Thema dywyll Thema golau
Gogoniant y Gaeaf
Gwleidyddiaeth 2011: Carwyn ddi-ffrwt a Chymru swrth
Michael D.

Gwleidyddiaeth 2011: Carwyn ddi-ffrwt a Chymru swrth

Ynghanol y cynnwrf yma i gyd, mae’n dweud rhywbeth am Gymru fod gwleidyddion y Cynulliad wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn trafod materion hollbwysig yr oes megis ai John Dixon ynteu Eluned Parrott a ddylai lenwi sedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar restr Canol De Cymru; neu a fu’r dreth bum ceiniog ar fagiau plastig yn llwyddiant digamsyniol (neu a fuasai saith ceiniog yn well?). Dangoswyd hefyd pa mor swrth yn y bôn yw bywyd gwleidyddol y wlad. Cadarnhaodd yr etholiad cyffredinol Cymreig ym mis Mai y ceid pedwerydd tymor yn olynol o’r un blaid mewn llywodraeth. A fydd modd cael llywodraeth ddi-Lafur fyth? Heb gytundeb ryw ben rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Geidwadol, mae hynny’n amhosib. Mae’n eironig braidd fod cynifer yn cwyno am fygythiad Peter Hain i newid y system etholiadol er lles y Blaid Lafur, pan fo Cymru’n wladwriaeth un blaid yn barod, ac wedi bod felly ers cyn cof.

Digon di-ffrwt fu Carwyn Jones fel PrifWeinidog ers yr etholiad. Rhodri lite yw arddull ei arweinyddiaeth – heb yr hiwmor. Methiant arall yw Edwina Hart, y mae ei chyfrif ffug yn y trydarfyd, ‘@RedwinaHartski (Commissar for Business and Enterprise in SSR of Wales)’, yn dweud popeth y mae angen ei wybod am bolisi economaidd y llywodraeth. Mae mwy o asbri yn perthyn i Leighton Andrews, bygythiol ond gweithgar, sydd wedi profi rhyw fath o dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus o ran y Gymraeg. Mae wedi torri crib y prifysgolion eleni yn dra effeithiol (a da o beth yw hynny) – er mai rhyfedd oedd gweld Prifysgol Cymru’n ail-frandio fel Prifysgol Cymru.

Draw ar y meinciau glas, ni fu pethau fawr gwell. Mae David Melding, deallusyn a aeth allan o’i ffordd i ganmol Saunders Lewis yn gynharach eleni fel achubwr y genedl (‘no Saunders... no Wales’), wedi’i ddistewi gan ei swydd fel Dirprwy Lywydd. Collodd yr arweinydd, Nick Bourne, ei sedd ranbarthol yn y Cynulliad yn sgil llwyddiant etholiadol ei blaid ei hun, ac etholwyd y dyn od hwnnw, Andrew R. T. Davies, yn ei le: dyn na ellid fyth ei ddisgrifio fel deallusyn, ac a seiliodd ei ymgyrch arweinyddol ar y ffaith fod ganddo rai plant ac un wraig. Fe fydd yn Prydeineiddio’r Blaid Geidwadol, gan danseilio twf araf ond sicr gwleidyddiaeth canol-dde wlatgar Gymreig.

Pwy, sgwn i, fydd yn arwain y Blaid maes o law? Bu’n frwydr ffug ddiddorol hyd yma rhwng Elin Jones, Angela Merkel Cymru, a’r Arglwydd Elis-Thomas, anwadal ei genedlaetholdeb. Un peth sy’n sicr yw na fydd Ron Davies yn y ras – methodd â chipio Caerffili dros y Blaid; ei gyfle olaf i ddychwelyd i fywyd cyhoeddus Cymru o bosib. Er hynny, penderfyniad y Cymry i roi sêl eu bendith ar ei waddol yn y trydydd refferendwm datganoli oedd newyddion mwyaf calonogol y flwyddyn.

Unig anfantais datganoli yw lleihau’r pwyslais ar bwysigrwydd yr iaith ym mywyd y genedl. Ond eleni dechrewyd trafodaethau am wyrdroi’r penderfyniad gwirion i gael gwared â’r Cofnod Cymraeg. Ac aeth cymod Cymdeithas yr Iaith ac Elan Closs Stephens ynghylch dyfodol S4C beth o’r ffordd tuag at wneud iawn am fwnglerwaith Torïaid Llundain ym maes ddarlledu. Efallai nad yw’r creisis ariannol yn ddrwg i gyd. Fel y cyhoeddodd y tabloid Almaenig, Bild, ‘Europa spricht Deutsch, Herr Cameron!’ (Mae Ewrop yn siarad Almaeneg, Meistr Cameron!) A Chymru’r Gymraeg, Meistr Hunt.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Gogoniant y Gaeaf

Ymlaen >

Michael D.