Thema dywyll Thema golau

Cwrs Y Byd – Airbus a’r Ysgol Fomio

Yno y cynhyrchir adenydd ffeibr-garbon, ysgafn ryfeddol, cenhedlaeth newydd o awyrennau a fydd angen 25% yn llai o danwydd na’r rhai presennol. Ymweliad Prif Weinidog Prydain a gipiodd y penawdau. Ond llywodraethau o bleidiau gwahanol i un Cameron sydd wedi bod wrth y llyw yng Nghaerdydd ers dechrau datganoli. Gan hynny wnaeth y bonheddwr mawr o Lundain ddim ymgais o fath yn y byd i gydnabod cyfraniad ariannol sylweddol Llywodraeth Cymru tuag at y datblygiad diweddaraf ym Mrychdyn. A phan gafodd Prif Weinidog Cymru gyfle yn y diwedd i siarad, fe aeth Carwyn Jones yntau ati i hawlio’r clod am fuddsoddi ym Mrychdyn. ‘Dengys ein dull o weithio gydag Airbus,’ meddai, ‘sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag Airbus i greu’r swyddi a’r twf y mae Cymru eu hangen i ffynnu.’ Yn gyfleus iawn, anghofiodd sôn mai Llywodraeth Cymru’n Un, efo Rhodri Morgan wrth y llyw, a oedd yn gyfrifol am roi £29 miliwn o gymorth i Airbus tuag at ehangu’r gwaith. Wnaeth Carwyn ddim digwydd sôn ychwaith mai’r gweinidog a arwyddodd y siec, fel petai, oedd… Ieuan Wyn Jones.

Cyfeiriwyd yn wawdlyd at y gwasanaeth awyr a sefydlodd y g?r hwnnw rhwng Môn a Chaerdydd fel Ieuan Air. Ond mae ganddo beth hawl hefyd i alw ei hun yn Ieuan Airbus. Fe wyddom i gyd nad dros nos y mae buddsoddiadau sylweddol fel yr un a dderbyniodd Airbus o Fae Caerdydd yn dwyn ffrwyth. Ond anodd yw osgoi dod i’r casgliad bod mwy o uchelgais a gweledigaeth yn perthyn i bartneriaeth lywodraethol y Blaid Lafur a Phlaid Cymru na’r hyn, ar ôl chwe mis hesb, a amlygwyd gan weinyddiaeth 100% Llafur Carwyn Jones. Godrodd Carwyn a Cameron fuwch lwyddiannus Brychdyn yn ddeheuig, heb gymryd arnynt nad ei buwch nhw ydi hi.

Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, rydw i newydd fod yn darllen am bennod gynharach o lawer yn hanes sefydliadau hedfan Gogledd Cymru. Helynt yr Ysgol Fomio yw deunydd Cythral o Dân: Cofio 75 mlynedd ers Penyberth gan Arwel Vittle.

Wrth ymestyn am y gyfrol aeth fy meddwl yn ôl i barlwr t? yn Ferndale yn y Rhondda Fach ar derfyn y ganrif ddiwethaf. Yno roedd Glyn James, yr ymgyrchydd ffyrnig hwnnw dros Blaid Cymru, yn hel atgofion. Cynrychiolai Glyn y to olaf o’r miloedd ar filoedd o ddynion o gefn gwlad Cymru a adawodd y tir i fynd i weithio yn y pyllau glo. Cyn mudo i’r Rhondda gweithiai fel gwas bach ar fferm yn Llangrannog. Ar 8 Medi 1936 roedd o’n cysgu yn y llofft stabal pan ddeffrowyd ef gan ddau was h?n a oedd wedi bod allan yn gweld eu cariadon. Yn fawr eu trwst a’u cynnwrf, mynnodd y ddau fod Glyn yn codi. O risiau’r llofft stabal gorchmynnwyd ef ganddyn nhw i edrych i’r gogledd dros Fae Ceredigion. Gwelodd Glyn fod yr awyr dros Ben Ll?n yn goch gan dân. Aeth y tri i gysgu’r noson honno heb sylweddoli eu bod nhw wedi bod yn llygaid dystion, o bell, i fflamau’r tân a daniwyd gan Dri Penyberth ar safle’r Ysgol Fomio. Ysgol oedd honno ar gyfer hyfforddi criwiau awyr i ollwng bomiau ar yr Almaen. Fel yr esbonnir yn y gyfrol, penderfyniad y Llywodraeth yn Llundain oedd codi canolfan o’r fath yn y fangre gysegredig honno. Anwybyddwyd yn llwyr y gwrthwynebiad dwys a ddaeth o bob cwr o Gymru. Dyna a ysgogodd y weithred. Dywedwyd mai llosgi’r Ysgol Fomio oedd y weithred gyntaf i gael ei chyflawni yn enw’r genedl Gymreig ers cychwyn gwrthryfel Glynd?r yn 1400. Yng nghyfarfod lansio cyfrol Arwel Vittle fe gyfeiriodd Dafydd Wigley at y gefnogaeth aruthrol i Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine a sgubodd drwy Gymru yn dilyn eu carchariad. (Symudwyd yr achos o Gaernarfon i’r Old Bailey yn Llundain ar ôl i reithgor Gymreig fethu â chytuno ar ddedfryd.) Yn rhyfeddol, roedd 15,000 yn y cyfarfod a drefnwyd yng Nghaernarfon i’w croesawu nhw adref yn Awst 1937.

Gofynnodd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru dros yr ardal pam na lwyddwyd ar y pryd i harneisio’r angerdd a’r egni hwnnw a’i droi’n gefnogaeth etholiadol i’r Blaid Genedlaethol, plaid yr oedd Y Tri yn aelodau mor amlwg ohoni.

Cwestiwn arall sydd gen i, fodd bynnag. Yn amlwg, am yr union reswm bod Ail Ryfel Byd melltigedig ar y gorwel yr aeth y Llywodraeth ati i godi’r Ysgol Fomio yn y lle cyntaf. Ddwy flynedd yn unig ar ôl i’r miloedd dyrru i groesawu’r Tri, unodd y Cymry efo trigolion eraill yr ynysoedd hyn i ymladd rhyfel a oedd yn llawer iawn mwy cyfiawn ac angenrheidiol na chyflafan 1914–1918. I’r rhai hynny ohonom nad ydym yn heddychwyr diamod, mae’n anodd iawn gweld sut y gellid caniatâu i anfadrwydd cwbl annynol Natsïaeth ymledu’n ddiwrthwynebiad. Hawdd yw deall hefyd pam y rhoddwyd blaenoriaeth am y tro i’r pethau hynny a oedd yn gyffredin rhwng y Cymry a dinasyddion gweddill Prydain yn hytrach na’r pethau â’n gwahanai. Dan amgylchiadau o’r fath, a ninnau wedi ein lapio’n dynn ym maner Jac yr Undeb, mae’n syndod na fyddai’r blynyddoedd rhwng 1939 a 1945 wedi bod yn fwy niweidiol nag y buon nhw i’r Gymraeg ac i Gymreictod.

Yn hytrach na gofyn pam na thaniwyd Cymru gan dân Penyberth, mwy buddiol efallai yw dyfalu cymaint gwaeth y byddai’r sefyllfa wedi bod heb y Tân yn Ll?n. A choelcerth Prydeindod yn llosgi mor eirias, oni fu gweithred Saunders, D. J. a Valentine o gymorth i gadw fflam Cymreictod ynghyn? Roedd hynny ynddi ei hun yn bwysig mewn dyddiau a oedd gyda’r tywyllaf a welodd Ewrop erioed.

Ar y llaw arall, fe ellir dadlau hefyd bod Penyberth wedi amlygu’r canfyddiad sy’n bodoli hyd heddiw – yn gam neu’n gymwys – nad yr un yw blaenoriaethau Plaid Cymru â rhai’r mwyafrif o werin bobol ein gwlad. Rhoddwyd cryn sylw i sylwadau Gerry Holtham ar dudalennau Barn yn gynharach eleni. Yn ei erthygl bryfoclyd ond hollol ddifrif dywedodd fod y Gymru ddi-gymraeg yn credu o hyd mai ‘pethau ethnig, ieithyddol a diwylliannol’ oedd bwysicaf yng ngolwg Plaid Cymru, nid llwyddiant economaidd a swyddi.

Mae ymwneud ymarferol y Blaid â’r miliynau o bunnau o gymorth a dderbyniodd Airbus yn gwrthbrofi canfyddiad o’r fath. Ond faint o bobol ddi-gymraeg y gogledd-ddwyrain sy’n sylweddoli hynny? Yn eironig, fodd bynnag, annoeth fyddai i Blaid Cymru geisio honni mai hi yw ffrind gorau Brychdyn. Cychwynnwyd cysylltiad y fro honno â’r diwydiant awyrennau pan aeth cwmni Vickers Armstrong ati i adeiladu’r Wellington Bomber ar safle presennol Airbus yn 1939. Efo’r Blaid ar y pryd yn gandryll yn erbyn Ysgol Fomio, go brin y gellir honni ei bod hi o blaid awyrennau bomio. A heb y rheini, nid ar dir Cymru y byddai’r genhedlaeth newydd o awyrennau’n cael eu hadeiladu heddiw.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gadael Erin

Ymlaen >

Pwy sy’n ‘delifro dros Gymru’?