Thema dywyll Thema golau

O Fwynder Maldwyn i Stiwdio Freud: Taith David Dawson

Roedd Lucian Freud yn artist o fri rhyngwladol, yn enwog am ei bortreadau o bobl o bob cefndir. Peintiodd sêr o fyd y cyfryngau a’r theatr gan gynnwys llun o Kate Moss yn feichiog ac yn noethlymun. Portreadodd y Frenhines – yn ei dillad wrth reswm – ond cafodd gweithwraig mewn swyddfa fudd-daliadau hefyd ei hanfarwoli ganddo, yn cysgu’n noeth ar soffa. Cafodd ei luniau eu canmol am eu manylder, am y ddrama a’r ddynoliaeth sydd ynddynt, ac am eu pwer seicolegol. Maent yn gwerthu am filiynau.

Almaenwr o dras Iddewig oedd Lucian Freud, a’i deulu wedi ymsefydlu yn Llundain yn y 1930au ar ôl ffoi o Berlin rhag y Natsïaid. Roedd yn wyr i’r seicdreiddiwr Sigmund Freud ac yn frawd i’r gwleidydd a’r darlledwr a’r awdur Clement Freud. Bu ei fywyd personol yn destun diddordeb a dyfalu diddiwedd, a chafodd nifer fawr o blant gan wragedd a chariadon gwahanol; roedd yn arddel rhai ond nid eraill. Roedd yn ddyn eithriadol o breifat a phan fu farw yn ystod yr haf eleni, yn 88 oed, roedd rhai perthnasau yn honni mai ar y teledu y clywsant y newyddion gyntaf.

Ond un a oedd yn adnabod yr artist yn well na bron neb arall yw David Dawson, Cymro sy’n byw yn Llundain ond a dreuliodd hanner ei fagwraeth yn Sir Drefaldwyn. Am ugain mlynedd, bu Dawson yn gweithio fel cynorthwyydd stiwdio i Freud, a hefyd fel model. Gwnaeth yr artist nifer fawr o luniau ohono ac yn wir, portread o Dawson gyda’i filgi, Eli, oedd y llun olaf i Freud weithio arno. Bydd y llun anorffenedig hwnnw yn rhan o arddangosfa fawr o waith Freud a fydd yn agor yn y National Portrait Gallery, Llundain, ym mis Chwefror. Dros goffi a chacen mewn bwyty yn Notting Hill, bedwar drws oddi wrth y ty lle’r oedd Freud yn byw, mae Dawson, gwr tawel ei ffordd ond hynaws, yn egluro sut y cychwynnodd y cysylltiad rhyngddo ef a’r artist byd-enwog. Yn nechrau’r 1990au, ac yntau newydd gwblhau ei MA yn y Coleg Celf Brenhinol, cafodd swydd fel cynorthwyydd rhan-amser i’r deliwr celf James Kirkman, a thrwyddo ef y cyfarfu Freud. Roedd y ddau yn cyd-dynnu’n dda o’r dechrau ac o fewn blwyddyn a hanner, roedd y Cymro ifanc wedi gadael Kirkman i ddod yn gynorthwyydd i Freud, a oedd yn ei chwedegau hwyr erbyn hynny. Fe’i cafodd yn wr hwyliog, afieithus er nad oedd bellach yn cymdeithasu mor wyllt ag y bu pan oedd yn iau.

‘Erbyn y cyfnod ro’n i’n ei nabod roedd Lucian wedi rhoi’r gorau i fynd o un parti i’r llall! Roedd o’n canolbwyntio’n llwyr ar ei gelf. Roedd o’n enwog yn barod ond roedd ar fin dod hyd yn oed yn fwy enwog. Roedd ganddo ddeliwr newydd yn America, William Acquavella, ac fe arweiniodd hynny at lefel newydd o lwyddiant ar y llwyfan byd-eang. Roedd o’n sylweddoli bod rhaid iddo ymroi o ddifri yn awr i geisio gwneud y lluniau gorau a allai. Ro’n innau’n sylweddoli ar unwaith mai fy rôl i oedd hwyluso ei waith peintio. A’r ffordd orau imi wneud hynny oedd trwy drefnu popeth arall iddo.’

Dawson, felly, oedd yn prynu deunyddiau ar gyfer yr artist, yn trefnu arddangosfeydd, yn ateb galwadau ffôn. Bob bore byddai’n mynd i’w stiwdio, fel arfer cyn 8 o’r gloch, ac yn paratoi popeth ar gyfer pwy bynnag oedd yn dod yno i fodelu. Yn y prynhawn, tra byddai’r arlunydd yn cysgu, byddai’n mynd adre i weithio ar ei luniau ei hun cyn dychwelyd gyda’r nos at Freud, a fyddai’n dal i beintio tan hanner nos. Byddai Freud yn treulio tua blwyddyn yn gweithio ar bortread arferol, a mwy o lawer ar ambell un; bu’n gweithio ar y llun olaf o Dawson am bedair blynedd.

Mae Dawson yn cyfaddef nad oedd wedi ymddiddori cymaint â hynny yng ngwaith Freud tra oedd yn y coleg, ond dywed fod gweld y lluniau am y tro cyntaf ‘yn y cnawd’, fel petai, yn brofiad go ddramatig. Ac roedd gwylio rhagor yn cael eu creu hyd yn oed yn fwy cyffrous – ‘y sylweddoliad fod rhywbeth disglair yn cael ei greu o flaen eich llygaid’. Gyda’r blynyddoedd, tyfodd cyfeillgarwch dwfn rhwng y ddau. Mae Dawson yn disgrifio Freud fel rhywun a oedd yn eithriadol o ddeallus, yn hynod o ddisgybledig yn ei ffordd o weithio, ac yn gwbl ymrwymedig i’w beintio. Ond yr oedd hefyd, meddai, yn gwmni diddan, yn llawn hwyl a ffraethineb. Yn ei dro mae’n credu bod ei bersonoliaeth yntau’n gydnaws gydag un yr arlunydd am ei fod yn ‘hapus yn ei gwmni ei hun, yn hunan ddibynnol a heb fod yn rhy gymhleth’. Roedd eu perthynas yn un lawn cariad ac ymddiriedaeth, yn ôl y Cymro. Y tro cyntaf i Freud wneud llun ohono, mae Dawson yn cofio teimlo’n chwithig yn gorwedd ar y gwely’n noeth y tro cyntaf, ond dros y blynyddoedd ymlaciodd yn y rôl honno hefyd.

Cyn bo hir gallai ddarllen wyneb Freud, gan wybod yn syth os oedd angen iddo symud braich neu goes, heb i’r arlunydd yngan gair. Yn ogystal â gofalu am yr ochr ymarferol i bethau, roedd Dawson yn gwarchod preifatrwydd Freud. A’r artist yn gyndyn iawn o roi cyfweliadau, Dawson, fel rheol, fyddai’n delio gyda’r  wasg ar ei ran.

 

 

‘Yn nhy Lucian, er ein bod ynghanol un o’r dinasoedd prysuraf yn y byd, roedd hi’n eitha’ tawel a llonydd. Doedd dim teledu yno, ac yn aml iawn byddai’r ffôn yn cuddio dan ryw ddarn o glwt ac felly’n anodd ei chlywed, a byddai cloch y drws wedi’i diffodd. Roedd yna ryw lonyddwch rhyfeddol. Ac mewn awyrgylch fel yna mae celfyddyd anhygoel yn gallu cael ei chreu.’

Ym mis Gorffennaf y bu farw Freud, yn dilyn cystudd byr, a bu Dawson gydag ef hyd y dydd hwnnw. Mae’n hynod o falch i’r arlunydd gael marw yn ei gartref ei hun, yn urddasol, yn hytrach na chael ei lusgo i ysbyty i ymestyn ei fywyd, ac yntau, yn ôl Dawson, yn ‘barod i fynd’. Roedd yn dal i beintio hyd at bythefnos cyn iddo farw, ar y llun o Dawson a’i gi, ac mae Dawson yn falch ei fod wedi galluogi iddo ddal ati cyhyd ag y mynnai.

Nid yw Dawson fel petai’n gwarafun eiliad o’r ugain mlynedd a dreuliodd yng ngwasanaeth Freud. Do, meddai, cafodd ei yrfa ei hun fel artist ei ddal yn ôl ‘rhyw ychydig’ ac mae’n cyfaddef ei bod yn anodd iddo ddod o hyd i’w lais ei hun tra oedd Freud a’i anghenion mor hollbresennol. Ond mae’n cydbwyso hynny â’r pethau gwerthfawr a ddysgodd ynglyn â sut i fyw fel artist.

Mae’r prysurdeb ynglyn â gwaith Freud yn parhau, gyda’r arddangosfa fawr yn y National Portrait Gallery yn agosâu. Er hynny, mae eleni’n ddechrau cyfnod newydd yn hanes Dawson, ac yntau’n fwy rhydd bellach i ganolbwyntio ar ei waith ei hun. Ac mae’r rhyddid hwnnw wedi ei yrru’n ôl fwyfwy at ei wreiddiau fel Cymro.

Er iddo gael ei eni yn Llyn – un o Nefyn oedd ei fam – treuliodd David ei flynyddoedd cynnar ar fferm y teulu yn yr Hebrides, ar ynys Islay. Yna, pan oedd yn naw oed, symudodd y teulu yn ôl i Gymru i ffermio yng Nghwm-nant-yr-eira ger Llanerfyl yn Sir Drefaldwyn.Wedi gadael yr ysgol bu’n ffermio gyda’i dad hyd nes iddo benderfynu mynd i goleg celf pan oedd yn 24 oed – penderfyniad mawr iddo ef a’i deulu gan iddynt orfod gwerthu’r fferm, Cannon, i dalu am hynny. Aeth ei rieni’n ôl i Nefyn ac aeth David i Ysgol Gelf Chelsea cyn mynd ymlaen i’r RCA. Teimlai bod yn rhaid iddo gael addysg gelf ffurfiol a dod o hyd i’w lwybr ei hun mewn bywyd, a dyna beth a’i gyrrodd i Lundain. Nid yw’n difaru hynny ac eto dywed mai’r lleoedd gwledig, unig ac anghysbell y tyfodd i fyny ynddynt oedd yr ysbrydoliaeth wreiddiol i beintio – yn gyntaf ar ynys Islay ac yna yn Sir Drefaldwyn.

‘Mae natur anghysbell llefydd fel y rhain yn eich dysgu chi sut i ddelio â bod ar eich pen eich hun a sut i fod yn fodlon ar eich cwmni eich hun. Ac i mi, o hynny, allan o’r rhyddid yma, y daeth y peintio. Dyna oedd y man cychwyn.’

Ychydig flynyddoedd yn ôl daeth cyfle annisgwyl i ailgysylltu â’r gwreiddiau. Daeth tyddyn yn Nyffryn Banw ar werth. Er nad oedd yn adnabod yr union dy, roedd yn adnabod yr ardal fel cefn ei law ac yntau wedi tyfu i fyny yno ac, yn syfrdanol, fe brynodd y lle dros y ffôn heb ei weld ond ar y we. Gwallgofrwydd? Mwy o fachu cyfle efallai, a gwireddu rhyw hanner dyhead a fu ganddo ers tro. Yr ysfa i ailddarganfod yr ardal oedd y sbardun, meddai. ‘Ro’n i’n meddwl ei bod yn hanfodol mynd yn ôl i ffynhonnell yr ysbrydoliaeth wreiddiol i beintio, ac at ryddid yr ardal yna.’

Ymhlith y dylanwadau ar Dawson mae gwaith artistiaid Americanaidd haniaethol fel Jackson Pollock a Willem de Kooning ochr yn ochr â realaeth gwaith pobl fel Freud – yn naturiol – a’i arwr mawr, Frank Auerbach, Almaenwr arall a ymsefydlodd ym Mhrydain. Yn y gorffennol mae wedi peintio llawer o luniau trefol neu ddinesig, amryw ohonynt wedi’u hysbrydoli gan strydoedd, adeiladau ac awyr Llundain a rhai yn ymateb uniongyrchol i’r olygfa o ffenest ei stiwdio yn ei gartref yng ngogledd-orllewin y ddinas. Ond y dyddiau hyn, mae’n treulio mwy a mwy o’i amser yn y tyddyn ger y Foel, yn cerdded bryniau Maldwyn gyda’i filgi ac yn peintio tirluniau.

 

Os oedd prysurdeb dwys a strwythur bendant ei ddyddiau gyda Freud yn ei blesio, mae’r rhyddid newydd hwn, yn ôl yn ei hen gynefin, wrth ei fodd hefyd. Bydd dwy arddangosfa o’i waith yn y flwyddyn newydd yn tystio i’r cyfnod sydd wedi dod i ben. Yn un o’r sioeau, yn y Pallant House Gallery yn Chichester, bydd rhai o’i baentiadau dros y blynyddoedd diwethaf i’w gweld ochr yn ochr â ffotograffau a dynnodd o Freud a’i stiwdio ac ambell lun gan Freud ei hun. Yn yr arddangosfa arall, yn oriel Hazlitt Holland-Hibbert yn Llundain, bydd rhagor o’r ffotograffau i’w gweld. Ond bydd yn rhaid aros rhywfaint i weld ei dirluniau Cymreig. Bydd y rheini’n cael eu dangos am y tro cyntaf yn 2013, yn oriel Marlborough Fine Art, Llundain, ochr yn ochr â’i luniau o Lundain. Fel Freud, mae Dawson yn gweithio gan bwyll bach.

Arddangosfeydd David Dawson a Lucian Freud

  • Bydd David Dawson: Working with Lucian Freud i’w gweld yn y Pallant House Gallery, Chichester, o 28 Ionawr hyd 20 Mai ( www.pallant.org.uk).
  • A bydd arddangosfa arall o’i ffotograffau yn oriel Hazlitt Holland-Hibbert, Llundain, o 30 Ionawr hyd 2 Mawrth (www.hh-h.com).
  • Bydd Lucian Freud Portraits, arddangosfa fawr o'i waith ers 2011, i'w gweld yn y National Portrait Gallery, Llundain, o 9 Chwefror tan 27 Mai ( www.npg.org.uk).

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Rhodri Talfan Davies – Bos Newydd Y Bîb

Ymlaen >

Lloegr yn deffro