Thema dywyll Thema golau

Rhodri Talfan Davies – Bos Newydd Y Bîb

Allai wythnosau cyntaf Rhodri Talfan Davies fel Cyfarwyddwr BBC Cymru ddim bod wedi bod yn fwy stormus. Nid yn unig bu’n rhaid iddo ymateb i oblygiadau sefydlu’r bartneriaeth ddadleuol newydd gyda S4C, ond bu’n rhaid iddo hefyd gyhoeddi toriadau difrifol i gyllid BBC Cymru yn ogystal. Serch y cyhuddiadau, yr argyfyngau a’r trafodaethau dyrys sydd wedi ei wynebu ers iddo gymryd y llyw, mae’n ymddangos yn ddigon ymlaciedig yng nghyn-swyddfa ei ragflaenydd Menna Richards, yn ei jîns a’i grys gwyn coler agored – y cyfflincs wedi’u tynnu a’r llewys wedi’u torchi. Mae’r bos newydd wedi troi’r swyddfa honno’n ystafell gyfarfod, ac yn hytrach na’i gloi ei hun mewn swyddfa foethus, mae’n gweithio ochr yn ochr â’i d.m ar ddesg ddinod. Does dim syndod efallai ei fod yn teimlo’n gartrefol yn ei rôl newydd. Mae’n datgelu ei fod yn arfer ymweld â’r adeilad hwn yn Llandaf bob dydd Nadolig pan oedd yn blentyn yng nghwmni ei dad, Geraint Talfan Davies, pan oedd hwnnw’n rheolwr BBC Cymru ac yn dod i ddymuno cyfarchion y tymor i’w staff. A yw’n teimlo pwysau’r etifeddiaeth, sydd bellach yn nwylo’r drydedd genhedlaeth o’i deulu, yn drwm ar ei ysgwyddau wrth iddo ymgymryd â’r rôl fu yn nwylo nid yn unig ei dad ond hefyd ei dad-cu, y llenor a’r darlledwr Aneirin Talfan Davies?

‘Nid pwysau ond falle bod yna gysgodion mewn mannau,’ meddai. ‘Fel plentyn o’n i’n dod i’r adeilad ’ma yn reit gyson – mae e’n deimlad rhyfedd weithie wrth ystyried yr hanes.’ Er ei fod wedi ei ‘fagu yn y Pethe’, mae’n cyfaddef nad yw e’n ‘medru cystadlu’ â’i dad-cu, yr oedd cyd-sefydlu’r cylchgrawn hwn ymhlith ei gyfraniadau eang i fywyd diwylliannol Cymru. (Partner Aneirin Talfan Davies yn y fenter honno oedd ei frawd, Alun Talfan Davies, un o sefydlwyr HTV Cymru yn ddiweddarach.) Ond fel cynifer o blant pobl amlwg y Pethe, mae’n cyfaddef iddo deimlo nad oedd modd iddo ddatblygu ei yrfa yng Nghymru yn wyneb yr ensyniadau cyson o nepotistiaeth. Wedi dechrau ei yrfa gyda’r Western Mail, aeth i Loegr ar ôl ymuno gyda’r BBC yn 1993 fel newyddiadurwr dan hyfforddiant. Ni ddychwelodd i weithio yng Nghymru, ar ôl dal nifer o swyddi ym maes darlledu yn Llundain, Manceinion, Newcastle a Bryste, tan 2006.

‘Newyddiaduraeth oedd fy mhrif ddiddordeb ac yn rhannol oherwydd bod fy nhad yn rheolwr yn fan hyn, wnes i’n fwriadol fynd i Loegr i ddilyn y trywydd yna. Mae’r cyhuddiad o nepotistiaeth wastad yna ac roedd yn rhaid i fi sefyll ar fy nhraed fy hunan y tu hwnt i Gymru.’ Ond yn awr wele’r drydedd genhedlaeth o un o deuluoedd mwyaf dylanwadol y byd cyfryngol Cymreig bellach wedi dychwelyd i lywio’r Gorfforaeth drwy foroedd tymhestlog y presennol.Wrth roi tystiolaeth yn y Cynulliad i’r grwp ‘gorchwyl a gorffen’ ar ddarlledu – a sefydlwyd yn sgil sefyllfa argyfyngus y cyfryngau Cymreig – honnodd y cynhyrchydd profiadol John Geraint mai ‘rheoli dirywiad’ y mae darlledwyr Cymru bellach. Mae Rhodri Talfan Davies yn derbyn yr honiad yma, gan ddweud bod y toriadau o 16% i gyllid BBC Cymru dros y pum mlynedd nesa’, a hynny ar ben toriadau’r pum mlynedd diwetha’, wedi gwthio’r Gorfforaeth i ‘ymyl y dibyn’ o ran yr hyn sy’n bosib ei gyflawni fel darlledwr cenedlaethol. Ond wrth i’r cyllid gael ei wasgu, mae’n mynnu iddo flaenoriaethu a diogelu’r hyn sydd wrth wraidd rôl genedlaethol BBC Cymru, meysydd fel newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth a rhaglenni dogfen. Penderfyniad mwyaf dadleuol Rhodri Talfan Davies ers iddo gymryd yr awenau, heb os, yw torri ar arlwy gwleidyddol BBC Cymru ar ffurf rhaglenni Dragon’s Eye ac AM/PM. Mae hynny’n digwydd ar yr union adeg pan fo’r Western Mail ac ITV Wales yn gwegian, ac mae Rhodri Talfan Davies ei hun o’r farn nad yw rôl BBC Cymru ‘erioed wedi bod yn bwysicach yn sgil datganoli a hefyd o ystyried dirywiad y gwasanaethau masnachol’. Ond mae’n amddiffyn y penderfyniad drwy hawlio bod y gynulleidfa’n mynd i ‘elwa o gael amrywiaeth lleisiau a phersbectifs’ y rhaglen a fydd yn cymryd lle Dragon’s Eye, a fydd yn cael ei chynhyrchu gan y sector annibynnol. ‘Wrth gwrs dwi ddim eisiau colli pobl dda o’r uned wleidyddol ond dwi eisiau sicrhau bod ’da ni ddigon o amrywiaeth reit ar draws ein hadran newyddion a materion cyfoes. Dwi’n meddwl o’n ni’n orddibynnol yn y gorffennol ar yr adran fewnol a doedd hynny ddim yn iachus. Ry’n ni wedi diogelu’r gwariant ar wleidyddiaeth am ei fod mor greiddiol ond am symud yr arian prin sy ’da ni i’r oriau brig.’ ‘Rhaid canolbwyntio nawr ar raglenni sy’n mynd i wneud gwahaniaeth, er enghraifft Blinc [addasiad o ddrama Ian Rowlands am gamdriniaeth rywiol] ar Radio Cymru a phrosiect The Story of Wales [cyfres ar hanes Cymru yn cael ei chyflwyno gan Huw Edwards]. Mae’r egwyddor o bartneriaeth yn mynd i fod yn allweddol ar gyfer nifer o gyrff cyhoeddus dros y blynyddoedd nesa’ a dwi eisoes wedi cael trafodaeth gyda’r Theatr Genedlaethol Saesneg ynglyn â’r posibiliadau o ran cydweithio ym maes drama.’

Wrth drafod drama, mae’n barod i dderbyn bod rhywfaint o wirionedd yn yr honiad cyson bod y BBC wedi dibynnu’n ormodol ar gyfresi fel Torchwood i adlewyrchu Cymru ar y sgrin fach, er, mae e’n honni ei bod hi’n ‘bosib gorbwysleisio’r broblem’ wrth ystyried cynnyrch y tair blynedd diwethaf a llwyddiant Torchwood, Gavin and Stacey a The Indian Doctor. Serch hynny, roedd arolwg y BBC o’i wasanaethau wrth baratoi’r toriadau, Delivering Quality First, yn cydnabod bod angen gwneud mwy i adlewyrchu bywyd a diwylliant y cenhedloedd datganoledig. Troi at lwyddiant National Theatre Wales, a’u harlwy uchelgeisiol a’u parodrwydd i gydweithio, wna Rhodri Talfan Davies am ysbrydoliaeth gan ddatgan ei weledigaeth y dylai BBC Cymru efelychu’r nodweddion hyn yn y dyfodol. Wrth i’n sgwrs droi’n anochel at y bartneriaeth newydd gyda S4C, daeth yn amlwg ei fod yn awyddus i bwysleisio ei bod yn amser troi tudalen newydd, a’i fod yn teimlo’n angerddol ynglyn â’r angen i greu perthynas y bydd y ddwy sianel yn elwa arni. ‘Mae eisiau i ni nid anghofio’r gorffennol ond edrych o ddifri ar ba mor gyflym mae’r farchnad yn symud a’r posibiliadau newydd o ran cydweithio.’ Dywed ei fod yn ‘hynod optimistig’ ynglyn . natur y bartneriaeth ac yn teimlo bod yr egwyddor o bartnera yn rhywbeth y gall sefydliadau cenedl fach fel Cymru elwa arno, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

‘Mae Cymru’n rhy fach i ni beidio â chydweithio, i ni beidio trafod ar y cyd yr heriau a’r sialensau sy’n wynebu darlledu yng Nghymru, i ni beidio ag ystyried meysydd lle mae’n bosib i ni leihau’r costau mewnol a rhyddhau’r arian newydd ar gyfer rhaglenni ac allbwn, i ni beidio ag ystyried cyfleoedd ar gyfer datblygiadau newydd. Mae ’na bosibiliadau di-ri ac am resymau gwleidyddol neu hanesyddol, falle, mae wedi bod yn anodd cael y drafodaeth yna.

‘Dwi’n teimlo bod ’na awydd yn y ddau sefydliad i symud ’mlaen ac i drafod posibiliadau creadigol sy’n bodoli – mae’n syndod i fi cyn lleied o gydgomisiynu sy wedi digwydd dros y blynyddoedd ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, nid yn unig yn ariannol, mae ’na gyfle creadigol i ystyried prosiectau a all ddigwydd yn y ddwy iaith sy ddim yn tanseilio S4C na’r BBC ond sy’n cynnig mwy o werth i’r gynulleidfa, boed nhw’n Gymry Cymraeg neu’n ddi- Gymraeg.’

Mae ei angerdd yn darbwyllo, ac wrth i’r ffrae wleidyddol dros S4C dawelu, hwyrach fod y ffaith fod gan BBC Cymru reolwr newydd ac S4C brif weithredwr newydd, yn codi’r posibilrwydd o ddechrau ar y gwaith anodd o gydweithio dan bwysau cyllidebol mawr gyda llechen lân a hynny heb y ‘ddrwgdybiaeth’ sy’n bodoli, meddai, ‘mewn mannau’ o du’r naill gorff a’r llall. Ond mae’r cydbwysedd grym yn y bartneriaeth newydd hon yn peri pryder i’r rhai sydd am weld natur ac annibyniaeth S4C yn cael eu gwarchod, ac oni allai’r broses o gyd-gomisiynu rhaglenni ddinoethi’r nod digon clodwiw a’i ddangos am yr hyn ydyw – trefniant a wnaed ar sail cyllid yn hytrach na rhesymau creadigol? A sut mae datrys y cwestiwn o bwy fyddai’n berchen ar hawliau rhaglenni petai dwy fersiwn yn cael eu cynhyrchu? A fyddai hawl gan S4C i ddarlledu’r fersiwn Gymraeg yn gyntaf? A fyddai gofynion cynulleidfa’r BBC yn effeithio ar y math o raglen y gallai S4C ei chomisiynu? Mae ei ymateb yn ddiamwys: ‘Mae’n rhaid i gydgomisiynu fod yn broses wirfoddol. Dwi ddim yn sôn am gydgomisiynu ble mae’n rhaid i un partner neu’r llall gymryd rhan. Ond dwi yn credu’n wrioneddol fod yna gyfleoedd ac opsiynau cyffrous. Os cymerwch chi brosiect fel cariad@iaith neu The Story of Wales, mae’n rhaid bod cyfleoedd i rannu’r math ’na o syniad ac o dalent rhwng y ddwy sianel a bod y ddwy sianel yn elwa o hynny.’ Mae’n croesawu’r drafodaeth a daniwyd yn ddiweddar gan ei ddau ragflaenydd yn y swydd, Menna Richards a’i dad, Geraint Talfan Davies, ynglyn â’r angen i godi llais dros y diffyg gwariant ar raglenni Cymreig nawr bod darlledu Cymraeg wedi ei ‘ddiogelu’ yn sgil y bartneriaeth gyda S4C. Mae hyn i’w ddisgwyl, meddai, hyd at y Siartr nesaf yn 2017 pan fydd y Llywodraeth yn edrych eto ar lefel ffi’r drwydded. Ond mae’n gwadu’n bendant fod cystadleuaeth rhwng gwariant ar raglenni Cymraeg a rhai Saesneg.

‘Mae hynny’n ffordd orsimplistig o weld y darlun ehangach. Dwi’n meddwl bod y BBC wedi bod ar daith hir dros y degawd diwethaf o ran sut mae’n ymwneud â’r cenhedloedd a’i dealltwriaeth o sut mae Prydain yn newid oherwydd y datblygiadau gwleidyddol a datganoli. Dwi’n meddwl bod y BBC wedi parchu’r iaith Gymraeg ers y cychwyn oll a dwi eisiau osgoi creu’r argraff bod adnoddau rhaglenni Saesneg yn cystadlu’n uniongyrchol gyda gwariant rhaglenni Cymraeg. Dydi’r BBC nac Ymddiriedolaeth y BBC ddim yn gweithredu yn y fath fodd.’

Gan fod y berthynas rhwng dwy iaith a dau ddiwylliant ieithyddol Cymru yn siwr o greu tensiynau yn y blynyddoedd sydd i ddod, ymddengys penderfyniad Rhodri Talfan Davies i barhau i fyw ym Mryste gyda’i wraig a’i dri o blant – Harri, sy’n un ar ddeg oed, Bea, sy’n saith oed a Nye, sydd bron yn ddwy ac a enwyd ar ôl ei dad-cu – yn arbennig o ddadleuol. Oni ddylai pennaeth sefydliad cenedlaethol fel BBC Cymru fyw yn y wlad y mae’n ceisio ei gwasanaethu? Mae’n amlwg yn ganlyniad y cyfnod hir o fyw a gweithio yn Lloegr ac mae’n sôn bod treulio cymaint o amser y tu allan i Gymru, mewn dinasoedd fel Newcastle – a oedd, meddai, yn debyg iawn i Gymru o ran diwydiant a’i phellter o Lundain – wedi bod yn fuddiol.

‘Mae e wedi rhoi persbectif gwahanol i fi o ran rôl darlledu yng Nghymru. Weithiau mae tuedd i fod bach yn or-ramantus ynglyn â datblygiad diwylliant yng Nghymru a falle ychydig yn geidwadol ac yn fewnblyg. Dydw i ddim o reidrwydd yn cytuno bod hynny’n wir ond mae’n haws gweld posibiliadau weithiau pan wyt ti’n camu i ffwrdd o ganol y drafodaeth... mae’n gwneud i ti gwestiynu rhai pethau o ran be sy’n digwydd yng Nghymru a dwi wedi elwa o hynny.’

Ydi cadw’r cartref y tu hwnt i Glawdd Offa felly’n fodd o gynnal y pellter beirniadol hwnnw? Mae ’na ochenaid yn gymysg â chwerthiniad eironig wrth iddo esbonio i mi ei fod yn treulio’r wythnos waith gyfan naill ai yng Nghaerdydd neu yn Llundain ac felly nad oes ‘fawr o bellter’ rhyngddo ef a Chymru bellach. Er ei fod yn dweud ei fod yn ymfalchïo yn llwyddiant ei dad a’i dad-cu, mae’n mynnu bod ei rôl yn hollol wahanol hyn a oedd yn eu hwynebu nhw.

‘Mae cymaint wedi newid, a’r diwydiant wedi symud gymaint. Mae rhai o’r amcanion yn parhau, rhai o’r negeseuon, mae peth o’r weledigaeth yr un mor berthnasol heddi – mai newyddiaduraeth sy’ fwyaf blaenllaw, y rhaglenni sy’n treiddio dan groen bywyd Cymru. Ond mae natur y gynulleidfa, y dulliau cynhyrchu, wedi esblygu dros amser, felly er bod cysondeb o ran pwrpas darlledu cyhoeddus yng Nghymru, mae’r dull o gyflawni’r pwrpas hwnnw wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd.’ Fodd bynnag, mae’n cyfaddef iddo elwa o’i gefndir teuluol ac o gael ei fagu ‘mewn cartre’ lle o’dd pwysigrwydd darlledu cyhoeddus, pwysigrwydd bywyd cenedlaethol yn rhan annatod o ddiwylliant yr aelwyd, ac mae hynny bownd o gael argraff… ti’n rhan o drafodaeth am bynciau sy ddim yn cael eu trafod mewn lot o dai.’

Mae ’na dinc chwareus yn ei lais wrth iddo awgrymu bod ei swydd newydd wedi gwneud pethau’n anodd i’w dad, sydd wedi bod â rhan mor amlwg yn y drafodaeth gyhoeddus am ddarlledu yng Nghymru. ‘Mae e wastad wedi bod yna ac yn gymorth ac yn glust os dwi eisie trafod ond mae’n tueddu i gadw draw, a hynny’n fwriadol.’

Wrth gloi dwi’n gofyn pwy, o blith y ffigyrau y bu’n cwrdd â nhw yn y Ganolfan Ddarlledu pan oedd yn blentyn, a wnaeth y mwyaf o argraff arno, gan obeithio mai rhyw wleidydd neu ffigwr diwylliannol amlwg fyddai’r ateb, rhywun y byddwn wedyn yn medru priodoli rhyw arwyddoc.d mawr i’w ddylanwad. Ond dyn y BBC yw Rhodri Talfan Davies. Mae e yn ei waed. Ei ateb? Hywel Gwynfryn. ‘Dwi ddim yn siwr sut ma’ fe’n teimlo o orfod gweithio gyda thair cenhedlaeth ohonom ni!’


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Croesawu Meri’n Gomisiynydd Ond Aneglurder o Hyd

Ymlaen >

O Fwynder Maldwyn i Stiwdio Freud: Taith David Dawson