Thema dywyll Thema golau

“Tyrd yn ôl, Peter Hain…”

Er ei fod bellach wedi hen golli ei le fel Ysgrifennydd Cymru, mae Peter Hain yn parhau’n ddylanwad llawer mwy pwysfawr ac arwyddocaol ar wleidyddiaeth ein gwlad na’i olynydd. Nid gwendid Cheryl Gillan yn unig sydd i’w gyfrif am hyn, hyd yn oed os yw’n anodd anghytuno â dedfryd glinigaidd y sylwebydd gwleidyddol Alan Trench. (Hi, medda fo, yw’r Ysgrifennydd Gwladol lleiaf dylanwadol erioed.) Ac ni ellir ei briodoli ychwaith i lwyddiant rhyfeddol Hain yn troi’r llanw Ceidwadol yng Nghymru yn y dyddiau cyn etholiad mis Mai gan refru’n ddiflino am fygythiad y bwci-bo Torïaidd. Prif ffynhonnell dylanwad arhosol Aelod Seneddol Nedd a Phort Talbot ar ein gwleidyddiaeth gyfoes yw ei rôl fel pensaer Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn wir, oherwydd y rôl honno, wrth i’r byd gwleidyddol Cymreig baratoi ar gyfer ein trydydd refferendwm ar ddatganoli, byddwn yn treulio’r misoedd nesaf yn dawnsio i dôn Peter Hain.

Gan fod lluniad a chynnwys Deddf 2006 wedi bod yn destun diddordeb obsesiynol, braidd, yn y golofn hon ers blynyddoedd bellach, rwyf fymryn yn gyndyn o ddychwelyd i’r maes unwaith yn rhagor y tro hwn. Gellir maddau i’r darllenwyr rheini sy’n teimlo fy mod wedi godro’r pwnc yn hesb! Fodd bynnag, gan y bydd amgylchiadau llunio’r Ddeddf honno, yn ogystal â’i chynnwys, yn rhwym o daflu cysgod mor fawr dros y refferendwm, nid oes dewis ond dychwelyd at y modd y crëwyd y ddogfen sydd – och a gwae! – yn cyfateb ar hyn o bryd i gyfansoddiad Cymru.

Dyfais gyfansoddiadol ryfedd ar y naw yw refferendwm yng nghyd-destun cyfundrefn wleidyddol Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. O ystyried y peth ar y gwastad damcaniaethol, yn nhermau dogma’r cyfansoddiad Prydeinig ni ddylai refferenda gael eu cynnal o gwbl. Er ein bod ni’r etholwyr yn cael y fraint o fwrw pleidlais, priod waith Aelodau Seneddol etholedig yw gwneud y penderfyniadau sy’n cyfrif wedyn. Y Goron-yn-y-Senedd, nid nyni’r bobl, yw’r corff sofran. O ganlyniad i hyn, ac yn wahanol i’r sefyllfa yn ‘nemocratiaeth uniongyrchol’ Y Swistir, dyweder, neu’n wir y sefyllfa mewn cyfundrefnau seneddol sydd wedi eu seilio ar gyfansoddiadau ysgrifenedig megis hwnnw yng Ngweriniaeth Iwerddon, nid oes unrhyw drefn sefydlog, sefydledig ym Mhrydain i benderfynu pa bryd y dylid cynnal refferendwm. Mater o fympwy neu gyfleustra gwleidyddol fu penderfyniadau o’r fath. Roedd refferenda’r 1970au, er enghraifft – ar aelodaeth o’r ‘Farchnad Gyffredin’ a datganoli i Gymru a’r Alban – yn codi o ymdrechion i bontio rhwygiadau oddi mewn i’r Blaid Lafur yn hytrach nag unrhyw ystyriaethau neu ymrwymiadau egwyddorol. Yn fwy hyd yn oed na chynsail 1979, hunan-fudd gwleidyddol oedd hefyd wrth wraidd penderfyniad annisgwyl Tony Blair yn 1996 i alw refferendwm pellach ar ddatganoli wedi i Lafur ddod i rym. Yn sicr, nid oedd egwyddor yn ffactor.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd adroddiad gwerthfawr gan Bwyllgor Dethol o D?’r Arglwyddi a fu’n ystyried lle refferenda yn y cyfansoddiad Prydeinig. Ceisiwyd canfod rhyw fath o feini prawf er mwyn penderfynu os y dylid eu galw, a phryd. Gan mai dyma’r peth agosaf a gafwyd i ystyriaeth wrthrychol ac annibynnol o’r mater yn y cyddestun gwleidyddol Prydeinig – yn sicr ni ellid fyth amau awdurdod a gwybodaeth aelodau’r Pwyllgor – mae’n werth craffu ar eu casgliadau.

Wrth waredu at y modd mympwyol y galwyd referenda yn y gorffennol – ‘ad hoc’ yw eu hymadrodd diplomyddol nhw – mae’r Arglwyddi’n dadlau mai dim ond yng nghyddestun ‘materion cyfansoddiadol sylfaenol’ y dylid eu cynnal yn y dyfodol. Ymhlith yr enghreifftiau o faterion o’r fath maent yn nodi dileu’r frenhiniaeth, gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac annibyniaeth i un o’r cenhedloedd sy’n rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

O osod ein refferendwm arfaethedig ni yn erbyn ffon fesur o’r fath, mae’n gyfan gwbl amlwg na fydd etholwyr Cymru yn penderfynu ar ‘fater cyfansoddiadol sylfaenol’ pan wahoddir nhw i fwrw eu pleidlais rywdro ym mis Mawrth. Ni allai hyd yn oed y purydd cyfansoddiadol mwyaf tynn ei staes ddadlau bod symud o Ran 3 i Ran 4 o Ddeddf 2006 yn gyfystyr â hynny. Wedi’r cwbl, yn gyfansoddiadol, yr hyn sydd yn y fantol yw’r dewis rhwng un gyfundrefn gyfyngedig ar gyfer deddfu cynradd (Rhan 3) a chyfundrefn arall ychydig yn llai cyfyngedig o ddeddfu cynradd (Rhan 4). Fel un sy’n ymddiddori yn y pethau hyn, byddwn i’n bersonol am ddadlau’n gryf fod yr ail yn debygol o ragori ar y cyntaf. Ond mater cyfansoddiadol sylfaenol? Go brin!

Eto fyth, dyma enghraifft o refferendwm yn cael ei chynnal er mwyn pontio rhaniadau yn rhengoedd Llafur. Gellir dadlau, wrth gwrs, bod y ffaith ei bod yn digwydd o gwbl yn dysteb i sgiliau gwleidyddol Peter Hain. Fo a wthiodd y broses ddatganoli yn ei blaen yn wyneb gwrthwynebiad taer mwyafrif Aelodau Seneddol Llafur Cymru wedi cyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard yn ôl yn 2004. Roedd y ddyfais o roi Rhan 4 ar y llyfr statud, gyda’r sicrwydd na fyddai’n dod i rym cyn refferendwm i’w chynnal ar ryw adeg amhenodol yn y dyfodol, yn fodd o dynnu’r gwynt o hwyliau’r gwrthwynebwyr; strôc y byddai Machiavelli ei hun yn ei edmygu. O ystyried y realiti gwleidyddol a’i wynebai ar y pryd, dichon na ellid bod wedi gwneud llawer yn well. Serch hynny, dros y misoedd nesaf bydd pris i’w dalu am glyfrwch a chyfrwystra gwleidyddol Hain. Oblegid wrth gynnal refferendwm ar fater nad yw’n gyfystyr â mater cyfansoddiadol sylfaenol, y perygl yw y bydd llunio ymgyrchoedd credadwy ar y naill ochr a’r llall bron yn amhosibl. Ac ni fydd canlyniad y refferendwm (beth bynnag y bo) yn setlo fawr ddim o bwys. Anodd os nad amhosibl hefyd, rwy’n ofni, fydd tanio unrhyw ddiddordeb ymhlith y cyhoedd.

Eisoes cafwyd tystiolaeth o’r problemau sydd ynghlwm wrth gynnal refferendwm pan nad oes egwyddor o bwys yn y fantol yn yr anawsterau a welwyd wrth geisio llunio cwestiwn. Ymddengys fod consensws gwleidyddol na ellir gofyn cwestiwn technegol cul i’r etholwyr. Yn wir, yn ôl neb llai na’r Prif Weinidog yn ei araith ar faes yr Eisteddfod, pe gofynnid i’r etholwyr eu barn am symud o Ran 3 i Ran 4 o Ddeddf 2006 fe fydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn rhwym o fethu. Fodd bynnag, gan mai mater technegol cul sydd yn y fantol mae canfod ffurf ar eiriad sydd yn gyfansoddiadol gywir ac eto’n ddigon dengar i greu diddordeb ymysg y cyhoedd yn profi’n dalcen caled. Hyd yma ni lwyddodd naill ai’r Prif Weinidog na’r Ysgrifennydd Gwladol newydd i gynnig geiriad sy’n argyhoeddi. Druan o’r Comisiwn Etholiadol sydd bellach yn wynebu’r dasg o osod y minlliw ar y mochyn, ys dywed ein cyfeillion Americanaidd.

Hyd yn oed a bwrw bod geiriad derbyniol yn dod i’r fei, erys y broblem o lunio negeseuon i’r ymgyrchoedd, yn enwedig os yw’r negeseuon rheini’n mynd i fod yn rhai gonest. Mae problem arbennig o fawr yn wynebu’r Ymgyrch ‘Na’ yn hyn o beth. Fel y nodwyd, a siarad yn gyfansoddiadol, y cwbl y byddai pleidlais ‘Na’ yn ei sicrhau yw parhad cyfundrefn benodol o ddeddfu cynradd yn hytrach na chyflwyno cyfundrefn amgen. Ond gan mai dim ond ynfytyn fyddai am ymgyrchu ar sail dadleuon yngl?n â rhagoriaethau Rhan 3, a gan nad oes cefnogaeth gyhoeddus i wir agenda’r rhan fwyaf o aelodau True Wales (sef cael gwared ar ddatganoli’n gyfangwbl) gellir disgwyl i’r Nacawyr raffu nonsense sylfaenol gamarweiniol i’r perwyl y byddai pleidlais ‘Ie’ yn arwain at annibyniaeth. R?an fe ellid dadlau wrth gwrs, nad oes rhaid i True Wales boeni os yw eu dadleuon yn rhai gonest ai peidio. Ond tybed? Bydd y refferendwm yn cael ei chynnal dan oruchwyliaeth deddfwriaeth newydd a basiwyd yn 2000. Golyga’r ddeddf y bydd arian cyhoeddus yn cael ei roi i’r ddwy ochr yn yr ymgyrch; ond bydd hefyd yn rhoi rôl ganolog i’r Comisiwn Etholiadol reoleiddio’r cyfan. Rwy’n tybio y byddai defnyddio arian cyhoeddus i redeg ymgyrch gamarweiniol neu gelwyddog yn broblematig tu hwnt. Yn sicr, pe bawn yn trefnu Ymgyrch ‘Ie’ byddwn eisoes yn paratoi i gwyno’n groch os ceir unrhyw awgrym o gamwario. Unwaith yn rhagor, bydd y Comisiwn Etholiadol yn ei chanol hi.

Problem arall hefo cynnal refferendwm pan nad oes mater o bwys sylfaenol yn y fantol yw na fydd y canlyniad – beth bynnag y bo – yn setlo rhyw lawer. O safbwynt cefnogwyr datganoli, tra ei bod yn amlwg y byddai cyfundrefn Rhan 4 yn rhagori ar y gyfundrefn bresennol, nid yw’r model arfaethedig heb ei broblemau. Daw cyfle i drafod y rhain eto. Digon ar hyn o bryd yw ein hatgoffa ein hunain fod model Rhan 4 yn debyg iawn i’r un a gynigiwyd i’r Alban yn 1979.

Fe fwriwyd hwnnw o’r neilltu gan Gonfensiwn Cyfansoddiadol y wlad honno pan gychwynnodd ar ei waith ar ddiwedd y 1980au, a hynny oherwydd ei ddiffygion. Ydi, mae’r man gwyn man draw yn rhagori ar y tir cyfansoddiadol o’n cwmpas, ond nid gwlad yn llifeirio o laeth a mêl mohoni chwaith. 

A beth fyddai pleidlais ‘Na’ yn ei olygu? Wel, pydru ymlaen efo cyfundrefn sy’n mynd yn gynyddol anghynaladwy. Sut yn y byd, er enghraifft, y bydd modd cynnal llwyth gwaith y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig dan y drefn bresennol pan fydd chwarter Aelodau Seneddol Cymru yn diflannu? Pydru ymlaen heb obaith o wireddu gwir ddyhead y Nacawyr, sef troi’r cloc yn ôl i 1996. Byddai, fe fyddai colli yn ergyd seicolegol i ddatganolwyr ac yn hwb i’w gwrthwynebwyr. Ond gan nad oes unrhyw beth o bwys cyfansoddiadol sylfaenol yn y fantol yn y bleidlais, ni thâl gor-ddweud effaith pleidlais Nacaol chwaith. Nid drannoeth refferendwm 1979 fyddai hi. Yn wir, gyda’r drefn ddatganoledig bresennol mor amlwg ddiffygiol, gellir bod yn dawel hyderus mai buan y byddai’r drafodaeth wleidyddol yn troi unwaith yn rhagor at ddiwygio a chryfhau. Byddai amser a chyfleoedd wedi eu gwastraffu yn y cyfamser, bid si?r. Ond dim mwy na hynny.

 

Roedd y ddwy refferendwm a gynhaliwyd o’r blaen ar fater datganoli yn ddigwyddiadau o bwys sylfaenol yn hanes y genedl. Nid felly y bydd hi’r tro hwn. A dyna pam rwy’n ofni ein bod ar fin ymgyrch digon di-fflach na fydd yn cyffroi rhyw lawer ar ein dosbarth gwleidyddol, heb sôn am y cyhoedd. Yn bersonol, a minnau’n ddatganolwr – yn home ruler – o argyhoeddiad, rwy’n gobeithio mai ‘Ie’ fydd hi; a gorau po fwyaf y mwyafrif oherwydd effaith seicolegol hynny ar hyder y genedl. Ond, â gwisgo fy het broffesiynol, rwy’n tybio y bydd y ganran sy’n pleidleisio yn isel, ac er bod yr arolygon barn yn addawol, ni ellir bod yn sicr o’r canlyniad. Dyna pam y byddwn i’n llawer tawelach fy meddwl petai un o ymgyrchwyr gwleidyddol mwyaf effeithiol Cymru, y cyfrwys a’r egnïol Peter Hain, yn chwarae rhan amlwg yn yr Ymgyrch ‘Ie’, ochr yn ochr â gwleidyddion yr haen ddatganoledig ei hun. Lecio fo neu beidio, mae Hain yn dal i gyfrif.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Radicaliaeth Ar Gân

Ymlaen >

Ai diwedd y gân yw'r geiniog?