Flwyddyn union yn ôl ym mis Medi 2009 roedd ’na 17 o ddisgyblion yn yr ysgol. Ond pan ddeallwyd bod Cyngor Sir Ynys Môn yn mynd i gau’r ysgol, fe ddechreuodd y rhieni symud eu plant o’r ysgol gondemniedig. Doedd hi ddim yn fwriad gan y Cyngor Sir i gau’r ysgol tan Orffennaf 2011. Ond wnaeth y rhieni ddim aros i’r fwyell ddisgyn. O dipyn i beth fe symudodd rhieni 16 o’r disgyblion a oedd ar gofrestr Ty Mawr eu plant i’r ysgol gynradd agosaf yn Llanerchymedd. Yr eithriad oedd Kynan McGregor. Fo oedd yr unig un o’r disgyblion a oedd yn symud y mis Medi hwn o’r ysgol gynradd i’r ysgol gyfun. Yn naturiol doedd rhieni Kynan ddim yn gweld bod unrhyw bwrpas ei symud i ysgol gynradd arall am bum wythnos yn unig. Arhosodd Kynan yn ysgol Ty Mawr. Ar ei ben ei hun. Ar wahân i’w athrawon.
Yn y fan hyn, fe ddylwn ddatgan diddordeb. Hon yw’r ysgol fach lle y derbyniais i’r cyfan o f’addysg gynradd ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Dyna pam roeddwn i’n un o’r dyrfa luosog a oedd yn bresennol mewn gwasanaeth a gynhaliwyd yn yr ysgol ar ei Diwrnod Olaf, sef 21 Gorffennaf, 2010.
Priodol a gweddus oedd cynnal gwasanaeth o’r fath. Ond yr hyn sydd yn wirioneddol arwyddocaol ydi’r ffaith bod digwyddiad arbennig arall wedi cael ei gynnal yn yr ysgol. A hynny rai blynyddoedd ynghynt – ym mis Medi 1997. Yr achlysur hwnnw oedd pen-blwydd yr ysgol yn 80 oed.
Dewiswyd dathlu’r 80fed pen-blwydd am reswm penodol. Sylweddolai pawb a oedd yn gysylltiedig â’r ysgol bod nifer y disgyblion yn disgyn. Roedd yr ysgrifen ar y mur, hyd yn oed yr adeg honno, 13 mlynedd yn ôl. Siarsiwyd y gwahoddedigion gan sawl un o’r siaradwyr i fwynhau’r achlysur gan ei bod yn bur annhebygol y byddai’r ysgol yn dal ar agor i ddathlu ei chanmlwyddiant. Doedd dim chwerwder i’w deimlo. Ac nid mater o fod yn rhy llwfr a diasgwrn- cefn i frwydro yn erbyn y drefn oedd o ychwaith. Er nad oedd y Cyngor Sir bryd hynny wedi yngan yr un gair am gau ysgolion gwledig, roedd pobol graff a hirben plwyf Llanfihangel Tre’r Beirdd wedi rhagweld bod hynny’n anochel.
Fel roeddwn i’n dweud, 17 o ddisgyblion oedd yn ysgol Ty Mawr ym mis Medi’r llynedd. Trwy gyd-ddigwyddiad eironig, dyna hefyd yw union nifer y disgyblion sydd yn ysgol gynradd y Parc ger y Bala. Dyma ysgol lle mae’r rhieni’n dal i frwydro’n ffyrnig yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Gwynedd i’w chau. Dyw’r ffaith fy mod i wedi disgrifio rhieni ysgol T? Mawr fel pobol graff a hirben ddim yn golygu fy mod i’n credu am eiliad bod rhieni’r Parc yn brin o’r rhinweddau hynny. Cydnabyddaf fod gan gymunedau gwahanol nodweddion a blaenoriaethau gwahanol. Rhaid parchu hynny ar bob cyfrif.
Erys y ffaith, fodd bynnag, bod gofynion y cwricwlwm cenedlaethol yn mynnu bod holl blant Cymru yn derbyn yr un rhychwant o brofiadau addysgol. Dyna, yn ystod Gorffennaf eleni, oedd neges Dafydd Wigley mewn colofn ddewr yn y Daily Post. Gan gydnabod y byddai ei sylwadau’n brifo rhai o’i gyfeillion pennaf, mynnodd mai dim ond ysgolion efo o leiaf staff o rhwng 6 ac 8 o athrawon a rhwng 120 a 180 o ddisgyblion sy’n gallu darparu addysg ddigonol i baratoi’n plant ar gyfer y byd sydd ohoni. Gwrandewch arno fo: ‘Dylai ysgolion ddysgu ystod o bynciau gan gynnwys rhifogrwydd, gwyddoniaeth, hanes, ieithoedd, cerddoriaeth, celf, drama, natur a’r amgylchedd a chwaraeon – yn ogystal â darllen, sgwennu a Thechnoleg Gwybodaeth. Ac fe ddylai athrawon a benodir ar staff pob ysgol gynnwys dynion a menywod er mwyn darparu rôl-fodelau ar gyfer y bechgyn a’r merched.’
O ran tegwch â Dafydd Wigley fe ddylwn nodi ei fod o’n hael ei werthfawrogiad o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni mewn ysgolion bychan efo dau neu dri athro. Mae llawer ohonyn nhw, meddai, yn cael canlyniadau rhagorol. Ond mae o’n gofyn hefyd a ydi ysgolion bychan o’r fath yn gallu ‘rhoi cyfleoedd addysgol amrywiol a llawn’ i’w disgyblion.
Neges ganolog Dafydd Wigley – neges nad yw byth braidd yn cael ei chlywed – yw bod y patrwm presennol wedi cael ei osod ganrif yn ôl. Mewn byd di-gerbyd o’r fath, afresymol fyddai disgwyl i unrhyw blentyn orfod cerdded mwy na rhyw dair milltir i’r ysgol. Ond mae peth wmbredd o’r hen ysgolion hynny efo ni o hyd er bod popeth arall, yn siopau a swyddfeydd post a thafarnau a chapeli a chwareli, wedi hen, hen gau. Ysgolion cynradd ydi’r unig eithriadau.
Mae hi’n gallu costio pedair gwaith yn fwy i addysgu disgybl mewn ysgol fechan nag ydi hi i addysgu plentyn mewn ysgol fwy.
Ond nid dadl ariannol yn unig ydi hon. Ofna Dafydd Wigley y bydd ysgolion rfian yn cau fesul un – heb unrhyw strategaeth addysgol resymegol. Cynigiodd Cyngor Gwynedd strategaeth ystyrlon ond gwrthwynebwyd y strategaeth honno’n chwyrn. O ganlyniad i hynny rydan ni mewn peryg o fod yn y sefyllfa waethaf bosib: bydd hen ysgolion yn gorfod cau maes o law ond erbyn hynny fydd dim darpariaeth ar gyfer codi ysgolion newydd yn eu lle. Mae Dafydd Wigley’n poeni y byddwn yn cael ein gadael efo clytwaith mympwyol o ysgolion cynradd a fydd yn bodoli mewn gwagle addysgol.
Un o’r dadleuon a glywir fynychaf gan y rhai sy’n ymgyrchu o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor ydi honno sy’n disgrifio’r ysgol fel ‘calon’ y pentref. Haerir bod cau ysgol yn gyfystyr â rhwygo’r galon allan o’r gymuned. Ond ‘dwn i ddim faint o wir sydd yn hynny bob amser. Yn sicr un o’r pentrefi Cymreiciaf ym Môn – ac yng Nghymru gyfan bellach – yw Rhosmeirch, nid nepell o Langefni. Dyma bentref byw a ffyniannus, cyrchfan boblogaidd iawn i deuluoedd ifanc Cymraeg. Ac eto fe gafodd ysgol gynradd Rhosmeirch ei chau ym 1967, dros ddeugain mlynedd yn ôl. Erbyn 1968, a’r adeilad erbyn hynny’n neuadd gymuned, roedd yn gartref i gangen o’r mudiad newydd hwnnw, Merched y Wawr, ac yn fuan wedyn i ysgol feithrin Gymraeg. Tyfu ddaru Rhosmeirch. Heb ysgol, mae calon y pentref yn curo’n gryfach nag erioed. Ac mae’r galon honno’n galon Gymraeg.
Un troed nodyn. Yn llyfr lloffion gwraig a fu’n gwrthwynebu’r bwriad i gau ysgol Rhosmeirch mae ‘na lythyr gan Cledwyn Hughes, aelod seneddol yr ynys ar y pryd. Yn y llythyr mae o’n gwrthod gwahoddiad i annerch cyfarfod a drefnwyd yn y pentref i ymladd dros einioes yr ysgol. Doedd ‘dim diben’ iddo ddod, esboniodd. A hithau’n ysgol efo dim ond saith o ddisgyblion, diau mai’r gwleidydd oedd yn iawn. Ond wnaeth Rhosmeirch ddim maddau i Cledwyn. O’r diwrnod hwnnw hyd heddiw, i Blaid Cymru mae Rhosmeirch yn pleidleisio. Dyna rybudd i bob gwleidydd sy’n tynnu rhieni’r ysgolion gwledig yn ei ben. Ond mae yna adegau pan fo’n rhaid i wleidydd wneud yr hyn sy’n iawn, nid yr hyn sy’n boblogaidd. Efallai i Cledwyn Hughes golli Rhosmeirch ond wnaeth o ddim colli Môn.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
