Thema dywyll Thema golau

Cwrs y Byd : Chile a Chymru

 

Ond ymwneud Cymru â mwyngloddio mewn cyfnod llawer mwy diweddar sydd wedi creu’r Gymru fodern. Fel pobol a amddifadwyd o’n hanes, prin yw’r rhai ohonom sy’n gwybod mai Cymru oedd y genedl ddiwydiannol gyntaf yn Ewrop. Os ydan ni’n diffinio cenedl ddiwydiannol fel un lle y cyflogir dros hanner ei gweithlu mewn mwynfeydd a melinau a gweithdai a ffatrïoedd, yna’n sicr Cymru oedd y gyntaf o wledydd Ewrop i gael ei diwydiannu. Mor gynnar â Chyfrifiad 1851 fe gofnodwyd nad trin y tir oedd gweithgarwch pennaf y Cymry – yn hollol groes i’r sefyllfa yn Lloegr a phob un o wledydd eraill Ewrop.Yn wahanol i Iwerddon, roedd gwaith i’r Cymry yng Nghymru. Dyna pamfod yr iaith Gymraeg yn gryfach o lawer hyd heddiw nag yw’r Wyddeleg.

 

Mae’n wir, wrth gwrs, fod y mwyafrif llethol o bobol Cymru yn ymwybodol o byllau glo Morgannwg a chwareli llechi Gwynedd. Ond ar wahân i’r ddau ddiwydiant hwnnw, coleddir y syniad cwbl gyfeiliornus mai gwlad o dyddynnod a ffermydd fu Cymru erioed. Ac mai drwy drin y tir yr ydym wedi ein cynnal ein hunain.

 

Y fath rwtsh! Nid dirmygu pwysigrwydd amaethyddiaeth, ddoe na heddiw, yw atgoffa pobol o’r ffaith bod plwm, er enghraifft, wedi cael ei fwyngloddio ymhob un o hen siroedd Cymru. Y tair ar ddeg ohonyn nhw. Roedd 132 o weithfeydd plwm ym Meirionnydd yn unig. Ond canolfannau pwysicaf y diwydiant plwm oedd siroedd Aberteifi a Maldwyn. Yn wir mae lle i gredu bod cymaint â deng mil o siafftiau wedi cael eu suddo yng Ngheredigion.

O gofio’r cloddio dyfal a fu yng Nghymru am blwm a chopr, aur ac arian – a manganîs, hyd yn oed, ym Mhen Ll?n – does dim rhyfedd ein bod ni wedi gallu uniaethu’n rhwydd iawn â’r mwynwyr a fu’n gaeth am gyhyd dan ddaear yn Chile. Pob clod, felly, i Carwyn Jones ein Prif Weinidog am ysgrifennu llythyr godidog at Miguel Juan Sebastián Piñera, Llywydd Gweriniaeth Chile. Rhyw fath o ymarferiad diplomyddol, gwâr a chwrtais ond dieneiniad, yw negeseuon o’r fath fel rheol. Ond, wir, mae neges Carwyn yn llawer mwy na hynny. Heb y mymryn lleiaf o rethreg, yn dawel ac urddasol mae o’n sôn am y modd y cafodd trychinebau Senghennydd, Gresffordd, Cilfynydd, a llawer rhagor, eu serio ar ein hymwybyddiaeth genedlaethol. Cyfeiria ein Prif Weinidog at glychau eglwysig a osodwyd uwchben y pwll yn Chile. A mynega ei lawenydd bod ymdrechion arwrol yr achubwyr, ac ysbryd anorchfygol y mwynwyr, wedi sicrhau mai cân gorfoledd nid cnul galar a seiniwyd ar y clychau hynny. Yn gwbl naturiol, heb arlliw o’r stroclyd, mae o’n cyplysu clychau Chile efo’r clychau y canodd Idris Davies iddynt yn ei gerdd am glychau trist Rhymni, ac am glychau cymdogaethau’r glo yn gyffredinol. Perl yn wir o lythyr. Diddorol, i gloi, yw nodi y gallasai cydymdeimlad Cymru â Chile fod yn fwy dwys ac angerddol nag yr oedd o hyd yn oed.

 

Ar 30 Ebrill 1882 yn Nhrevelin, Patagonia, cynhaliwyd rhyw lun ar refferendwm. Gofynnwyd i Gymry’r Andes i ba wlad yr oedden nhw’n dymuno perthyn. Ai’r Ariannin neu Chile? Pleidleisio’n unfrydol dros barhau’n ddinasyddion Archentaidd wnaeth y Cymry. Meddyliwch sut y byddem ni’n teimlo pe byddai mwynwr o’r enw Carlos Evans de Hughes, neu rywbeth cyffelyb, wedi camu i olau dydd a mynd ati – yn y Gymraeg – i ddiolch yn bersonol i Carwyn Jones am gefnogi’r hogiau…


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ai diwedd y gân yw'r geiniog?

Ymlaen >

Fi, hi - a'r delyn