Gair o gefndir i ddechrau. Mae PRS (Performing Right Society) yn gwmni annibynol yn Llundain ac iddyn nhw y mae gorsafoedd radio yn talu pan fyddan nhw’n chwarae unrhyw ddarn o gerddoriaeth. Swyddogaeth y PRS ydi trosglwyddo’r arian hwnnw i artistiaid pan fo’u cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar unrhyw orsaf radio. Mae hi’n hysbys bellach fod cwmni PRS, ers ryw ddwy flynedd, wedi dechrau talu llai i artistiaid sy’n cael eu chwarae ar Radio Cymru.
Mae hyn wedi digwydd yn sgil ailgategoreiddio statws Radio Cymru. Yn y bôn nid ydi Radio Cymru bellach yn cael ei chyfri’n orsaf radio ‘genedlaethol’, ond yn hytrach yn un ‘ranbarthol’. Mewn geiriau eraill mae Radio Cymru yn sefyll ochr yn ochr â gorsafoedd ‘rhanbarthol’ eraill megis Radio Leeds neu Radio Merseyside o ran statws, yn hytrach na Radio 1 neu Radio 2. Oherwydd hynny mae’r arian y mae artistiaid a cherddorion yn ei dderbyn am funud o’u cerddoriaeth ar Radio Cymru wedi gostwng i tua 50c y funud. Erbyn Rhagfyr 2010, fel hyn y bydd hi’n edrych o ran tâl am funud o gerddoriaeth ar y radio:
Radio 1 £11.53
Radio 2 £19.64
Radio 3 £9.28
Radio 4 £16.45
Radio Cymru £00.47
(Efallai ei bod hi’n bwysig nodi yma nad ydi breindaliadau artist sy’n cael ei chwarae ar y teledu wedi gostwng, ond yn hytrach wedi codi rhyw fymryn. Ond mae’r arian hwnnw yn cael ei gasglu gan gorff gwahanol o’r enw MCPS.)
Mae hyn yn amlwg wedi cael effaith fawr ar yr incwm blynyddol a dderbynnir trwy’r PRS gan artistiaid sy’n cael eu chwarae’n ddyddiol ar Radio Cymru. Doeddwn i ddim wedi meddwl na phoeni ryw lawer am hyn tan yn ddiweddar ac fel y rhan fwyaf o gerddorion f’oed i, wnes i ddim dechrau band Cymraeg gyda’r bwriad na’r gobaith o wneud arian mawr. Roedd yr arian jest yn fonws bach reit neis ar y diwedd. Ond, wedi’r seminar yma, mae gen i olwg wahanol ar yr holl sefyllfa.
Syniad newydd corff o’r enw ‘Y Gynghrair’ ydi dechrau cwmni newydd er mwyn casglu’r breindaliadau yma yn lle’r PRS ac er mwyn i artistiaid Cymraeg gael breindaliadau haeddiannol. Torri’n rhydd oddi wrth y cwmni PRS yn Llundain – rhyw fath o ddatganoli cerddorol! Mae’n swnio’n chwyldroadol iawn, ond mae’r gefnogaeth yn cynyddu’n raddol.
Yn amlwg, dydi dechrau busnes o’r fath ddim yn digwydd ar chwarae bach. Mae angen arian i sefydlu’r cwmni, ac yna staff ac arbenigwyr sy’n deall sut mae’r system o gasglu a dosbarthu arian yn gweithio. Pobl sydd wedi gweithio i’r PRS o’r blaen efallai. Mae adroddiad diweddaraf Deian ap Rhisiart ac Arwel Ellis Owen (ar gael i’w lawrlwytho’n llawn:http://www.ygynghrair.com/) wedi awgrymu y byddai’r cwmni newydd yma yn gallu talu £4.71 am funud o gerddoriaeth i artist ar Radio Cymru, ond wrth gwrs mae hynny’n cymryd yn ganiataol y byddai’r BBC yn fodlon talu’r swm hwn – a dydi hi ddim yn adeg da i ofyn i neb am arian. Pe na byddai’r BBC yn talu mwy, yna be fyddai diben sefydlu cwmni newydd o gwbl? Mi fedrem ni fod mewnsefyllfa waeth nag yr ydym ar hyn o bryd. Mae yna ddadleuon am gymhlethdod sefydlu busnes newydd hefyd.
Er enghraifft, pwy ydi’r artistiaid sy’n cael ymuno â’r cwmni? Cymraeg yn unig? Ynteu Cymreig? Beth am Gymry sy’n byw dros y ffin a’u cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar Radio Cymru, Radio 6 a Radio 1? Beth am oblygiadau cyfreithiol? Mae angen rhyw fath o ddeddf i roi’r hawl i’r cwmni newydd yma gasglu arian. Mae’n debyg na fyddai raid i fand ffitio proffil penodol er mwyn ymuno â’r cwmni, felly fyddai dim ots ym mha iaith y byddai’r canu. Dadl erail ydi y dylid ceisio gwella’r sefyllfa oddi fewn i PRS, ac y byddai hynny’n haws na sefydlu cwmni newydd.
Ond mewn gwirionedd, manylion ydi’r rhain, a gyda digon o waith, arian a brwdfrydedd, dydyn nhw ddim yn rhwystrau mawr. Efallai fod angen i’r Gynghrair wneud yn saff fod cerddorion yn deall manteision sefydlu cwmni newydd; pe digwyddai hynny, yna fe ddeuai’r gefnogaeth yn naturiol. Efallai nad ydi hi’n bosib gwneud bywoliaeth allan o’r busnes canu pop yma, ac eto mae ’na arian da i’w gael, arian sy’n ddyledus i fandiau a chantorion, ond fod yn rhaid gweithio amdano. Gyda beirdd Cymru yn ennill £16.86 yr hanner munud am ddarn o’u gwaith ar y radio, does yna ddim rheswm pam y dylai cerddorion gael eu trin yn wahanol. Ond y mae hi’n ddadl lawer ehangach nag arian mewn gwirionedd. Mi fyddai mwy o freindaliadau yn y pen draw yn hwb i fandiau chwarae’n fyw. Unwaith mae’r sin fyw wedi cael hwb mae’r bêl yn rowlio’n gynt, ac o ganlyniad efallai y bydd mwy o ymdeimlad o ‘sin’ canu pop yng Nghymru nag sydd yna ar hyn o bryd.
Un peth sy’n sicr – dydi’r sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd ddim yn un deg a does dim posib i’r diwydiant cerddorol yng Ngymru ffynnu tra bo’r wobr am gyfrannu i ddiwylliant Cymraeg mor wael. Mae’r ymdeimlad yma hefyd yn cael effaith ehangach, a dydi hi ddim yn gyfrinach ei bod hi’n ‘sin’ gymharol llwm ar hyn o bryd o ran nifer y dilynwyr.
Fydd hynny ddim yn newid hyd nes y bydd bandiau’n llwyddo i gyffroi pobl a magu hygrededd proffesiynol. Byddai breindaliadau call yn sicr yn cyfrannu at y feddylfryd honno. Byddai mwy o arian ar y bwrdd yn hwb mawr i fandiau ifanc, ac efallai’n eu temtio i ganu mwy yn Gymraeg yn hytrach na gorfod troi i’r Saesneg bob tro.
Mae’n anodd gwadu bod hon hefyd yn ddadl wleidyddol. A’r Cynulliad Cenedlaethol gennym ers dros ddeng mlynedd, mae’n hen bryd i ni ddatganoli a chipio’r awenau mewn meysydd diwylliannol hefyd. A does ’na ddim swn gwell i chwyldro na ’chydig o rock ’n roll!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
