Thema dywyll Thema golau

Pwy sy’n ‘delifro dros Gymru’?

Beth oedd ym mhen Keith Davies, Aelod newydd Llanelli, pan ymddangosodd ar rifyn diweddar o CF99 i nodi ei siom na fydd y Comisiwn newydd ar ddatganoli – Comisiwn Silk – yn ystyried fformiwla Barnett a phwerau benthyg y Cynulliad Cenedlaethol? A ydym mewn difrif i fod i gredu nad yw’n sylweddoli mai Llywodraeth Cymru a fynnodd fod argymhellion Comisiwn Holtham ynglyn â diwygio’r modd y cyllidir Cymru yn cael eu heithrio o gylch gorchwyl Comisiwn Silk gan ddod yn hytrach yn destun trafodaeth uniongyrchol rhwng llywodraethau Llundain a Chaerdydd? Yn fwy na hynny, a yw Mr Davies wedi anghofio’n barod fod ei blaid ei hun wedi treulio’r rhan fwyaf o gyfnod llywodraethau Blair a Brown yn gwadu fod ’na unrhyw broblem hefo Barnett? Consesiwn digon anfoddog i Blaid Cymru fel rhan o’r trafodaethau a arweiniodd at glymblaid ‘Cymru’n Un’ oedd sefydlu Comisiwn Holtham. Dim ond wedi i’r Comisiwn hwnnw gyhoeddi ei adroddiad cyntaf yng Ngorffennaf 2009 y gwelodd y Blaid Lafur Gymreig yn dda i gydsynio â’r hyn y bu Pleidwyr megis Phil Williams ac Eurfyl ap Gwilym yn ei ddadlau ers blynyddoedd lawer, sef fod Barnett yn gwneud cam â Chymru. Hyd yn oed wedyn, ni lwyddodd i ddwyn perswâd ar lywodraeth Gordon Brown i wneud dim o bwys yn ei gylch. Yn wir, nid oes lawer o olwg fod yr arweinyddiaeth Gymreig wedi ymdrechu’n rhyw galed iawn i wneud hynny chwaith! Rwy’n cymryd mai bwriad Mr Davies wrth wneud sylw mor wamal oedd ceisio tynnu blewyn o drwyn pleidiau’r glymblaid yn Llundain. Yn ddiarwybod iddo’i hun, fodd bynnag, yr hyn a wnaeth oedd tynnu sylw at wendid canghennau Cymreig y pleidiau unoliaethol. Oblegid mae holl hanes Comisiwn Silk yn tanlinellu unwaith yn rhagor cyn lleied o ddylanwad sydd ganddynt yng nghalon eu pleidiau eu hunain. Maent hwy – ac felly ni – yn byw ar y briwsion.

Pan ddechreuodd y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol drafod ffurfio clymblaid ym mis Mai 2010, roedd buddiannau Cymreig yn isel, isel ar yr agenda. O ran y Ceidwadwyr Cymreig, roeddynt hwy eisoes wedi sicrhau’r ‘fuddugoliaeth’ allweddol pan gafwyd ymrwymiad cyhoeddus David Cameron cyn yr etholiad na fyddai llywodraeth Geidwadol yn rhwystro refferendwm ar estyn pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol. (Sy’n gyfystyr â dweud bod Cameron wedi addo peidio â thanio’r twelve bore at ei draed ei hun... Arwydd o wendid oedd bod hyn yn cael ei gyfrif fel buddugoliaeth o gwbl!) Er gwaetha’r ffaith fod y Torïaid Cymreig eu hunain wedi cwyno am Barnett gan dderbyn dadansoddiad Holtham, nid oeddynt mewn difrif yn credu y gellid sicrhau unrhyw symud ar y mater yma. Gan fod diwygio Barnett yn rhwym o olygu lleihad sylweddol yng nghyllideb yr Alban, roedd Ceidwadwyr Cymru’n sylweddoli’n burion y byddai’n amhosibl perswadio penaethiaid eu plaid eu hunain i fynd i’r afael â’r drefn ariannu. Hyd yn oed os mai dim ond un sedd y llwyddodd y Torïaid i’w hennill yn yr Alban, mae’r wlad honno’n parhau’n bwysicach o lawer na Chymru dawel. Oherwydd strwythur ffederal eu plaid roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig mewn safle fargeinio gryfach. Roedd eu disgwyliadau’n uwch o’r herwydd. Cafwyd ymdrech ganddynt i sicrhau symud ar Barnett. Ond heb lwyddiant. Y maen tramgwydd? Eu cyd-bleidwyr yn yr Alban a oedd, oherwydd eu rhan ganolog yn nhîm trafod y Democratiaid Rhyddfrydol, mewn sefyllfa i eithrio unrhyw sôn am Barnett o’r cytundeb clymblaid. Yr hyn a gynigwyd yn ei le, megis gwobr gysur, oedd ymrwymiad i sefydlu yng Nghymru rhyw fath o Gomisiwn ar batrwm Comisiwn Calman yr Alban pe bai pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ar estyn pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mewn byr eiriau, wedi penderfyniad hwyrfrydig gan y Blaid Lafur Gymreig fod Cymru wedi’r cyfan yn cael cam oherwydd fformiwla Barnett, ni lwyddodd y blaid honno i wneud dim oll yn ei gylch. Yn wir, ni chafwyd hyd yn oed ymdrech ystyrlon ganddi i wneud hynny. Ni ddaru’r Blaid Geidwadol Gymreig drafferthu chwaith, er ei bod hithau hefyd yn cydnabod y cam. Chwarae teg iddynt, o leiaf fe gafwyd ymdrech gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig. Ond ymdrech aflwyddiannus. Oherwydd bod Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban yn fwy dylanwadol o lawer yn Llundain, cafwyd yn ei le ymrwymiad digon annelwig i sefydlu Comisiwn ar gyfer Cymru. Briwsion o’r bwrdd...

Nid dyna ddiwedd y stori, fodd bynnag. Oblegid yn ogystal â thanlinellu anallu’r pleidiau unoliaethol i sicrhau bod eu lleisiau’n cael gwrandawiad yn eu pencadlysoedd yn Llundain, cyfyd gwedd fwy cadarnhaol i’r holl hanes wrth ystyried llwyddiant yr arweinwyr pleidiol yng Nghymru i wneud y gorau o’r briwsion a gynigwyd iddynt. Erbyn hyn, gyda manylion Comisiwn Silk wedi eu cyhoeddi, gwyddom y bydd gan y Comisiynwyr gylch gorchwyl eang iawn i’w ystyried dros y ddwy flynedd nesaf. Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddant yn ystyried datganoli pwerau trethiannol i Gymru, a hynny yn enw ‘atebolrwydd ariannol’. Yn y flwyddyn ganlynol, bydd cyfle i ystyried addasrwydd y trefniadau cyfansoddiadol presennol yn eu crynswth. Er nad oedd cylch gorchwyl y Comisiwn Calman gwreiddiol wedi ei rannu’n ddwy yn y fath fodd, eto i gyd yr un oedd ei hyd a’i led. Yn wir, gellid dweud bod cylch gorchwyl y Calman Cymreig yn rhagori ar gylch gorchwyl y gwreiddiol gan ei fod wedi hepgor y cymal a gynhwyswyd er mwyn eithrio’r SNP o’r drafodaeth; cymal oedd yn datgan mai pwrpas y gwaith oedd sicrhau dyfodol yr Alban yn y Deyrnas Gyfunol. Nid oes dim byd cyffelyb yn achos Comisiwn Silk, ac felly does dim i rwystro Plaid Cymru rhag chwarae rhan lawn. Bydd y Comisiwn Cymreig yn Gomisiwn gwirioneddol gynhwysol sydd â gobaith gwirioneddol o osgoi’r

enwadaeth a danseiliodd hygrededd y broses Albanaidd. Sut y trodd ymrwymiad digon amhenodol i greu Comisiwn ar batrwm Calman yn realiti sydd, mewn un

ffordd cwbl allweddol, yn rhagori ar y gwreiddiol? Wedi’r cwbl, mae’n hysbys fod ein Hysgrifennydd Gwladol wedi gwneud popeth yn ei gallu i lastwreiddio a chyfyngu ar rôl y Comisiwn newydd. Diolch i’r drefn, prin yw galluoedd Cheryl Gillan. Wedi i’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig sylweddoli bod y wobr gysur a gawsant yn y cytundeb clymblaid yn cynnig y posibilrwydd – o achub ar y cyfle – o sicrhau symud radical ar yr agenda cyfansoddiadol, llwyddasant i lobïo’n effeithiol iawn yn Llundain i sicrhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei gadael ar yr ymylon. Yn benodol, llwyddwyd i drosglwyddo’r dasg o lunio’r cylch gorchwyl ar gyfer y Comisiwn newydd i’r arweinwyr Cymreig yng Nghaerdydd. Mewn diwrnod yn unig, llwyddodd y rheini i sicrhau cytundeb â’i gilydd. (Nid cyd-ddigwyddiad, fe dybiaf, yw’r ffaith mai dyma’r diwrnod cyn trosglwyddo’r awenau Ceidwadol i Andrew R.T. Davies!) Mewn perthynas ag un mater yn unig y llwyddodd yr Ysgrifennydd Gwladol i lyffetheirio gwaith y Comisiynwyr. Cawsant eu gwahardd rhag ystyried nifer yr Aelodau a etholir i’r Cynulliad. Mae hyn yn siom oblegid mae’r Cynulliad yn ddiau yn rhy fach. Ond er gwaetha’r fuddugoliaeth hon, colli’r frwydr wnaeth Gillan. A’i cholli’n rhacs. Mae Comisiwn Silk lawer iawn yn fwy uchelgeisiol na’r hyn a ddeisyfai Gillan. Hyd yn oed os mai prin yw dylanwad gwleidyddion Cymreig yn Llundain, o gydweithio gyda’i gilydd profwyd eu bod yn fwy dylanwadol na’r person sy’n haeru cynrychioli buddiannau Cymru o amgylch bwrdd y cabinet yn Llundain.

Wedi sicrhau cylch gorchwyl estynedig iawn ar ei gyfer, mae’r pleidiau hefyd wedi mynd ati i sicrhau bod Comisiwn Silk yn cynnwys ymysg ei aelodau rai o’r enwau mwyaf dylanwadol a galluog o fewn y gwahanol bleidiau. Anodd os nad amhosib yw dychmygu cynrychiolaeth wleidyddol gryfach na Sue Essex, Rob Humphreys, Nick Bourne ac Eurfyl ap Gwilym. Nid ar chwarae bach y bydd anwybyddu argymhellion y rhain.

Ar y naill law, felly, mae sefydlu Comisiwn Silk yn arwydd arall o wendid canghennau Cymreig y pleidiau unoliaethol ac yn benodol eu hanallu i ddwyn perswad ar eu meistri i fynd i’r afael ag annhegwch amlwg Fformiwla Barnett. Er eu bod oll bellach yn gytûn â Phlaid Cymru ein bod yn cael cam, dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol a roddodd gynnig go iawn ar wneud rhywbeth yn ei gylch, a methu fu eu hanes hwythau. Yn hytrach, cafwyd ymrwymiad i sefydlu Comisiwn fel gwobr gysur gan eu cyd-bleidwyr Albanaidd.

Ar y llaw arall, unwaith y sylweddolwyd fod yr hyn a gynigwyd fel gwobr gysur – yn ddiarwybod i’r rheini â’i cynigiodd, bid siwr – yn cynnig posibiliad o newid pellgyrhaeddol a gwerth chweil, gwelwyd yr arweinwyr pleidiol Cymreig yn cydweithredu’n effeithiol a chelfydd i wneud y gorau o’r cyfle a ddaeth i’n rhan. Tra bydd Keith Davies a’i debyg yn hefru ar flaen y llwyfan, rhaid diolch i’r drefn fod ’na rai callach o bob plaid wrthi’n gweithio’n ddyfal y tu ôl i’r llenni.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs Y Byd - Airbus a'r Ysgol Fomio

Ymlaen >

Croesawu Meri’n Gomisiynydd Ond Aneglurder o Hyd