Thema dywyll Thema golau

Steddfod y Sbort a’r Salsa

‘Does ’na’m llawer o ddim byd ’mlaen,’ oedd y farn gyffredinol yngl?n ag arlwy theatr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae’n wir mai dim ond dau gynhyrchiad proffesiynol oedd ar y fwydlen nosweithiol, sef Un Fach Flewog (Theatr Bara Caws) a Salsa! (Theatr Na’ n’Ôg/Theatr Mwldan). Neu dair, os ydych yn cyfri X’fod, sioe deuluol awyr agored Bara Caws.

Eleni doedd gan y Theatr Genedlaethol na Sherman Cymru ddim cynyrchiadau ar gyfer yr Eisteddfod – a hynny, yn anad dim, oedd yn bennaf cyfrifol am y bwlch. Mae’r ddau gwmni yma (ar y cyd â Bara Caws) wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno llawer o ddramâu mwyaf swmpus a llwyddiannus yr Eisteddfod yn ystod y blynyddoedd diweddar. Ond chwarae teg, roedd gan y ddau gwmni bresenoldeb amlwg yng Nghaffi’r Theatrau ar y Maes – stondin newydd sbon lle’r oedd modd cael gwybodaeth, tocynnau, paned a lle’r oedd rhaglen amrywiol o weithgareddau hefyd – a dwi’n si?r y bydd gan y ddau gwmni ddigon i’w gynnig yn ystod y flwyddyn nesa’.

Er gwaethaf y bwlch yma – neu efallai o’i herwydd – cefais gyfle i wylio mwy o gynyrchiadau Theatr y Maes eleni. Teg dweud, serch hynny, mai cymysg yw safon y cynyrchiadau yn y Theatr, ac na lwyddais i weld pob dim o bell ffordd. Fy ymddiheuriadau os llwyddais i fethu perlau yn ystod yr wythnos. Ond ar brynhawn dydd Sul cyntaf yr ?yl es yn eiddgar i wylio cyflwyniad Ysgol Maes Garmon o Dringo’r Andes gan Emyr Edwards.

Egyr y ddrama gyda rhieni dosbarth canol cyfryngllyd a Chymreig yn pendroni beth i alw eu mab cyntafanedig. Penderfynant ei alw yn Iolo ap Llywarch, yn y gobaith y bydd enw mor aruchel yn gaffaeliad iddo. Gwelwn Iolo druan yn cael ei feithrin i fod yn ystrydeb o Gymreictod diwylliannol – tra mae ei galon yn dyheu am ryddid oddi wrth ormes ei rieni.

Roedd hwn yn gyflwyniad tebol a hyderus gan ddisgyblion Ysgol Maes Garmon. Ond mae arnaf ofn nad oedd y ddrama ei hun yn plesio. Doedd gen i ddim gronyn o gydymdeimlad gyda’r prif gymeriad. Iawn, roedd ei rieni o’n bennau rwdan hunanbwysig, ond ddaru’r prif gymeriad ddim byd trwy gydol y ddrama ond cwyno am ei fywyd dosbarth canol breintiedig. Trist iawn, feri sad. (Efallai mai fi sydd wedi mynd yn sinigaidd a digydymdeimlad yn fy henaint!)

Ar y prynhawn dydd Mercher bûm yn gweld Cwmni Drama Ynys Tywyn yn cyflwyno Y Fainc ganWil Sam. Yn y ddrama hon cawn gyfarfod â sgwennwr sy’n mynd drwy gyfnod hesb. Mae’r dyn diarth hwn yn denu diddordeb dwy gymdoges fusneslyd, hogyn papur newydd a phlisman y pentre’. Mae’r sgwennwr hefyd yn cael sgwrs gyda thramp – a hwnnw (yn unol â thraddodiad dramâuWil Sam) yn dramp tu hwnt o ddifyr a doeth. Byddwn yn dadlau mai hon yw un o ddramâu anoddaf Wil Sam i’w chyflwyno, ac roedd yn ddewis uchelgeisiol gan y cwmni. Mae’n rhaid amrywio cywair a rhythm deialog grwydrol y ddrama neu mae peryg iddi droi’n statig. Meddyliais yng nghanol y ddrama mor gelfydd y bu’r diweddar Stewart Jones yn grymuso geiriau Wil Sam. Roedd cwmni Ynys Tywyn yn actio’r ddrama ychydig yn rhy naturiolaidd at fy nant i, ac ni theimlais y wefr yr oeddwn wedi gobeithio ei theimlo wrth wylio’r cynhyrchiad hwn. Serch hynny, fe ddaru mi fwynhau’r perfformiad.

Yn syth ar ôl gwylio Y Fainc es ar f’union i glwb RAFA Wrecsam i wylio cynhyrchiad Bara Caws o Un Fach Flewog gan Eilir Jones. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, Sioe Glybiau ydi hon sy’n dilyn traddodiad hir ac anrhydeddus y cwmni o lygru corff ac enaid y genedl gyda’u hanlladrwydd heintus! Lleolir Un Fach Flewog mewn siop anifeiliaid anwes, a phob clod i’r actorion am eu perfformiadau egniol – er gwaetha’r ffaith fod rhai ohonynt wedi bod yn perfformio mewn sioeau clybiau ers diwedd y ganrif ddiwetha’. (Gyda llaw, faint ydi oed Bryn Fôn bellach? Atebion ar gefn cerdyn post, os gwelwch yn dda.) Mi wnes i chwerthin nes ’mod i’n sâl yn gwylio’r perfformiad yma ond mi wnes i hefyd y camgymeriad o eistedd reit wrth ochr y llwyfan…Wna i fyth deimlo’n gwbl lân eto!

Dwi’n teimlo braidd yn ff?l yn adolygu’r cynhyrchiad hwn – wedi’r cwbl, un ai rydach chi’n licio sioeau clybiau, neu tydach chi ddim, ac ni wnaiff adolygiad sy’n crybwyll pa mor denau ydi’r plot, neu faint rhyfeddol yr organau rhywiol plastig, newid barn neb. Os ydach chi’n licio’r math yma o beth, ewch i weld Un Fach Flewog ar daith, ac os nad ydach chi… ewch i’w gweld hi p’un bynnag, efallai y gwneith les i chi!

Ar y nos Iau bûm yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog, i weld cynhyrchiad Na n’Ôg/Mwldan o Salsa! gan Geinor Styles. Mae’r gomedi ramantaidd hon yn olrhain perthynasWayne a Rhian Needy wrth iddynt ymuno â dosbarth dawnsio. Mae Rhian yn rhoi’r ffidil yn y to ar ôl dim ond un wers – ond maeWayne yn darganfod talent gudd i ddawnsio Salsa, a hynny dan arweiniad Adela, yr hyfforddwraig Sbaeneg hardd…

Mwynheais y ddrama hon yn aruthrol. Byddai rhaid i rywun fod â chalon o ddur i beidio â chael ei gyffwrdd gan stori fach mor dyner. Roedd pob agwedd o’r cynhyrchiad yn dra effeithiol, yn enwedig felly’r llwyfannu, y sain a’r goleuo. Pob clod hefyd i’r pum aelod o’r cast, Phyl Harries, Carwyn Glyn, Llinos Daniel, Laura Clements a Betsan Llwyd, am eu gwaith caled wrth ddawnsio.

Nid creu theatr aruchel yw diben y ddrama hon, ac eto llwyddodd y cynhyrchiad i’m cael i hoffi a chydymdeimlo â’r cymeriadau. Mae yno deimladrwydd go iawn tu hwnt i’r hwyl a’r ysgafnder. Bydd Salsa! ar daith drwy Gymru cyn bo hir. Ewch i’w gweld hithau ar bob cyfri. Alla i ddim canu ei chlodydd hi ddigon.

Yn hwyr ar y prynhawn Iau bûm yn gwylio sioe awyr agored Bara Caws, X’fod gan Tony Llewelyn a Tudur Owen, ar y Maes Carafanau. Roedd hon yn sioe fach hwyliog gyda digon o ganu, dawnsio a thaflu stwnsh i gadw plant bach (a phlant llai bach) yn hapus am ryw awran. Mae sgwennu sioe deulu yn dipyn o gamp – ond roeddwn i’n amau ar brydiau fod X’fod wedi cael ei thaflu at ei gilydd braidd yn chwit chwat. Byddai defnyddio mwy o ddychymyg a byd ffantasi wedi rhoi wmff i sioe a oedd, yn fy nhyb i, yn llusgo ar brydiau.Wedi dweud hynny, wrth i mi godi oddi ar y borfa ar ddiwedd y sioe mi glywais i un hogan fach yn gofyn i’w mam, ‘Gewn ni ddod nôl fory ’to?’. Be wyddwn i, ’de? Pob clod, felly, i’r actorion bywiog fu wrthi’n diddanu plant llawen ac adolygwyr piwis Cymru fach!

Yn union fel yr Ymryson a’r Stomp, mae mynd i wylio sesiynau SgriptSlam Theatr y Sherman yn prysur ddod yn un o’m hoff weithgareddau i yn yr Eisteddfod. Rwyf wedi canmol y sesiynau hyn o’r blaen gan eu bod nhw’n gyfle i gynulleidfa weld tair drama fer (neu olygfa) ddeg munud o hyd a phleidleisio dros eu ffefryn – ac mae’n gyfle i sgwenwyr newydd weld eu gwaith yn cael ei berfformio gan actorion proffesiynol (sydd, chwarae teg, yn rhoi o’u hamser am ddim). Yn anffodus, dim ond un o’r tair sesiwn yn Theatr y Maes y llwyddais i fynd i’w gweld eleni, sef sesiwn dydd Gwener, lle perfformiwyd Y Polyn gan Gwilym Dwyfor, Anrheg gan Elen Gwenllian, ac Yr Ystafell Gyfweld gan Marged Parry. Y Polyn gan Gwilym Dwyfor aeth â hi. Mae Gwilym yn ddramodydd addawol, gyda’r gallu i greu deialog chwareus a chymeriadau addfwyn.

Braf oedd gweld teilyngdod yng Nghystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni. Llongyfarchiadau i Rhian Mererid Staples, enillydd cystadleuaeth y ddrama fer, ac felly’r Fedal Ddrama. Gobeithio yn arw y bydd y ddrama fuddugol yn gweld golau llwyfan yn y dyfodol agos.

Wrth adael yr Eisteddfod am flwyddyn arall byddwn yn cytuno gyda’r farn gyffredinol mai go denau fu’r arlwy eleni. Cefais gryn fwynhad o weld sawl perfformiad yn ystod yr wythnos, ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd, ni chafodd yr Eisteddfod ddrama a oedd yn cynnig llawer mwy na noson dda o adloniant. Tydi hynny ddim yn ddrwg o beth i gyd chwaith. Mae yn sicr angen sioeau hwyliog fel Un Fach Flewog a dramâu poblogaidd fel Salsa!. Mae hi’n iawn cael ambell i steddfod felly, ond efallai y bydda i yn dechrau poeni os mai’r un fydd y patrwm y flwyddyn nesa’ a’r flwyddyn wedyn. Amser a ddengys.

Bydd Un Fach Flewog (Theatr Bara Caws) ar daith yng ngogledd Cymru rhwng 4 Medi a 8 Hydref, a bydd Salsa! (Theatr Na’ n’Ôg/Theatr Mwldan) yn teithio drwy’r wlad rhwng 6 Hydref a 4 Tachwedd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Anfadwaith Utøya

Ymlaen >

Dan Ddylanwad