Thema dywyll Thema golau

Dan Ddylanwad

 

Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011
Gol. J Elwyn Hughes
tt 259, Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, £9.00

Yn eithaf rheolaidd dros y degawdau cofnodir yn y gyfrol flynyddol odidog hon nad oes Neb yn Deilwng o’r Gadair. Droeon eraill synhwyrir fod beirniaid, rhag siomi, yn gwobrwyo awdlau anarbennig a dieneiniad ond cywir, fwy neu lai, eu cynghanedd. Ac weithiau, dim ond weithiau, ar achlysuron prin drybeilig, cawn flwyddyn fel eleni.

Yn Wrecsam roedd cymaint â phedwar o feirdd yn gwbl deilwng o’r Gadair. Ffugenw prifardd coronog 2008, Hywel Griffiths, yw Patmos ac Annes Glyn, Prif Lenor 2004, yw Weiren Bigog. Eithr dirgelwch i Sherlock Holmesiaid y Cyfansoddiadau hyd yma yw enw’r bardd sy’n ei alw ei hun yn Col. Lluniodd y tri ohonyn nhw gerddi y mae rhywun yn ysu am eu darllen. Afraid dweud bod dod i’r brig mewn cystadleuaeth o safon mor eithriadol o uchel yn gamp neilltuol.

Dyna efallai a barodd i un beirniad, Gruffydd Aled Williams, fynd dros ben llestri’n llwyr wrth ganmol yr enillydd. Yn 28 oed, fodd bynnag, roedd Rhys Iorwerth yn ddigon hirben i ddweud yn blwmp ac yn blaen wrth y cyfryngau nad yw’n credu am eiliad y dylid ei gymharu o ddifrif â Dafydd ap Gwilym.

Yn groes hefyd i’r hyn y mae nifer o bobol yn ei gredu, nid Rhys yw’r ieuengaf i ennill y Gadair genedlaethol. Dim ond 22 oed oedd Gwyndaf Evans yn ei hennill ym Mhrifwyl Caernarfon yn 1935. Ac fe wnaeth Gwyndaf rywbeth llawer mwy mentrus na chanu am ryw, alcohol a chyffuriau. Fe sgwennodd o ei awdl mewn vers libre cynganeddol o bob dim! Gweithred wirioneddol ryfygus ar y pryd.

Dylid nodi yn ogystal nad oes dim byd newydd mewn canu, fel y gwneir yn un o gerddi cadair Wrecsam, am gymryd cocên. Yn yr Oxford Book of Welsh Verse (1962) mae’r golygydd Thomas Parry yn cynnwys cerdd gan John Eilian, ‘Abdwl ym Mro’r CocaÅLin’. Ym mhedair llinell agoriadol y gerdd honno clodforir rhyw, alcohol a chocên, dewis gyffur hamdden cynifer o Gymry goludog proffesiynol y dwthwn hwn. Gwaredais, gyda llaw, wrth glywed beirniad answyddogol ar S4C yn dweud bod y cyfeiriad at gymryd cocên yn ‘fendigedig’.

Hyd yn oed os nad yw deunydd y cerddi cadeiriol mor chwyldroadol o newydd ag yr awgrymodd amryw – ym Mhont-y-pwl yn 1924 coronwyd pryddest hoyw, cofier – mae’r modd yr aeth Rhys Iorwerth ati i gynganeddu ei gerddi mewn arddull ac ieithwedd mor dwyllodrus o syml ac ymddangosiadol ddiymdrech yn rhagorol.

Syfrdanol yw’r gwahaniaeth rhwng mynegiant diwastraff, naturiol ac anchwyddedig barddoniaeth gaeth y bardd buddugol a rhyddiaith glogyrnaidd, annaturiol a chwyddedig beirniadaeth Donald Evans.

Gyda’r holl sôn am gyffuriau, tybiais fy mod innau wedi cymryd rhywbeth go gryf pan es i ati i ddarllen y gerdd gyntaf yn nilyniant coronog Geraint Lloyd Owen. Cefais y teimlad rhyfedd fy mod i’n gyfarwydd iawn â hi, neu o leiaf â rhannau ohoni. Ac fe gofiais yn lle yn union yr oeddwn i wedi dod ar draws y rhannau hynny. Estynnais am dâp fideo o raglen deledu a wnes i yn 1994 efo Gerallt Lloyd Owen, brawd Geraint, yn y gyfres Portreadau. Chwaraeais y rhan o’r rhaglen lle y soniai Gerallt am ei ardd achau, chwedl yntau, sef ei gart achau. Dywed ei fod yn perthyn i ‘linach sy’n anweddu yn niwloedd bore cynnar Cymru lle mae hanes a chwedl bellach yn un’. Rywsut, rywfodd yn ‘Gardd Achau’, cerdd agoriadol Geraint, ailgylchwyd sylwebaeth Gerallt: ‘… y mae gardd achau fy hil / yn anweddu ym more cynnar / ein cenedl’ gan ymestyn ‘… i’r fan lle mae hanes a chwedl / bellach yn un’. Tybed ddaru geiriau Gerallt mewn rhaglen 17 mlynedd yn ôl wreiddio, heb yn wybod iddo, yn isymwybod Geraint? Ai dyna’r esboniad? Yn sicr does dim arlliw arall o ganu Gerallt ar gyfyl yr un o gerddi coron Wrecsam.

Adolygir nofelau’r Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen yn y rhifyn hwn o Barn. Ni allaf ymatal, fodd bynnag, rhag datgan fy ngwerthfawrogiad o gamp Manon Rhys. Gofid calon yw gorfod cydnabod bod y Fedal wedi ei dyfarnu yn y ganrif hon i rai awduron nad oeddynt yn deilwng o’r teitl Prif Lenor. Nid felly’r tro hwn. Chefais i ddim cyfle eto i ddarllen nofel fuddugol Daniel Davies. Beirniadwyd newyddiadurwyr gan John Rowlands am dynnu sylw at y ffaith bod yr awdur wedi derbyn nawdd ariannol i sgwennu’r nofel. Ond er na thorrwyd unrhyw reol o gwbl mae hyn, yn fy marn i, yn rhoi mantais amlwg i’r noddedig dros gystadleuwyr sy’n gorfod cyfansoddi yn eu hamser hamdden prin. Fyddwn i ddim yn anfon cyfrol y cefais i fy nhalu am ei sgwennu i gystadleuaeth yn y Brifwyl, beth bynnag ddywed y rheolau.

Perl o feirniadaeth yw honno a gyflwynir gan Arwel Gruffydd a Sharon Morgan wrth ddyfarnu’r Fedal Ddrama i Rhian Staples. Cyflwynwyd rhan o’r gwaith yn ystod y seremoni. Mae’r hyn a glywais bryd hynny yn cyfiawnhau’n llwyr y ganmoliaeth a roddwyd i’r enillydd. Roedd ei dialog yn tasgu a’r sefyllfa yn trydanu tensiwn. Dyma’r sgwennu llwyfan mwyaf gwefreiddiol imi ei glywed yn y Gymraeg ers tro byd.

A ninnau i gyd yn gallu darllen cerddi sobreiddiol R. S. Thomas yn y Saesneg gwreiddiol, dwn i ddim o ddifrif beth yw pwrpas gosod cystadleuaeth cyfieithu tair o’i gerddi i’r Gymraeg. Ond cafodd yr enillydd, Gwawr Thomas, hwyl arbennig ar y gwaith. Ni fynnwn ei beirniadu am fethu gwneud cyfiawnder ag un o ddelweddau mwyaf ysgytiol R.S., y Groes ‘untenanted’. Diolch i’r Eisteddfod am fod yn ddigon meddylgar i sicrhau’r hawl i argraffu’r cerddi gwreiddiol, ochr yn ochr â’r cyfieithiadau arobryn.

Smonach, fodd bynnag, a gafwyd wrth argraffu stori arswyd John Meurig Edwards. Mae’n ymddangos i dudalen olaf y stori gael ei hepgor o’r Cyfansoddiadau! Mr Edwards enillodd hefyd ar y Llythyr Dychanol at Wleidydd. Ac yntau’n ddychanwr cenedlaethol, tybed a wnaiff o faddau imi am awgrymu nad drwg o beth fyddai bod wedi hepgor ei lythyr yn ei gyfanrwydd? Yr un, mae arnaf ofn, yw fy nedfryd ar Erthygl Newyddiadurol Gruff Roberts. Collfarnwyd ef yn gwbl gywir gan y beirniad, Arwyn Jones, am dreulio tudalen a hanner agoriadol ‘aneglur braidd heb i’r darllenydd wybod union bwrpas yr erthygl’. Dyna’r condemniad eithaf ar unrhyw waith newyddiadurol. Pa ddiben sydd, felly, mewn gwobrwyo erthygl ‘newyddiadurol’ hollol annewyddiadurol? Nid ar Gruff Roberts y mae’r bai.Wnaeth o ddim dyfarnu’r wobr iddo fo ei hun. Ond mae’n gwneud i ’ngwaed i ferwi bod y Brifwyl yn deall cyn lleied â hyn am y grefft o newyddiadura.

Gruff Roberts enillodd hefyd ar yr Ysgrif Bortread. Mae o’n awdur cyhoeddedig, dawnus. Ac mae ei bortread o un o’n trysorau cenedlaethol, y Parch. Huw Jones, yn gynnes a hoffus ac annwyl. Dyma brawf. Nid llenor yw pob newyddiadurwr. Ac yn sicr nid newyddiadurwr yw pob llenor.

Yn wir, fel y dengys arddull ryfedd ac ofnadwy’r bardd y cyfeiriais yn gynharach at ei feirniadaeth yng nghystadleuaeth y Gadair, mae modd bod yn brifardd dwbl dwbl heb allu sgwennu brawddeg eglur o ryddiaith.

Pethau rhyfedd ydi geiriau. Diolch byth.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Steddfod y Sbort a’r Salsa

Ymlaen >

Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin