Roedd Khalid al-Midhar wedi marw cyn imi ddeffro’r bore hwnnw. Nid fy mod yn ei nabod. Nid oeddwn wedi cwrdd ag ef erioed; nid oeddwn yn nabod unrhyw un a oedd wedi cwrdd ag ef. Ein coleg oedd yr unig gysylltiad rhyngom: Mesa College, yn San Diego, California. Roedd y ddau ohonom ar y gofrestr myfyrwyr yno.
Ar fore 11 Medi 2001, roeddwn yn gyrru i gyrraedd dosbarth yn y coleg pan glywais ar y radio am yr hyn a wnaethpwyd gan Khalid a deunaw dyn arall. Roedd Khalid yn un o derfysgwyr 9/11. Erbyn hyn, gwyddom i 2,753 o bobl gael eu lladd yn yr ymosodiadau, yn ogystal â Khalid a’i gyd-lofruddwyr. Ar y bore hwnnw, ni wyddai neb ddim, wrth gwrs. Ni wyddai neb am Khalid na’r lleill, ni wyddai neb yn union beth oedd yn digwydd. Ar y radio, roedd gohebwyr yn sôn am awyren a oedd wedi taro’r World Trade Center. Roeddent yn gwylio’r teledu ac yn ailadrodd pethau wrth eu gwrandawyr heb ddeall yn union beth oedd yn digwydd.Wrth wrando, cefais i’r syniad mai damwain oedd y peth. Yn fy mhen gallwn weld awyren fach gyda pheilot twp, yn bwrw yn erbyn adeilad ac yn achosi rhyw ychydig o ddifrod.
Roeddwn yn gweithio yn y byd newyddion yn ystod y dyddiau hynny a chofiaf feddwl bod yr orsaf radio’n gwastraffu amser gyda’r fath stori. Mae tua 3,000 milltir rhwng San Diego a Dinas Efrog Newydd. ’Sdim ots gan bobl San Diego am ryw hurtyn o beilot mor bell i ffwrdd. Maen nhw eisiau gwybod sut mae’r traffig lleol, sut fydd y tywydd a pha selèb yw’r diweddaraf i wneud ffwl ohono’i hunan.
Ond yna, rhegodd un o’r cyflwynwyr, bloeddiodd cyflwynwr arall. Roedd twr yn cwympo.
‘Oh, God. Oh, my God,’ meddai cyflwynwraig. ‘Oh, my God. No. No. No!’
Gyda mis Medi’n nodi degawd ers y trasiedíau yn Efrog Newydd,Washington DC a Phensylfania, afraid dweud y bydd pob newyddiadurwr yn gofyn ac yn ceisio ateb cwestiynau a ddaw yn sgil yr ymosodiadau. Beth fydd effaith parhaol 9/11? A oes rhywbeth i’w ddysgu gan yr ymosodiadau?
Yn y dyddiau cyntaf ar ôl 11 Medi 2001 roeddem ninnau eisoes yn gofyn yr un cwestiynau, ar ben y cwestiynau sylfaenol: Beth yn union oedd wedi digwydd? Beth yn union oedd yn digwydd? Pwy? Sut? Pam? Ni chysgai neb lawer yn ystod y dyddiau hynny. Cofiaf y teimlad fod y byd wedi newid, bod rhyw syfliad enfawr wedi digwydd. Gweithiwn oriau hir iawn dros fy ngorsaf newyddion yn ystod yr wythnos gyntaf.Wrth yrru adref ben bore teimlai’n od i fod mewn car, i fod ar yr un hen ffyrdd.Wrth edrych o’m cwmpas, byddwn yn gofyn i fi fy hunan: ‘Pam bod pawb yn dal ati fel arfer? Pam nad yw’r ceir i gyd wedi stopio? Sut y gall unrhyw un ddal at ei hen drefn?’
Ar draws yr Unol Daleithiau roedd pawb arall yn teimlo’r un pethau. Roedd y boen a’r dryswch yn llethol. Cafodd digwyddiadau – gemau chwaraeon, cyngherddau, rhaglenni teledu – eu canslo. Pa mor weddus, bellach, oedd parhau gyda phethau o’r fath? Yn wir, pa mor weddus oedd dangos unrhyw awch at fyw? Ni wyddem sut i ymddwyn.
‘I’m not sure I should be doing a television show,’ meddai David Letterman yn ei ddarllediad cyntaf ar ôl yr ymosodiadau, ryw wythnos yn ddiweddarach.
Es i ati i wisgo baner fach yr Unol Daleithiau ar fy nghrys am sbel. Yn dawel fach, roedd disgwyl i bawb yn yr orsaf newyddion ddangos y fath wladgarwch. Mae’n gwneud synnwyr, efallai. Teimlai fel petai’r ymosodiadau yn ymosodiadau ar bob un ohonom, ym mhob un gymdogaeth ym mhob un dref a dinas yn America. Tynasom at ein gilydd. Roedd teimlad na allem ddeall gweddill y byd bellach. Dewisai nifer ohonom ganfod cysur yn ein baneri, ein caneuon, y sicrwydd plaen o fod yn Americanwyr. Ymhlith ein gilydd, ac yn ein diogelwchein hunain, yr oedd ein diddanwch. Credaf fod rhaid cael y pethau hyn. Maent yn gamau pwysig yn y broses o wella. Nid oedd yr anthem genedlaethol erioed wedi golygu cymaint imi ag a wnaeth yn ystod y pythefnos ar ôl 9/11.
Ond o’r awyrgylch hon daeth paranoia ac ysfa i ddial. Cyn bo hir, roedd rhai ohonom yn teimlo bod pethau’n mynd yn rhy bell. Ymhen mis roeddwn i wedi rhoi’r gorau i wisgo’r faner fach ar fy nghrys. Roedd normalrwydd yn dychwelyd. Ar ôl sbel teimlais ei bod hi’n saff i siarad unwaith eto gyda’m tafod yn fy moch: ‘If we don’t get some donuts in this newsroom, immediately, then the terrorists have won.’
Rhaid cyfaddef fod rhai’n fwy cyndyn i ollwng eu hysteria gwladgarol nag eraill. Roedd gwladgarwch afresymol yn agwedd gyffredin iawn yn y misoedd cyntaf. Ac, wrth gwrs, hyn a arweiniodd at y rhyfel yn Irac ddwy flynedd wedyn. I ryw raddau. Mae’n bwysig cofio bod sôn am ddymchwel Saddam Hussein yn ystod blynyddoedd Clinton. Ac yn sgil hynny, mae’n bwysig hefyd sylweddoli nad 9/11 oedd yr unig reswm – na’r prif reswm, hyd yn oed – i GeorgeW. Bush gael ei ailethol yn 2004.
Efallai na chredwch hyn ond erbyn etholiad arlywyddol 2004, roedd y corwynt o wladgarwch a barwyd gan 9/11 wedi hen bylu. Yn fy mhrofiad i, mae gwladgarwch Americanwyr yn beth anodd i bobl Prydain ei ddeall. Gallaf feddwl, ar amrantiad, am ryw saith gwyl wladgarol yn ystod y flwyddyn Americanaidd, sef Presidents Day, Memorial Day, Independence Day, Flag Day, Patriot Day, Veterans Day a Pearl Harbor Day. Felly, efallai nad yw’n hawdd derbyn yr awgrym nad oedd 9/11 yn berthnasol bellach.
Ar y cyfan, tipyn o sbort yw gwladgarwch i Americanwyr. Yng ngeiriau’r awdur J. Frank Dobie: ‘We are a people who will salute a bedsheet.’ Hynny yw, mae’r teimladau o berthyn a balchder sy’n rhan o wladgarwch yn bethau yr ydym ni’n eu mwynhau. Rydym yn bobl dros ben llestri, pobl emosiynol, sy’n hoffi gweiddi nerth ein pennau, boed hynny am chwaraeon neu grefydd neu wladgarwch. Gallai cefnogwr pêl-droed ym Mhrydain ddeall y fath nwyd efallai. Ond ar ôl y gêm, aiff yr Americanwr adref yn sobr, heb feddwl llawer mwy am y peth.
Felly mae gwladgarwch yn beth pleserus, ond, ar y cyfan, nid yw’n beth sy’n llywio ein bywydau. Oedd, roedd cyfnod byr, yn syth ar ôl 9/11, pan nad oedd hynny’n wir, pan oeddem yn dweud wrthym ein hunain y byddai ein gwlad ni’n gyntaf ym mhopeth a wnaem. Ond roedd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben erbyn 2004.
Os ydych chi’n un o’r tri pherson a ddarllenodd fy llyfr Cwrw Am Ddim, efallai y cofiwch imi enwi gwladgarwch rhonc fel un o’r rhesymau pam fy mod eisiau gadael yr Unol Daleithiau bum mlynedd yn ôl. Oedd. Yr oedd yn rheswm. Ond erbyn hyn sylweddolaf nad 9/11 a achosodd yr ymddygiad hwnnw. Yn fy arddegau byddai pobl yn siantio ‘USA! USA! USA!’ a chwifio’r faner oherwydd Rhyfel y Gwlff. Yn fy mhlentyndod byddent yn canu: ‘Go back to Mother Russia. To hell, to hell with you’. Roedd y gwladgarwyr gwallgof yno erioed. Ac ar ôl hanner degawd o fyw y tu allan i’r Unol Daleithiau, sylweddolaf fod pobl fel hyn i’w cael ym mhobman. Maent yn y Tea Party; maent yn yr English Defence League; maent yng Nghymdeithas yr Iaith.
O ran hynny, mae’n bosibl edrych ar y degawd diweddar a gweld nifer fawr o bethau a wnaethpwyd yn yr Unol Daleithiau dan faner 9/11. Aeth mesurau diogelwch yn fwy llym a mewnfudo’n fwy anodd, er enghraifft. Ond a yw’n rhesymol dweud na fyddai’r pethau hyn wedi digwydd beth bynnag? Nac yw. Mae’r Unol Daleithiau yn wlad a chanddi wleidyddiaeth sydd, ar y cyfan, i’r dde o’r canol. Fel hyn y mae pethau wedi bod ers degawdau.
Heb os, bydd miliynau o Americanwyr yn defnyddio’r dywediad ‘I haven’t forgotten’ yn ystod y dyddiau o gylch 11 Medi 2011. Mae’n beth poblogaidd iawn i Americanwyr ysgrifennu’r geiriau hyn ar eu Facebook neu Twitter neu G+ neu pa bynnag rwydwaith cymdeithasol y maent yn aelodau ohono. Mae’n ymadrodd sy’n fath o ateb i gân country gan Darryl Worley. Yn y gân maeWorley’n gofyn: ‘Have you forgotten how it felt that day? To see your homeland under fire and her people blown away?’
Ni ellir cyhuddo sêr canu gwlad o fod yn gynnil.
Mae’n ddywediad hurt, rhaid cyfaddef.Wrth gwrs fy mod yn cofio. Cofiaf, hefyd, fy mhen-blwydd yn ddeg oed. Cofiaf fy nghinio ddoe. Cofiaf bob tymor o Strictly Come Dancing. Cofiaf bob math o bethau. Ar yr wyneb, nid yw ‘I haven’t forgotten’ yn ddim byd mwy na datganiad o allu’r cof. Ond, wrth gwrs, mae’n ddywediad sy’n ceisio mynnu rhywbeth arall. Mae’n fath o arwydd-ddywediad sy’n honni bod America wedi newid o ganlyniad i’r ymosodiadau. Mae’n fodd i ‘gofio’ pryd y newidiodd popeth.
Ond beth oedd yr Unol Daleithiau ar 10 Medi 2001, sef diwrnod cyn yr ymosodiadau? Roedd yn wlad fawr, amrywiol gyda thuedd i fod yn geidwadol yn ei gwleidyddiaeth a’i chymdeithas. Y tu allan i’r Unol Daleithiau byddai pobl yn cwyno nad oedd y wlad yn talu digon o sylw i weddill y byd, yn ogystal â rhagweld diwedd ei dylanwad oherwydd natur gynhennus ei gwleidyddion.
Y tu mewn i’r Unol Daleithiau roedd pobl yn talu mwy osylw i’r clecs am bobl enwog.
A beth yw’r Unol Daleithiau heddiw ond gwlad fawr, amrywiol gyda thuedd i fod yn geidwadol yn ei gwleidyddiaeth a’i chymdeithas? Gwlad y rhagwelir gan rai y bydd yn colli ei dylanwad oherwydd natur gynhennus ei gwleidyddion. Gwlad lle mae’r mwyafrif eisiau clecs am bobl enwog yn fwy na newyddion y byd.
Ar y cyfan, nid oes gwahaniaeth dramatig rhwng yr Unol Daleithiau heddiw a’r Unol Daleithiau ddeng mlynedd yn ôl. Mae rhagor o ffonau aml-ddefnydd (smart phones), nid yw’r un dillad yn ffasiynol, mae petrol yn ddrutach, ac yn y blaen ac yn y blaen, ond yn ideolegol, ac yn gymdeithasol, yr un wlad ag erioed yw hi. Ac, i fi, dyma’r canlyniad gorau posib i’r drasiedi: dim. Ni chafodd yr ymosodiadau effaith. Methodd y terfysgwyr yn eu bwriad, beth bynnag oedd eu bwriad.
Bu wythnos ar ôl yr ymosodiadau 9/11 cyn i ddigwyddiadau megis chwaraeon a chyngherddau gael eu cynnal eto. Ac i’r byd professional wrestling yr aeth yr anrhydedd o fod y digwyddiad cyntaf i ddychwelyd at ‘normalrwydd’. Cofiaf fy hoff reslwr, The Rock, yn brasgamu i lawr y platfform tua’r cylch, y reslwyr eraill y tu ôl iddo mewn undod, ac yntau gyda’i ddwrn yn yr awyr. Canwyd yr anthem genedlaethol gan ferch mewn sgert fer iawn ac aeth y gynulleidfa’n wyllt gan siantio: ‘USA! USA! USA!’ Dyma, i fi, waddol yr ymosodiadau.
Ni chafodd lladd pobl unrhyw effaith yn yr Unol Daleithiau; ni chafodd effaith ym Madrid; nac ychwaith yn Llundain. Yr arf mwyaf aneffeithiol posibl yw terfysgaeth.
Heb os, bydd fy ffrindiau yn ôl yn yr Unol Daleithiau’n ysgrifennu, ‘I haven’t forgotten,’ ar eu Twitter ac ati. Efallai yr ysgrifennaf i: ‘I haven’t forgotten that it changed nothing.’ A diolch i Dduw am hynny.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
