Pethau byw ac ystwyth yw ieithoedd, yn newid yn gyson, yn sgil ymwneud pobl a chymunedau â’i gilydd. Mae arferion siarad pobl, o eiriau newydd i ieithoedd newydd, yn dibynnu’n helaeth ar ddylanwadau economaidd a gwleidyddol, rhai cymdeithasol a hyd yn oed personol. Os yw iaith am barhau fel cyfrwng cyfathrebu o fewn cymdeithas, mae angen sefydlu rhai normau ieithyddol o fewn y gymdeithas honno er mwyn sicrhau cydddealltwriaeth.
Pan fydd rhieni yn cywiro Cymraeg eu plant, dyna ymdrech ymwybodol er mwyn newid ymddygiad ieithyddol y plant. Cynllunio iaith yw hynny. Y pegwn arall yw deddfwriaeth iaith, lle mae llywodraeth, drwy ddeddf, yn gwneud ymdrech ymwybodol er mwyn newid ymddygiad iaith gwladwriaeth. Rwyf am ganolbwyntio ar ddeddfwriaeth, ond, rhwng y ddau begwn, mae pob math o weithgaredd y gellir ei ddisgrifio fel cynllunio iaith.
Mae gwahanol ideolegau y tu cefn i bolisi cynllunio iaith. Un o’r rhain yw ideoleg cymhathu sy’n seiliedig ar y rhagdybiaeth y dylai pawb fod yn gweithredu drwy un iaith yn unig. Teg dweud mai dyma lle mae cynllunio iaith drwy ddeddfu wedi bod ar ei gryfaf.
Dyw hyn ddim syndod. Mae deddfu’n ffordd effeithiol o osod rheolau sy’n gwahardd pethau, creu dyletswyddau a gosod sancsiynau, gan fod grym y wladwriaeth y tu ôl i ddeddf. Mae’r rheolau yn rhai go iawn, rhai y gellir eu gorfodi arnoch, yn y pen draw, os oes raid, yn groes i’ch ewyllys. Mae’r math yma o gynllunio ieithyddol yn faes chwarae hawdd i gyfreithwyr. Gallwch osod rheol, a’i gorfodi, drwy brosesau biwrocrataidd neu farnwrol.
Bu deddfu gyda’r bwriad o greu unffurfiaeth yn rhan o hanes y Gymraeg. Erbyn heddiw, fodd bynnag a diolch byth, yr ydym yn edrych ar gynllunio iaith yng Nghymru o safbwynt ideolegol gwahanol iawn. Yr ydym rywle rhwng y ddwy ideoleg y mae’r sosioieithydd Juan Cobarrubias yn eu galw’n ‘linguistic pluralism’ a ‘vernacularisation’. Y mae’r naill yn deillio o gydnabod bod cymunedau iaith yn cydfodoli, a bod hawliau cyfartal ganddynt o ran cynnal a meithrin eu hieithoedd. Y mae’r llall yn ymwneud ag adfer iaith frodorol i fod yn iaith swyddogol.
Yr ydym hefyd yn deall yng Nghymru mai un teclyn ym mocs twls y cynllunwyr iaith yw deddfu. Ac mae’n declyn yr ydym wedi gorfod gwneud ein gorau hebddo hyd yn hyn.
Serch hynny, nawr ei fod gennym, mae perygl i’r teclyn gael ei drin fel tegan newydd, un y mae’n rhaid i ni chwarae ag o. o anghenraid yw’r ffordd orau i newid ymddygiad ieithyddol cymuned iaith. Yn achos iaith leiafrifol fel y Gymraeg, sydd wedi ei heithrio a’i hisraddio am ganrifoedd, mae deddfu’n fodd hyd yn oed mwy ansicr o gyrraedd amcanion polisi. Mae angen bod yn gynnil ac yn effeithiol wrth ei ddefnyddio.
Dyma lle mae hi’n gallu bod yn anodd i gyfreithwyr. Tuedd cyfreithwyr yw parchu yr hyn y gellir ei orfodi mewn llys barn, a hynny’n unig. Ym meddylfryd y cyfreithiwr, os nad yw rhywbeth yn ‘draddodadwy’ mewn llys, yna nid oes grym go iawn iddo. Er mwyn sicrhau bod rhywbeth yn digwydd, mae angen awdurdod cyfreithiol sydd yn y pen draw yn gallu gorfodi’r peth hwnnw.
Dyma un o’r rhesymau pam y bu cymaint o feirniadu ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Er y gyfundrefn cynlluniau iaith, doedd dim ‘dannedd’ i’r Ddeddf. Serch hynny, fe ellir gweld effaith lesol y gyfundrefn ddiddannedd hon mewn sawl cyd-destun.
Credaf fod grym gan ddeddfwriaeth sy’n fwy cynnil, ond efallai’n fwy dylanwadol, na beth sy’n draddodadwy mewn llys barn. Mae’n ymwneud â natur deddfwriaeth fel mynegiant o ddisgwyliadau’r gymdeithas gyfan, a hynny wedi ei fynegi drwy awdurdod sofran y gymdeithas honno. Mewn geiriau eraill, mae effaith seicolegol a chymdeithasol yn deillio o’r ffaith syml fod deddf yn bodoli. Felly, er na ellir carcharu neb am dorri cynllun iaith, mae’r ffaith fod deddf wedi creu proses o reoleiddio meddal ynddo’i hun wedi hybu’r Gymraeg fel iaith gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r ffaith fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi ei sefydlu drwy statud yn arwydd fod yna le o fewn ein cyfansoddiad i ddiogelu’r swyddogaethau o hyrwyddo a hybu’r Gymraeg.
Hefyd, mae cyfreithwyr yn dymuno diffinio pob dim yn fanwl, er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd wrth weithredu deddf. Er gwaethaf natur lithrig iaith, a’r modd y mae gwahanol bobl yn dehongli gwahanol destunau, y myth cyfreithiol yw mai un dehongliad cywir sydd i ddeddf mewn unrhyw gyd-destun.
Gwelir y math o anawsterau y mae’r meddylfryd cyfreithiol yn gallu esgor arnynt yn y ffaith nad yw’r Mesur Iaith arfaethedig yn datgan yn blaen fod yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol yng Nghymru. Pam lai? Oni fyddai hynny’n ddatganiad syml, un a fyddai’n anfon neges eglur i bawb? Fel cyfreithiwr, rwy’n gweld y broblem, mewn egwyddor o leiaf, sef: beth yw ystyr y gair ‘swyddogol’? Oni bai ein bod yn diffinio’r gair hwnnw’n fanwl, pwy a fiyr beth a ddigwyddai pe bai’r cwestiwn yn codi mewn llys barn rywbryd? Pa focs Pandora fyddai’n cael ei agor? Dyna bryder greddfol y cyfreithiwr.
Ond, fel yr wyf wedi ceisio dangos, yng nghyd-destun deddfwriaeth iaith, nid yr ystyr lythrennol, gyfreithadwy yn unig sy’n bwysig, ond yr effeithiau cymdeithasol a seicolegol. Oni fyddai datganiad syml o’r fath yn cael effaith gadarnhaol a phellgyrhaeddol ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru?
Wedi’r cyfan, dyma, rwy’n cymryd, y mae ein gwleidyddion yn ei ddeisyf. A’r gwleidyddion, yn yr achos hwn, yw’r cleientiaid. Yn y berthynas rhwng cyfreithiwr a’i gleient, y cleient yn y pen draw a ddylai gael y gair olaf. Gwaith y cyfreithiwr yw cynghori am y risg. Gall y cleient dafoli’r risg yn erbyn yr hyn y mae’n dymuno ei gyflawni, ac wedyn penderfynu.
Mae cyfansoddiad Gweriniaeth De Affrica yn datgan: ‘Ieithoedd swyddogol y Weriniaeth yw Sepedi, Sesotho, siSwati, Tshivenda, Xitsonga, Afrikaans, Saesneg, isiNdebele, isiXhosa ac isiZulu’. Tybed a rybuddiwyd Nelson Mandela gan ei gyfreithwyr am beryglon datganiad moel o’r fath am statws yr ieithoedd hyn? Os felly, tybed beth oedd ymateb Mandela?
Mae Pwyllgor Craffu’r Cynulliad wedi dewis dilyn Mandela drwy argymell y dylid cynnwys y cymal canlynol yn y Mesur: ‘Y Gymraeg a’r Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ac mae eu dilysrwydd a’u statws yn gyfartal.’ Dyma ddigwyddiad gwirioneddol hanesyddol. Dyma i chi bwyllgor yn cynrychioli pob plaid wleidyddol yn y Cynulliad, gydag aelodau sy’n medru’r Gymraeg, yn ddysgwyr ac yn ddi-Gymraeg, o bob cornel o Gymru yn unfryd am hyn.
Mae llawer o’r drafodaeth gyhoeddus wedi bod yn troi o gwmpas beth mae’r cyfreithwyr yn ei ddweud am y mesur. Mae’r mudiadau iaith, a’r Llywodraeth hithau, wedi defnyddio’r hyn y mae cyfreithwyr yn ei ddweud er mwyn cyfiawnhau eu safbwyntiau. Mae’n hanfodol wrth gwrs fod deddfau’n derbyn beirniadaeth gyfreithiol fanwl – ond ni ddylai gwahaniaeth barn rhwng cyfreithwyr gael ei ddefnyddio fel rhyw fath o ryfel drwy ddirprwy, lle dylai fod trafodaeth sylfaenol ac agored am amcanion, polisïau, gweithredu ymarferol ac, wrth gwrs, adnoddau. Mae perygl mawr mewn ffetisieiddio deddfwriaeth, ei gweld fel yr ateb i bob problem a rhoi blaenoriaeth iddi ar draul y cant a mil o bethau ymarferol eraill y gellir eu gwneud. Mae hyn yn wir am unrhyw faes polisi, ond yma rwy’n sôn am faes diogelu’r iaith Gymraeg, trysor unigryw y rhan yma o’r byd ers yn agos i ddau fileniwm.
Cefais y fraint yn ystod y misoedd diwethaf o gydweithio ar nifer o agweddau o’r Mesur Iaith gyda grwp bychan a sefydlwyd gan Fudiadau Dathlu’r Iaith. Roedd y criw yma o unigolion gweithgar, ymroddedig a deallus yn atgoffa dyn mor werthfawr y mae gwaith y mudiadau a’r grwpiau pwyso wedi bod wrth hyrwyddo buddiannau’r Gymraeg. Serch hynny, rwy’n credu bod angen cymryd naid go fawr ym maes yr iaith, oherwydd gwagle o fewn cymdeithas sifig Cymru, sy’n debygol o gynyddu. Drwy hanes y mudiad iaith fe fu, hyd yn gymharol ddiweddar, ddwy adain. Ar y nail law, roedd yr adain lafar, wleidyddol, weithredol ac ar y llall yr adain fwy parchus, sefydliadol, anwleidyddol a llai llafar. Rhyngddynt, roeddent yn cyflawni’r swyddogaethau hanfodol o brocio’r awdurdodau Prydeinig, a gwneud bargeinion efo’r awdurdodau Prydeinig. Rhyw fath o ‘good cop / bad cop routine’ diarwybod.
Erbyn heddiw, er bod Cymdeithas yr Iaith yn dal wrthi, dwyf i ddim yn teimlo bod yr adain sefydliadol yno fel y bu o fewn ein cymdeithas sifig. Awgrymaf ddau reswm dros hyn.
Yn gyntaf, mae nifer o’r rhai hynny a fyddai efallai wedi bod yn bargeinio gyda’r awdurdodau Prydeinig genhedlaeth yn ôl bellach naill ai mewn awdurdod, neu mewn sefyllfa o ddibyniaeth.
Yn ail, credaf fod Bwrdd yr Iaith ei hun wedi bod yn cyflawni’r swyddogaeth o fargeinio led braich ar ran y Gymraeg gyda’r awdurdodau.
Mae hynny’n debygol o newid. Bydd Bwrdd yr Iaith yn cael ei ddiddymu. Bydd ei swyddogaethau sy’n ymwneud â hyrwyddo’r iaith yn cael eu trosglwyddo naill ai i’r Comisiynydd iaith, neu i’r Llywodraeth. Os digwydd yr ail beth hwn, yna bydd bargeinio ar ran yr iaith yn digwydd o fewn y Llywodraeth, mewn awyrgylch fydd yn gaeth i fympwy gwleidyddol ac i’r parlys anochel a ddaw o fod yn rhan o wasanaeth sifil.
Os digwydd hynny, yna bydd y gofod o fewn ein cymdeithas sifig yn enfawr. Hyd yn oed os na ddigwydd hynny, mae angen gwneud rhywbeth ym maes eiriolaeth ar ran yr iaith, er mwyn iechyd ein bywyd democrataidd a sifig.
Mae angen i ni gofio nad yn y chwedegau na’r saithdegau yr ydym ni bellach. Rydym yn delio yn y rhan fwyaf o achosion gyda sefydliadau ac awdurdodau Cymreig yng Nghymru. Mae angen i’r ddwy adain addasu ymhellach i realiti strwythurol gwleidyddiaeth ddatganoledig. Rhaid i’r adain barchus beidio ag ofni bod yn llafar, ac fe ddylai’r adain lafar ystyried, weithiau, peidio ag ofni bod yn barchus, neu fel arall, mi fyddwn ni’n syrthio rhwng dau Ffred. Ar y naill law Ffred Ffransis: ar y llall Alun Ffred.
Does dim lle i orffwys ar ein rhwyfau yn gysurus. Mae bygythiadau nawr i ddarlledu Cymraeg ac i addysg Gymraeg. Hyd yn oed os byddwn ni yn medru derbyn ein biliau ffôn gan O2 yn ddwyieithog ryw ddydd, mae hi’n dal i fod yn amhosibl nawr i hen wraig yng ngogledd Sir Benfro gael gwasanaeth therapi galwedigaethol yn ei mamiaith. Nid wyf yn gweld y Mesur newydd yn galluogi i hynny ddigwydd am flynyddoedd, ac ni fydd y Mesur ar ei ben ei hun fyth yn gwneud hynny.
Os mai ymdrechion ymwybodol er mwyn newid ymddygiad ieithyddol yw cynllunio iaith, felly, yn yr un modd na ddylid gadael deddfwriaeth iaith i’r cyfreithwyr yn unig, ni ddylid ychwaith adael cynllunio iaith i’r cynllunwyr iaith proffesiynol yn unig.
Mae gennym oll ein rhan yn yr ymdrech ymwybodol.
Mae’r erthygl hon yn dalfyriad o Ddarlith Flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru a drefnwyd gan IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith, ac a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent ar 5 Awst 2010. Gellir darllen y ddarlith gyflawn ar wefan IAITH: www.iaith.eu
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
