Thema dywyll Thema golau

Cwrs Y Byd – Cymdeithas ‘Cenhadon Casineb’

Yn lle casau’r cestyll Seisnig, erbyn hyn daethom i sylweddoli mai symbolau o fethiant Lloegr i’n darostwng ydyn nhw. A’r methiant godidocaf un yw castell ysblennydd Caernarfon. Saith canrif ar ôl ei godi, Caernarfon gastellog Edward 1 yw’r dref Gymreiciaf yn y byd.

Wrth ddarllen Twrw Jarman, (Gomer) cywaith gwerthfawr Geraint Jarman ac EurofWilliams, cefais f’atgoffa o’r casineb a’r dirmyg a anelwyd at Jarman a’r Cynganeddwyr am berfformio yng Nghastell Caernarfon yn 1983. Dynodwyd y flwyddyn honno gan Fwrdd Croeso Cymru a’r Swyddfa Gymreig yn Flwyddyn y Cestyll. (Am amseru sensitif! Yn 1283 y cychwynnwyd codi castell Caernarfon.) Er nad oedd gan ymddangosiad Jarman ddim oll i’w wneud â’r sbloet, (roedd Geraint yn erbyn Blwyddyn y Cestyll) enynnodd lid a dicter Cymdeithas yr Iaith. A’i dialedd: ‘Gan y Gymdeithas roedd monopoli’r gigs yng Nghymru… Os o’n ni’n cael ein banio ganddyn nhw am flwyddyn roedd hynny’n golygu nad oeddan ni am weithio am flwyddyn.’

Yn agos i 30 mlynedd yn ddiweddarach mae’r esgymuno’n dal i frifo: ‘Ces i’r teimlad fy mod i’n sydyn yn byw mewn lle estron nad o’n i’n ei ddeall. Lle unwaith bûm yn ceisio’n uffernol o galed i fyw bywyd Cymraeg a chyfrannu cymaint fedrwn i, efo band o Gymry digymraeg, a cheisio pontio’r gagendor rhwng y ddau fyd oddi fewn i Gymru, gwneud llwyth o gigs i’r Gymdeithas, ac i’r Blaid hefyd, a sawl cymdeithas Gymraeg, a gwneud hynny efo gwên a balchder… fe’n galwyd ni’n fradwyr.’ Gan ddyfynnu o un o’i ganeuon ei hun, disgrifia Jarman y rhai o fewn Cymdeithas yr Iaith a wnaeth hyn iddo fo a’r band yn ‘genhadon casineb’.

Esbonnir bod y gwaharddiad wedi sefyll am dros chwe mis. Y bobol ddaru dorri’r gwaharddiad a chynnig gwaith i’r band eto oedd Clwb Tanybont yng Nghaernarfon. Sef, yng ngeiriau Geraint, ‘clwb o bobol gyffredin’.

Yn gam neu’n gymwys, mae profiad Geraint Jarman ar y pryd yn f’atgoffa o’r hyn a sgwennodd Gerald Holtham yn rhifyn Mehefin o Barn. Cyfeirio’n benodol yr oedd o at Blaid Cymru a’i methiant i berswadio pleidleiswyr digymraeg i’w hystyried yn blaid a amddiffynnai eu buddiannau nhw. Ymhellach dadleua Holtham mai’r canfyddiad yn y Cymoedd Saesneg eu hiaith yw mai ‘mewn pethau ethnig, ieithyddol a diwylliannol y mae gwir ddiddordeb’ Plaid Cymru.

Ac ysywaeth, gellir ymestyn beirniadaeth Holtham i gynnwys hefyd y rhan fwyaf o’r mudiad cenedlaethol. Yn waeth na hynny, mae arnaf ofn nad yn y Gymru ddigymraeg yn unig y mae beirniadaeth Holtham yn dal dwr. Hyd yn oed yn nhre Caernarfon, mae’n anodd iawn cael ieuenctid y stadau tai cyngor, y digoleg a’r difreintiedig i fynychu gigs Cymraeg. Nac i’w cael nhw i deimlo bod pethau o’r fath yn perthyn iddyn nhw.

Maen nhw’n siarad Cymraeg o hyd, diolch byth. Ond yn y Gaernarfon Gymraeg, fel yng Nghwm Cynon, nid mewn ‘pethau ethnig, ieithyddol a diwylliannol’ y mae eu gwir ddiddordeb. A phwy all eu beio? Pobol â sawl torth fawr ffres yn eu pantriïoedd sydd debycaf o fynnu nad ar fara yn unig y byddwn fyw.

‘Pobol gyffredin’ Caernarfon dorrodd waharddiad Cymdeithas yr Iaith ar Jarman a’r Cynganeddwyr yn 1983. Ond a fyddai pobol o’r fath, heddiw yn 2011, yn malio digon i wneud yr un modd?


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Les Morrison (1956–2011)

Ymlaen >

Cofio Alan: Y Chwarae'n Troi'n Chwerw