gymry glân gloew’ – dyna ei union eiriau – ar dir ffrwythlon Rhodesia. Ei neges oedd fod yno well tiroedd o lawer na phaithdiroedd cynnil Patagonia, wrth iddo geisio dwyn perswâd ar Gymry’r Wladfa i symud o Batagonia i’r wlad sydd bellach yn Zimbabwe.

Roedd wedi ymserchu gyntaf yn neheudir Affrica yn ystod Rhyfel y Boer. Yn ddiddadl roedd o’n Uwch Gapten ffyrnig ac eofn ar faes y gad, er bod tuedd ynddo i ormodiaethu, weithiau, wrth adrodd ei hanes, meddai David Pretty. Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, araf oedd gweision ffermydd Môn a chwarelwyr Arfon a Meirionnydd i listio. Rhoddodd yr Arglwydd ‘Your Country needs You’ Kitchener a Lloyd George eu pennau at ei gilydd. Perswadiwyd Kitchener i ddyrchafu Owen Thomas yn Frigadydd-Gadfridog er mwyn cael uwch-swyddog oedd yn Gymro Cymraeg i arwain yr ymgyrch recriwtio. Ond gwyddai’r cadno Lloyd George na fyddai hynny ynddo ei hun yn ddigon. Rhaid hefyd fyddai argyhoeddi bechgyn Gwynedd bod Duw ei hun o blaid y rhyfel. A’r ffordd orau o wneud hynny oedd cymell cynrychiolwyr daearol yr Hollalluog i gefnogi’r achos. Ys dywed yr awdur: ‘Roedd y Parchedigion JohnWilliams, Thomas Charles Williams a J. T. Job – hyrwyddwyr pennaf Diwygiad Evan Roberts – yn arch-jingoistiaid o’r cychwyn’. Rhag colli dim o ergyd y dweud gwreiddiol wna i ddim cyfieithu’r disgrifiad damniol hwn o ymarweddiad Brynsiencyn yn arbennig: ‘In military uniform and ministerial collar, Williams presented a haughty, unedifying spectacle’. Dyna fynegi i’r dim yr hyn a gredais i erioed am y dyn. Yn achos Owen Thomas, milwr oedd o. Nes inni golli’n hannibyniaeth yn 1536, roedd bod yn filwr yn cael ei ystyried yn alwedigaeth anrhydeddus yng Nghymru, fel y mae hi yn y rhan fwyaf o wledydd. Afraid dweud bod gen i lawer iawn mwy o gydymdeimlad efo’r Brigadydd-Gadfridog nag sydd gen i efo’r gweinidogion.

Un llythyren yn unig o wahaniaeth oedd ’na rhwng areithiau recriwtio Owen Thomas ac areithiau recriwtio JohnWilliams. ‘Ewch’ oedd gorchymyn gweinidog yr efengyl i fechgyn ifainc Môn, pobol fel fy nhaid fy hun. Ond ‘dewch’ oedd anogaeth y Brigadydd-Gadfridog. Rhwng ‘ewch’ y naill a ‘dewch’ y llall mae bydoedd cyfain o wahaniaeth. A chofier hyn. Fe gollodd Owen Thomas dri o’i feibion ei hun yn y Rhyfel Mawr. Dioddefodd JohnWilliams hefyd. Ond nid yn yr un modd. Er i’w angladd yn Llanfaes yn 1921 achosi’r dagfa foduron gyntaf a gofnodwyd erioed ym Môn – wrth gwrs, byddigions yn unig oedd â cheir ’radeg honno – roedd ei seren eisoes dan gwmwl. Felly hefyd seren capelyddiaeth. Ddaru’r athronydd J. R. Jones ddim bathu’r geiriau trymlwythog ‘argyfwng gwacter ystyr’ tan chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Ond dwi’n credu bod fy nhaid, a llaweroedd o genhedlaeth ddadrithiedig 1914–18, wedi adnabod y cysyniad ymhell cyn i’r geiriau gael eu bathu. Roedd yr uffern a brofodd y rhain yn fwy real na’r nefoedd a addawai’r capeli.

Er mor rhagorol yw llyfr David Pretty ni fydd, ysywaeth, yn denu dim byd tebyg i’r sylw a dderbyniodd cofiant Alan Llwyd i Kate Roberts (gw. adolygiad, tud 76). Ond y Rhyfel Mawr, nid ei rhywioldeb, beth bynnag oedd hwnnw, oedd y dylanwad mwyaf ar fywyd a gwaith Brenhines ein Llên hefyd. Yn ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen mae hi’n dweud bod pob dim pwysig yn ei bywyd wedi digwydd cyn 1917. ‘Roeddwn i’n fyw bryd hynny,’ meddai. Awgryma hynny ei bod hi’n ei hystyried ei hun yn un o golledigion y Rhyfel Byd. Iddi hi, y rhyfel melltigedig hwnnw a roddodd derfyn ar ddiniweidrwydd. Yn ei llythyrau at ei brawd David (Dei iddi hi), yn enwedig ar ôl iddo fo gael ei glwyfo yn y rhyfel, mae’r chwaer yn ceisio ei gorau glas i godi calon ei brawd. Â’i llaw ei hun fe wnaeth hi luniau o ieir ac anifeiliaid Cae’r Gors, eu cartref. Mae tynerwch ac anwyldeb yn y lluniau hynny, yn fwy felly nag yn y mwyafrif o’r gwaith y byddai Kate Roberts yn ei gyhoeddi’n ddiweddarach. Ond fel y dywedodd hi ei hun, fe gafodd hi ei sigo gan y rhyfel.

Ac fe gafodd hi golled arall yn y Rhyfel Mawr. Yn eu cofiant i David Ellis, Y Bardd a Gollwyd, mae Alan Llwyd ac Elwyn Edwards yn datgelu bod David Ellis a Kate wedi bod yn gariadon yn y brifysgol ym Mangor. Ond yn 1918, ac yntau ar ddyletswydd efo’r fyddin yng Ngwlad Groeg, fe ddiflannodd David Ellis oddi ar wyneb y ddaear. Yn ogystal â cholli brawd fe gollodd Kate Roberts ei chariad cyntaf yn y rhyfel.

Mae cofiant Alan Llwyd, fel y gwnaeth pobol ar hyd y blynyddoedd, yn cyfeirio at y ffaith na ddaru Kate Roberts ddim priodi nes ei bod hi’n tynnu at ei phen-blwydd yn 38 oed. Ond be ydi arwyddocâd hynny? Onid y gwirionedd trist ydi bod yna brinder dynion ifanc drwy Ewrop yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf? Roedd gwlad fechan fel Cymru wedi colli deugain mil o ddynion o genhedlaeth Kate rhwng 1914 a 1918. Dyna, siwr o fod, pam y priododd hi wr a oedd bron i ddeng mlynedd yn iau na hi. Morris Williams, argraffydd wrth ei alwedigaeth, oedd hwnnw.

Chefais i ddim o f’argyhoeddi o gwbl gan ddadl y cofiant bod Kate Roberts yn lesbiad. Dywed Alan Llwyd bod Kate yn gwybod yn iawn fod Morris yn hoyw ac mai dyna pam y dywedodd hi wrth Morris am yr un gusan bleserus a gafodd hi gan ferch arall unwaith. Pan brynodd Kate a Morris Wasg Gee yn Ninbych, cyhoeddwyr Y Faner, roedd y ddau gyfaill mynwesol, Morris a Prosser Rhys, yn gydweithwyr drachefn. Tystiolaeth Gwilym R. Jones, golygydd Y Faner, mewn cyfweliad i HTV, oedd na fedrai Prosser ddim celu ei anghymeradwyaeth o Mrs Morris Williams. Ai am fod Prosser eisiau Morris iddo fo ei hun y rhoddodd Prosser ei gas ar Kate? Wedi’r cyfan, yn 1924 roedd Prosser wedi ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol am bryddest a gyfeiriai at ei berthynas â ‘llanc penfelyn’, sef Morris, gwr Kate. Roedd Prosser wedi marw gwta flwyddyn o flaen Morris. Yn dilyn marwolaeth Morris yn 1946 dywedodd Gwilym R. ei fod wedi dod o hyd yng Ngwasg Gee i lwyth o hen lythyrau caru rhwng Morris a Prosser. Cadwodd y llythyrau rhag Kate. Rywsut dyw hynny ddim yn gwbl gydnaws â’r syniad bod Kate a Morris yn bar priod hoyw, agored a chydsyniol.

Nid yw Kate y lesbiad yn gydnaws ychwaith â’r Kate Roberts yr oedd nifer ohonom yn ei hadnabod. Ein profiad ni yw bod Kate wrth ei bodd yng nghwmni dynion ifanc. Dywedodd Jane Edwards wrtha i mewn cyfweliad teledu am yr achlysuron pan fyddai Kate yn ffonio ei chartref i gael sgwrs efo Derec Llwyd Morgan, gwr Jane. Pan godai Jane y ffôn byddai Kate yn cymryd arni nad oedd yn gallu clywed Jane. Mynnai gael ei chysylltu’n ddiymdroi â Derec. Afraid dweud na fyddai nam ar ei chlyw na phall ar ei pharabl unwaith y byddai Derec ar y lein. Mae’r dyn camera Gareth Owen a minnau yn hoff o sôn am y modd y byddai Kate yn ysmygu ein sigarennau fel stemar pan fyddem yn ffilmio yn ei chartref yn Ninbych. Fydda hi byth yn gwrthod gwneud cyfweliad efo’r cyfryngau. (Os gwn i a fyddai hi mor barod i wneud hynny heddiw a chymaint o’r gohebyddion yn ferched?)

Yr argraff a ges i bob amser oedd bod yn well o lawer gan Kate Roberts gwmni dynion na chwmni merched. Yr unig lun dwi’n cofio ei weld yn ei pharlwr oedd un mawr o Gwynfor Evans. Ac mae ’na ddigonedd o enghreifftiau ohoni’n ymddwyn yn dra annymunol tuag at ferched. Pan soniodd ei gweinidog Cynwil

Williams wrthi fod Rhiannon Davies Jones yn darlithio yn Rhuthun, ffromodd Kate. Pa hawl oedd gan honno i ddod ar gyfyl Dyffryn Clwyd? Dilornus oedd hi hefyd o nofel Elena Puw Morgan, Y Wisg Sidan, pan gyhoeddwyd hi yn 1939. ‘Mae’r rheithgor yn dal i drafod’ ydi un o ystrydebau’r dwthwn hwn. Ond yn achos lesbiaeth honedig Kate Roberts dwi’n amau y byddai’r rheithgor wedi datgan yn bur sydyn nad oedd achos i’w ateb ac wedi hen fynd adra.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Bill Shankly a Tom Parry

Ymlaen >

Camu ’Mlaen: Adfywio Plaid Cymru. Go brin!