Thema dywyll Thema golau

Camu i’r Goleuni o Gysgod Breivik

Mae ymlacio’n fater y mae’r mwyafrif o Norwywyr o ddifrif calon yn ei gylch. Gan fod Nesodden yn dynfa i deuluoedd ifanc sydd am ffoi rhag prysurdeb (cymharol) Oslo er mewn byw yng nghanol prydferthwch naturiol rhyfeddol cefn gwlad, i lawer o’m cyd-drigolion fe olyga hynny dreulio amser yn gwneud rhywbeth gwerth chweil efo’r plant.

Twrnamaint pêl-droed a hudodd Eirig (yr hynaf) a minnau, ynghyd â channoedd o blant a rhieni eraill, i Bergerstadion, sef cyfuniad o gaeau pêl-droed, cae athletau a llwybrau beicio (haf) a sgïo (gaeaf) nid nepell o’n ty ni. Roedd tîm Eirig yn chwarae timau o bentrefi cyfagos (colli un a dwy gêm gyfartal!). Yn ogystal â phêl-droed, cynhaliwyd cystadleuaeth athletau plant yno hefyd, gyda rhieni main fel milgwn yn mochel rhag y gwyntoedd hydrefol wrth i’w hepil hyrddio’u hunain dros y clwydi, lluchio eu gwaywffyn, ac ati. Manteisiai pawb ar gyfleusterau sydd i unrhyw Gymro’n ymddangos yn rhyfeddol o fodern a safonol ond sydd, i lygaid Norwywyr, yn ddiddrwg ddidda. Nid yw’r awdurdod lleol – y kommune – sy’n gwasanaethu’r penrhyn yn un cefnog yn ôl safonau’r wlad.

Hyd at ddechrau’r saithdegau roedd Norwy’n gymdeithas unffurf ac unlliw. Erbyn hyn, fodd bynnag, daeth tro ar fyd. Yn sgil mudo, y math o gyd-briodi sy’n nodweddu cymdeithasau symudol, arferion goleuedig Norwy o ran croesawu ffoaduriaid, a pholisi rhyddfrydol iawn o ran caniatáu mabwysiadu plant o wledydd tramor tlawd, daeth Norwy bellach yn wlad amlddiwylliannol. Yr oedd sawl iaith i’w chlywed yn y caeau pêl-droed. Felly, wrth i minnau floeddio anogaeth yn Gymraeg, roedd tad Anil wrth fy ochr yn eilio mewn Bosnieg – dyma deulu a ffôdd o Fosnia â’r rhyfel cartref yn ei anterth. Roedd gôl-geidwad talentog tîm Bjornemyr (gêm gyfartal, 2–2) o dras dwyrain Affrica. Rwy’n tybio imi glywed rhywfaint o Ffrangeg a Saesneg o gyrion rhai o’r caeau eraill. Draw ar y trac rhedeg roedd plant o dras Pacistanaidd yn ymdrechu’n lew i guro plant ddwywaith eu maint, o dras gynhenid.

Felna mae hi yn y Norwy amlddiwylliannol sydd ohoni.

Fyddwn i ddim am honni fod Norwy yn rhoi mwy o fri ar blant nag unrhyw wlad arall. Serch hynny, mae plant yn hawlio lle arbennig iawn yn ei diwylliant. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod y diwrnod cenedlaethol, syttende Mai (17 Mai), yn cael ei gyfrif yn wyl plant er mai dathlu cyfansoddiad y wlad yw’r rheswm swyddogol. Ar wahân i’r cyfleusterau chwaraeon gwych, ceir plethwaith cyfoethog o gymdeithasau gwirfoddol i sicrhau bod plant yn gwneud y defnydd gorau ohonynt. Ceir meithrinfeydd pwrpasol, ysgolion hardd (llawer iawn ohonynt â’u pyllau nofio eu hunain), llyfrgelloedd trawiadol (un newydd sbon danlli wrth ein hymyl ni), ac yn y blaen. Ar ben hynny, mae’r wladwriaeth wedi sicrhau bod rhieni’n mwynhau cyfnod estynedig o’r gwaith ar ôl genedigaeth pob plentyn – gyda thadau yn cael eu gorfodi (i bob pwrpas) i gymryd dau fis o hoe o’r gwaith. Gwneir hyn yn fwriadol er mwyn annog cymdeithas fwy cydradd. Pa syndod fod graddfa genedigaethau Norwy gyda’r uchaf yng ngorllewin Ewrop?

Ond nid cymdeithas sy’n lapio eu plant mewn gwlân cotwm mo hon chwaith. Disgwylir i blant fagu ymdeimlad o gyfrifoldeb yn fuan iawn. Da y cofiaf fy sioc ar ddiwrnod cyntaf Eirig yn yr ysgol gynradd. Ymbiliodd y brifathrawes arnom ni rieni i ddod i hebrwng ein plant adref am o leiaf ychydig wythnosau cyn gadael iddynt gerdded adref ar eu pennau eu hunain!

Yno derbynnir mân ddamweiniau fel rhan o’r drefn naturiol. Felna maen nhw’n dysgu, meddai’r athrawes wrthyf gan chwerthin, wrth i mi gael fy ngalw i’r ysgol feithrin i fynd ag Owain (y fengaf) at y meddyg wedi ei ail godwm drom o fewn ryw chwe wythnos yn y creigiau a’r coed oedd yn gae chwarae i blant yr ysgol feithrin. (Dau bwyth, dim craith barhaol.)

Rhag-amod agweddau o’r fath, wrth gwrs, yw ymddiriedaeth. Mae Norwywyr yn caniatáu i blant chwech oed gerdded adref o’r ysgol ar eu pennau eu hunain oherwydd nad ydynt yn amau fod pob oedolyn y byddent yn ei gyfarfod â’u bryd ar eu hambygio.

Er bod Norwy yn wlad anferth o ran arwynebedd tir, mae’r boblogaeth gymharol fechan mewn cyswllt â’i gilydd trwy gyfrwng diwylliant poblogaidd. Caiff disgwyliadau cymdeithasol eu llunio a’u lliwio trwy’r gyfundrefn addysg a’r cyfryngau torfol. O lanhau dannedd i beth i’w fwyta, caiff rhagdybiaethau ynglyn â’r mathau o ymddygiad ac arferion a ystyrir yn briodol eu gwaelodi’n ddwfn. Y canlyniad yw gwlad sydd, a defnyddio jargon y cymdeithasegwyr, hyd yn oed yn gyfoethocach o ran ei ‘chyfalaf cymdeithasol’ nag y mae o ran ei chyfalaf ariannol. Tipyn o ddweud.

Os am geisio deall effaith anfadwaith Anders Behring Breivik ar Norwy, rhaid cofio bod hon yn wlad sy’n ei hystyried ei hun yn wlad sylfaenol ddiogel. A’i bod yn wlad lle mae ymddiried mewn pobl – hyd yn oed pobl ddieithr – yn gwbl naturiol. Dyma wlad sydd hefyd – er ei bod wedi newid yn gyflym iawn yn sgil twf y diwydiant olew – wedi arddel amlddiwylliannedd yn gymharol esmwyth a didramgwydd. Ac yn bennaf oll, efallai, dyma wlad lle mae gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc yn mwynhau bri a statws arbennig iawn.

Wrth ymosod ar y gwersyll ar ynys Utøya gyda’r bwriad o lofruddio cymaint â phosibl o’r plant a’r bobl ifanc a oedd yn aros yno, nid difa darpar-arweinwyr ei wlad oedd unig nod Breivik. Roedd o hefyd yn ceisio dymchwel y Norwy amlddiwylliannol trwy ymosod ar y gwerthoedd a’r tybiaethau sy’n sail iddi. Gwerthoedd a thybiaethau sy’n gwbl hanfodol i fywyd beunyddiol y wlad. Pa syndod fod y teimlad o sioc mor llwyr a llethol yn y dyddiau a’r wythnosau cyntaf wedi 22 Gorffennaf y llynedd? Pa syndod fod y galar mor ddwys?

Flwyddyn yn ddiweddarach, yr hyn sydd fwyaf trawiadol am yr ymateb ystyriol yn Norwy i weithredoedd gwirioneddol ddieflig Breivik yw’r modd y mae’r wlad wedi llwyddo i goleddu, fel mater o ddewis ymwybodol, yr union werthoedd hynny a oedd, gynt, yn fater o arfer anymwybodol. Yn hytrach na sigo cred ei gydwladwyr mewn ymddiriedaeth a goddefgarwch, mae’r llofrudd creulon hwn wedi ei chryfhau. Wedi misoedd tywyll pan oedd llawer o Norwywyr yn poeni o ddifrif am ddyfodol eu cymdeithas, fe ymddengys i mi ei bod yn gryfach ac yn fwy gwydn nag erioed.

Os oedd un foment yn crisialu’r modd y llwyddodd Norwy i orchfygu casineb Breivik fe’i cafwyd ddiwedd Ebrill eleni, yn fuan wedi dechrau’r achos llys yn ei erbyn. Ac yn addas ddigon, trwy gyfrwng cân i blant y dangosodd y wlad ei rhuddin a’i gwir gymeriad.

Yr oedd dyddiau cyntaf yr achos – achos a gynhaliwyd ger safle’r bom a blannodd yng nghanol y ddinas cyn iddo symud ymlaen i’r ynys – yn wirioneddol erchyll. Wrth iddo ddisgrifio i’r llys fanylion grotésg y lladdfa y bu’n gyfrifol amdani ar Utøya roedd yn amlwg fod Breivik yn ymdrybaeddu yn ei greulondeb ei hun. Roedd yn berfformiad gwr cwbl annigonol; eto ni ellir gwadu nad oedd erchylltra ei weithredoedd yn rhoi rhyw fath o rym dieflig iddo. Hyd yn oed yn ôl yng Nghymru, roedd gwrando ar yr adroddiadau o’r llys ddydd ar ôl dydd yn brofiad ysgytwol. Yn Norwy ei hun, roedd y wlad fel petai wedi ei pharlysu. Er bod nifer – rhieni plant mân yn arbennig – wedi ymdynghedu cyn dechrau’r achos eu bod am ei anwybyddu rhag rhoi mwy o sylw i’r llofrudd a’i syniadau, fe brofodd hynny’n amhosibl. Bu cenedl gyfan yn ail fyw pob munud o’r lladdfa.

Wrth geisio cyfiawnhau ei weithred ‘angenrheidiol’, fe gyfeiriodd Breivik at y modd yr oedd plant yn Norwy yn cael eu cyflyru i gredu bod amlddiwyllianedd yn dderbyniol a normal. Fel tystiolaeth o blaid ei haeriad fe gyfeiriodd at y ffordd y mae plant y wlad yn dysgu canu ‘Barn av regnbuen’ (‘Plant yr Enfys’), sef cyfieithiad canwr gwerin o Farcsydd, Lillebjørn Neilsen, o gân Pete Seeger ‘My Rainbow Race’. Mewn ymateb, fe benderfynodd dwy Norwyes gyffredin, Lill Hjønnevåg a Christine Bar, mai peth gwych fyddai ymgasglu’n un côr y tu allan i’r llys a chanu’r union gân honno. Wedi cylchredeg gwahoddiad trwy Facebook, ddeng diwrnod wedi dechrau’r achos casglodd torf o tua deugain mil yn y glaw yng nghanol Oslo i ymuno i ganu. Bu cynulliadau tebyg mewn dinasoedd a threfi ar hyd a lled y wlad. Felly hefyd mewn ysgolion. Ac mae’n anodd gen i gredu y byddaf byth yn falchach o Eirig ’cw nag oeddwn i’r bore hwnnw pan gododd a chanu ‘Barn av regnbuen’ yn ddigymell wrth erchwyn ei wely, a hynny nerth esgyrn ei ben.

Trwy’r weithred syml – naïf bron – hon, fe hawliodd Norwywyr eu gwlad yn ôl. Hyd yn oed os oedd dyddiau ac wythnosau anodd i ddod yn y llys – a hyd yn oed os bu’n rhaid holi ac ateb cwestiynau poenus ynglyn â diffyg parodrwydd y wlad yn wyneb ymosodiad o’r fath – roedd gafael seicolegol Breivik wedi ei dorri.

Bythefnos yn ôl holodd William, un o ffrindiau Owain, a oeddwn i wedi clywed am ‘y dyn creulon ’na’, Anders Behring Breivik? Do, meddwn innau. ‘Chaiff o byth ddod yn rhydd o’r carchar rwan,’ meddai, ‘Mae o wedi taflu ei fywyd i ffwrdd am ddim byd.’ Mae William yn gywir. Fel gweithred wleidyddol roedd yr ymosodiadau yn Oslo ac Utøya yn fethiannau llwyr. Eu hunig effaith hyd yma fu cryfhau’r union werthoedd a syniadau yr oedd Breivik wedi bwriadu eu dileu.

Eto i gyd, mae’r gost ddynol yn parhau. Wrth ddychwelyd adref o Bergerstadion rhaid gyrru heibio eglwys Nesodden a’i mynwent. Er gwaethaf ei thras Islamaidd, yno y gorwedd corff Bano Abobakar Rashid, merch ddeunaw oed teulu ddaru ffoi i Norwy o’r gormes yn erbyn y Cwrdiaid yn Irac. Fe’i llofruddiwyd gan Breivik ar Utøya. Hyd yn oed os nad yw’r llofrudd wedi llwyddo i ddymchwel cymdeithas Norwy, drylliodd 77 o aelwydydd.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwrs y Byd - Awr Dywylla’r Heddlu

Ymlaen >

Y Pla Anhygoel