
Mae’n wybyddus i bawb nad y gyfraith yw unig arbenigedd Nic Parry. Mae o hefyd gyda’r mwyaf medrus a threiddgar o’n sylwebyddion pêl-droed. Diau y byddai yntau, felly, yn falch – ac yn brudd ar yr un pryd – bod yr anghyfiawnder a ddioddefodd dinas Lerpwl yn sgil trychineb Hillsborough yn cael ei gydnabod o’r diwedd. Wedi tair blynedd ar hugain anfaddeuol o gelu celwyddau’r heddlu, datgelwyd y gwirionedd. Dyw geiriau fel gwarth a chywilydd ddim yn dod yn agos at gyfleu’r braw a gafodd pawb pan esboniwyd sut yr aeth Heddlu De Swydd Efrog ati i wyrdroi’r gwirionedd yn y modd mwyaf melltigedig. A hynny er mwyn cuddio eu ffaeleddau marwol nhw ei hunain – ffaeleddau troseddol o esgeulus, ym marn llawer.
Atgoffwn ein hunain yn gryno o faintioli’r trychineb. A maintioli twyll a dichell yr heddlu. Ar 15 Ebrill 1989 ar gychwyn gêm bêl-droed yn rownd gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar faes niwtral Hillsborough yn Sheffield, gwasgwyd 96 o bobol i farwolaeth. Gwnaeth yr heddlu’r smonach fwyaf ofnadwy o oruchwylio mynediad cefnogwyr Lerpwl i’r rhan o’r stadiwm a neilltuwyd ar eu cyfer.
Gwyddom erbyn hyn fod yr heddlu wedi mynd ati’n gyfan gwbl ddiegwyddor i achub eu crwyn eu hunain drwy ledu celwyddau ffiaidd am ymddygiad cefnogwyr diniwed, fe gydnabyddir bellach, Lerpwl. Dywedodd yr heddlu wrth y wasg fod cefnogwyr yn gwneud d?r am ben plismyn a oedd yn gofalu am yr anafus a’r clwyfedig, am ddynion a merched a oedd ar fin marw, neu eisoes yn farw. Celwydd, wrth gwrs. Celwydd a gynlluniwyd er mwyn troi’r farn gyhoeddus yn erbyn y dieuog er budd yr euog. Felly’n union hefyd y dyfeisiwyd y celwydd fod cwnstabl a oedd yn rhoi cusan bywyd i gefnogwr anymwybodol wedi cael ei guro’n ddidrugaredd gan y dorf. Doedd dim pall ar ddychymyg cyfoglyd yr heddlu. Honnwyd ganddynt hefyd fod cefnogwyr Lerpwl yn ysbeilio cyrff eu cydgefnogwyr. Cafwyd gafael ar un o aelodau seneddol Sheffield, Syr Irvine Patnick, a oedd yn y stadiwm ar y pryd. Doedd o ddim ar gyfyl y wasgfa farwol, wrth reswm. Ond dim ots am hynny. Roedd o’n Dori. A chyfraith a threfn oedd mantra ei blaid. Ailgylchodd gelwyddau’r heddlu’n awchus wrth siarad efo’r wasg.
Fel y gellid disgwyl roedd manylion erchyll o’r fath yn fêl ar fysedd y Sun. Mae’n wir fod amryw o bapurau wedi crybwyll honiadau carlamus yr heddlu. Ond fel ffeithiau diymwad nid fel honiadau y cawson nhw eu plastro ar draws tudalennau’r Sun. A hynny mewn ieithwedd a ymdrybaeddai mewn anghynildeb. Portreadu pobol Lerpwl fel baw isa’r domen oedd y bwriad. Er bythol glod i’w phobol, Lerpwl yw’r unig ddinas yng Nghymru a Lloegr lle nad yw’r Sun yn gwerthu mwy o gopïau na’r papurau eraill.
Nid gormodiaith o fath yn y byd yw dweud, tan ei farwolaeth yn 1939, bod Y Brython, wythnosolyn Cymraeg Lerpwl yn gwerthu’n well nag y mae’r Sun yn ei werthu heddiw ar Lannau Mersi. A wnaiff ymddiheuriad 2012 ddim cau briw 1989.
Er mor waradwyddus oedd ymddygiad yr heddlu yn bwydo’r wasg efo’r fath gelwyddau, y ffaith sobreiddiol yw nad dyna oedd eu pechod pennaf. Yn sinigaidd hollol fe aethon nhw ati’n systemataidd i wyngalchu ymddygiad eu huwch swyddogion eu hunain ar y pnawn Sadwrn alaethus hwnnw. Gweithred ysgeler a sinistr ar eu rhan oedd doctora datganiadau 164 o blismyn cyffredin a oedd ar ddyletswydd yn y gêm. Cafodd geiriau beirniadol o haen uchaf yr heddlu fel ‘chaos’, ‘fear’, ‘panic’ a ‘confusion’ eu dileu o’u hadroddiadau gwreiddiol.
Wrth reswm pawb, y staen gwaethaf ar gymeriad uwch swyddogion Heddlu De Swydd Efrog yw casgliad Panel Annibynnol Hillsborough, dan arweiniad Esgob Anglicanaidd Lerpwl, y gellid bod wedi achub bywydau 41 o’r 96 a laddwyd pe byddai triniaeth feddygol wedi bod ar gael yn ddiymdroi. Dim ond un ambiwlans a ganiatawyd ar y cae. Brawychus yw canfyddiad annisgwyl Panel Hillsborough bod gwaed hefyd ar ddwylo uwch swyddogion gwasanaeth ambiwlans Sheffield. Fe wnaethon nhw ddoctora 54 o’r 101 o ddatganiadau a wnaed gan eu staff nhw.
Yn anochel fe fydd pobol mewn awdurdod yn gorfod ateb am eu hymddygiad mewn llysoedd barn. A gan ei bod hi’n dorcalonnus o amlwg bellach nad ‘marwolaeth trwy ddamwain’ oedd y dyfarniad priodol ar laddedigion Hillsborough, bydd yn rhaid ailgynnal cwêst sawl un – os nad y cyfan – o’r ymadawedig.
Soniais ar y cychwyn fy mod i wedi ymwneud llawer â’r heddlu. Yn groes i’r hyn a honnodd Jack Straw, cyn-Ysgrifennydd Cartref Llafur, chefais i erioed fy mherswadio bod sail i’r haeriad bod plismyn y cyfnod yn eu hystyried eu hunain yn aelodau o fyddin bersonol Thatcher. Er fy mod i’n adnabod cyn-blismon a dalodd am ei d? efo’r tâl goramser anferthol a dderbyniodd yn ystod Streic y Glowyr, doedd hynny ddim yn gyfystyr â phrynu teyrngarwch diamod y ffôrs drwy’r trwch. Dweud y gwir ddaru’r plismyn cyffredin a oedd ar ddyletswydd yn Hillsborough. Yr uwch swyddogion fu’n doctora datganiadau’r cwnstabliaid. Efallai bod plesio Thatcher ar agenda’r rheini. Synnwn i ddim. Oni chafodd y Prif Arolygydd a oedd yn gyfrifol am blismona Hillsborough, Norman Battison, ei godi’n Syr? Da was drwg a ffyddlon? Dyna gwestiwn y bydd angen i lys barn ei benderfynu, er ei fod o’n 82 erbyn hyn.
Cymerodd dair blynedd ar hugain i Lerpwl gael ei dyfarnu’n ddieuog o unrhyw gamwedd. Cyfeiriais eisoes at hen bapur Cymraeg y ddinas. Ei olygydd olaf oedd Gwilym R. Jones a ganodd yn gofiadwy iawn am gamwedd arall a unionwyd yn rhy hwyr o lawer. Mae’r ffilm 10 Rillington Place, a sawl llyfr, yn rhoi sylw i Timothy Evans, y diniweityn o Ferthyr Tudful a grogwyd yn 1950 ac a gafodd bardwn yn 1966:
Am un ar bymtheg mlynedd maith
Y bu Cyfiawnder ar ei daith;
Disgynnodd ddoe oddi ar ei farch
I stwffio’n pardwn dan gaead d’arch.
Fedrwn ninnau ddim atgyfodi meirwon Hillsborough ond mae gobaith gwirioneddol bellach y bydd yn rhaid i’r euog ateb am eu camweddau. Yn enw cyfiawnder nid dialedd.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru
