Oni bai am atyniad y cyflogau bras a’r angen i sicrhau llwyddiant y Sianel wedi’r hir ymgyrchu, a bygythiad Gwynfor Evans i’w newynu ei hun i farwolaeth pe na châi ei sefydlu, byddai llawer o’r ieuenctid wedi defnyddio eu creadigrwydd i’w mynegi eu hunain yn ddilyffethair yn y maes roc.
Roedd yna eithriadau gwiw na hidient am swcwr S4C a Radio Cymru, megis Rhys Mwyn a’r Anhrefn, a David R. Edwards a Datblygu, a wnâi i ymdrechion y Trwynau Coch genhedlaeth ynghynt, i fod wastad ar y tu fas, ymdebygu i strancio plantos ysgol feithrin.
Sefydliadau dosbarth canol oedd y cyfryngau darlledu Cymraeg yng ngolwg y llanc o Lanfair Caereinion a’r crwt o Aberteifi gan ennyn eu llid o’r herwydd, ac yn arbennig felly pan gawsant eu maldodi gan John Peel ar Radio 1.
Aed ati i ofyn cwestiynau dwys pan ddihysbyddwyd gwamalu’r wplabobihocdw ac un o’r rheini oedd ‘blewytirhwng?’ o eiddo’r Super Furry Animals cynnar. Nhw oedd y Ffa Coffi Pawb a roddodd y gorau i ganu yn Gymraeg yn unig am eu bod wedi cyrraedd cyflwr o ferddwr wrth berfformio yn yr un llefydd drosodd a throsodd, gerbron yr un cynulleidfaoedd meddw byth a hefyd, a hynny heb lwyddo i wneud dim mwy na chrafu bywoliaeth.
Fe fentron nhw i Lundain gan sicrhau cytundebau gyda’r cwmnïau recordio mawr a threfnu teithiau rhyngwladol wrth i’w cynnyrch ddringo’r siartiau a chael sêl bendith a chlod sgriblwyr y wasg gerddorol Saesneg. Roedden nhw’n bodoli rhywle rhwng y ddau ddiwylliant gan arwain y ffordd i eraill i wneud yr un modd wrth gamu oddi ar y cwrwgl sigledig i fwrdd y leinar fawr soled.
Cyflawnwyd y dasg yr oedden nhw wedi’i gosod iddyn nhw eu hunain. Yn America fawr y cyhoeddwyd y grynoddisg Mwng, offrwm o ganeuon Cymraeg, ddeng mlynedd yn ôl, a’i hyrwyddo ar daith mewn llefydd fel New York Bowery Ballroom, Detroit Seven’s House a’r Chicago Double Door. Ychydig dros ganrif ynghynt roedd Caradog a’i gôr mawr wedi perfformio yn Ffair y Byd Chicago gan ddwyn bri i Gymru bryd hynny hefyd; perfformiad, ynghyd â’r buddugoliaethau blaenorol yn y Palas Grisial yn Llundain, a arweiniodd at fathu’r ymadrodd ‘Gwlad y Gân’ a chodi rhyw fymryn ar falchder y Cymry yn y fargen gan wneud rhywfaint o iawn, mae’n sifir, am yr alaeth a deimlwyd yn sgil Brad y Llyfrau Gleision bron hanner canrif ynghynt.
Oedd, roedd y Super Furries ar ben eu digon. Dewiswyd Mwng yn ‘albwm yr wythnos’ gan y Sunday Times: ‘delicate, organic, melancholic, utterly charming record,’ meddai Mark Edwards.
Ond fyddai llawer o genhedlaeth eu rhieni ddim wedi breuddwydio troi i berfformio yn Saesneg am eu bod nhw’n rhan o’r bwrlwm a’r genhadaeth dros ‘wneud popeth yn Gymraeg’ ar ddiwedd y 1960au a thrwy gydol y 1970au. Roedd ganddyn nhw eu Daniel Cohn-Bendit a’u Tariq Ali eu hunain ym mherson Dafydd Iwan a Huw Jones yn achosi cynnwrf ymhlith myfyrwyr prifysgol. Tra oedd y ddau dramor yn pledio materion sosialaidd ar draws prifysgolion Ewrop roedd y cyw-bensaer a’r myfyriwr Ffrangeg yn Rhydychen yn pledio achos y Gymraeg o dan faner Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Nid yr un oedd bydolwg cenhedlaeth y 1990au. Doedd gosod sticeri ‘Cymraeg’ ar arwyddion uniaith Saesneg ddim yn mynd â’u bryd. A doedd yr iaith ddim yn yr un picil alaethus o ran rhoi iddi gydnabyddiaeth swyddogol beth bynnag. A phwy o blith y to h?n a feiddia ffrwyno na sianelu creadigrwydd y genhedlaeth iau? Rhaid iddi gael ei phenrhyddid.
Ond fel y perthyn pob dim i’w gyfnod mae’n rhaid, decini, y gellir rhoi ateb go bendant i’r ymholiad ‘ble wyt ti rhwng?’ bellach, os nad, yn wir, rhoi’r gorau i holi’r cwestiwn yn gyfan gwbl.
Mewn cyfnod pan mae’r diwylliant roc yn gyffredinol wedi cyrraedd cul de sac diwylliannol, ymddengys mai’r artistiaid sy’n gwneud eu marc yw’r rhai sydd mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac yn cynnal grymuster y diwylliant ehangach, chwedl Dr Meredydd Evans.
Onid dyna a wnaeth Cerys Matthews drwy gyhoeddi ei chryno-ddisg ddiweddaraf o ganeuon gwerin, Tir, ar ei label ei hun? Do, bu Cerys yn hwylio ar y leinar fawr yn nyddiau’r band Catatonia a phan dreuliodd gyfnod yn Nhennessee, ond dychwelodd i’r cwrwgl i gyflwyno ei dehongliadau aneisteddfodol ei hun o’r caneuon hynny sydd wedi codi o bridd ei gwlad.
A dyna ichi Barti Cut Lloi, o Ddyffryn Banw, sydd wedi bod yn radical yn hynny o beth heb erioed grwydro oddi wrth y wythïen Gymreig a simsanrwydd y cwrwgl gyda’u caneuon gwerin, eu caneuon plygain a’u hemynau.
A beth yw bod yn radical? Wel, mae’n golygu bod yn ots i’r cyffredin. Mae’n golygu bod yn rhan o’r cytin ej. Mae’n golygu mynd ’nôl at y gwreiddiau, ’nôl at yr hanfodion, ’nôl at y man yr esblygodd pob dim ohono. Wedi’r cyfnod nihilistaidd gwrth-Gymreig cynnar, dyna a wnaeth bechgyn y Manic Street Preachers wrth iddyn nhw ddarganfod Aneurin Bevan a’r Siartwyr a dechrau cofleidio Cymreictod. Ar ôl tyrchu’n ddyfnach na chrafu wyneb y tir neb ôl-ddiwydiannol yna ym Mlaenau Gwent, fe sylweddolon nhw fod ganddyn nhw waddol wedi’r cyfan.
Diddorol clywed Tom Jones, y g?r o Bontypridd a Los Angeles, wrth sôn am ei offrwm diweddaraf, Praise and Blame, yn dweud mai’r bwriad oedd mynd nôl at y gwreiddiau trwy recordio nifer o ganeuon gospel, sef y caneuon hynny y byddai yntau ac Elvis Presley yn dwli eu canu’n hwyr y nos. Y gwreiddiau yn y cyswllt hwn yw’r blues, sef canu’r gaethglud Americanaidd a roddodd fod i roc a rôl yn ddiweddarach. Wedi’r cyfan, prin y gellir dychmygu morio canu ‘Burning Hell’ o eiddo John Lee Hooker yng nghapeli Pontypridd y 1950au a’r 1960au.
Perthyn Tom Jones, yn union fel John Cale, o’r Garnant ac Efrog Newydd, i gyfnod a hinsawdd gwahanol o Gymreictod cyn y deffroad diwylliannol ymhlith ieuenctid. O’r herwydd, does dim disgwyl iddyn nhw eu trawsblannu eu hunain ’nôl i ganol y bwrlwm i gyfrannu’n ystyrlon mwyach. Does dim siâp ar Tommy Woodward yn ynganu geiriau ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Ac er bod John Cale yn mynnu na siaradai ddim ond Cymraeg tan oedd bron yn ei arddegau, cyndyn yw i ailgydio yn yr iaith wedi oes o ymestyn a herio ffiniau cerddorol yn America.
Glynwn ninnau a’r cenedlaethau a ddêl yng ngrymuster yr hyn sy’n gynhenid er mwyn cynnal radicaliaeth cytin ej o’r newydd, fel y gwnaeth Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, dan arweiniad Tim Rhys-Evans, mor orchestol yn ystod eu perfformiadau yn y Pafiliwn ar drothwy’r Eisteddfod.
Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar ddarlith a draddodwyd gan Hefin Wyn yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd. Mae’r ddarlith brintiedig, Y Canu Radical Newydd: dwi’n gwybod ble dwi rhwng (Darlith Eisteddfod Barn 2010), ar werth (pris £3.00) mewn siopau llyfrau Cymraeg neu gellir ei harchebu trwy swyddfa Barn (ffôn: 01267 245676; e-bost: swyddfa@cylchgrawnbarn.com) neu drwy wefan Gwales: www.gwales.com
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
