Thema dywyll Thema golau

Fi, hi – a’r delyn

Unwaith erioed y cefais i fy nghamgymryd am gerddor, a hynny gan awdurdodau’r Dreth Incwm o bawb. Flynyddoedd yn ôl derbyniais fil am ganpunt, ‘in respect of your earnings as a musician’. Anfonais druth yn ôl, yn esbonio bod y fath beth yn amhosib. Esboniais na allaf ganu nodyn, na chwarae offeryn, ac mai fi oedd y disgybl piano mwyaf anfoddog o blith y lluoedd a groesodd riniog Miss Gertrude Lloyd yn Aberdaron. ‘Mae’n rhaid,’ meddwn, ‘eich bod wedi fy nghamgymryd am rywun arall. Trïwch Syr Geraint Evans.’

Cefais ymddiheuriad gan yr Ingland Refeniw gyda’r troednodyn annisgwyl, ‘Yn anffodus mae Syr Geraint Evans allan o’r wlad ar hyn o bryd.’ Naddo, chefais i erioed fy mreintio â doniau cerddorol fy ngwraig. Yn wahanol i gyplau sy’n gweithio yn yr un maes â’i gilydd, fel John Ogwen a Maureen Rhys neu Bill a Hillary Clinton, does dim siarad siop dros frecwast yn ein tª ni. Cyn cyfarfod Alwena, wyddwn i’r nesaf peth i ddim am fyd cyfrin y delyn. Dannedd oedd ‘gosod’ i mi, nid cerdd dant. Pe bai rhywun wedi crybwyll ‘croes acen’ gallent fod yn sôn am dafodiaith pobl Birmingham am a wyddwn i. Pan anfonwyd fi i’r fwyl Gerdd Dant yn y Stiwt yn Rhos ar ddechrau fy ngyrfa newyddiadurol, teimlwn yn gymaint o ddieithryn ag a wnawn, tua’r un adeg, yng nghyfarfod Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Bu’n wers gynnar yn un o sgiliau hanfodol y gohebydd – traethu’n awdurdodol o ganol anwybodaeth.

Erbyn heddiw, fodd bynnag, rwyf yn aelod o frawdoliaeth ddiymhongar a wnaeth gyfraniad sylweddol i fyd y delyn a cherdd dant, sef cludo’r offeryn o le i le. Wn i ddim a yw pawb sy’n cael eu swyno gan dinc y tannau yn sylweddoli hunanaberth rhai fel fi sy’n gwneud y cyfan yn bosib. Rhaid bod wardiau orthopaedig ein hysbytai yn hen gyfarwydd â phartneriaid telynorion, sydd wedi niweidio’u cefnau yn enw diwylliant. Mae yna ochr negyddol i’r offeryn nefolaidd, sydd nid yn unig yn drwm ond hefyd yn anystywallt, simsan, bregus a drudfawr. Gall fod yn deyrn sy’n rheoli’ch bywydau.

Chewch chi ddim hyd yn oed brynu car heb roi’r brif flaenoriaeth i’r offeryn. Gwyddom am un cwpl lle mae’r gfir yn digwydd bod yr un taldra’n union â thelyn ei wraig. Gallwch ddychmygu ymateb y cwsmeriaid eraill pan fyddan nhw’n dewis car newydd mewn ystafell arddangos. Cyn edrych dan y bonet nac astudio’r lliw, bydd y gfir yn gorwedd ar ei hyd yn y trwmbal a’i wraig yn archwilio’r sefyllfa’n ofalus i wneud yn sifir fod digon o le i’r delyn. Mewn Hillman Imp, car bach, bach oedd yn berwi bob rhyw ddeng milltir, y byddai Alwena’n cario’i thelyn pan oeddwn i’n ei nabod gyntaf. Byddai hynny’n golygu tynnu’r sedd ôl a chodi gwaelod y delyn dros ben sedd flaen y teithiwr nes bod ei thraed bron yn cyffwrdd y winsgrin, gan adael dim lle i neb arall heblaw’r gyrrwr.

Cael a chael bod yn ddigon mawr i osgoi’r un ddefod a wnâi’r Austin 1300 Estate a ddilynodd yr Imp, ac yn hwnnw y cefais siwrnai fwyaf anghyfforddus fy mywyd. Roedden ni’n byw ym Mhen-y-cae ger Wrecsam, ac Alwena a’i thelyn yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Lerpwl efo Côr Meibion y Rhos. Ar y ffordd adref mynnwyd ein bod i gyd yn ailymgynnull mewn tafarn ar y Wirral i gynnal perfformiad arall. Gan fod un o aelodau’r côr yn blismon yn yr ardal, doedd dim rhaid poeni am y deddfau trwyddedu, a pharhaodd y cyngerdd hwnnw dipyn mwy na’r un cyntaf. Roedd y wawr yn torri wrth inni droi am adref, Alwena wrth y llyw, baswr o’r enw Charlie Queen wrth ei hochr yn morio canu Cytgan y Caethweision, a’r Gothic a minnau’n cydorwedd fel sardîns yn y cefn. Ddois i ddim ataf fy hun am bythefnos.

Car, hefyd, a fu’n gyfrifol am roi taw ar y delyn yn ein tª ni am dri mis cyntaf ein bywyd priodasol. Yn ystod ein mis mêl yn yr Alban roedden ni’n parcio mewn pentref o’r enw Evanton ger Inverness pan aeth Alwena allan a chau drws y car ar ei bawd. Roeddwn innau wedi cloi’r drws o’r tu mewn cyn sylwi fod dim o’i le. Treuliwyd gweddill yr wythnos yn ymweld â gwahanol ysbytai i drin y briw. A dysgais innau nad oes modd canu’r delyn heb ddefnyddio’r bawd. Wedi’r saib honno, bu bywyd yn ddilyniant bron yn ddidor o eisteddfod, cyngerdd a gwyl gerdd dant. ‘Rhaid ichi gofio,’ meddai fy nhad yng nghyfraith wrthyf unwaith, ‘bod pob steddfod yn para pythefnos yn y ty yma.’ Roedd hynny wrth i’r merched yn y teulu gloriannu ac ailgloriannu eisteddfod a gynhaliwyd wythnos ynghynt, oedd i fod yn ddigwyddiad undydd.

Yng nghyfnod Alwena fel aelod o Barti’r Ffin ac yna’n hyfforddi Côr Merched y Garth a Chôr Gwrtheyrn, dysgais fod y paratoi yn para tipyn mwy na’r post mortem: y dethol, y gosod, yr ymarfer ddwywaith neu dair yr wythnos, y bygwth rhoi’r ffidil yn y to am fod gormod o aelodau’n absennol neu eu bod nhw’n canu fel moch. Yna’r gorfoledd os ceid perfformiad boddhaol ar y diwedd, a finnau cyn baroted â neb i dderbyn fy nghyfran o’r clod. Yr uchafbwynt, efallai, oedd Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun yn 1986 pan ddaeth cystadleuaeth olaf yr wyl â llwyddiant i Ferched y Garth, Medal Aur Clogau i’r hyfforddwraig, a dathliad bythgofiadwy yn y Llew Aur yn Nhrefdraeth, cyn inni glwydo yn ein pabell yn yr ardd gefn.

Coeliwch neu beidio ond dros y blynyddoedd, trwy ryw fath o osmosis, rydw innau wedi datblygu’n awdurdod honedig ar gerdd dant. Gallaf anghytuno’n hollwybodol efo’r beirniaid radio a theledu a’r beirniaid go iawn, a hyd yn oed gondemnio ambell nodyn cras neu lais unigol mewn côr neu barti. Digywilydd, mi wn, ond fel y dywedodd Harri Parri neu rywun, dydi’r ffaith na allwch ddodwy wy eich hun ddim yn golygu nad oes gennych chi hawl i fynegi barn am ei flas.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd : Chile a Chymru

Ymlaen >

Llafur - plaid Kinnock unwaith eto?