Ymddiheuraf am fethu sgwennu i Barn ers rhai misoedd. Prysurdeb oedd y rheswm dros fy absenoldeb. Nid rhy feddw i sgwennu fy ngholofn oeddwn i – yn wahanol i golofnydd y Spectator, y diweddar – yn anochel – Jeffrey Bernard. Yn bur aml byddai’r cylchgrawn hwnnw’n gorfod esbonio ei absenoldeb efo’r geiriau ‘Jeffrey Bernard is unwell’. Gan mai ‘Low Life’, cronicl o oferedd a meddwdod, oedd testun ei golofnau, gwyddai’r cyfarwydd mai côd am ‘Mae Jeff yn chwil ulw beipen’ oedd y frawddeg honno. O gofio hynny, dwi’n falch o gael cyhoeddi i chi fod John Pierce Jones yn iach ac yn ddianaf. Braf hefyd yw cael dweud, yn yr oes sydd ohoni, fy mod i’n brysur. Am ba hyd, wn i ddim. Newyn neu lawnder ydi hi yn fy mhroffesiwn i.
Dyna hanes fy ngardd hefyd. Roeddwn wedi ei phlannu yn ôl fy arfer ac yn disgwyl yn eiddgar i’r gwanwyn gyrraedd er mwyn blasu ffrwyth fy llafur. Ond... roedd y fwni fach wedi gweld bwlch yn y rhwyd weiren a oedd yn amgylchynu’r cnydau. Chwi wyddoch y canlyniad. Bwni hapus. Garddwr trist. Ond o gofio fy methiant i golli pwysau efallai mai bendith oedd hynny. Mae’n rhaid imi wneud rhywbeth, neu mi fyddaf yn dioddef canlyniadau difrifol fy ngor-fwyta.
Dwi’n sicr yn defnyddio bwyd nid yn unig i lenwi fy stumog ond i lenwi rhyw wacter seicolegol yn fy nghymeriad. Yn bendant, dwi’n defnyddio bwyd fel cyffur i wobrwyo fy hun ac i wneud imi deimlo’n well pan fyddaf yn yr isel fannau. Dwi ddim yn defnyddio alcohol na nicotin i’r pwrpas hwnnw bellach. Y gwahaniaeth yw y medraf fyw heb nicotin ac alcohol. Ond mae’n rhaid i bawb fwyta.
Dwi ddim yn dweud am funud ei bod hi’n hawdd rhoi’r gorau i alcohol, nicotin, heroin neu gyffur arall. Unwaith mae’r cyffur wedi gafael yn rhywun, mae o’n glynu fel gelen. Y peth cyntaf sy’n rhaid ei wneud, wrth gwrs, yw cydnabod eich bod yn gyfan gwbl dan ddylanwad eich dewis gyffur. Trwy gydnabod hynny a gofyn am gymorth, mae gobaith cael gwellhad.
Pwysleisiaf nad ydwyf yn chwifio baner llwyr ymwrthod ag alcohol. Rhwydd hynt i unrhyw un sy’n mwynhau yfed yn gymedrol – ar yr amod nad yw sgileffeithiau’r yfed yn dinistrio’r yfwr na’r rhai sydd agosaf ato. Dwi’n siarad o brofiad. Dwi’n dioddef o afiechyd alcoholiaeth. Mae’nrhaid i mi weithio’n ddyddiol i gadw’r afiechyd cymhleth hwnnw dan reolaeth. Er nad wyf wedi yfed ers pedair blynedd ar bymtheg bellach, buan iawn y byddai’r clefyd cyfrwys, pwerus a dieflig o amyneddgar hwn yn fy nhrechu’n llwyr unwaith eto.
Rhaid i mi gyfaddef, fe gefais amser da a llawer o hwyl wrth yfed alcohol. Roedd o’r peth i’w wneud pan oeddwn i’n ifanc. Ond unwaith y croesais i ffin dibyniaeth doedd ’na fawr o bleser i’w gael wedyn. Aeth â fi i lefydd na fuaswn wedi mynd ar eu cyfyl pe na fyddwn i’n dioddef o’r clefyd. Do, fe fues innau lawer gwaith yng nghwmni Jeffrey Bernard mewn tafarndai a chlybiau tywyll strydoedd cefn Llundain. Ac fe fues innau’n ‘Unwell’ lawer gwaith. Fedrwn i ddim wynebu’r dydd heb gael llwnc helaeth o fodca yn gyntaf. Heb unrhyw fath o or-ddweud fe fyddai’r afiechyd yma wedi fy lladd ers blynyddoedd lawer. Gyda chymorth cyd-ddioddefwr, a thriniaeth arbenigol mewn clinig, fesul diwrnod codais o’r uffern dywyll yr oeddwn ynddi i oleuni a bywyd.
Yn y clinig gwelais nad oedd yr afiechyd yma yn cyfyngu ei hun i unrhyw grwp neilltuol o bobol. Dyw ffiniau dosbarth na deallusrwydd yn golygu dim iddo. Mae rhai seiciatryddion cyfeiliornus yn dadlau nad yw dibyniaeth yn afiechyd, a bod modd addysgu’r alcoholig i yfed yn rhesymol. Ond dwi wedi cwrdd â chyd-ddioddefwyr ar draws y byd, a welais i erioed yr un alcoholig a lwyddodd i ailddechrau yfed yn gymedrol. Nid y degfed fodca sy’n gwneud y drwg ond y cyntaf.
Mae yna bobol anffodus na allant dderbyn gwellhad. Dim ots faint maen nhw’n dymuno gwella, mae’r afiechyd yn drech na nhw. Ac maen nhw’n marw. Un o’r trueiniaid a gollodd y frwydr oedd fy ffrind annwyl yr actor Gwyddelig Alan Devlin. Roedd Alan, a fu farw ym mis Ebrill eleni, wedi bod yn ymladd yr afiechyd ers 1964. Yr un oed â fi oedd o.
Roedd Alan yn cael ei gydnabod fel yfwr mawr a thipyn o gês. ‘Hellraiser’ oedd gair y papurau amdano. Roedd y dyn yn chwedl ac roedd gan bawb a oedd yn ei adnabod straeon anhygoel i’w hadrodd amdano. A doedd neb gwell am ddweud rhai o’r straeon hynny nag Alan ei hun. Chwarddai pawb wrth ddwyn i gof ei gampau. Ond doedd dim byd doniol yn y modd y cafodd alcohol y fath afael arno.
Roedd Alan yn actor da iawn, iawn. Enillodd anrhydeddau lu. Bu’n rhan o gwmni’r Abbey yn Nulyn cyn iddo symud i Lundain a gwneud ei farc yn yWest End. Dyna pryd y gwnaethom ni gwrdd gyntaf. Roeddem ein dau’n actio yn y ffilm Mouse and the Woman. Cymerais ato’n syth. Roedd ei ymddygiad peryglus yn apelio ataf. 1979 oedd hi. Buom yn gyfeillion agos fyth oddi ar hynny.
Aeth Alan ymlaen i ennill yr ‘Olivier Award’ am fod yn brif actor y flwyddyn ar lwyfannau Llundain yn y ddrama The Moon for the Misbegotten. Roedd hi rhwng Syr – erbyn hyn – Michael Gambon ac Alan. A’r Gwyddel aeth â hi. Dyma brif anrhydedd y theatr Brydeinig i actor. Ond roedd Alan, druan, yn rhy feddw i fynd i dderbyn ei anrhydedd. Gwyliodd y seremoni ar y teledu yn gorwedd ar ei wely.
Cafodd rannau mewn llawer o ffilmiau rhyngwladol, gan gynnwys The Long Good Friday a The Sinners. Cofir yn arbennig am ei bortread gwych o’r tad Pabyddol yn y ffilm The Players. Rhwng rhannau byddai Alan yn yfed yn drwm iawn. Yn aml byddai’n byw a chysgu ar y strydoedd gan fegera, a thlysau ei anrhydeddau wedi eu ponio yn siopau gwystlo Dulyn. Yna byddai’n sobri a byddai’r gwaith yn llifo i mewn, cyn iddo gael ei sacio drachefn. Cafodd y sac deirgwaith o’r gyfres sebonWyddelig Fair City. Ond y stori fawr yw honno amdano’n chwarae rhan yr Admiral Syr Joseph Porter, KCB, yn HMS Pinafore yn 1987. Cyn cychwyn canu ei unawd gyntaf, ac yntau’n feddw gaib – ond nid yn rhy feddw i wybod hynny – trodd Alan at y gynulleidfa a chyhoeddi ‘Fuck this for a game of soldiers’. Gyda hynny o eiriau, geiriau nad ydynt yn libretto gwreiddiol W. S. Gilbert, cerddodd allan o Theatr y Gaiety yn holl ysblander gwisg seremonïol Llyngesydd ei Mawrhydi. Aeth yn syth i Neary’s, y dafarn sydd drws nesaf i’r theatr, ac archebu brandi mawr. Gan nad oedd wedi diosg ei feic radio clywai’r gynulleidfa’r cyfan. Ydyn, mae’r straeon yn ddoniol. Ond, ew, maen nhw’n drist hefyd. Ychydig cyn ei farw clywais amdano’n gorwedd yn anymwybodol ger eglwys yn Dun Laoghaire, a phlant yn gwneud dwr am ei ben. Tydi alcoholiaeth ddim yn afiechyd? Be? Oes rhywun o ddifri’n honni mai dymuniad Alan Devlin oedd bod yn y fath stad? Dwi’n falch iawn i mi weld Alan am y tro olaf, ar ei uchelfannau, pan es i a ’nghyfaill Vaughan Hughes draw i Ddulyn y llynedd i’w weld o’n chwarae rhan y Canon, a hynny’n orchestol, yn nrama Brian Friel, Philadelphia, Here I Come! Roedd hynny yn y Gaiety, yr union theatr a oedd wedi ei sacio flynyddoedd ynghynt am ymadael â’r llwyfan mewn modd mor fythol gofiadwy.
Melys y cof amdano. A chwerw felys hefyd.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
